Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn dyngedfennol i system addysg Cymru wrth iddi ddysgu i ymdopi â’r pwysau sydd wedi deillio o’r pandemig COVID-19. Trwy gydol y cyfnod hwn, mae ymarferwyr, ymchwilwyr, arolygwyr a Llywodraeth Cymru wedi ceisio gwneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd o’u cwmpas, ac ystyried beth mae hyn oll yn ei olygu i’r system addysg yng Nghymru wrth iddi edrych i’r dyfodol.
Rhoedd y digwyddiad hwn yn galluogi cyfranogwyr i glywed y dystiolaeth ddiweddaraf a gasglwyd o’r ‘rheng flaen’ yn ystod y cyfnod hwn, a sut y cafodd ei dadansoddi er mwyn tynnu allan y prif negeseuon ar gyfer y dyfodol.
Digwyddiadau blaenorol
mewn cydweithrediad â BAMEed Network Wales and Educators Wales
25 Tachwedd 2021, 9:30am-12:30pm
Ar 25 Tachwedd 2021, cynhaliodd CGA ddigwyddiad ar-lein oedd yn rhoi cyfle i broffesiynolion addysg ddysgu am ffyrdd i hyrwyddo ecwiti hiliol a rhoi ymarfer cynhwysol a gwrth-hiliol ar waith yn eu lleoliadau.
Wedi'i cyd-gadeirio gan Dr Susan Davis a Chantelle Haughton o BAMEed Network Wales roedd y digwyddiad yn archwilio'r gwaith ysbrydoledig ac arloesol sy'n cael ei wneud ledled Cymru i:
integreiddio profiadau bywyd a chyfraniadau pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y cwricwlwm newydd
cefnogi addysgwyr i ddelio â materion yn ymwneud â hil
gweithio tuag at amrywio'r gweithlu addysg; a
hyrwyddo newid diwylliannol cadarnhaol ac ymarfer gwrth-hiliol ar draws lleoliadau addysg.
Wedi'i gynnal ar y cyd â BAMEed Network Wales, roedd y digwyddiad tair awr yn cynnwys cyweirnod gan yr Athro Charlotte Williams OBE, a sgwrs hynod ddiddorol gyda Sathnam Sanghera, awdur y gwerthwr gorau The Boy with the Topknot. Roedd hefyd yn cynnwys cyfraniadau pwerus gan Uzo Iwobi OBE, Abu-Bakr Madden Al-Shabazz, Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ac Ysgol Gynradd Mount Stuart.
Bydd y digwyddiad hwn yn hysbysu datblygiad cyfres o sesiynau hwyrnos a gynhelir ar ddechrau 2022.
Addysgu Cynefin a hanes amrywiol Cymru: Sut i gynnwys themâu Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y cwricwlwm Newydd oedd y gyntaf mewn cyfres o bedair gweminar hwyrnos wedi’i gynllunio l i roi sylw i rai o’r pynciau a godwyd yn ystod ein digwyddiad hynod lwyddiannus, ‘Symud o ymarfer di-hiliol i ymarfer gwrth-hiliol’ yn Tachwedd 2021.
Os yw pob dysgwr am gael y cyfle i archwilio profiadau a chyfraniadau amrywiol grwpiau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, yna mae angen i addysgwyr feddu ar yr hyder a'r sgiliau i gyflwyno hyn. Roedd y weminar rhad ac am ddim hon eisiau gwneud hynny.
Yn cynnwys cyfraniadau gan Huw Griffiths ac ysgolion o bob rhan o Gymru sy’n gweithio i wreiddio cwricwlwm gwrth-hiliaeth, rhoddodd y digwyddiad hwn ddealltwriaeth ddyfnach i’r fynychwyr o Cynefin a sut mae’n berthnasol i’r cwricwlwm newydd.
Mewn partneriaeth ag Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe
Dydd Mercher, 28 Ebrill 2021
Ar 28 Ebrill 2021, rhoddodd arbenigwr mewn newid addysgol, Dr Carol Campbell, ddosbarth meistr rhyngweithiol mewn datblygu’r system addysg wedi'i harwain yn proffesiynol yng Nghymru.
Gan ganolbwyntio ar arwain gwelliant addysgol yn ystod a thu hwnt i'r pandemig, byddwn yn archwilio:
sut mae'r system addysg sydd wedi'i harwain yn broffesiynol yn edrych, a chymhlethdodau ei datblygu yn ystod pandemig;
effaith yr argyfwng ar fywydau proffesiynol addysgwyr hyd yn hyn, a blaenoriaethau i gael sylw;
ffyrdd o gefnogi datblygiad arweinyddiaeth, dysgu proffesiynol ac ymarfer i gefnogi canlyniadau gwell i ddysgwyr nawr ac yn y dyfodol; a
nodau allweddol ar gyfer y flwyddyn ysgol sydd i ddod.
Nid yw plant fel yr oedden nhw o’r blaen, ac mae’r pandemig wedi amlygu hyn. Un arsylwad cyffredin yw pa mor gyflym mae plant yn dysgu i lywio trwy fyd y cyfryngau a thechnoleg er mwyn darganfod eu ffordd ymlaen. Mae plant hefyd wedi dysgu i fod yn fwy dibynnol ar eu dyfeisiau. Ond beth ydym yn ei wybod am sut mae hyn wedi eu newid? A sut mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar ddysgu?
Yn narlith 2021, archwiliodd yr Athro Pasi Sahlberg barn addysgwyr am blant, technolegau digidol, iechyd a dysgu. Cafodd dros 600 o fynychwyr eu gwahodd i ystyried sut gallwn helpu pobl ifanc i bywydau digidol hapusach, mwy diogel a mwy cyfrifol. Yna, cawsant gyfle i ofyn cwestiynau am bynciau llosg mewn sesiwn holi ac ateb hyd 30 munud.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd ar y cyd ag Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe, yn gyfle dysgu gwerthfawr i'r rheiny sy'n gweithio ym myd addysg. Roedd yn arbennig o ddefnyddiol i'r rheiny sydd â chyfrifoldeb penodol dros hyrwyddo iechyd a lles dysgwyr.
Beth yw eich barn chi am y pwynsiau sy'n codi yn y ddarlith? Rydym ni wedi gweithio gyda Pasi Sahlberg i ddatblygu ymarfer myfyrio pwrpasol i chi. I'w gyrchu, mewngofnodwch i'ch Pasbort Dysgu Proffesiynol ac ewch i'ch Templedi Dysgu Proffesiynol.
Ry’n ni wedi ail-ddylunio ein gwefan i wella’r gwasanaeth a’r profiad ry’ch chi’n ei gael. I roi adborth ar y wefan newydd, cysylltwch â This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.