Lawrlwytho'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025
Gosodir y ddogfen hon gerbron Senedd Cymru gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ar y cyd, yn unol ag Atodlen 1 Deddf Addysg (Cymru) 2014.
Adroddiad ar berfformiad
Rhagair gan y Cadeirydd
A minnau’n Gadeirydd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), rwy’n falch o fyfyrio ar flwyddyn o gynnydd, lle parhawyd i gryfhau ein sefyllfa fel y rheoleiddiwr proffesiynol, dibynadwy ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru. Drwy gydol 2024/25, mae CGA wedi parhau i gyflawni ei swyddogaethau statudol, gan weithredu er budd y cyhoedd i gynnal safonau ar draws y gweithlu addysg.
Mae maint ac amrywiaeth y gweithlu a reoleiddiwn yn parhau i dyfu. Yn dilyn deddfwriaeth newydd a ddaeth i rym ym mis Mai 2024, croesawom ymarferwyr addysg oedolion, ac uwch reolwyr a phenaethiaid addysg bellach i’n Cofrestr. O ganlyniad, rydym bellach yn rheoleiddio 13 o gategorïau ymarferwyr, sy’n cynnwys mwy na 91,000 o weithwyr proffesiynol ledled Cymru.
A ninnau’n sefydliad sy’n annibynnol ar y llywodraeth, ariennir ein gwaith craidd trwy’r ffioedd cofrestru blynyddol a delir gan ein cofrestreion yn unig. Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chymorthdalu ffioedd cofrestreion mwyach yn 2024/25, penderfynodd y Cyngor ddefnyddio ei gronfeydd ariannol wrth gefn i gadw ei ffioedd yr un peth. Wrth wneud y penderfyniad hwn, ceisiom amddiffyn ein cofrestreion rhag cynnydd sydyn, ar yr un pryd â sicrhau bod CGA yn parhau i fod yn sefydlog yn ariannol ac yn gallu cyflawni ei swyddogaethau craidd yn annibynnol.
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i amlygu’r angen i gryfhau’r ddeddfwriaeth sy’n sail i’n gwaith. Mae anghysondebau’n parhau o fewn ein swyddogaethau statudol, yn enwedig o ran gwarchod safonau proffesiynol, lleiafswm gofynion cymwysterau ar gyfer pob categori cofrestru, a chyfrifoldeb am achredu’r cymwysterau hyn. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau bod y meysydd hyn yn derbyn sylw mewn ffordd sy’n gwella proffesiynoldeb ac effaith ein gweithlu, ar yr un pryd â diogelu plant a phobl ifanc yn gryfach ym mhob rhan o Gymru.
Hoffwn ddiolch i chi, ein cofrestreion a’n rhanddeiliaid, am eich arbenigedd a’ch ymroddiad. Mae hyn yn allweddol i godi safonau ar draws y system addysg, ac rydym yn falch o gefnogi’ch gwaith pwysig.
Yn olaf, ar ran y Cyngor, yn dilyn ei benderfyniad i ymddeol ar ôl 25 mlynedd o wasanaeth diwyd, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch yn arbennig i Brif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn. Mae CGA yn sefydliad uchel ei barch sy’n cyflawni’n eithriadol heddiw o ganlyniad i’w arweinyddiaeth ragorol a’i ymroddiad diysgog ef. Mae ei ymroddiad i gefnogi’r gweithlu addysg a diogelu dysgwyr a phobl ifanc ledled Cymru wedi gadael gwaddol parhaus.
Diolch, Hayden.
Eithne Hughes
Cadeirydd, CGA
Rhagair gan y Prif Weithredwr
Mae Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon CGA yn rhoi cyfle i fyfyrio ar ein cynnydd wrth gyflawni ein hamcanion strategol yn ystod 2024/25, yn unol â chyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae lefel a chymhlethdod ein gwaith rheoleiddiol craidd wedi cynyddu. Law yn llaw â hyn, mae’r ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r cyfrifoldeb hwn wedi cynyddu’n sylweddol hefyd.
Ehangodd y Gofrestr Ymarferwyr Addysg unwaith eto yn ystod y flwyddyn, ac mae bellach yn cynnwys mwy na 91,000 o unigolion sy’n gallu ymarfer yng Nghymru. O ganlyniad, dyma’r Gofrestr gyhoeddus fwyaf yng Nghymru a’r ehangaf o’i bath yn y byd ym maes addysg. Gwnaethom brosesu dros 19,000 o geisiadau newydd ar gyfer cofrestru, y nifer fwyaf ers ein sefydlu, a chynorthwyo cyflogwyr i sicrhau bod eu staff wedi’u cofrestru’n gywir i ymarfer yn eu rolau cyflogedig.
Yn ystod y flwyddyn, adolygwyd ac ymchwiliwyd i fwy na 300 o achosion priodoldeb i ymarfer yn ymwneud â chofrestreion presennol neu ddarpar gofrestreion. Sicrhaodd ein gweithdrefnau cadarn fod ein hystyriaethau’n drwyadl ac yn dryloyw, gan ein galluogi i gymryd camau pendant os oedd angen, i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc. I ategu’r gwaith hwn, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol a datblygwyd ein hymgysylltiad ymhellach â chyflogwyr ac asiantaethau cyflenwi, a’u cymorth iddynt.
Yn ogystal â rheoleiddio’r gweithlu, rydym wedi parhau i gyflawni ein dyletswydd statudol i achredu a monitro rhaglenni addysg gychwynnol athrawon (AGA) ar gyfer athrawon ysgol yng Nghymru, i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r meini prawf achredu sy’n sail i’r ddarpariaeth hon. Mae ein prosesau’n sicrhau bod hyfforddiant o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu i’r genhedlaeth nesaf o athrawon.
A ninnau’n rheoleiddiwr y gweithlu, mae gan CGA rôl bwysig ac unigryw i’w chyflawni wrth ddylanwadu ar bolisi addysg yng Nghymru mewn ffordd gadarnhaol. Rydym wedi cymryd rhan mewn grwpiau llywio cenedlaethol sy’n ymdrin ag ystod o faterion gweithlu, a rhoi arweiniad iddynt, ac wedi ymateb i ymgynghoriadau cenedlaethol a galwadau am dystiolaeth. Un o’r meysydd proffil uchaf y mae CGA wedi gwneud sylwadau arno yw recriwtio i’r proffesiynau addysg a chadw staff ynddynt, sy’n dirywio yng Nghymru. Drwy gydol yr holl waith hwn, rydym wedi gwneud defnydd helaeth o’r data a ddelir ar y Gofrestr i lywio a dylanwadu ar ddatblygu polisi a chynllunio’r gweithlu.
Wrth i mi baratoi i ymddeol , ailddatganwn ein hymrwymiad i gydweithio â chofrestreion a rhanddeiliaid, gwella diogelu a chynnal y safonau proffesiynol uchaf. Rwy’n hyderus y bydd y gwaith pwysig yma’n parhau gyda chryfer a phwrpas yn y flwyddyn i ddod.
Hayden Llewellyn
Prif Weithredwr, CGA
Trosolwg
Mae’r adran hon yn amlygu ein gweithgareddau a’n cyflawniadau allweddol yn 2024/25.
Amcan 1: Bod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol effeithiol, sy’n gweithio er budd y cyhoedd a meithrin hyder yn y gweithlu addysg
- Derbyn a phrosesu dros 19,000 o geisiadau newydd ar gyfer cofrestru.
- Cynnal y Gofrestr o 91,253 o ymarferwyr addysg cofrestredig yng Nghymru.
- Cwblhau cofrestru ymarferwyr addysg oedolion ac uwch arweinwyr Addysg Bellach.
- Galluogi dros 150,000 o wiriadau ar-lein o’r Gofrestr gyhoeddus.
- Dros 13,278 o edrychiadau ar y Cod ar ein gwefan.
- Cwblhau 284 o achosion priodoldeb i ymarfer, ac addasrwydd i gofrestru.
- Gosod 14 Gorchymyn Atal Dros Dro Interim, ac adolygu 22 Gorchymyn Atal Dros Dro Interim.
- Cyhoeddi 1,206 o ddyfarniadau statws athro cymwysedig (SAC), a phrosesu 64 o geisiadau am gydnabyddiaeth SAC o’r tu allan i Gymru.
- Cyhoeddi 1,182 o ddyfarniadau sefydlu.
- Ailachredu pedair rhaglen AGA, ac achredu dwy raglen newydd.
- Cwblhau 12 asesiad Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
Amcan 2: Cefnogi proffesiynoldeb a dysgu, a hyrwyddo gyrfaoedd o fewn y gweithlu addysg
- Cyflwyno dros 300 o sesiynau cymorth a chyflwyniadau i gofrestreion a rhanddeiliaid.
- Cynnal wyth digwyddiad cenedlaethol.
- Rhyddhau pedair pennod newydd o’r podlediad.
- Cefnogi 3,574 o athrawon newydd gymhwyso (ANG) a mentoriaid yn rhan o sefydlu statudol.
- Cyflwyno 31 o sesiynau cymorth sefydlu.
- Cynorthwyo cofrestreion i ddatblygu eu Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP), gyda bron 26,000 o ddefnyddwyr gweithredol.
- Denu 629,073 o ymweliadau â gwefan Addysgwyr Cymru.
- Hysbysebu 6,436 o swyddi ar Addysgwyr Cymru.
- Mynychu 233 o ddigwyddiadau fel Addysgwyr Cymru.
Amcan 3: Ceisio llywio, ffurfio, a dylanwadu ar bolisi addysgol yng Nghymru er budd y gweithlu addysg
- Ymateb i 17 o ymgynghoriadau/galwadau am dystiolaeth.
- Cyfrannu at fwy na 40 o grwpiau llywio cenedlaethol.
- Darparu dadansoddiadau data manwl i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill.
- Ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, gwleidyddion, a rhanddeiliaid eraill ynglŷn â chryfhau’r ddeddfwriaeth sy’n sail i waith CGA.
- Darparu gwasanaeth ysgrifenyddiaeth annibynnol i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (CACAC).
Amcan 4: Bod yn sefydliad cydnerth, galluog, ac ariannol gynaliadwy sy’n cynnig gwerth am arian i gofrestreion.
- Cyflawni barn archwilio ddiamod ar gyfer Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2023/24.
- Cael sicrwydd sylweddol, heb argymhellion, ar gyfer pum adolygiad archwilio mewnol.
- Ymgorffori arfer gorau yn ein cyfrifoldebau statudol ynglŷn â chydraddoldeb, y Gymraeg, diogelu data, a’r amgylchedd.
- Diweddaru ein seilwaith seiberddiogelwch, a chyflawni ardystiad Cyber Essentials fel sicrwydd.
- Ymateb i dri chais am fynediad at ddata gan y testun, a 18 o geisiadau rhyddid gwybodaeth.
- Penodi a hyfforddi dau aelod newydd o’r Cyngor, tri aelod newydd o’r panel Priodoldeb i Ymarfer, chwe aelod newydd o’r Bwrdd Achredu AGA, a chwe aseswr Marc Ansawdd newydd.
- Darparu 12 o weithgareddau dysgu proffesiynol a hyfforddiant i staff, aelodau’r Cyngor, ac aelodau eraill.
- Cyflwyno pum sesiwn lles staff yn rhan o raglen les ehangach i feithrin diwylliant cadarnhaol a chefnogol yn y gweithlu.
Amdanom ni
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.
Fe’n sefydlwyd gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, ac rydym yn rheoleiddio ymarferwyr addysg mewn 13 o wahanol gategorïau cofrestru sy’n rhychwantu ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, addysg oedolion, a dysgu seiliedig ar waith. Ein Cofrestr Ymarferwyr Addysg (y Gofrestr) yw’r gofrestr gyhoeddus fwyaf o unrhyw broffesiwn yng Nghymru, a’r gofrestr fwyaf pellgyrhaeddol o weithwyr addysg proffesiynol yn y byd, gyda dros 91,000 o ymarferwyr wedi’u cofrestru.
Gweledigaeth
I fod yn rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol, dibynadwy sy’n gweithio er budd y cyhoedd i gynnal proffesiynoldeb a gwella safonau yn y gweithlu addysg yng Nghymru.
Rôl a chylch gwaith
Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 yn amlinellu’n ffurfiol ein rôl fel rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ac arweinydd strategol yn y sector addysg yng Nghymru. Mae’r Ddeddf hefyd yn manylu ar ein rhwymedigaethau i’n cofrestreion, dysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, a’r cyhoedd, ac yn diffinio ein nodau a’n swyddogaethau.
Ein nodau
- Cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru.
- Cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon ac eraill sy’n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru.
- Diogelu buddiannau dysgwyr, rhieni/gwarcheidwaid, a’r cyhoedd, a chynnal hyder a ffydd y cyhoedd yn y gweithlu addysg.
Ein swyddogaethau
- Sefydlu a chynnal Cofrestr Ymarferwyr Addysg.
- Cynnal Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.
- Ymchwilio i honiadau a allai godi amheuon ynghylch priodoldeb ymarferydd cofrestredig i ymarfer, a’u clywed.
- Achredu a monitro rhaglenni AGA athrawon ysgol.
- Rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ac eraill.
- Monitro’r broses sefydlu a chlywed apeliadau sefydlu.
- Hyrwyddo gyrfaoedd yn y gweithlu addysg.
- Ymgymryd â gwaith penodol ar gais Llywodraeth Cymru.
Ein gwerthoedd
Tegwch
Rydym yn gweithredu’n deg a chydag unplygrwydd i gynnal safonau a hyrwyddo proffesiynoldeb.
Cymorth
Rydym yn cynorthwyo’r gweithlu addysg i gynnal safonau ymddygiad ac ymarfer uchel.
Rhagoriaeth
Rydym yn ymdrechu i gyflawni rhagoriaeth ac yn ceisio darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gofrestreion, rhanddeiliaid, dysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, a’r cyhoedd.
Cydweithredu
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r gweithlu addysg a rhanddeiliaid i ddatblygu a hyrwyddo rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu.
Annibyniaeth
Rydym yn annibynnol, ac yn rheoleiddio mewn ffordd sy’n ddiduedd ac wedi’i seilio ar dystiolaeth.
Ein pobl
Mae gan ein Cyngor 14 o aelodau sy’n gosod cyfeiriad strategol y sefydliad, ac sy’n gyfrifol am ei lywodraethu. Eleni, penodwyd dau aelod newydd o’r Cyngor i lenwi swyddi a fu’n wag ers i’r Cyngor ddechrau ei dymor ym mis Ebrill 2023.
Caiff pob aelod ei benodi am gyfnod o bedair blynedd. Penodir saith aelod yn uniongyrchol trwy system penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru, a phenodir saith aelod arall yn sgil cael eu henwebu gan amrywiaeth o randdeiliaid.
Rydym yn cyflogi dros 55 o aelodau staff ar hyn o bryd. Rydym hefyd yn cynnal ac yn cefnogi:
- cronfa o 53 o aelodau panel priodoldeb i ymarfer
- Bwrdd Achredu AGA sy’n cynnwys 15 o aelodau
- cronfa o 45 o aseswyr y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
Cynaliadwyedd ariannol
A ninnau’n rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol a ariennir gan ffioedd cofrestru, rydym wedi ymrwymo’n gryf i beidio â gwario mwy na’n hincwm a sicrhau ein bod yn defnyddio ein hadnoddau’n effeithlon. Rydym yn ceisio cadw ein ffioedd cofrestru mor isel â phosibl, ond gan ddarparu’r lefel uchaf o wasanaeth ar yr un pryd wrth gyflawni ein dyletswyddau statudol. Fel rheoleiddwyr eraill, rydym yn cynnal cronfeydd ariannol wrth gefn digonol er mwyn darparu sefydlogrwydd a sicrhau bod ein gwasanaethau’n cael eu diogelu rhag risgiau a allai godi o ddigwyddiadau annisgwyl.
