Ym mis Mehefin 2022 fe wnaeth ein panel o arbenigwyr drafod ffyrdd ymarferol o gefnogi eich iechyd meddwl a'ch lles. Gyda chynrychiolwyr iechyd, ysgolion, AB a gwaith ieuenctid. Roedd llawer o gamau ymarferol i'w dysgu a'u defnyddio i helpu pobl i fod yn bositif a chanolbwyntio ar weithredu.
Rhai o'r prif feysydd gafodd eu trafod:
sut mae strategaethau lles effeithio yn y gweithle yn edrych?
sut allwn ni greu diwylliant sy'n cynnig cefnogaeth drwy gyfnod o bwysau, a helpu adeiladu gwydnwch?
beth yw'r pethau ymarferol gall arweinwyr wneud i arwain mewn modd tosturiol, a chefnogi eu lles eu hunain a lles ymarferwyr?
beth ddylem ni fod yn gwneud er mwyn sicrhau ein bod yn gallu adnabod arwyddion cynnar problemau iechyd meddwl yn ein cydweithwyr?
sut gallwn ni sicrhau ein bod ni i gyd yn gyfforddus yn siarad am iechyd meddwl a lles ac yn gallu cael sgyrsiau agored gyda'u rheolwyr?
a
Cynhaliwyd y digwyddiad yma ar y cyd â Education Support, unig elusen y DU sy'n canolbwyntio ar gefnogi iechyd meddwl a lles athrawon a staff addysg.
Ym mis Ebrill fe wnaethom ni groesawu pediatregydd, gwyddonydd datblygiadol ac Athro Nodedig o fri o Brifysgol Berkeley Califfornia, Ronald E. Dahl, i gynnal digwyddiad yn crynhoi’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn sgil astudiaeth wyddonol ar ddatblygiad y glasoed, gyda phwyslais ar y goblygiadau ar gyfer addysg, iechyd a pholisïau cymdeithasol yn rhychwantu ail ddegawd bywyd.
Wrth i ni ddechrau dod i ddeall sut mae plastigedd yr ymennydd cynnar yn creu ffenestri unigryw o gyfle ar gyfer dysgu a datblygu yn ystod yr ychydig flynyddoedd cyntaf mewn bywyd, mae tystiolaeth gynyddol bod niwroblastigedd yn parhau ymhell i mewn i gyfnod y glasoed. Gan ddechrau oddeutu 10 oed, mae’n ymddangos bod cyfnod sensitif ar gyfer dysgu cymdeithasol ac emosiynol sy’n berthnasol i ddatblygu hunaniaeth.
Mae dealltwriaeth gynyddol o’r ffordd y gall y newidiadau datblygiadol hyn yn y glasoed ddarparu mewnwelediadau gweithredadwy i ni sy’n gallu llywio arferion a pholisïau ar gyfer cefnogi ein hieuenctid, a soniwyd am hyn mewn adroddiad gan Academïau Cenedlaethol y Gwyddorau, Peirianneg, a Meddygaeth yn yr Unol Daleithiau yn 2019. Crynhodd y digwyddiad agweddau allweddol ar yr ymchwil hon ac yn gosod yr olygfa ar gyfer trafodaeth grŵp am y ffordd y gall y mewnwelediadau gwyddonol hyn lywio newidiadau pragmataidd sy’n berthnasol i hyrwyddo addysg effeithiol, lles emosiynol a llwyddiant economaidd a chymdeithasol.
Cefndir y siaradwr
Mae Ron Dahl yn bediatregydd a gwyddonydd datblygiadol gyda hanes hir o ymchwil tîm rhyngddisgyblaethol gyda’r nod o wella bywydau plant a’r glasoed. Mae ei ymchwil wedi amrywio o astudiaethau sylfaenol ym maes datblygiad niwrofiolegol a seicolegol, astudiaethau clinigol mewn pediatreg a seiciatreg plant, i ystyried y cyd-destunau cymdeithasol, teuluol a diwylliannol sy’n llywio datblygiad niwroymddygiad. Mae wedi cyhoeddi dros 300 o erthyglau gwyddonol ym meysydd datblygiad plant a’r glasoed, iechyd ymddygiadol/emosiynol ymysg ieuenctid, cwsg a’i anhwylderau ymysg ieuenctid, datblygiad ymennydd y glasoed, a goblygiadau iechyd cyhoeddus/polisi’r gwaith hwn. Adeg y digwyddiad, roedd Ron yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Datblygiad Dynol, ac Athro Nodedig, yn Ysgol Iechyd Cyhoeddus Prifysgol Berkeley Califfornia. Roedd yn Gyfarwyddwr Sylfaenol Canolfan y Glasoed Datblygiadol, canolfan ymchwil drawsddisgyblaethol a seiliwyd ar y gydnabyddiaeth bod y glasoed yn cynrychioli cyfnod aeddfedu o gyfleoedd mawr i gael effaith gadarnhaol ar iechyd, lles, a llwyddiant cymdeithasol ac economaidd.
