CGA / EWC

About us banner
Siarad yn Broffesiynol 2026: beth mae angen i addysgwyr ei wybod am roi hawliau plant ar waith
Siarad yn Broffesiynol 2026: beth mae angen i addysgwyr ei wybod am roi hawliau plant ar waith

21 Hydref 2026, ar Zoom

Caiff Cymru ei chydnabod yn rhyngwladol am ei hymrwymiad i hawliau plant, gyda gweledigaeth i bob plentyn a pherson ifanc gael ei glywed, ei barchu, a’i fod yn gallu ffynnu.

Croesawom Gomisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes MBE i Siarad yn Broffesiynol. Bu’n archwilio’r hyn y mae plant a phobl ifanc ledled Cymru yn ei ddweud wrthym am eu profiadau o addysg, a beth mae hyn yn ei olygu i’r rheiny sy’n gweithio nhw, ac yn eu cefnogi.

Trwy ddefnyddio tystiolaeth a gasglwyd yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc, bu Rocio yn trafod rôl swydd Comisiynydd Plant Cymru, a phwysigrwydd dull yn seiliedig ar hawliau ar gyfer addysg a gwaith ieuenctid. Bu’r sesiwn hefyd yn myfyrio ar heriau sy’n wynebu dysgwyr ar hyn o bryd, ac yn ystyried y camau ymarferol y gall gweithwyr proffesiynol eu cymryd i gynnal a hyrwyddo hawliau plant yn eu gwaith bob dydd. 

Lawrlwythwch y cyflwyniad a ddefnyddiwyd yn y digwyddiad (PDF). Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol. Cais am fformat gwahanol.

Bydd recordiad o’r digwyddiad ar gael ar ein sianel YouTube cyn bo hir.