Rydym yn arwain gweithgareddau ar ran Llywodraeth Cymru yn rheolaidd, lle’r ystyrir mai CGA yw’r corff mwyaf priodol i wneud gwaith o’r fath yng Nghymru. Mewn amgylchiadau o’r fath, Llywodraeth Cymru fydd yn talu ein costau trwy gyllid grant ar gyfer prosiectau. Gallwn ymgymryd â gweithgareddau masnachol hefyd, ac rydym yn gwneud hynny pan fyddwn yn credu ei fod er budd cofrestreion a’r sector addysg yng Nghymru.
Archwilir ein Hadroddiad Blynyddol a’n Cyfrifon gan Archwilio Cymru bob blwyddyn ac, wedi hynny, fe’u gosodir gerbron y Senedd.
Y Gymraeg
Rydym wedi ymrwymo i’r iaith Gymraeg ac yn falch o fod yn sefydliad dwyieithog. Rydym yn gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i sicrhau cydymffurfiaeth lwyr â Safonau’r Gymraeg.
Mae ein Hadroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2024/25 yn nodi ein cydymffurfedd â safonau’r Gymraeg, ac yn amlinellu’r gwaith rydym wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i hyrwyddo defnydd o’r iaith, ymhlith ein gweithwyr ni, ac wrth ymgysylltu â chofrestreion a rhanddeiliaid eraill allanol.
Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Rydym yn croesawu ac yn hyrwyddo egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth, y tu mewn i’n sefydliad ac, o fewn ein cylch gwaith, ar draws y gweithlu addysg ehangach yng Nghymru.
Mae ein Hadroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2024/25 yn amlinellu’r cynnydd rydym wedi’i wneud wrth gyflawni ein pum amcan cydraddoldeb yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 yn amlinellu ein hamcanion cydraddoldeb uchelgeisiol, ac mae ei chynllun gweithredu cysylltiedig yn manylu ar sut rydym yn bwriadu eu cyflawni a sut y bydd llwyddiant yn cael ei fesur.
Strwythurau ein Cyngor a’n pwyllgorau
Y Cyngor
- Mae’n gosod ein gweledigaeth a’n cyfeiriad strategol.
- Mae’n craffu ar berfformiad.
- Mae’n dal y Prif Weithredwr i gyfrif.
Pwyllgor Gweithredol
Mae’n goruchwylio:
- datblygiad cynlluniau strategol a gweithredol
- cynnydd yn erbyn amcanion gweithredol a strategol trwy adolygu adroddiadau chwarterol ac Adroddiadau Blynyddol a Chyfrifon
- cynlluniau statudol
Pwyllgor Cofrestru a Rheoleiddio
Mae’n goruchwylio:
- y broses gofrestru a chynnal y Gofrestr
- y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol a phriodoldeb i ymarfer
- achredu rhaglenni AGA
- mentrau i sicrhau ansawdd a gwella safonau addysgu a dysgu
Pwyllgor Archwilio a Chraffu
Mae’n goruchwylio:
- gweithdrefnau gweinyddol a chyllid
- prosesau rheoli risg
- seiberddiogelwch, diogelu data, a rhyddid gwybodaeth
- gweithgarwch a gyflawnir gan archwilio mewnol ac allanol
- adroddiadau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mae’r uwch dîm rheoli’n gyfrifol am ein gweithrediadau a’n rheolaeth. Mae’r Prif Weithredwr yn gyfrifol am ein harweinyddiaeth, yn unol â’r cyfeiriad strategol a osodwyd gan y Cyngor, ac mae’n goruchwylio’r uwch dîm rheoli.
- Prif Weithredwr – Hayden Llewellyn
- Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol (a’r dirprwy Brif Weithredwr dynodedig) - Lisa Winstone
- Cyfarwyddwr Rheoleiddio - David Browne
- Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi - Bethan Holliday-Stacey
Amcanion strategol 2024-25
Amcan 1
Bod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol effeithiol, sy’n gweithio er budd y cyhoedd a meithrin hyder yn y gweithlu addysg.
1.1. Cynnal Cofrestr Ymarferwyr Addysg sy’n gywir ac yn hygyrch.
1.2. Gweithredu gweithdrefnau rheoleiddiol cadarn, teg, a thryloyw sy’n sicrhau mai’r rhai yr ystyrir eu bod yn addas i ymarfer yn unig sy’n cael gwneud hynny.
1.3. Ffurfio ymarfer cofrestreion trwy ddatblygu a hyrwyddo safonau ymddygiad a phroffesiynoldeb uchel.
1.4. Achredu a sicrhau ansawdd rhaglenni a darpariaeth addysg yng Nghymru.
1.5. Sicrhau bod gwaith CGA i’w weld yn amlwg ac yn cael ei ddeall gan gofrestreion, rhieni/gwarcheidwaid, y cyhoedd, a’n rhanddeiliaid trwy gyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol, hygyrch, ac ymatebol.
Amcan 2
Cefnogi proffesiynoldeb a dysgu, a hyrwyddo gyrfaoedd o fewn y gweithlu addysg.
2.1. Darparu casgliad o ganllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol sy’n canolbwyntio ar gynorthwyo ein cofrestreion i gynnal egwyddorion allweddol y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.
2.2. Arwain a chefnogi mentrau i hyrwyddo ac annog dysgu proffesiynol effeithiol ar gyfer cofrestreion.
2.3. Arwain a chefnogi mentrau i hyrwyddo ymgysylltu ag ymchwil a helpu i ledaenu arfer gorau i gofrestreion.
2.4. Hyrwyddo gyrfaoedd o fewn y gweithlu addysg a sbarduno gwelliant mewn recriwtio.
Amcan 3
Ceisio llywio, ffurfio, a dylanwadu ar bolisi addysgol yng Nghymru er budd y gweithlu addysg.
3.1. Darparu cyngor, ymchwil, a dadansoddiad annibynnol i lywio a dylanwadu ar ddatblygu a chyflawni polisi addysg yng Nghymru, gyda’r nod o wella safonau.
3.2. Gweithio gyda chofrestreion, rhieni/gwarcheidwaid, y cyhoedd, a’n rhanddeiliaid i lywio a dylanwadu ar bolisi addysg yng Nghymru, gan helpu i wella safonau.
3.3. Dylanwadu ar Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n sail i’n swyddogaethau rheoleiddiol yn ddigon cadarn.
3.4. Gweithredu fel Ysgrifenyddiaeth i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (CACAC).
Amcan 4
Bod yn sefydliad cydnerth, galluog, ac ariannol gynaliadwy sy’n cynnig gwerth am arian i gofrestreion.
4.1. Rheoli adnoddau’n effeithiol ac yn gynaliadwy i fodloni anghenion y presennol a’r dyfodol, gan ddefnyddio technoleg yn briodol i annog effeithlonrwydd a gwella ein gwasanaethau.
4.2. Sefydlu prosesau effeithiol ar gyfer cynllunio, rheoli perfformiad, a chydymffurfio, gan sicrhau eu bod yn ymgorffori arfer gorau.
4.3. Bod yn gyflogwr rhagorol sy’n hyrwyddo diwylliant cefnogol a chynhwysol lle mae’r holl staff, aelodau’r Cyngor ac aelodau Pwyllgorau/paneli yn teimlo eu bod yn werthfawr ac yn gallu cyfrannu’n llawn.
4.4. Dylanwadu ar Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n sail i’n hannibyniaeth, ein trefniadau llywodraethu, a’n cyllid yn addas i’r diben.
Edrych tua’r dyfodol
Mae ein Cynllun Strategol 2025-28 yn amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer y cyfnod, ac yn adlewyrchu ein rôl a’n cylch gwaith statudol yng nghyd-destun ehangach addysg yng Nghymru.
Bydd gweithgareddau allweddol ar gyfer 2025/26 yn cynnwys:
- parhau i ymgymryd â’n cyfrifoldebau statudol yn effeithiol, yn effeithlon, ac yn gynaliadwy:
- darparu gwasanaeth cofrestru a rheoleiddio cadarn, sy’n golygu mai’r rhai hynny sy’n addas ac yn gymwys i ymarfer yn unig sy’n gallu gwneud hynny
- gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau model ffioedd cofrestru priodol ar gyfer y dyfodol, sy’n gymesur ar gyfer cofrestreion, ac sy’n caniatáu i ni aros yn annibynnol ac yn ariannol gynaliadwy
- amlygu i’r llywodraeth ac eraill fod angen cryfhau’r ddeddfwriaeth sy’n sail i’n gwaith, i fynd i’r afael â’r anghysondebau yn ein swyddogaethau statudol, gan gynnwys:
- sefydlu cymwysterau gofynnol ar gyfer pob categori cofrestru
- achrediad proffesiynol cymwysterau o’r fath
- gwarchod y safonau proffesiynol ar gyfer pob grŵp cofrestreion
- penodi Prif Weithredwr newydd yn dilyn y cyhoeddiad y bydd Hayden Llewellyn yn ymddeol ar 11 Awst 2025
- cyhoeddi ‘maniffesto’ CGA, sy’n amlinellu ein safbwynt a’n blaenoriaethau ar faterion polisi allweddol sy’n berthnasol i’w gylch gwaith, wrth baratoi ar gyfer etholiadau’r Senedd 2026
- parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid yn y sectorau Addysg Bellach ac addysg oedolion i ddatrys y materion a amlygwyd yn y ddeddfwriaeth a ddaeth i rym ym mis Mai 2024, sy’n mynnu bod yr ymarferwyr hyn yn cofrestru gyda CGA
- cynorthwyo cofrestreion i gynnal y Cod, a chyflawni’r safonau proffesiynol uchaf trwy ddarparu a hyrwyddo gwybodaeth ddefnyddiol, adnoddau, a gwasanaethau a ddyluniwyd i gynnig arweiniad a chyfarwyddyd
- ffurfio a dylanwadu ar bolisi addysg yng Nghymru, gan gynnwys rhoi a chyhoeddi cyngor ar addysgu a dysgu, a materion perthnasol yn ymwneud â’n gweithlu cofrestredig
- hyrwyddo gyrfaoedd ym myd addysg, yn ogystal ag ymgymryd â gwaith y tu hwnt i’r hyn a amlinellir yn Neddf Addysg (Cymru) 2014 trwy Addysgwyr Cymru, gan gynnwys gweithgarwch wedi’i dargedu gydag unigolion, sefydliadau partner, a grwpiau cymunedol mewn meysydd blaenoriaeth
- gwella ein gwasanaethau digidol, gan gynnwys lansio cronfa ddata cofrestru wedi’i huwchraddio
- parhau i gynyddu ymwybyddiaeth o’n rôl trwy gryfhau ein cyfathrebu â chofrestreion, rhanddeiliaid, a’r cyhoedd
- cyflawni gwaith a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn unol â thargedau a graddfeydd amser cytunedig
Risgiau a heriau allweddol
Mae gennym weithdrefnau cadarn ar waith i reoli risg sefydliadol. Mae ein cofrestr risg yn sicrhau bod meysydd a amlygir yn cael eu harchwilio’n drylwyr a’u hadolygu’n rheolaidd gan reolwyr. Rydym yn darparu gwybodaeth bellach am reoli risg yn ein Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
Mae mwyafrif y risgiau yn y gofrestr risg yn rhai parhaus, ond ystyrir bod y canlynol yn arbennig o berthnasol ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Cyfyngiadau
Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu fframwaith llywodraethu sy’n berthnasol ac yn gymesur. Yn wahanol i lawer o gyrff cyhoeddus eraill, mae ein gwaith craidd yn cael ei ariannu gan ein cofrestreion trwy ffioedd cofrestru. Oherwydd y cyfyngiadau ariannol rydym yn gweithio ynddynt, mae’n hanfodol i ni reoli arian yn dda, ac mae gennym fframwaith llywodraethu cymesur a thryloyw ar waith, sy’n berthnasol i’n sefydliad unigryw.
Mae ein ffioedd cofrestru wedi aros yr un peth ers i ni gael ein sefydlu yn 2015, ac ers 2008 ar gyfer athrawon ysgol (pan oeddem yn Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru). Rydym yn ceisio taro cydbwysedd rhwng dal digon o gronfeydd wrth gefn i sicrhau ein cynaliadwyedd, gan ddarparu’r lefel uchaf o wasanaeth wrth gyflawni ein dyletswyddau statudol. Rydym yn adolygu lefelau ffioedd a chronfeydd wrth gefn rheoleiddwyr eraill ar draws y byd yn rheolaidd.
Model cyllido ar gyfer y dyfodol
Ym mis Mawrth 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru na fyddai’n darparu cyfraniad i gofrestreion tuag at eu ffioedd cofrestru blynyddol (a adwaenir fel cymhorthdal), ar gyfer 2024/25. Er mwyn osgoi goblygiadau ariannol i’n cofrestreion, cytunodd ein Cyngor i dalu’r cymhorthdal o’n cronfeydd wrth gefn. Ym mis Mawrth 2025, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai’n darparu cymhorthdal rhannol yn unig i gofrestreion ar gyfer 2025/26. Wrth ystyried y sgil-effeithiau ariannol ar gyfer ein cofrestreion, cytunodd ein Cyngor unwaith eto i ddefnyddio ein cronfeydd wrth gefn i dalu’r diffyg. Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried modelau cyllido posibl ar gyfer y dyfodol a’u goblygiadau i’r gweithlu addysg.
Cronfa ddata cofrestru
Rydym wrthi’n uwchraddio ein cronfa ddata cofrestru er mwyn darparu system hunanwasanaeth gynhwysfawr ar gyfer cofrestreion, cyflogwyr, a’r cyhoedd. Byddwn yn monitro cynnydd y prosiect hwn yn ofalus i sicrhau nad oes unrhyw darfu ar y gwasanaeth.
Seiberddiogelwch
Mae materion seiberddiogelwch yn fygythiad byd-eang, ac mae sefydliadau’n wynebu risgiau parhaus, ni waeth pa mor fawr yw’r busnes na pha fath o fusnes ydyw. Mae gennym ystod o gamau a mesurau diogelwch ar waith i sicrhau diogelwch ein rhwydwaith TG, a’r data a gedwir ynddo. Bydd y dulliau hyn yn cael eu monitro a’u gwella ymhellach, fel y bo’r angen.
Newid i bersonél allweddol
Gan y bydd Hayden Llewellyn yn ymddeol fel Prif Weithredwr ar 11 Awst 2025, mae’n hollbwysig ein bod yn recriwtio Prif Weithredwr newydd, sy’n briodol o gymwys, i arwain CGA. Yn ystod y cyfnod hwn o newid, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni ein swyddogaethau statudol, heb darfu ar ein rhanddeiliaid, ein staff, na’r safon uchel o wasanaeth a ddarparwn. Mae colli personél allweddol wedi’i restru yn ein cofrestr risg ochr yn ochr â phrosesau a gweithdrefnau clir i’w mabwysiadu mewn achosion o’r fath, a manylir arno yn ein cynllun parhad busnes. Bydd y broses recriwtio i’r swydd yn cael ei chynnal gan asiantaeth chwilio am swyddogion gweithredol, a fydd yn dechrau ym mis Ebrill 2025.
Dadansoddiad o berfformiad
Mae ein Cynllun Gweithredol ar gyfer 202/254 yn amlinellu camau gweithredu a mesurau manwl ar gyfer pob un o’n hamcanion strategol. Neilltuir y cyfrifoldeb am gyflawni amcanion strategol i uwch swyddogion, ac fe’i dirprwyir ymhellach i dimau, fel y bo’n briodol. Craffwyd ar gynnydd gan yr uwch dîm rheoli ym mhob cyfarfod misol, a chan y Cyngor a’i Bwyllgor Gweithredol trwy adolygiadau chwarterol, a thrwy gyflwyno adroddiadau monitro blynyddol. Rhoddir manylion ein cyflawniadau yn erbyn pob un o’r amcanion isod.