Mae pawb yn arweinydd – felly sut olwg sydd ar hynny?
Dosbarth meistr gyda Lyn Sharratt
Mae cael eglurder ym mhob agwedd ar ymddygiad arwain yn allweddol i sicrhau bod holl fenter lleoliad neu system addysg yn gweithio yn y modd gorau ac yn dod yn sefydliad sy’n dysgu. Mae arweinwyr mewn sefydliadau dysgu yn gyson, yn ddyfal ac yn daer dros wybod, disgwyl a gweld arferion effeithiol, wedi’u profi gan dystiolaeth, sy’n cael effaith gadarnhaol ar yr holl ddysgwyr.
Yn ein dosbarth meistr yn 2022, archwiliodd yr athro, ymchwilydd, awdur a chyflwynydd uchel ei bri, Dr Lyn Sharratt, yr arferion ag effaith fawr sy’n sicrhau bod holl arweinwyr, ymarferwyr a dysgwyr yn tyfu, yn cyflawni ac yn profi llesiant.
Mae hud a lledrith yn digwydd pan fo pawb yn arweinydd!
Rydym wedi cydweithio â’r Dr Lyn Sharratt i greu ymarfer myfyrio pwrpasol i chi. I'w gyrchu, mewngofnodwch i'ch Pasbort Dysgu Proffesiynol ac ewch i'ch Templedi Dysgu Proffesiynol.
Ar y cyd ag Adran Addysg ac Astudiaethau Plant Prifysgol Abertawe
Digwyddiadau blaenorol
Siarad yn Broffesiynol 2022 gyda’r Athro Yong Zhao
Myfyrwyr fel perchnogion dysgu a phartneriaid newid addysgol
Byd-eang, mae addysg wedi newid llawer dros yr ychydig ddegawdau diwethaf. Fodd bynnag, nid yw’r canlyniadau wedi bod hanner mor gadarnhaol a sylweddol ag y disgwyliwyd. Yr hyn sydd wedi bod ar goll yw’r ffactor pwysicaf mewn addysg: y dysgwr.
Yn ein darlith yn 2022, canolbwyntiodd yr arweinydd meddwl rhyngwladol, addysgwr, ac awdur enwog, Yr Athro Yong Zhao, sydd wedi cael clod gan yr adolygwyr, ar ddod â’r dysgwr yn ôl i ganol ymarfer, gan drafod arwyddocâd amrywiaeth dysgwyr, bwriad dysgwyr, ac ymgysylltiad dysgwyr â newidiadau addysgol, yn enwedig ar ôl y pandemig COVD-19.
Ar ôl darlith 40-munud ddifyr a llawn gwybodaeth, cafodd y rhai oedd yn bresennol y cyfle i ofyn eu cwestiynau llosg i’r Athro Zhao mewn sesiwn holi ac ateb fyw.
Wedi’i gynnal mewn partneriaeth ag Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe, roedd hwn yn gyfle dysgu gwerthfawr i’r rhai sy’n ymwneud ag addysg. Roedd yn cynnig awgrymiadau ymarferol, cyngor ac arferion gorau ar sut i gynyddu diddordeb dysgwyr a chodi eu dyheadau.
Rydym wedi cydweithio â’r Athro Yong Zhao i greu ymarfer myfyrio pwrpasol i chi. I'w gyrchu, mewngofnodwch i'ch Pasbort Dysgu Proffesiynol ac ewch i'ch Templedi Dysgu Proffesiynol.
Ar y cyd ag Adran Addysg ac Astudiaethau Plant Prifysgol Abertawe
Digwyddiadau blaenorol
Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn dyngedfennol i system addysg Cymru wrth iddi ddysgu i ymdopi â’r pwysau sydd wedi deillio o’r pandemig COVID-19. Trwy gydol y cyfnod hwn, mae ymarferwyr, ymchwilwyr, arolygwyr a Llywodraeth Cymru wedi ceisio gwneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd o’u cwmpas, ac ystyried beth mae hyn oll yn ei olygu i’r system addysg yng Nghymru wrth iddi edrych i’r dyfodol.
Rhoedd y digwyddiad hwn yn galluogi cyfranogwyr i glywed y dystiolaeth ddiweddaraf a gasglwyd o’r ‘rheng flaen’ yn ystod y cyfnod hwn, a sut y cafodd ei dadansoddi er mwyn tynnu allan y prif negeseuon ar gyfer y dyfodol.
Ry’n ni wedi ail-ddylunio ein gwefan i wella’r gwasanaeth a’r profiad ry’ch chi’n ei gael. I roi adborth ar y wefan newydd, cysylltwch â This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.