7 Mai, 2025, 16:00-17:30, digwyddiad rhithiol ar Zoom
Ymunwch â ni ar gyfer Dosbarth Meistr 2025 gyda'r niwrowyddonydd, darlithydd, awdur, blogiwr, cyfathrebwr gwyddoniaeth, a'r comedïwr, Dr Dean Burnett.
Yn y digwyddiad arbennig yma, bydd Dean yn archwilio sut mae'r ymennydd sy'n datblygu yn gweithio, a sut gall deall ei brosesau greu cyfleoedd gwerthfawr mewn addysg.
Bydd yn trafod sut mae'r ymennydd yn datblygu ar oedrannau gwahanol, a sut mae'r datblygiad yma'n llywio ymddygiad, meddwl, mynegiant emosiynol, a gallu gwybyddol.
Bydd Dean hefyd yn edrych ar y ffactorau allweddol sy'n dylanwadu ar ddatblygiad yr ymennydd mewn lleoliad addysgol, yn bennaf presenoldeb yn yr ysgol, effeithiau hirdymor pandemig COVID-19 a chyfnodau clo, effaith chwaraeon ac anafiadau i'r pen, a rôl technoleg, a'r cyfryngau cymdeithasol.
Bydd y digwyddiad yn gorffen gyda sesiwn holi ac ateb lle gewch chi gyfle i holi cwestiynau i Dr Burnett.
Mae hwn yn ddigwyddiad addas i holl gofrestreion, yn enwedig y rheiny sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, a'r gymuned addysg ehangach.
Mynnwch eich tocyn am ddim nawr.
Bywgraffiad Dean Burnett
Wedi ei eni a'i fagu ym Mhontycymer, fe aeth Dr Dean Burnett i Brifysgol Caerdydd i gwblhau BSc mewn Niwrowyddoniaeth, a dychwelodd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach fel aelod o Ysgol Seicoleg, lle cwblhaodd PhD mewn niwrowyddoniaeth yn rôl yr hippocampus mewn dysgu cyfluniol.
Mae'n gymrawd anrhydeddus ymchwil yn Ysgol Seicoleg Caerdydd, ac yn flaenorol roedd yn Gymrawd Ymwelol y Diwydiant ym Mhrifysgol Dinas Birmingham, ac yn diwtor a darlithydd seiciatreg yng Nghanolfan Prifysgol Caerdydd ar gyfer Addysg Feddygol.
Mae Dean yn awdur llawn amser, ac yn hysbys am ei golofn wyddoniaeth ddychanol yn y Guardian Brain Flapping, a redodd rhwng 2012 hyd 2018. Fe arweiniodd hyn at ei lyfr cyntaf poblogaidd, The Idiot Brain, arweiniodd eto at fwy o lyfrau, gan gynnwys nifer wedi eu hanelu at bobl ifanc.
Ers cyhoeddi ei lyfr cyntaf, mae Dean wedi bod ar nifer o raglenni teledu a radio, gan gynnwy Sunday Brunch, Sky News, Ducks Quacks Don’t Echo, Steve Wright in the Afternoon, Radio 4 Midweek, Loose Ends, Radio Wales, Saturday Live, Inside Science, Absolute Radio, Radio 5 Live, ABC (Australia), a llawer mwy.
Mae hefyd yn ymddangos yn gyson mewn gwyliau llenyddiaeth a gwyddoniaeth, ledled y byd, gan berfformio ar yr un llwyfan â Simon Pegg, Jo Brand, Robin Ince, yr Athro Brian Cox, Hannah Fry, Helen Czerski, Helen Keen, Russell Howard, Tony Law, Elis James, Simon Munnery, Andy Parsons, a llawer mwy.
Mae Dean yn golofnydd cyson ar gyfer cylchgrawd Science Focus y BBC, yn ogystal â chyfrannu at nifer o blatfformau cyfryngol. Yn ogystal â chynnal ei flog ar gyfer y Guardian am chwe blynedd, mae Dean hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer nifer o gyhoeddiadau ledled y byd gan gynnwys The Telegraph, Buzzfeed, GQ, Lonely Planet Guide, ReThink (the mental health charity), The Big Issue, Wales Weekend Magazine, New York Magazine, Psyche, The Psychologist, a llawer mwy.