Amcan 1: Bod yn yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol effeithiol, sy’n gweithio er budd y cyhoedd a meithrin hyder yn y gweithlu addysg
Cofrestru
Mae’r Gofrestr yn hanfodol i’n gwaith i sicrhau bod safonau uchel o broffesiynoldeb yn cael eu cynnal yn y gweithlu. Mae’n amddiffyn y cyhoedd trwy sicrhau mai dim ond y rhai sy’n cyrraedd a chynnal ein safonau all weithio mewn rolau wedi’u rheoleiddio yng Nghymru.
Ar 31 Mawrth 2025, roedd dros 91,000 o ymarferwyr addysg ar ein Cofrestr, yn rhychwantu 13 o grwpiau o fewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, addysg oedolion, a dysgu seiliedig ar waith. Fe wnaethom brosesu ein nifer fwyaf erioed o geisiadau cofrestru newydd eleni, sef 19,058, a chafwyd y nifer fwyaf o geisiadau gan weithwyr cymorth dysgu ysgol (12,972).
Rydym wedi gweithio’n helaeth gyda chyflogwyr ac asiantaethau drwy gydol y flwyddyn i sicrhau eu bod yn deall eu rhwymedigaethau cyfreithiol i benodi a chyflogi staff sydd wedi’u cofrestru gyda CGA, ac i’w cynghori ar sut gall eu mynediad at y Gofrestr helpu. Mae gwaith ymgysylltu yn y maes hwn wedi cynnwys gohebu â mwy na 300 o wahanol gyflogwyr/asiantaethau, lansio canllawiau newydd i gyflogwyr/asiantaethau, a chynnal saith Fforwm Cyflogwyr i sicrhau eu bod yn llwyr ddeall y rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n ofynnol ar gyfer staff ym mhob lleoliad. Fe wnaethom hefyd ddatblygu, a chyhoeddi ym mis Chwefror 2025, digwyddiad (a drefnwyd ar gyfer 2025/26) ar gyfer uwch arweinwyr, cyflogwyr, asiantaethau cyflenwi, a llywodraethwyr. Yn ogystal â rhannu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth a gafwyd o fwy na 25 mlynedd o waith rheoleiddiol, bydd y digwyddiad yn rhoi arweiniad ar wneud atgyfeiriadau i CGA, a’r gofyniad statudol i gyflogwyr/asiantaethau wneud hynny.
Mae’r Gofrestr ar gyfer y cyhoedd, sydd ar gael trwy ein gwefan, yn galluogi cyflogwyr, aelodau’r cyhoedd, ac eraill i wirio statws cofrestru ymarferwyr addysg. Mae hyn yn allweddol i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc. Gwnaed dros 150,000 o wiriadau ar-lein rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025.
Cynhaliwyd 33 o sesiynau rhithwir gyda phrifysgolion a cholegau Addysg Bellach i sicrhau bod myfyrwyr sy’n bwriadu ymuno â’r gweithlu addysg ar ôl cymhwyso, yn deall y gofynion cyfreithiol arnynt i gofrestru.
Yn ogystal, cynhaliwyd sawl ymarfer eleni i wella cyflawnder cofnodion ar y Gofrestr. Roedd hyn yn cynnwys cysylltu â mwy na 17,000 o gofrestreion nad oedd eu cofnodion wedi’u cwblhau’n llawn.
Astudiaeth achos: Cynorthwyo cyflogwyr i gydymffurfio
Ym mis Mai 2024, croesawom ymarferwyr addysg oedolion, ac uwch reolwyr a phenaethiaid sy’n gweithio ym maes Addysg Bellach i’n Cofrestr. Roedd hyn yn dilyn deddfwriaeth newydd a oedd hefyd wedi cyflwyno cymwysterau gofynnol ar gyfer y rhai sy’n gweithio fel athrawon Addysg Bellach ac ymarferwyr addysg oedolion. Fe wnaethom gynorthwyo cyflogwyr/asiantaethau yr effeithiwyd arnynt i weithredu’r gofynion a amlinellir yn y ddeddfwriaeth newydd a chyhoeddi arweiniad ar ein gwefan. Rydym hefyd wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Colegau Cymru, a chyflogwyr i sicrhau cyflawnder ein data cymwysterau, fel y gellir gweithredu’r gofyniad ar gyfer cymwysterau gofynnol yn effeithiol.
Addasrwydd i gofrestru
Rydym yn mynnu bod pob ymgeisydd yn datgan eu hanes troseddol, disgyblu, neu reoleiddiol yn rhan o’u cais i gofrestru er mwyn sicrhau eu haddasrwydd i ymarfer. Mae hyn yn sicrhau mai dim ond y rhai hynny sydd â’r sgiliau, y wybodaeth, a’r ymddygiadau angenrheidiol sy’n gallu cofrestru a gweithio yn y proffesiynau addysg yng Nghymru. Yn ystod 2024/25, gwnaethom gwblhau cyfanswm o 208 o asesiadau lle’r oedd ymgeiswyr wedi datgan materion penodol. Arweiniodd hyn at ystyried bod tri unigolyn yn anaddas i ymarfer yn y proffesiynau cofrestredig yng Nghymru. Ym mhob achos, rydym wedi cadw at y graddfeydd amser a’r safonau a amlinellir yn ein gweithdrefnau cyhoeddedig.
Yn ystod 2024/25, fe ddechreuom gwaith ymchwil a chwmpasu rhagarweiniol i archwilio ailddilysu neu ddiweddaru proffesiynol ar gyfer cofrestreion CGA. Bwriedir i’r gwaith hwn barhau yn 2025/26 a thu hwnt.
Priodoldeb i ymarfer
Mae gennym gyfrifoldeb statudol i ymchwilio i achosion honedig o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, a/neu euogfarn am drosedd berthnasol, a’u clywed os oes angen. Rydym yn ymgymryd â’r gwaith hwn er budd y cyhoedd i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, a’r cyhoedd, ac i gynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg.
Drwy gydol y flwyddyn, rydym ni, ynghyd â rheoleiddwyr eraill, wedi canfod bod gwaith achos yn dod yn gynyddol gymhleth. Mae rhyngweithiadau ag asiantaethau eraill fel y Llys Teulu a’r Heddluoedd wedi dod yn fwy mynych, gan arwain at gymhlethdodau cyfreithiol ychwanegol wrth ymchwilio i waith achos. Gan fod ein cylch gwaith yn cynnwys 13 o wahanol gategorïau cofrestru, rydym hefyd yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o gyflogwyr/asiantaethau sy’n rhychwantu’r gweithlu addysg.
Rydym wedi gwneud gwaith helaeth i sicrhau cyfathrebu a gohebu cadarn ag amrywiaeth o sefydliadau gyda phwyslais ar ddiogelu. Bob blwyddyn, rydym yn cyfarfod â’r holl Heddluoedd yng Nghymru i sicrhau bod y protocolau rhannu data cywir ar waith ac rydym yn cyfarfod yn rheolaidd ag arweinwyr diogelu ym mhob awdurdod lleol. Rydym wedi parhau i gyfarfod â’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol ddwywaith y flwyddyn i drafod materion diogelu sy’n berthnasol i’n cylch gwaith. Rydym hefyd yn cyfarfod â Chomisiynydd Plant Cymru bob blwyddyn, lle trafodir diogelu yn rhan o’r agenda. Yn ogystal, eleni, fe’n gwahoddwyd i gyfarfod bord gron a gynullwyd gan y Comisiynydd Plant, yn canolbwyntio ar ddiogelu disgyblion, a roddodd gyfle i ni rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd.
Gwaith achos priodoldeb i ymarfer
Eleni, gwnaethom gwblhau 76 o achosion priodoldeb i ymarfer. Roedd y rhain yn cynnwys 53 o wrandawiadau priodoldeb i ymarfer, y cynhaliwyd 48 ohonynt ar-lein, a phum wyneb yn wyneb. Mae amrywiaeth o gosbau y gellir eu gosod o ganlyniad i’r gwaith hwn. Yn yr achosion mwyaf difrifol, cafodd 17 o unigolion eu dileu o’r Gofrestr gyhoeddus, sy’n golygu nad ydynt yn gallu ymarfer yn y proffesiynau cofrestredig yng Nghymru.
Mae ein Hadroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer 2024/25 yn rhoi gwybodaeth fanwl am dueddiadau yn ein gwaith achos a phroffil y rhai hynny sy’n ymddangos.
Gorchmynion atal dros dro interim
Pan fydd perygl diogelu i ddysgwyr, pobl ifanc, neu’r cyhoedd, mae gennym bwerau statudol i osod gorchmynion atal dros dro interim. Mae’r rhain yn caniatáu i ni ddileu unigolion o’r Gofrestr am gyfnod dros dro, tra’n disgwyl ymchwiliad. Yn ystod 2024/25, gwnaethom osod 14 gorchymyn atal dros dro interim newydd, a chynnal 22 adolygiad o orchmynion atal dros dro interim presennol.
Apeliadau sefydlu
Rydym yn gyfrifol am wrando ar apeliadau gan athrawon newydd gymhwyso (ANG) sy’n methu’r cyfnod sefydlu statudol, ond sy’n anfodlon ar y penderfyniad. Ni chawsom unrhyw apeliadau sefydlu yn ystod 2024/25.
Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol
Mae’r Cod yn amlinellu’r safonau a ddisgwylir gan ein cofrestreion, a bwriedir iddo lywio unrhyw ddyfarniadau a phenderfyniadau a wnânt. Mae hefyd yn rhoi gwybod i ddysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, cyflogwyr, a’r cyhoedd am y safonau y gallant eu disgwyl gan ymarferydd cofrestredig.
Gallai methiant i gydymffurfio â’r Cod godi amheuon ynglŷn â chofrestriad unigolyn. Felly, mae’n bwysig ein bod yn cynorthwyo ein cofrestreion a’n rhanddeiliaid i ddeall gofynion y Cod. Yn ystod 2024/25, gwnaethom:
- gyflwyno 46 o sesiynau hyfforddi ar y Cod
-
cyhoeddi pedair astudiaeth achos sy’n rhoi gwybodaeth glir ac ymarferol am y disgwyliadau a’r safonau a ddisgwylir gan gofrestreion
-
ychwanegu at ein casgliad o ganllawiau arfer da sy’n cydategu’r Cod a rhoi cyngor ychwanegol i gofrestreion ynglŷn â meysydd ymarfer allweddol
-
datblygu a chyhoeddi dwy weminar fer yn y gyfres Eich CGA: ‘Eich CGA: Cyflwyniad i CGA’ ac ‘Eich CGA: Y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol’
-
datblygu digwyddiad cychwynnol i gyflogwyr i rannu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth a gafwyd o fwy na 25 mlynedd o waith rheoleiddiol
Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 yn mynnu ein bod yn adolygu’r Cod a gwneud unrhyw ddiwygiadau yr ystyriwn eu bod yn briodol o fewn tair blynedd o bob dyddiad cyhoeddi, a/neu pan fydd categori cofrestru newydd yn cael ei ychwanegu. Mae’r Ddeddf hefyd yn mynnu ein bod yn ymgynghori ag unrhyw randdeiliaid a allai fod â diddordeb mewn adolygu’r Cod. Ym mis Ionawr 2025, dechreuodd gwaith ar yr adolygiad nesaf a drefnwyd, a oedd yn cynnwys gofyn i randdeiliaid rannu eu safbwyntiau trwy ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd ymgysylltu pellach, gan gynnwys cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus, yn parhau cyn cyhoeddi’r Cod diwygiedig ym mis Medi 2025.
Astudiaeth achos: Astudiaethau achos rheoleiddiol
Rydym wedi parhau i gynorthwyo ein cofrestreion i gynnal egwyddorion y Cod trwy ein cyfres o adnoddau a chanllawiau sy’n tyfu, a thrwy ymgysylltu’n uniongyrchol, i gyfnerthu eu hymarfer proffesiynol. Ym mis Hydref, cyhoeddwyd y cyntaf mewn cyfres o astudiaethau achos priodoldeb i ymarfer sy’n rhoi gwybodaeth glir ac ymarferol am y safonau a ddisgwylir gan gofrestreion. Er mwyn amlygu rhai o’r heriau a’r maglau cyffredin sy’n gallu arwain at wrandawiad priodoldeb i ymarfer, rydym hefyd wedi parhau i rannu ein harbenigedd trwy 46 o sesiynau wedi’u teilwra i gofrestreion a rhanddeiliaid mewn sefydliadau ledled Cymru. Rydym wedi datblygu digwyddiad, y bwriedir iddo gael ei gynnal yn 2025/26, ar gyfer uwch arweinwyr, cyflogwyr, asiantaethau cyflenwi, a llywodraethwyr, i rannu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth a gafwyd o fwy na 25 mlynedd o waith rheoleiddiol, gan ddefnyddio ein profiad o fwy na 5,000 o achosion.
SAC a sefydlu statudol
Er mwyn ymarfer fel athro ysgol mewn ysgol a gynhelir, mae’n rhaid i gofrestreion feddu ar gymhwyster proffesiynol SAC, a chwblhau cyfnod sefydlu statudol yn llwyddiannus. Eleni, fe wnaethom roi tystysgrifau i 1,206 i bobl a gyflawnodd SAC yng Nghymru. Gwnaethom hefyd asesu 56 o geisiadau am gydnabyddiaeth SAC gan ymgeiswyr a gyflawnodd gymwysterau y tu allan i Gymru. Fe wnaethom roi 1,183 o dystysgrifau i athrawon ysgol a gwblhaodd eu cyfnod sefydlu’n llwyddiannus.
Achredu AGA
Mae’n rhaid i’r holl raglenni AGA a gynigir yng Nghymru gael eu hachredu gan CGA a’u monitro drwy gydol y cyfnod achredu. Rydym yn dirprwyo’r swyddogaeth hon i’n Bwrdd Achredu AGA (y bwrdd). Wrth benderfynu p’un ai rhoi achrediad, mae’r bwrdd yn ystyried p’un a yw’r rhaglen yn bodloni’r meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni AGA yng Nghymru.
Yn ystod y flwyddyn, cwblhaodd y bwrdd weithgarwch achredu ar gyfer tair rhaglen newydd a gweithgarwch ailachredu ar gyfer pum rhaglen. O ganlyniad, tynnwyd achrediad un rhaglen yn ôl, gwrthodwyd achredu un rhaglen ac achredwyd/ailachredwyd chwe rhaglen.
O ganlyniad i’r gweithgarwch hwn, roedd 15 rhaglen ar waith ar draws chwe phartneriaeth ym mis Medi 2024.
Mae CGA wedi gweithio’n agos gyda phartneriaethau AGA, Llywodraeth Cymru ac Estyn drwy gydol y flwyddyn i roi cyngor a chymorth parhaus, a sicrhau bod prosesau a gweithdrefnau achredu cadarn a chymesur ar waith.
Dyrannu niferoedd derbyn AGA
Ym mis Tachwedd 2024, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, dyrannom niferoedd derbyn i bartneriaethau AGA ar gyfer rhaglenni sy’n dechrau ym mis Medi 2025. Gan gydnabod prinder athrawon penodol yng Nghymru, gwnaethom hefyd amlinellu gofynion Llywodraeth Cymru i recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg, ac athrawon o gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Byddwn yn parhau i fonitro recriwtio i raglenni yn 2025/26 ac yn adrodd ar gynnydd i Lywodraeth Cymru bob mis.
Y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
Ers mis Ionawr 2020, bu gennym gontract ar gyfer darparu’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru (y Marc Ansawdd), mewn partneriaeth â Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru. Ym mis Rhagfyr 2024, rhoddwyd gwybod i ni fod ein contract gwreiddiol i gyflawni’r gwaith hwn wedi cael ei ymestyn tan fis Mawrth 2026.
Yn 2024/25, fe wnaethom asesu 12 o sefydliadau (naw efydd, dau arian, un aur). Yn gyfan gwbl, mae 40 o ddyfarniadau Marc Ansawdd wedi cael eu gwneud.
Fe wnaethom ymgysylltu’n helaeth â’r sector, a rhoi cyngor ac arweiniad i sefydliadau ac unigolion sy’n ystyried gwneud cais am y Marc Ansawdd. Rydym wedi datblygu a darparu hyfforddiant ar y Marc Ansawdd i weithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid
Cyfathrebu ac ymgysylltu
Rydym wedi parhau i gryfhau ein gweithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Lansiodd ail gam ein hymgyrch i gynyddu ymwybyddiaeth o CGA a’n gwasanaethau ymhlith cofrestreion a’r cyhoedd ym mis Ebrill 2024, gan ganolbwyntio’n bennaf ar ymgysylltu â rhieni/gwarcheidwaid. Fe ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2024, ac roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys cyfres newydd sbon o weminarau ‘Eich CGA’, llawer o ymgyrchoedd bach ar gyfryngau cymdeithasol, a phartneriaethau â sefydliadau eraill.
Mae ein hyfforddiant, sesiynau cymorth, a chyflwyniadau ar-lein wedi cael eu hategu ymhellach gan ein cyfres o recordiadau ar gais sy’n tyfu, gan gynnwys dau o’n fideos sefydliadol allweddol a gyhoeddwyd gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydeinig. Eleni, fe wnaethom hefyd gyhoeddi cyfres newydd o fideos astudiaeth achos sy’n dangos y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) a sut mae’n helpu sefydliadau yng Nghymru i gefnogi dysgu a datblygiad proffesiynol eu staff.
Rydym hefyd wedi parhau i ddatblygu ein gwefan i wella profiad y defnyddiwr, brandio, llywio, a gosodiad. Yn ogystal, rydym wedi gwneud mwy o welliannau hygyrchedd o ganlyniad i archwiliad cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.2. Trwy geisio adborth yn rheolaidd, rydym yn parhau i wneud gwelliannau, lle bo’n briodol. Mae hyn i gyd wedi ein helpu i ddenu dros 894,913 o edrychiadau ar dudalennau ein gwefan (sy’n fwy na’r 852,841 y llynedd).
Eleni, rydym wedi rhyddhau wyth cylchlythyr i gofrestreion, a chyhoeddi dau flog gwadd gan bobl amlwg ym maes addysg, yn ogystal â dau flog am waith CGA. Rydym hefyd yn ymgysylltu â’n cofrestreion a’n rhanddeiliaid trwy ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gan gynyddu ein cynulleidfaoedd ar LinkedIn (839 o ddilynwyr), a Facebook (711 o ddilynwyr). Hyd at fis Rhagfyr 2024, roedd gennym gyfrif ar X hefyd (Twitter gynt). Penderfynwyd tynnu’n ôl o’r sianel honno yn dilyn nifer o newidiadau i’r platfform a’i gwnaeth yn gynyddol anodd i ni gysoni ein presenoldeb yno â’r gwerthoedd a’r egwyddorion sy’n bwysig i ni fel sefydliad.
Rydym yn gohebu â chofrestreion, rhanddeiliaid a’r cyhoedd bob dydd trwy’r e-bost ac ar y ffôn.
Cawsom sylw rheolaidd yn y cyfryngau eleni, gyda diddordeb arbennig yn ein gwaith priodoldeb i ymarfer. Fodd bynnag, dangosodd y wasg ddiddordeb mewn pynciau eraill hefyd, fel ein hystadegau blynyddol am y gweithlu, ein digwyddiadau a’n gweminarau, a’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid.
Amcan 2: Cefnogi proffesiynoldeb a dysgu, a hyrwyddo gyrfaoedd o fewn y gweithlu addysg
Cefnogi ymarfer proffesiynol cofrestreion
Rydym yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ar gyfer cofrestreion, sy’n canolbwyntio ar eu cynorthwyo mewn meysydd ymarfer allweddol. Mae hyn wedi cynnwys cyfres o weminarau ar gynyddu ymwybyddiaeth o’n rôl a’r gwasanaethau a gynigiwn, gyda phwyslais arbennig ar y Cod a sut i gydymffurfio ag ef.
Yn ogystal, rydym hefyd wedi parhau i ddefnyddio ein dau brif ddigwyddiad (y ddarlith flynyddol Siarad yn Broffesiynol, a Dosbarth Meistr) i arddangos syniadau arloesol a siaradwyr blaenllaw ar amrywiaeth o bynciau.
Astudiaeth achos: Siarad yn Broffesiynol
Ym mis Ionawr 2025, roeddem yn falch o groesawu’r Athro Rose Luckin, sy’n academydd uchel ei pharch yn rhyngwladol, fel prif siaradwr ein darlith flynyddol, Siarad yn Broffesiynol. Mynychwyd y digwyddiad gan fwy na 500 o bobl a glywodd drafodaeth ddiddorol am Groesawu Deallusrwydd Artiffisial mewn addysg. Ymdriniodd y digwyddiad â thueddiadau y dylai addysgwyr eu disgwyl yn y dyfodol a chymwysiadau ymarferol deallusrwydd artiffisial, yn ogystal ag awgrymu rhai strategaethau ar gyfer manteisio ar ddeallusrwydd artiffisial i wella canlyniadau addysgol. Edrychodd hefyd ar ystyriaethau moesegol a mesurau diogelu, a gofynnodd gwestiynau i’r ymarferwyr fyfyrio arnynt, cyn croesawu’r mynychwyr i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb diddorol.
Datblygu perthnasoedd a chydweithrediadau i hyrwyddo proffesiynoldeb a thegwch
Eleni, rydym wedi parhau i gydweithredu â sefydliadau partner i ddatblygu canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol ychwanegol ar gyfer ein cofrestreion. Mae proffesiwn addysg teg yn hanfodol i greu amgylchedd cynhwysol ar gyfer ymarferwyr a dysgwyr. Drwy gydol y flwyddyn, rydym wedi cydweithredu â nifer o bartneriaid/sefydliadau i amlygu materion perthnasol yn y gweithlu addysg. Mae hyn wedi cynnwys:
- sefydlu partneriaeth ffurfiol â Thîm Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST) Cymru i hyrwyddo gyrfaoedd ymhlith unigolion o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol
- darparu tystiolaeth lafar i adolygiad EYST o adroddiadau a gyhoeddwyd ar hiliaeth mewn ysgolion yng Nghymru
- ffurfio partneriaeth â DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol) a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu a hyrwyddo eu hail gynhadledd genedlaethol
- Dosbarth Meistr ar Arwain Ymarfer Myfyriol – Adolygu’r Dystiolaeth ym mis Mehefin 2024, a arweiniwyd gan yr Athro Carol Campbell, o Brifysgol Glasgow, a chanllaw arfer da ar y pwnc a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2024
- gwahodd Cymorth Addysg i gymryd rhan ym mhennod ein podlediad ar les
- cydweithredu ag Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru (NAEL) ar drafodaeth banel yn Eisteddfod yr Urdd ynglŷn ag ymarfer myfyriol
Sefydlu
Rydym yn gweinyddu trefniadau cyllido, cofnodi, ac olrhain ar gyfer sefydlu statudol athrawon ysgol ar ran Llywodraeth Cymru. Yn dilyn y cyhoeddiad ynglŷn â newidiadau i’r rhaglen sefydlu yng Nghymru, gweithiodd swyddogion yn agos gyda’n datblygwyr cronfa ddata ac eWasanaethau i sicrhau bod y proffil sefydlu ar-lein, a dogfennau a chanllawiau cysylltiedig, yn cael eu diweddaru i adlewyrchu hyn. Rydym wedi parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol, y consortia rhanbarthol, mentoriaid, ANG, a Llywodraeth Cymru. Yn 2024/25, roedd y gwaith hwn yn cynnwys:
- cynorthwyo dros:
- 2,600 o athrawon newydd
- 900 o fentoriaid sefydlu
- 400 o wirwyr allanol, mentoriaid sefydlu cyflenwi tymor byr, a dilyswyr sefydlu
- 750 o ysgolion (yn rhan o’r rhaglen sefydlu)
- dosbarthu dros £3.38 miliwn o gyllid ar gyfer sefydlu i ysgolion
- rhyddhau dros £1.6 miliwn i’r consortia rhanbarthol i gefnogi gwirwyr allanol
- darparu cymorth gweinyddol wedi’i deilwra i gefnogi pob un o’r consortia rhanbarthol
- darparu gwasanaethau ar-lein, cyfleusterau desg gymorth, ac arddangosiadau i ysgolion, y consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol, gwirwyr allanol a’r holl ymarferwyr cofrestredig sy’n cael at eu proffil sefydlu
E-bortffolio cenedlaethol – Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)
Parhaom i ddatblygu a chynnal e-bortffolio cenedlaethol ar gyfer ein cofrestreion i’w cynorthwyo i gynllunio, cofnodi, a myfyrio ar eu profiadau a’u dysgu proffesiynol, a rhyngweithio â’u safonau proffesiynol. Ar 31 Mawrth 2025, roedd bron 26,000 o ddefnyddwyr gweithredol y PDP, a bron 750 o gyfrifon newydd ers 1 Ebrill 2024.
Rydym wedi darparu hyfforddiant a chymorth ar-lein drwy gydol y flwyddyn i helpu cofrestreion i ddefnyddio’r PDP, gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu llawlyfrau pwrpasol yn y PDP, a datblygu animeiddiad byr sy’n hyrwyddo buddion y PDP.
Cefnogi ymchwil gan ymarferwyr
Yn unol â’n strategaeth ymchwil, rydym wedi parhau i hyrwyddo a chefnogi ymgysylltu ag ymchwil ar draws ein grwpiau o gofrestreion, fel llinyn arall o’n gwaith i helpu ein cofrestreion i gydymffurfio ag agweddau penodol ar ein Cod.
Rydym yn cynnig ystod o adnoddau ar-lein i gofrestreion er mwyn annog ymchwil agos i ymarfer, gan gynnwys darparu mynediad am ddim at becyn EBSCO o gyfnodolion ac e-lyfrau academaidd. Rydym yn defnyddio Meddwl Mawr, ein clwb llyfrau a chyfnodolion, i gynyddu ymwybyddiaeth o EBSCO, ac yn annog cofrestreion i droi at yr adnodd rhad ac am ddim hwn. Yn ystod 2024/25, fe wnaethom argymell 16 o lyfrau yn ymdrin â phynciau fel ymddygiad dysgwyr, lefelau cyrhaeddiad, amrywiaeth ymhlith addysgwyr, rheoli llwyth gwaith, niwroamrywiaeth mewn plant, ymwybyddiaeth ofalgar, a’r berthynas rhwng chwarae ac addysg.
Hyrwyddo gyrfaoedd ym myd addysg
Mae gennym swyddogaeth statudol i hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau addysg yng Nghymru, ac rydym wedi parhau i ddatblygu brand a phlatfform Addysgwyr Cymru i gefnogi recriwtio a chamu ymlaen.
Rydym wedi gwella gwefan Addysgwyr Cymru gan ddefnyddio adborth gan ein defnyddwyr gwasanaeth. Mae porth swyddi’r platfform yn rhoi cymorth i gyflogwyr sy’n hysbysebu swyddi, gan ei gwneud yn haws i addysgwyr ddod o hyd i’w rôl nesaf. Eleni, mae’r wefan wedi denu 629,073 o ymwelwyr ac, am yr ail flwyddyn yn olynol, mae porth swyddi Addysgwyr Cymru wedi hysbysebu mwy o swyddi gwag yn gyson nag unrhyw ddarparwr tebyg yng Nghymru.
Rydym hefyd wedi parhau i weithio gyda phartneriaid i roi cynlluniau gweithredu penodol ar waith ar gyfer meysydd recriwtio blaenoriaethol, gan gynnwys cefnogi partneriaethau AGA â’u cynlluniau i recriwtio i bynciau blaenoriaethol, a denu mwy o addysgwyr du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, ac addysgwyr sy’n siarad Cymraeg.
Trwy ein gwasanaeth hyrwyddo ac eirioli, rydym wedi cynnig cymorth i unigolion, cyflogwyr, a sefydliadau addysg, a chynrychiolwyd Addysgwyr Cymru mewn mwy na 230 o ddigwyddiadau – gan ymgysylltu â miloedd o unigolion sydd â diddordeb mewn gyrfa ym myd addysg.
Addysgwyr Cymru mewn rhifau
- 629,300 o ymwelwyr â gwefan Addysgwyr Cymru.
- 6,436 o swyddi gwag wedi’u postio ar y porth swyddi.
- 704 o ymholiadau neu geisiadau am gyngor.
- 163 o ddigwyddiadau recriwtio wedi’u mynychu (wedi’u cynnwys yn y 230 uchod).
- 16 o arddangosiadau o’r platfform i sefydliadau a chyflogwyr.
- 12,177 o broffiliau addysgwyr, 68 o broffiliau darparwyr, 704 o broffiliau cyflogwyr, ac 845 o broffiliau defnyddwyr cyflogwyr.
Amcan 3: Ceisio llywio, ffurfio, a dylanwadu ar bolisi addysgol yng Nghymru er budd y gweithlu addysg
Cefnogi polisi addysgol
Rydym wedi ymrwymo i gyfrannu at ddatblygu polisi er budd ein cofrestreion, a dylanwadu arno.
Mae’r Cadeirydd, y Prif Weithredwr, a’r uwch swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â phobl allweddol ym myd addysg yng Nghymru, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, uwch swyddogion Llywodraeth Cymru, ac arweinwyr addysg pob un o’r pleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Senedd. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda sefydliadau fel undebau llafur ac ystod eang o gyrff proffesiynol a chyflogwyr y mae addysg yn rhan o’u cylch gwaith.
Rydym wedi cyfranogi mewn a chyfrannu at fwy na 40 o grwpiau cenedlaethol â phroffil uchel sydd â chylchoedd gwaith yn ymestyn ar draws ysgolion, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, a gwaith ieuenctid. Canolbwyntiodd y grwpiau hyn ar faterion allweddol y gweithlu fel diogelu ym maes addysg, datblygu’r gweithlu a datblygu sgiliau Cymraeg ymhlith ymarferwyr addysgol.
Ym mis Ionawr 2025, fe wnaethom gymryd rhan mewn dwy drafodaeth bord gron, gan gyfrannu ein safbwyntiau a’n harbenigedd ar faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar ein cofrestreion. Mynychwyd y cyntaf, a gynhaliwyd gan Gymorth Addysg, gan gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru ac ystod o unedau llafur hefyd, a chanolbwyntiodd ar bwnc ‘Gweithlu ysgol sy’n ffynnu yng Nghymru: cydweithio i wella lles a boddhad swydd ein hathrawon a’n staff ysgol’. Canolbwyntiodd yr ail, a gynullwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru, ar ddiogelu dysgwyr, a gwnaethom rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd.
Astudiaeth achos: Bod yn llais rhanddeiliaid allweddol ar gyfer y gweithlu addysg.
Un o swyddogaethau statudol CGA yw rhoi cyngor ar faterion sy’n ymwneud â’r rhai rydym yn eu rheoleiddio. Rydym yn ymateb yn rheolaidd i ymgynghoriadau a galwadau am dystiolaeth i eirioli ar ran y gweithlu addysg, gan ddefnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i ddylanwadu ar y system addysg yng Nghymru mewn ffordd gadarnhaol. Yn nodedig eleni, mae hyn wedi cynnwys:
- rhoi tystiolaeth fanwl i Bwyllgor Addysg Plant a Phobl Ifanc y Senedd i gynorthwyo ei ymchwiliad i Fil y Gymraeg ac Addysg
- sesiwn tystiolaeth lafar ar adolygiad EYST o argymhellion o adroddiadau a gyhoeddwyd ynglŷn â hiliaeth mewn ysgolion yng Nghymru, gan edrych yn benodol ar fonitro a chofnodi digwyddiadau hiliol, rhannu arfer gorau, ac iechyd meddwl a chymorth sy’n briodol yn ddiwylliannol
- ffurfio Cynllun Datblygu’r Gweithlu Ieuenctid, gan ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus, a thrwy’r Grŵp Cyfranogi ar Weithredu Datblygu’r Gweithlu, yr oedd ein Prif Weithredwr yn aelod ohono
Cyngor polisi wedi'i seilio ar dystiolaeth
Data a dadansoddi
Mae ein Cofrestr yn cynnig cyfoeth o wybodaeth werthfawr i lywio a dylanwadu ar bolisi a chynllunio’r gweithlu yng Nghymru. Dyfynnir ohoni a chyfeirir ati’n aml yn y Senedd, gan undebau llafur, ac yn y cyfryngau.
Ym mis Gorffennaf 2024, cyhoeddasom ein Hystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru, sy’n manylu ar gyfansoddiad y gweithlu cofrestredig ar draws ysgolion, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, a lleoliadau gwaith ieuenctid. Ar ôl cyhoeddi’r ddogfen honno, cynhaliwyd digwyddiad briffio rhanddeiliaid ym mis Hydref 2024, lle y cyflwynwyd trosolwg o’r data ac amlygwyd tueddiadau allweddol yn y gweithlu. Am y tro cyntaf yn 2024, roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth am athrawon a staff cymorth dysgu sy’n gweithio mewn ysgolion a cholegau annibynnol.
Ym mis Awst 2024, cyhoeddwyd canlyniadau myfyrwyr Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ar gyfer 2023/24, gan gadarnhau’r niferoedd y dyfarnwyd Statws Athro Cymwysedig (SAC) iddynt.
Mae ein Cofrestr hefyd yn rhoi gwybodaeth unigryw a gwerthfawr am yr heriau recriwtio a chadw sy’n wynebu lleoliadau addysg yng Nghymru. Gallwn ddefnyddio hyn i roi cyngor ac arweiniad i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill. Eleni, rydym wedi darparu neu ddechrau gwaith ar nifer o becynnau data arwyddocaol i gefnogi Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, ymgymryd â gwaith (y disgwylir iddo ddod i ben yn 2025/26) yn olrhain cynnydd ac effaith cynlluniau Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chyrff neu sefydliadau proffesiynol eraill, gan gynnwys CACAC.
Astudiaeth achos: Sesiwn briffio polisi – gweithwyr cymorth dysgu
Ym mis Tachwedd 2024, fe gynhaliom sesiwn briffio polisi, gan ddefnyddio’r data diweddaraf o’n Cofrestr i archwilio materion allweddol sy’n effeithio ar weithwyr cymorth dysgu yng Nghymru. Ymdriniodd y digwyddiad â phynciau allweddol, fel recriwtio a chadw, lleoli, y gallu i siarad Cymraeg, amrywiaeth y gweithlu, a dysgu proffesiynol, a rhai o’r heriau sy’n wynebu’r gweithlu.
Rhannodd panel o arbenigwyr, gan gynnwys ymarferwyr cymorth dysgu sy’n arbenigo yn y sector uwchradd ac anghenion addysgol arbennig, eu myfyrdodau gonest ynglŷn â’u rolau yn eu lleoliadau, a ledled Cymru yn fwy cyffredinol. Arweiniodd hyn at sesiwn holi ac ateb ddiddorol, gyda chwestiynau craff a thrafodaeth ysbrydoledig.
Materion deddfwriaethol
Er bod y ddeddfwriaeth sy’n sail i’n swyddogaethau rheoleiddiol wedi cael ei chryfhau eleni trwy ychwanegu dau gategori newydd o ymarferwyr at y Gofrestr a chyflwyno cymwysterau gofynnol ar gyfer athrawon Addysg Bellach yng Nghymru, credwn fod anghysondebau deddfwriaethol ychwanegol y mae angen mynd i’r afael â nhw. Mae’r rhain yn cynnwys gwarchod safonau proffesiynol, cymwysterau gofynnol ar gyfer pob grŵp o gofrestreion, ac achredu proffesiynol ar gyfer cymwysterau gofynnol o’r fath. Eleni, rydym wedi parhau i dynnu sylw’r llywodraeth ac eraill at yr anghysondebau hyn, gyda’r nod o’n cynorthwyo ymhellach i gynnal safonau’n gadarn ymhlith ymarferwyr addysg, a diogelu dysgwyr, pobl ifanc, a’r cyhoedd, fel y cawsom ein sefydlu i’w wneud.
Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (CACAC)
A ninnau’n darparu ysgrifenyddiaeth annibynnol i CACAC, rydym yn cyflawni rôl allweddol wrth hwyluso gwaith y bwrdd adolygu. Mae hyn wedi cynnwys cynorthwyo CACAC i gynhyrchu adroddiadau ar amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar y gweithlu addysgu, gan gynnwys adolygiad strategol o strwythur cyflog ac amodau athrawon ysgol ac arweinwyr, ac adroddiad yn ymwneud ag athrawon cyflenwi. Eleni, fe gynorthwyom CACAC i gyflwyno ei bumed adroddiad adolygu cyflogau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ym mis Mehefin 2024. Cyhoeddwyd yr adroddiad, gan gynnwys argymhellion ynglŷn â diwygiadau i gyflog ac amodau athrawon yng Nghymru, gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2024.
Amcan 4: Bod yn sefydliad cydnerth, galluog ac ariannol gynaliadwy sy’n cynnig gwerth am arian i gofrestreion
Cyllid
Cyflwynwyd ein Hadroddiad Blynyddol a’n Cyfrifon ar gyfer 2023/24 gerbron y Senedd ym mis Awst 2024, a chawsom farn archwilio ddiamod ar eu cyfer unwaith eto.
Yn 2024/25, bu pum maes yn destun adolygiad archwilio mewnol:
- llywodraethu – rheoli perfformiad gweithredol
- rheolaeth ariannol allweddol
- cofrestriadau
- Diogelwch TGCh – seiberddiogelwch
- Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y Deyrnas Unedig
Cafodd y pum adolygiad y farn archwilio uchaf, sef sicrwydd sylweddol, ac ni wnaed unrhyw argymhellion.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025, adroddom ddiffyg o £1,481,000 (diffyg o £1,113,000 ar 31 Mawrth 2024) a chyfanswm asedau net o £4,329,000 (£5,603,000 ar 31 Mawrth 2024).
Mae cronfeydd wrth gefn yn cyflawni rôl allweddol yn ein dull rheoli ariannol cyffredinol ac maen nhw’n rhan annatod o gyflawni Cynllun Strategol CGA yn llwyddiannus. Maen nhw’n galluogi’r sefydliad i reoli risg yn effeithiol, sicrhau parhad busnes, a pharhau i allu cyflawni ein dyletswyddau statudol pan fyddwn yn wynebu materion annisgwyl na ellid eu rhagweld, boed hynny o natur ariannol neu wasanaeth. Mae Polisi Cronfeydd Wrth Gefn ar waith, sy’n amlinellu lleiafswm lefel y gronfa wrth gefn gyffredinol i ddiogelu ein gwaith. Caiff hyn ei adolygu a’i gymeradwyo gan y Cyngor bob blwyddyn yn rhan o broses pennu’r gyllideb.
Gwasanaethau cost-effeithiol
Gan fod ein swyddogaethau craidd, sef cofrestru a rheoleiddio, yn cael eu hariannu gan ffioedd cofrestru, mae’n hanfodol nad ydym yn gwario mwy na’n hincwm a’n bod yn defnyddio ein hadnoddau’n effeithlon. Rydym yn cynnal ymarferion meincnodi helaeth, gan ymchwilio i reoleiddwyr ar draws y byd i fonitro lefel ein ffioedd a sicrhau bod unrhyw gynigion ar gyfer modelau yn y dyfodol yn deg ac yn gyson â sefydliadau eraill sydd â chylch gwaith rheoleiddiol.
Rydym wedi parhau i wneud gwelliannau i’n seilwaith TG a’n cyfleusterau i sicrhau ein bod yn cynnig gwerth am arian i’n cofrestreion am eu ffioedd blynyddol. Drwy gydol 2024/25, mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i uwchraddio ein cronfa ddata cofrestru a fydd yn gwella effeithlonrwydd perfformiad ymhellach, ein galluogi i gofnodi data manylach, a gwella taith y defnyddiwr ar gyfer ein cofrestreion. Bydd y gronfa ddata wedi’i huwchraddio yn cael ei lansio yn 2025/26.
Ein pobl
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac mae ein hagweddau at recriwtio, datblygu, a dyrchafu staff wedi hen ennill eu plwyf. Mae ein prosesau recriwtio’n cael eu monitro a’u profi’n barhaus i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a chyfrifoldebau cydraddoldeb. Yn 2024/25, fe wnaethom 13 o benodiadau, yr oedd dau ohonynt yn fewnol.
Datblygiad staff
Ein staff yw ein hased mwyaf gwerthfawr, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi eu twf parhaus trwy gyfleoedd hyfforddi a datblygu cynhwysfawr, sy’n cyd-fynd â’n hamcanion sefydliadol. Yn ystod 2024/25, roedd ein hyfforddiant ar gyfer yr holl staff yn cynnwys darpariaeth ar ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a LHDTC+, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth. Yn ogystal â hyfforddiant ar gyfer y sefydliad cyfan, mae aelodau staff unigol yn gallu gofyn am hyfforddiant penodol iddyn nhw eu hunain, yn rhan o’r broses adolygu perfformiad a datblygiad. Mae’r ceisiadau hyn yn cael eu hystyried yn ofalus a'u cefnogi, lle bo’n briodol, i fodloni anghenion unigol a sefydliadol.
Lles staff
Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd ffisegol a diwylliant gwaith sy’n hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol cadarnhaol, a lles. Rydym yn sicrhau bod gan staff fynediad am ddim at linell gymorth gyfrinachol sy’n rhoi cymorth i weithwyr a chyfres o weminarau gan Care First sy’n ymdrin ag ystod o bynciau iechyd a lles. Ym mis Medi 2024, cawsom fynediad at hyb lles penodol ar gyfer staff, sy’n darparu ystod o adnoddau sy’n hyrwyddo iechyd, ffitrwydd a lles, gan gynnwys ap a gymeradwywyd gan y GIG i atal cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, eu canfod yn gynnar, a’u hunanreoli.
Yn ogystal, mae gennym raglen lles staff barhaus sy’n annog cydweithwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a ddyluniwyd i hyrwyddo eu hiechyd corfforol a meddyliol. Mae pedwar swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl o fewn y sefydliad hefyd sydd wedi’u hyfforddi i gynorthwyo eu cydweithwyr.
Astudiaeth Achos: Creu gweithle cefnogol a chynhwysol
Yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i greu gweithle cefnogol a chynhwysol (ac yn dilyn adborth gwerthfawr gan staff mewn fforymau cyflogeion a sesiynau cynllunio), ym mis Mawrth 2025 agorwyd ystafell dawel, amlbwrpas newydd ar gyfer staff, sy’n darparu lle digyffro a phreifat ar gyfer gweithgareddau fel gweddïo aml-ffydd, myfyrio, ac ymlacio, i gefnogi lles ein cyflogeion. Rydym hefyd wedi neilltuo lle hamddenol, nad yw’n gorfforaethol lle gall staff gael seibiant, cael eu cefn atynt, a chymdeithasu, sy’n cynnig ardal gyfforddus i ymlacio yn ystod y diwrnod gwaith
Cefnogi aelodau
Mae gan aelodau’r Cyngor brofiad helaeth ar draws y sector addysg, ac mae eu gwybodaeth yn rhychwantu pob un o’r 13 o grwpiau cofrestreion y Cyngor yn ogystal â phresenoldeb lleyg. Gwneir penodiadau i’r Cyngor bob pedair blynedd, drwy broses penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru. Mae’r Cadeirydd yn cael ei ethol gan y Cyngor ei hun. Penodwyd y Cyngor presennol ar 1 Ebrill 2023 gyda chwe phenodiad newydd a chwe aelod yn parhau am gyfnod arall o bedair blynedd. Yn dilyn gweithgarwch recriwtio ychwanegol, penodwyd y ddau aelod a oedd yn weddill ym mis Gorffennaf 2024.
Rydym hefyd yn cynnal ac yn cefnogi cronfa o aelodau annibynnol y panel priodoldeb i ymarfer, aelodau’r Bwrdd Achredu AGA, ac aseswyr y Marc Ansawdd. Drwy gydol y flwyddyn, rydym wedi cynnal nifer o ymarferion recriwtio i sicrhau bod gennym niferoedd digonol o aelodau sydd â’r wybodaeth a’r arbenigedd priodol.
Mae’r holl aelodau’n ymgymryd â hyfforddiant sefydlu cyn dechrau eu rolau ac rydym yn cynnal sesiynau hyfforddi ffurfiol yn rheolaidd gyda chyfraniad gan amrywiaeth o siaradwyr fel cyrff rheoleiddiol eraill, cynghorwyr cyfreithiol, ac arbenigwyr o fewn meysydd addysgol arbenigol. Anogir aelodau i amlygu unrhyw hyfforddiant ychwanegol y gallwn ei ddarparu i’w cynorthwyo i gyflawni eu rolau.
Diogelwch TG
Mae gennym fecanweithiau cadarn ar waith i sicrhau diogelwch ein rhwydwaith TG a’r data a gedwir ynddo. Cyflawnom ardystiad Cyber Essentials ym mis Mai 2024, ac rydym yn cynnal gwiriadau cydymffurfio â safonau diogelwch data’r diwydiant cardiau talu bob chwarter. Rydym yn darparu hyfforddiant gorfodol ar-lein ar seiberddiogelwch i’r holl staff, ac yn cynnal profion gwe-rwydo rheolaidd i gynnal ymwybyddiaeth staff o faterion seiber. Rydym yn gweithio tuag at gyflawni achrediad Cyber Essentials Plus yn ystod 2025/26. Ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2024, mynychodd y Rheolwr TG a’r uwch dîm rheoli ddigwyddiad Ymgysylltu a Hyfforddi ar gyfer Uwch Arweinwyr a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo sefydliadau i ddatblygu aeddfedrwydd eu Cynlluniau Rheoli Seiberddigwyddiad (CIMP).
Diogelu data a Rhyddid Gwybodaeth
Mae polisïau a gweithdrefnau cadarn ar waith gennym i fonitro gofynion diogelu data a sicrhau ein bod yn cydymffurfio â nhw.
Darperir hyfforddiant ar ddiogelu data i’r holl staff, aelodau’r Cyngor, aelodau’r bwrdd AGA, aelodau panel, ac Aseswyr y Marc Ansawdd. Mae’r ddarpariaeth yn cael ei theilwra i weddu i ofynion y gynulleidfa ac fe’i hadolygir yn flynyddol.
Cynhaliom adolygiad blynyddol o ansawdd a chyflawnder y data a ddaliwn ar y Gofrestr, a arweiniodd at gysylltu â dros 17,000 o gofrestreion i sicrhau bod eu cofnodion yn gyfredol.
Yn 2024/25, ymatebom i dri chais am fynediad at ddata gan y testun a 18 o geisiadau rhyddid gwybodaeth.
Y Gymraeg
Rydym wedi ymrwymo i’r iaith Gymraeg ac yn falch o weithredu fel sefydliad dwyieithog, sy’n cynnig gwasanaethau i gofrestreion yn Gymraeg a Saesneg.
Mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â 148 o Safonau’r Gymraeg, sy’n ymdrin â darparu gwasanaeth, materion gweithredol, llunio polisïau, a chadw cofnodion. Mae pob aelod o staff yn gyfrifol am sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r safonau hyn.
Eleni, rydym wedi cefnogi bwriad Comisiynydd y Gymraeg am ymagwedd fwy rhagweithiol tuag at reoleiddio ar y cyd trwy ymateb i’w alwadau am dystiolaeth ynglŷn â chanlyniadau rheoleiddiol newydd, llinellau ymholi allweddol, a pholisi gorfodi diwygiedig.
Cyhoeddom ein Hadroddiad Monitro Blynyddol ar Safonau’r Gymraeg ym mis Awst 2024, a amlinellodd ein hymrwymiad i’r safonau a’n cydymffurfedd â nhw.
Cydraddoldeb
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant a chydraddoldeb o fewn y sector a sicrhau ein bod ni, fel cyflogwyr, yn hyrwyddo tegwch ac amrywiaeth, ac yn gweithio’n effeithiol tuag at greu Cymru decach. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn amlinellu sut byddwn yn gweithio tuag at y nod o gyflawni cyfle cyfartal, o fewn ein sefydliad, ac ar draws y gweithlu addysg ehangach yng Nghymru. Ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi diweddariad i Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ym mis Tachwedd 2024, fe wnaethom adolygu a diwygio ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn unol â hynny i sicrhau ei fod yn cyd-fynd ag ef.
Cyhoeddwyd ein Hadroddiad Cydraddoldeb Blynyddol diwethaf, a adolygodd ein cynnydd yn erbyn yr amcanion a amlinellwyd yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, ym mis Awst 2024.
Astudiaeth Achos: Ein hymrwymiad i wella hygyrchedd yn barhaus
Rydym wedi ymrwymo i wneud ein holl wasanaethau, ymgysylltu, a chyfathrebu mor hygyrch â phosibl, a gwerthuso ein hunain yn barhaus i amlygu meysydd i’w gwella. Eleni, rydym wedi:
- cyhoeddi dau o’n fideos animeiddiedig corfforaethol allweddol gydag Iaith Arwyddion Prydain
- hwyluso 13 o geisiadau am addasiadau rhesymol mewn digwyddiadau a sesiynau hyfforddi
- cofnodi 20,547 achos o ddefnyddio’r offeryn hygyrchedd ReachDeck ar ein gwefan
- cynnal adolygiad cynhwysfawr o’n proses Asesiad Effaith Integredig
- gweithio i wella hygyrchedd ein gwefan ymhellach, gan ddilyn cyngor a gafwyd o archwiliad safonol AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.2
- mynychu digwyddiad hyfforddi a gynhaliwyd gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol a diweddaru ein gwefan o ganlyniad i wella ei hygyrchedd ymhellach
Materion amgylcheddol a chymunedol
Rydym wedi ymrwymo i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd i’r eithaf, yn unol â’r dyletswyddau a amlinellir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Rydym wedi cyhoeddi datganiad ar y Ddyletswydd Adran 6 ar Fioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau ar ein gwefan, a adolygwyd gennym eleni.
Ymgynghori â gweithwyr a rhanddeiliaid
Cyflogeion
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu â’r holl gyflogeion, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ddatblygiadau mewnol ac allanol.
Yn ogystal â’n trefniadau ffurfiol ar gyfer adolygu staff yn flynyddol, mae gennym amrywiaeth o ddulliau mwy anffurfiol o gydweithio, gan gynnwys calendr o gyfarfodydd a diweddariadau, llyfrgell staff, a mewnrwyd. Rydym hefyd yn cynnal diwrnod cynllunio blynyddol ar gyfer staff bob mis Rhagfyr, lle mae staff yn trafod a chyfrannu at ddatblygu ein cyfres o gynlluniau sefydliadol. Yn seiliedig ar adborth gan staff, cyflwynwyd diwrnod ymgysylltu â staff ychwanegol eleni ym mis Mehefin 2024. Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal bob blwyddyn o hyn ymlaen, ochr yn ochr â’r sesiwn gynllunio flynyddol.
Mae’r fforwm cyflogeion hefyd yn rhoi cyfle i staff drafod a dylanwadu ar waith CGA mewn meysydd fel iechyd a diogelwch, lles, yr amgylchedd swyddfa, a’r Gymraeg.
Rhanddeiliaid
Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â’n rhanddeiliaid a’n partneriaid yn y sector addysg, gan ddefnyddio amrywiaeth o sianeli i ymgysylltu ac ymgynghori ar ystod o weithgareddau.
Rydym wedi arwain dau ymgynghoriad ffurfiol eleni yn gysylltiedig â’n Cynllun Strategol 2025-28 a’n Cod Ymddygiad ac Ymarferol Proffesiynol.
Rydym hefyd wedi ymgysylltu’n eang â chofrestreion a rhanddeiliaid, ar draws pob sector, yn rhan o’r prosiectau niferus rydym wedi’u harwain drwy gydol y flwyddyn.
Hayden Llewellyn
Prif Weithredwr
10 Gorffennaf 2025
Adroddiad atebolrwydd
Adroddiad llywodraethu corfforaethol
Adroddiad y Cyfarwyddwyr
Y Cyngor
Mae gan y Cyngor 14 o aelodau, yn cynnwys saith aelod a benodir gan Weinidogion Cymru o enwebeion sefydliadau fel yr amlinellir yn Atodlen 2 Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014, a saith aelod a benodir yn uniongyrchol gan Weinidogion Cymru. Ymdrinnir â strwythur pwyllgorau a llywodraethu’r Cyngor yn fanylach yn yr adroddiad ar berfformiad.
Yr aelodau yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2024 tan 31 Mawrth 2025 oedd:
- Eithne Hughes, Cadeirydd
- Bethan Thomas
- David Edwards (ers 2 Medi 2024)
- David Williams
- Geraint Williams
- Gwawr Taylor
- Jane Jenkins
- Karl Jones (ers 2 Medi 2024)
- Kathryn Robson
- Kelly Edwards
- Nicola Stubbins
- Rosemary Jones
- Sue Walker
- Theresa Evans-Rickards
Yn ogystal, mae’r Pwyllgor Archwilio a Chraffu yn cynnwys un aelod lleyg (Alison Jarvis).
Uwch swyddogion
Yr uwch swyddogion ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2024 tan 31 Mawrth 2025 oedd:
- Prif Weithredwr - Hayden Llewellyn
- Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol - Lisa Winstone
- Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi - Bethan Holliday-Stacey
- Cyfarwyddwr Rheoleiddio - David Browne
Mae’r Cyngor yn cynnal Cofrestr o Fuddiannau Aelodau, sydd ar gael ar y wefan, sy’n rhoi manylion unrhyw fuddiannau sy’n berthnasol i’w gwaith fel aelod o’r Cyngor, neu a allai fod yn berthnasol i hynny. Mae’n ofynnol i uwch swyddogion beidio â dal unrhyw swydd y cânt gydnabyddiaeth ariannol am ei chyflawni a fyddai’n gwrthdaro â’u dyletswyddau ar gyfer CGA, ac adroddir am unrhyw swyddi di-dâl eraill hefyd. Datgelir manylion trafodion â phartïon cysylltiedig, gan gynnwys aelodau’r Cyngor ac uwch swyddogion, yn nodyn 20 i’r Cyfrifon.
Datganiad o gyfrifoldebau’r Cyngor a’r Prif Weithredwr
O dan Baragraff 21 Atodlen 1 Deddf Addysg (Cymru) 2014, mae’n ofynnol i CGA baratoi datganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol, ar y ffurf a’r sail a nodir yn y Cyfarwyddyd Cyfrifon. Caiff y cyfrifon eu paratoi ar sail croniadau ac mae’n rhaid iddynt roi darlun cywir a theg o sefyllfa CGA ar ddiwedd y flwyddyn a’i incwm a’i wariant, a’i lifoedd arian parod ar gyfer y flwyddyn ariannol.
Wrth baratoi’r cyfrifon, mae’n ofynnol i CGA gydymffurfio â gofynion Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth, ac yn benodol i:
- ddilyn y Cyfarwyddyd Cyfrifon a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a defnyddio polisïau cyfrifyddu addas yn gyson
- gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol
- datgan a yw’r safonau cyfrifyddu perthnasol fel y’u nodir yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth wedi’u dilyn, a datgelu ac esbonio unrhyw wyriad o bwys yn y datganiadau ariannol
- paratoi’r datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol
Mae cyfrifoldebau’r Prif Weithredwr wedi’u hamlinellu yn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru, a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, ac maen nhw’n cynnwys cyfrifoldeb am y canlynol:
- priodoldeb a rheoleidd-dra’r cyllid cyhoeddus (y mae’r Prif Weithredwr yn atebol amdano)
- cadw cofnodion priodol
- diogelu asedau CGA
Fel Prif Weithredwr, cadarnhaf:
- hyd y gwn i, nad oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol nad yw archwilwyr CGA yn ymwybodol ohoni
- yr wyf wedi cymryd yr holl gamau gofynnol i ddod i wybod am unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol a chadarnhau bod archwilwyr CGA yn ymwybodol o’r wybodaeth honno
- bod yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon hyn yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, ac fy mod yn cymryd cyfrifoldeb personol am yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon hyn a’r dyfarniadau gofynnol ar gyfer pennu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy
Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Mae CGA wedi ymrwymo i gyflawni safonau uchel o lywodraethu wrth gyflawni ei amcanion corfforaethol, gan gynnwys rheoli ei adnoddau yn briodol. Mae’r datganiad hwn yn disgrifio’r trefniadau llywodraethu ar gyfer CGA yn 2024/25 a fframwaith risg a rheoli CGA, gan gloi gydag asesiad o’u heffeithiolrwydd yn ystod y flwyddyn.
Ac yntau’n rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol a chorff cyhoeddus, nid yw CGA wedi’i gyfrwymo’n ddeddfwriaethol gan God Llywodraethu Corfforaethol y llywodraeth ganolog, er ei fod yn dewis dilyn llawer o’i egwyddorion i gyfoethogi ei arferion. Yn rhan o’u telerau penodi a’r gyfres ddilynol o weithdrefnau llywodraethu, mae’n ofynnol i aelodau’r Cyngor fabwysiadu egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus trwy God Ymddygiad ac Ymarfer Gorau ar gyfer Aelodau CGA. Dylanwadir ar y Cod hwn gan y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Bwrdd Corff Cyhoeddus (a gyhoeddwyd gan swyddfa’r Cabinet yn 2011 ac a adolygwyd yn 2019), y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus (Pwyllgor Nolan) a’r egwyddorion ychwanegol a amlinellir yng Ngorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001.
Rôl Cyngor y Gweithlu Addysg
Prif nodau a swyddogaethau CGA yw:
- cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru
- cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon ac eraill sy’n cefnogi dysgu ac addysgu yng Nghymru
- diogelu buddiannau dysgwyr, rhieni/gwarcheidwaid, a’r cyhoedd, a chynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg
Fframwaith llywodraethu
Mae’r fframwaith llywodraethu yn cynnwys y systemau a’r prosesau a ddefnyddir i gyflawni ei weithgareddau, ac mae’n seiliedig ar genhadaeth, gweledigaeth a gwerthoedd CGA. Mae’n galluogi CGA i fonitro a rheoli ei weithrediadau.
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn gorff corfforaethol, a sefydlwyd gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 a Rheoliadau amrywiol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015. Mae’n ofynnol i aelodau’r Cyngor (cyfeiriwch at adroddiad y cyfarwyddwyr am wybodaeth ychwanegol) gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Gorau ar gyfer Aelodau.
Mae’r aelodau yn aelodau o un o dri o bwyllgorau sefydlog y Cyngor: y Pwyllgor Gweithredol, y Pwyllgor Cofrestru a Rheoleiddio, a’r Pwyllgor Archwilio a Chraffu. Mae’r Cyngor yn cyfarfod teirgwaith y flwyddyn (er y cynhaliwyd chwe chyfarfod yn 2024/25 i ystyried eitemau ychwanegol), ac fel arfer bydd pob pwyllgor hefyd yn cyfarfod teirgwaith y flwyddyn, ac adroddir busnes y pwyllgor i gyfarfod nesaf y Cyngor. Yn ogystal, mae’r Cyngor wedi sefydlu Pwyllgor Adolygu Perfformiad, yn cynnwys y Cadeirydd a dau aelod arall, sy’n cytuno ar yr asesiad o berfformiad y Prif Weithredwr, yn cadarnhau dyfarnu unrhyw gynyddran, ac yn gosod yr amcanion ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Caiff y fframwaith llywodraethu ei ffurfioli drwy Reolau Sefydlog CGA, sy’n nodi sut mae’r Cyngor a’r Pwyllgorau yn gweithredu. I gefnogi hynny, ceir cyfres o bolisïau a gweithdrefnau sy’n nodi sut mae CGA yn gweithredu a’r broses ar gyfer cyflawni amcanion corfforaethol. Y rhain sy’n ffurfio system reoli fewnol CGA.
Y Cadeirydd sy’n gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth strategol effeithiol ar faterion fel ffurfio strategaeth CGA ar gyfer cyflawni ei ddyletswyddau statudol, annog safonau uchel o briodoldeb, a hybu defnydd effeithlon ac effeithiol o staff ac adnoddau eraill ym mhob rhan o CGA, a sicrhau bod CGA, wrth wneud penderfyniadau, yn rhoi ystyriaeth briodol i’w gyfrifoldebau statudol.
Mae rolau’r aelodau yn strategol ac maent yn cynnwys canolbwyntio ar strategaeth gorfforaethol, amcanion a thargedau strategol allweddol, cymeradwyo dogfennau polisi o bwys, a phenderfyniadau o bwys sy’n ymwneud â defnyddio adnoddau ariannol ac adnoddau eraill. O dan y Rheolau Sefydlog, caiff y Cyngor ddirprwyo cyfrifoldebau am faterion penodol i bwyllgorau’r Cyngor, y Cadeirydd, neu’r Prif Weithredwr. Mae gan aelodau’r Cyngor a swyddogion gyfrifoldebau sy’n ategu ei gilydd o ran ffurfio a gweithredu polisïau’r Cyngor.
Mae’r cyfrifoldeb am reolaeth o ddydd i ddydd wedi’i ddirprwyo i’r Prif Weithredwr ac uwch aelodau staff, o fewn fframwaith rheoli strategol clir gan aelodau’r Cyngor. Y Prif Weithredwr sydd â’r cyfrifoldeb, o dan y Cyngor, am brosesau trefnu, rheoli, a staffio cyffredinol CGA, gan gynnwys:
- sicrhau bod CGA yn cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol
- monitro cydymffurfedd â rheoliadau a pholisïau mewnol CGA
- ymddygiad a disgyblaeth staff.
Y Prif Weithredwr sy’n gyfrifol am lywodraethu corfforaethol priodol CGA, rheoli ei swyddogion gweithredol yn effeithiol, rheoli ariannol, a chyfathrebu â rhanddeiliaid. Mae’r Prif Weithredwr wedi sefydlu trefniadau dirprwyo os bydd yn absennol a bydd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yn ymgymryd â’r rôl.
Cefnogir y Prif Weithredwr gan ei Uwch Dîm Rheoli, sy’n cynnwys tri chyfarwyddwr fel uwch swyddogion, a restrir yn adroddiad y cyfarwyddwyr. Mae’r Uwch Dîm Rheoli yn cyfarfod yn fisol. Ei gylch gwaith yw cynghori’r Prif Weithredwr ar gynnydd yn unol â’i brif weithgareddau, cadarnhau dyraniad adnoddau, monitro a rheoli cyfrifon rheoli yn seiliedig ar gyllidebau y cytunwyd arnynt, adolygu a diwygio’r gofrestr risg, ac adolygu a chymeradwyo polisïau newydd a diwygiedig sy’n effeithio ar bob agwedd ar weithrediadau CGA.
Yn 2024/25, ymrwymodd CGA i bedwar amcan corfforaethol, sef:
- bod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol effeithiol sy’n gweithio er budd y cyhoedd a meithrin hyder yn y gweithlu addysg
- cefnogi proffesiynoldeb a dysgu, a hyrwyddo gyrfaoedd o fewn y gweithlu addysg
- ceisio llywio, ffurfio a dylanwadu ar bolisi addysgol yng Nghymru er budd y gweithlu addysg
- bod yn sefydliad cydnerth, galluog, ac ariannol gynaliadwy sy’n cynnig gwerth am arian i gofrestreion
Dehonglir amcanion yn weithgareddau trwy’r cynllun strategol tair blynedd a’r cynllun gweithredol blynyddol. Goruchwylir perfformiad gweithredol ac ariannol gan y Pwyllgor Gweithredol trwy adolygiadau chwarterol, sy’n adrodd ar gyflawniadau yn unol ag amcanion ar gyfer y cyfnod adrodd. Cyflawnir atebolrwydd ariannol trwy’r prosesau pennu cyllideb flynyddol, yn seiliedig ar gynlluniau sydd wedi’u cymeradwyo, a chynhyrchir cyfrifon rheoli misol, y mae’r Uwch Dîm Rheoli yn craffu arnynt. Seilir fformat y cyfrifon blynyddol ar Lawlyfr Adroddiadau Ariannol y Trysorlys. Mae hyn yn sicrhau eglurder ynghylch datgelu perfformiad ariannol. Yna, caiff y Cyfrifon hyn, a’r systemau ariannol ategol, eu harchwilio’n allanol, i gadarnhau eu bod yn gywir a’u bod yn cydymffurfio â gofynion datgelu, a rheoleidd-dra trafodion ariannol.
Fframwaith risg a rheoli
Mae’r fframwaith risg a rheoli yn seiliedig ar y polisi rheoli risg sy’n ffurfio haen allweddol o drefniadau rheoli mewnol a llywodraethu corfforaethol CGA. Mae’r polisi’n ategu’r prif egwyddorion a amlinellir yn Llyfr Oren Trysorlys EM, er nad yw hyn wedi cael ei fabwysiadu’n ffurfiol fel ymagwedd ar gyfer CGA. Mae’r polisi’n cydnabod nad yw’n bosibl dileu pob risg, ond, drwy’r gofrestr risg, mae’n cofnodi’r prosesau a ddefnyddir i leihau risg i lefel dderbyniol. Mae hefyd yn nodi bod yr holl staff yn chwarae rhan mewn nodi risgiau posibl newydd, er mai’r Uwch Dîm Rheoli sy’n gyfrifol am reoli’r risgiau. Mae’r polisi’n cael ei adolygu ddwywaith y flwyddyn, ac fe’i hadolygir nesaf ym mis Gorffennaf 2025.
Mae’r gofrestr risg yn rhoi manylion yr holl fygythiadau allweddol i gyflawni’r amcanion corfforaethol, y cytunwyd arnynt yn y cynllun strategol a’r cynllun gweithredol. Rhoddir sgôr i bob risg allweddol yn seiliedig ar ei heffaith bosibl ar fusnes CGA a’r tebygolrwydd y bydd yn digwydd. Mae’r strategaeth reoli yn cynnwys derbyn, osgoi, lleihau, neu drosglwyddo risgiau mewn ymateb i hynny. Mae camau penodol sy’n ofynnol yn cael eu hamlygu, eu dyrannu i uwch reolwr, a’u gweithredu yn unol â therfynau amser penodol. Mae’r gofrestr risg yn cynnwys gwerthusiad o lefel y ‘risg weddilliol’ ar ôl gweithredu’r dull rheoli. Caiff risgiau agoriadol a gweddilliol eu cynrychioli drwy ddefnyddio system rybuddio goleuadau traffig, ac mae iddynt liw sy’n unol â hynny (coch/melyn/gwyrdd). Ystyriwyd yr holl risgiau yn ystod adolygiad chwarterol yr Uwch Dîm Rheoli.
Ar ddiwedd y flwyddyn, roedd y Gofrestr Risg yn cynnwys y prif risgiau canlynol:
Prif risg | Mesurau lliniaru allweddol | |
---|---|---|
Risg gynhenid Risg weddilliol |
Methiant i fod â chronfa ddata cofrestru ar waith sy’n addas i’r diben, gan arwain at anallu i gyflawni ein cyfrifoldebau statudol. |
Contract ar waith i ddarparu’r gronfa ddata wedi’i huwchraddio. Cynllun prosiect wedi’i ddatblygu i fonitro a rheoli’r broses o gyflawni’r prosiect. Symud y system bresennol i’r amgylchedd a gynhelir gan weinydd a ddefnyddir i weithredu’r system wedi’i huwchraddio cyn diwedd y cyfnod cymorth ar gyfer Windows yn y system bresennol. |
Risg gynhenid Risg weddilliol |
Methiant i gytuno ar ffioedd cofrestru diwygiedig gyda Llywodraeth Cymru o 26/27 ymlaen, gan arwain at gyhoeddusrwydd negyddol i CGA a goblygiadau ariannol tymor hir. |
Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar lefelau ffioedd cofrestru diwygiedig o 26/27 ymlaen |
Risg gynhenid Risg weddilliol |
Os nad ydym yn cofrestru a rheoleiddio grwpiau cofrestreion yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, byddai niwed yn cael ei achosi i’n henw da ac fe allai arwain at gymryd camau cyfreithiol. |
Monitro nifer y ceisiadau a’r achosion Priodoldeb i Ymarfer. Trefniadau ar waith i gefnogi gwiriadau cymhwysedd gan gyflogwyr. Sefydlu gweithdrefnau diffyg cydymffurfio gyda chyflogwyr. Gweithdrefnau ar waith ar gyfer aelodau a swyddogion |
Risg gynhenid Risg weddilliol |
Os yw gweithgareddau gweithredol yn golygu bod gwariant CGA yn fwy na’r incwm o ffioedd cofrestru, mae’n bosibl na fydd digon o arian i gyflawni ein hamcanion. |
Pennu cyllidebau gochelgar. Monitro a chraffu’n fanwl ar niferoedd cofrestru a gwariant. Rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw bryderon. |
Risg gynhenid Risg weddilliol |
Os bydd Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer yn gwneud penderfyniad sy’n cael ei herio yn yr Uchel Lys a’i golli, bydd goblygiadau i’r sefydliad o ran arian ac enw da. |
Cymwyseddau ar gyfer aelodau’r panel a recriwtio yn unol â’r rhain. Gweithdrefnau ar waith ar gyfer aelodau a swyddogion. Hyfforddiant blynyddol i aelodau’r panel a hyfforddiant chwe-misol i gadeiryddion. Cymorth cyfreithiol o ansawdd uchel ar gyfer paneli a gwasanaethau swyddog cyflwyno ac Apeliadau Uchel Lys. Protocolau ar waith ar gyfer cyfathrebu a thrin y cyfryngau. |
Risg gynhenid Risg weddilliol |
Ar ôl i CGA gael ei ddosbarthu fel Corff Cyhoeddus gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) a’i gynnwys wedi hynny yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig), gallai adnoddau CGA fod yn destun rheolaethau Senedd Cymru gan olygu bod y Senedd yn ‘pleidleisio’ ar ein cyllideb ac nid yw CGA yn rheoli ei gronfeydd wrth gefn mwyach. |
Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd â swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod sut bydd y trefniant gweithio’n gweithredu. Cynnal gwybodaeth am y sector o ran y prosesau dosbarthu a dynodi. |
Caiff y gofrestr risg ei hadolygu bob chwarter gan uwch swyddogion, ac mewn cyfarfodydd o’r Pwyllgor Archwilio a Chraffu, sydd â chylch gwaith i oruchwylio polisi rheoli risg CGA. Adroddir ar gynnydd a nodir risgiau a dulliau rheoli newydd yn ystod yr adolygiad rheolaidd gan yr Uwch Dîm Rheoli. Ychwanegwyd un risg newydd at y gofrestr yn 2024/25, sydd wedi’i chynnwys yn y tabl uchod, ac mae’n ymwneud â chytuno ar ffioedd cofrestru diwygiedig o 26/27 ymlaen.
Bydd y Cyngor yn gweld ac yn ystyried y gofrestr risg unwaith y flwyddyn, pan fydd aelodau’n cadarnhau bod yr asesiad cyffredinol yn gyson â pharodrwydd cyffredinol y Cyngor i dderbyn risg. Ystyrir bod y Cyngor yn wrth-risg ar hyn o bryd, ac adolygwyd hyn ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2024.
Caiff risgiau ariannol eu rheoli gan gyfres fanwl o weithdrefnau rheoli ariannol sy’n nodi’r rheolaethau, ac yn pennu cyfrifoldebau, a lefelau dirprwyo. Mae cydymffurfio â’r gweithdrefnau hyn yn hyrwyddo safonau uchel o lywodraethu da. Cafodd y rhain eu hadolygu ddiwethaf ym mis Mawrth 2024 i sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn addas i’r diben.
Mae CGA a’r Cyngor yn benderfynol o sicrhau na chaiff twyll ei dderbyn na’i oddef. Mae nifer o gamau ar waith i sicrhau bod twyll yn cael ei atal, gan gynnwys gwahanu’r swyddogaethau a nodir yn y gweithdrefnau rheoli ariannol, cysoni a monitro ariannol rheolaidd, Cod Ymddygiad Staff sy’n disgrifio’r safonau a ddisgwylir gan swyddogion CGA, systemau rheoli llinell clir, a pholisi chwythu’r chwiban. Ni fu unrhyw achosion o chwythu’r chwiban yn ystod y flwyddyn.
Mae’r system reoli fewnol wedi’i chynllunio i reoli risg i lefel resymol (yn hytrach na dileu pob risg o fethu) er mwyn cyflawni polisïau, nodau, ac amcanion. Felly, dim ond sicrwydd rhesymol o effeithiolrwydd y gall ei ddarparu, nid sicrwydd llwyr. Mae’r system reoli fewnol yn seiliedig ar broses barhaus sydd wedi ei chynllunio i:
- nodi a blaenoriaethu’r risgiau i gyflawni polisïau, nodau, ac amcanion CGA
- gwerthuso’r tebygolrwydd o wireddu’r risgiau hynny a’r effaith pe byddent yn cael eu gwireddu
- eu rheoli’n effeithlon, yn effeithiol, ac yn ddarbodus.
Mae’r system reoli fewnol wedi bod ar waith yn CGA yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025 a hyd at ddyddiad cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon, ac mae’n cydymffurfio â chanllawiau’r Trysorlys.
Mae cynllun parhad busnes ac adfer yn sgil trychineb CGA yn ymdrin â’r risgiau allweddol i’r sefydliad pe byddai bygythiad i barhad y busnes o ran adeiladau neu systemau gwybodaeth. Mae hyn yn cynnwys cynnal prawf blynyddol ar y cynllun. Roedd senario eleni wedi’i seilio ar ymateb i erthygl yn y wasg a pha gamau tymor byr, tymor canolig, a thymor hir y dylid eu cymryd i fynd i’r afael â’r mater. Yn 2024/25, mae CGA wedi datblygu cynllun ymateb i seiberddigwyddiad, hefyd.
Mae CGA yn sefydliad sydd â llawer iawn o ddata ar y gweithlu addysg yng Nghymru. Caiff y data ei gynnwys yng nghronfeydd data CGA gyda’r mesurau diogelu priodol ar waith a, lle y bo’n berthnasol, caiff ei rannu â chofrestreion unigol, a chaiff gwybodaeth benodol ei rhannu â chyflogwyr/sefydliadau eraill. Cedwir data mewnol arall yn ddiogel ac fe’i rheolir yn unol â’r egwyddorion diogelu data. Ni fu unrhyw achosion tor-data adroddadwy i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn ystod y flwyddyn, fel y cadarnhawyd yng nghyfarfodydd misol yr Uwch Dîm Rheoli.
Rydym wedi parhau i fuddsoddi yn ein seilwaith TG i sicrhau bod ein systemau mewnol ac allanol yn aros yn gadarn. Caiff diogelwch gwybodaeth ei ategu drwy gadw data CGA bob nos ar wasanaeth cadw data wrth gefn mewn cwmwl oddi ar y safle.
Mae CGA wedi cyhoeddi dogfen safonau gwasanaeth sydd â system ac amserlen ar gyfer ymdrin â chwynion. Cafwyd dwy gŵyn yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Ymatebwyd i’r ddwy yn unol â’r graddfeydd amser a nodir yn ein dogfen safonau gwasanaeth.
Mae CGA wedi ymrwymo i ddefnyddio ei adnoddau dynol i hybu llywodraethu corfforaethol cryf. Mae wedi ymrwymo i ddatblygu pobl gymwys sydd wedi’u hyfforddi’n dda i gyflawni’r swyddogaethau amrywiol. Yn ystod y flwyddyn, parhaodd â rhaglen hyfforddi’r holl staff, gan ymdrin â phynciau penodol a chyffredinol. Mae hyn yn ychwanegol at ddarparu hyfforddiant a nodwyd ar gyfer unigolion, gan gynnwys cymorth i astudio tuag at gymwysterau proffesiynol perthnasol.
Cynhaliwyd diwrnod hyfforddiant blynyddol gydag aelodau’r Cyngor ym mis Ebrill 2024 a ymdriniodd ag amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys trosolwg gan swyddogion ar CGA a materion llywodraethu, diweddariad ar ddyletswyddau deddfwriaethol CGA a diweddariad ar waith achos Priodoldeb i Ymarfer. Yn ogystal, cynhaliwyd sesiynau gyda siaradwyr allanol yn ymdrin â gwaith ieuenctid yng Nghymru, diweddariad gan Brif Weithredwr Medr ar y corff newydd, a sesiynau briffio gan Brif Weithredwyr y Cyngor Osteopathig Cyffredinol, a’r Awdurdod Safonau Cyhoeddus.
Mae gan CGA ei raglen Adolygu Perfformiad a Datblygiad blynyddol ei hun, sy’n asesu perfformiad swyddogion yn ystod y flwyddyn flaenorol ac yn nodi amcanion penodol ac anghenion hyfforddi ar gyfer y flwyddyn ddilynol.
Mae’n rhaid i’r holl swyddogion gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ar gyfer cyflogeion CGA. Mae gan CGA amrywiaeth o bolisïau adnoddau dynol i sicrhau bod lefelau cymorth a disgwyliadau cyson ar waith. Mae polisi chwythu’r chwiban ac aelodau penodedig o’r Cyngor ar gael i’r staff pe byddai angen yn codi. Ni chodwyd unrhyw faterion yn ystod 2024/25.
Adolygiad o effeithiolrwydd y Cyngor
Nodir presenoldeb aelodau mewn cyfarfodydd a gynhaliwyd yn ystod 2024/25 yn y tabl canlynol (mae’r cyfanswm posibl mewn cromfachau):
Aelod | Presenoldeb yn y Cyngor | Presenoldeb mewn Pwyllgorau Sefydlog | ||
---|---|---|---|---|
Gweithredol | Cofrestru a Rheoleiddio | Archwilio a Chraffu | ||
Eithne Hughes | 6(6) | 3(3) | ||
Bethan Thomas | 4(6) | 2(3) | ||
David Edwards (o 2 Medi 2024) | 4(4) | 2(2) | ||
David Williams | 5(6) | 3(3) | ||
Geraint Williams | 5(6) | 1(3) | ||
Gwawr Taylor* | 6(6) | 4(4) | ||
Jane Jenkins | 6(6) | 2(3) | ||
Karl Jones (o 2 Medi 2024) | 4(4) | 2(2) | ||
Kathryn Robson | 5(6) | 3(3) | ||
Kelly Edwards | 5(6) | 3(4) | ||
Nicola Stubbins | 5(6) | 2(3) | ||
Rosemary Jones | 4(6) | 4(4) | ||
Sue Walker | 4(6) | 2(3) | ||
Theresa Evans-Rickards | 5(6) | 3(3) |
*Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Chraffu
Mae’r aelodau yn cymryd rhan mewn proses adolygu aelodau flynyddol sy’n cynnwys hunanasesiad blynyddol o berfformiad gan yr aelodau eu hunain, a hefyd asesiad o berfformiad yr holl aelodau gan y Cadeirydd. Mae hyn wedi ei gwblhau’n ddiweddar ar gyfer y flwyddyn 2024/25 ac mae’n parhau i fod yn llwyddiannus iawn.
Caiff cyflawniadau yn unol ag amcanion gweithredol eu hadrodd a’u hadolygu’n rheolaidd ar hyd y flwyddyn trwy adolygiadau chwarterol. Mae’r adolygiadau hyn yn nodi cyflawniad o ran canlyniadau tymor byr, ac yn amlygu unrhyw gamau gweithredu sy’n weddill. Ystyrir y ddogfen hon gan y Prif Weithredwr a’r Uwch Dîm Rheoli a chaiff ei goruchwylio gan y Pwyllgor Gweithredol. Rhoddir crynodeb o gyflawni amcanion CGA yn ystod 2024/25 yn yr adroddiad ar berfformiad.
Yn ogystal â hyn, o ran gweithgareddau a ariennir yn gyhoeddus, cynhelir cyfarfodydd rheolaidd â swyddogion Llywodraeth Cymru i fonitro cyflawniad yr amcanion gweithredol penodol hynny. Cyflawnwyd yr holl dargedau gweithredol.
Pwyllgor Archwilio a Chraffu
Mae’r Pwyllgor Archwilio a Chraffu yn chwarae rhan bwysig yn y strwythur llywodraethu corfforaethol, a thrwy ei adolygiadau, mae’n cynghori’r Prif Weithredwr ar effeithiolrwydd polisïau, systemau a gweithdrefnau. Mae ei gylch gwaith wedi’i gynnwys yn rheolau sefydlog CGA.
Yn ystod y flwyddyn, mae wedi cael ac adolygu amryw adroddiadau gan archwilwyr mewnol ac allanol, wedi cwblhau asesiad o berfformiad archwilwyr mewnol ac allanol ac wedi adolygu’r gofrestr risg ym mhob cyfarfod. Mae’r pwyllgor hefyd wedi cael adroddiad blynyddol ar gydymffurfio â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Ddeddf Diogelu Data, ac adroddiad blynyddol ar wasanaethau TG.
Mae holl weithgareddau’r pwyllgor wedi cefnogi asesiad cadarnhaol o drefniadau llywodraethu CGA.
Archwilio mewnol
Gweithredodd TIAA fel archwilwyr mewnol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025. O fewn cynllun tair blynedd cyffredinol sy’n sicrhau bod pob maes yn cael sylw yn ei dro, cytunir ar raglen waith flynyddol cyn y flwyddyn ariannol. Wrth i adolygiadau gael eu cwblhau yn ystod y flwyddyn, cyflwynir adroddiadau i’r Pwyllgor Archwilio a Chraffu. Caiff canlyniadau’r flwyddyn eu crynhoi mewn adroddiad blynyddol.
Cwblhawyd cyfanswm o bum adroddiad yn 2024/25:
- llywodraethu – rheoli perfformiad gweithredol
- diogelwch TGCh – seiberddiogelwch
- rheolaethau ariannol allweddol
- cofrestru
- Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y Deyrnas Unedig
Mae’r tabl canlynol yn crynhoi lefel y sicrwydd, ac argymhellion o bob adolygiad:
Maes | Sicrwydd | Argymhellion: Blaenoriaeth | ||
---|---|---|---|---|
Uchel | Canolig | Isel | ||
Llywodraethu – rheoli perfformiad gweithredol | Sylweddol | - | - | - |
Diogelwch TGCh – seiberddiogelwch | Sylweddol | - | - | - |
Rheolaethau ariannol allweddol | Sylweddol | - | - | - |
Cofrestru | Sylweddol | - | - | - |
Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y Deyrnas Unedig | Sylweddol | - | - | - |
Daeth yr Adroddiad Blynyddol i’r casgliad “…ar gyfer y meysydd a adolygwyd yn ystod y flwyddyn, mae prosesau rhesymol ac effeithiol gan Gyngor y Gweithlu Addysg ar waith ar gyfer rheoli risg, rheoli a llywodraethu.”
Archwilio allanol
Mae asesu effeithiolrwydd y fframwaith llywodraethu hefyd ymhlyg yng nghanfyddiadau ac adroddiadau’r archwiliad ariannol. Archwilydd Cyffredinol Cymru yw archwilydd allanol statudol Cyngor y Gweithlu Addysg, a benodwyd o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014. Cwblhawyd yr archwiliad o Gyfrifon Blynyddol 2024/25 ar ei ran gan Archwilio Cymru.
Roedd sylwadau ar yr archwiliad o Gyfrifon Blynyddol 2023/24 yn gadarnhaol, a chyflwynodd Archwilydd Cyffredinol Cymru farn archwilio ddiamod yn cadarnhau nad oedd unrhyw faterion o bwys wedi codi o ganlyniad i brofion yr archwiliad, a nodwyd nad oedd yr archwilwyr wedi dod o hyd i unrhyw achosion o bwys lle na ddefnyddiwyd a chyfrifwyd adnoddau yn briodol.
Materion llywodraethu o bwys
Nid yw’r Cyngor wedi nodi unrhyw faterion llywodraethu o bwys yn ystod y flwyddyn. Ni nodwyd ychwaith unrhyw feysydd sy’n peri pryder y mae angen eu cryfhau neu eu gwella.
Bu fy mhwyslais gweithredol ar:
- gofrestru a rheoleiddio pob un o’r 13 grŵp o gofrestreion a nodir mewn deddfwriaeth, gan gynnwys derbyn penaethiaid ac uwch arweinwyr sefydliadau addysg bellach ac ymarferwyr addysg oedolion i’r gofrestr o fis Mai 2024 am y tro cyntaf
- gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gychwyn newidiadau ychwanegol i ddeddfwriaeth yn 2025/26 ym meysydd cofrestru a rheoleiddio
- gweithredu prosesau achredu AGA fel y’u hamlinellir mewn deddfwriaeth
- cyflawni’r holl weithgareddau a ariennir gan grantiau Llywodraeth Cymru yn unol â’r safonau y cytunwyd arnynt
- adolygu a gweithredu’r effaith ar gronfeydd wrth gefn CGA o ganlyniad i ddileu’r cymhorthdal ar gyfer ffioedd cofrestreion gan Lywodraeth Cymru ac adolygu opsiynau ar gyfer adolygiad o ffioedd yn y dyfodol
Ni fu unrhyw golledion na thaliadau arbennig yn ystod y flwyddyn.
Yn ogystal, fu unrhyw atgyfeiriadau i’r Comisiynydd Gwybodaeth o ran gweithgareddau yn ystod y flwyddyn, ac ni wnaed unrhyw gwynion
Datganiad gan y Prif Weithredwr
I grynhoi, rwy’n fodlon bod fframwaith llywodraethu CGA yn ystod y flwyddyn wedi bod yn effeithiol, gan roi sicrwydd ei fod wedi stiwardio adnoddau’n briodol wrth gyflawni ei amcanion.
Hayden Llewellyn
Prif Weithredwr
10 Gorffennaf 2025
Adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staff
Polisi cydnabyddiaeth ariannol
Mae’r adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staff yn nodi manylion yr arferion cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer aelodau a staff CGA.
Contractau gwasanaeth
Penodir staff yn unol â pholisi recriwtio a dethol CGA, sy’n mynnu bod penodiadau’n cael eu gwneud ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored, ond mae hefyd yn cynnwys yr amgylchiadau pan fo’n bosibl penodi mewn modd arall.
Mae penodiadau’r uwch staff a nodir yn yr adroddiad hwn yn rhai penagored. Pe byddai’r swydd yn cael ei dirwyn i ben yn gynnar, ac eithrio o ganlyniad i gamymddwyn, byddai’r unigolyn yn cael ei ddigolledu fel y nodir yng Nghynllun Digolledu y Gwasanaeth Sifil.
Ac eithrio’r Prif Weithredwr, mae cyflogau’r holl staff wedi’u seilio ar raddfeydd cyflog Llywodraeth Cymru. Mae cydnabyddiaeth ariannol y Prif Weithredwr wedi’i seilio ar raddfa gynyddrannol, a chaiff unrhyw gynnydd ei gymeradwyo gan y Cadeirydd a’i gadarnhau gan y Pwyllgor Adolygu Perfformiad. Nid oes unrhyw daliadau bonws yn daladwy.
Cydnabyddiaeth ariannol yr aelodau*
Y Cadeirydd yw’r unig aelod o’r Cyngor y ceir rhoi cydnabyddiaeth ariannol iddo. Nid oes gan ddeiliad y swydd yr hawl i fod yn aelod o gynllun pensiwn y Cyngor.
Etholwyd Eithne Hughes yn Gadeirydd i wasanaethu hyd at fis Mawrth 2027 ar ôl i gyfnod Angela Jardine yn y swydd ddod i ben ar 31 Mawrth 2023. Gan ei bod yn gynrychiolydd Undeb Llafur a oedd yn gwasanaethu hyd at ei hymddeoliad ar 31 Awst 2024, triniwyd y penodiad hwn fel secondiad ac ad-dalwyd cyfran o’i chyflog i’w chyflogwr yn ystod y cyfnod hwn. Ers 1 Medi 2024, mae Mrs Hughes yn cael cydnabyddiaeth ariannol gan CGA am ei hymrwymiad o ddau ddiwrnod yr wythnos (cynyddodd hyn o un diwrnod a hanner yr wythnos cyn 1 Medi 2024). Felly, mae costau’r Cadeirydd yn uwch yn 2024/25 nag yn 2023/24.
Telir treuliau holl aelodau eraill y Cyngor, gan gynnwys ad-dalu’r costau a ysgwyddwyd wrth deithio i gyfarfodydd a thalu costau staff cyflenwi neu’r costau cyfatebol i’w cyflogwyr, fel sy’n briodol. Adroddir y gwariant hwn fel costau Aelodau yn nodyn 5.
24-25 £000oedd | 23-24 £000oedd | |
---|---|---|
Eithne Hughes Ad-daliad i gyflogwr (yn cynnwys TAW) – Cadeirydd (1 Ebrill 2024 tan 31 Awst 2024) |
15 |
30 |
Cydnabyddiaeth ariannol y Cadeirydd (1 Medi 2024 tan 31 Mawrth 2025) | 24 | - |
*Mae’r wybodaeth hon yn destun archwiliad
Cydnabyddiaeth ariannol uwch aelodau staff*
Roedd cyflog, hawliau pensiwn, a gwerth unrhyw fuddion cyfatebol trethadwy swyddogion uchaf CGA fel a ganlyn:
Un ffigur cyfanswm y gydnabyddiaeth ariannol* | ||||||||
Cyflog(£000oedd) | Taliadau bonws (£000oedd) | Buddion pensiwn (£000oedd) [1] | Cyfanswm (£000oedd) | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
2024-25 | 2023-24 | 2024-25 | 2023-24 | 2024-25 | 2023-24 | 2024-25 | 2023-24 | |
Hayden Llewellyn (G) Prif Weithredwr | 110-115 | 105-110 | - | - | 76 | 27 | 185-190 | 130-135 |
Lisa Winstone (B) Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol | 90-95 | 85-90 | - | - | 59 | 19 | 150-155 | 105-110 |
Bethan Holliday-Stacey (B) Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi | 80-85 | 80-85 | - | - | 57 | 21 | 140-145 | 105-110 |
David Browne (G)* Cyfarwyddwr Rheoleiddio | 75-80 | 40-45 | - | - | 32 | 16 | 105-110 | 55-60 |
[1] Cyfrifir gwerth buddion pensiwn a gronnwyd yn ystod y flwyddyn fel (y cynnydd gwirioneddol yn y pensiwn wedi’i luosi ag 20) a (y cynnydd gwirioneddol mewn unrhyw gyfandaliad) gan dynnu (y cyfraniadau a wnaed gan yr unigolyn). Nid yw’r cynnydd gwirioneddol yn cynnwys cynnydd o ganlyniad i chwyddiant nac unrhyw gynnydd neu ostyngiad o ganlyniad i drosglwyddo hawliau pensiwn.
Cyflog
Mae cyflog yn cynnwys cyflog gros, goramser, hawliau neilltuedig i bwysoliad Llundain neu lwfansau Llundain, lwfansau recriwtio a chadw, lwfansau swyddfa breifat, ac unrhyw lwfans arall i’r graddau y mae’n ddarostyngedig i drethi’r Deyrnas Unedig. Mae’r adroddiad hwn wedi’i seilio ar daliadau a wnaed gan CGA ac a gofnodir felly yn y Cyfrifon hyn.
Nid oes taliadau bonws yn daladwy gan CGA.
*Mae’r wybodaeth hon yn destun archwiliad.
Datgeliadau tâl teg*
Mae’n ofynnol i gyrff sy’n adrodd ddatgelu’r berthynas rhwng cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf yn eu sefydliad a chydnabyddiaeth ariannol gweithlu’r sefydliad.
2024/25 | 2023/24 | |
---|---|---|
Band yr unigolyn sydd â’r gydnabyddiaeth ariannol uchaf (£000oedd) | 110-115 | 105-110 |
% y newid o’r flwyddyn ariannol flaenorol ar gyfer y cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf | 4.65% | 4.88% |
Cyflog a lwfansau cyfartalog (heblaw’r cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf) | £41,313 | £38,816 |
% y newid o’r flwyddyn ariannol flaenorol ar gyfer yr holl gyflogeion | 6.43% | 3.86% |
Y gydnabyddiaeth ariannol wedi’i bandio ar gyfer y cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf yn CGA yn ystod y flwyddyn ariannol 2024/25 oedd £110,000-£115,000 (2023/24: £105,000-£110,000). Canran y newid o’r flwyddyn ariannol flaenorol yw 4.65% (2023/24: 4.88%). Mae’r cyflog a’r lwfansau cyfartalog (heblaw’r cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf) wedi codi 6.43% (2023/24: 3.86%) o ganlyniad i weithredu dyfarniad cyflog i’r holl staff o 1 Ebrill 2024.
Cymarebau cyflog | 24-25 | 23-24 |
---|---|---|
Cyfanswm cyflog a buddion y 25ain ganradd | £33,748 | £29,999 |
Cymhareb cyflog y 25ain ganradd | 3.3 | 3.6 |
Cyfanswm cyflog a buddion canolrifol | £34,768 | £32,141 |
Cymhareb cyflog canolrifol | 3.2 | 3.3 |
Cyfanswm cyflog a buddion y 75ed canradd | £45,974 | £41,675 |
Cymhareb cyflog y 75ed canradd | 2.5 | 2.6 |
Roedd cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf 3.3 gwaith (2023/24, 3.6) cydnabyddiaeth ariannol 25ain canradd y gweithlu, sef £33,748 (2023/24, £29,999), 3.2 gwaith (2023/24, 3.3) cydnabyddiaeth ariannol ganolrifol y gweithlu, sef £34,768 (2023/24, £32,141), a 2.5 gwaith (2023/24, 2.6) cydnabyddiaeth ariannol 75ed canradd y gweithlu, sef £45,974 (2023/24, £41,675). Mae cymhareb cyflog y 25ain canradd wedi gostwng ychydig eleni tra bod y cymarebau eraill wedi aros yn gymharol sefydlog. Mae’r symudiadau rhwng 2023/24 a 2024/25 o ganlyniad i ddyfarniad cyflog 5% a roddwyd i’r holl staff ar 1 Ebrill 2024, lle mae dyfarniadau cynyddrannol wedi cael eu prosesu pan nad yw staff ar uchafswm eu graddfa a hefyd pan fo cyflogeion newydd wedi ymuno â’r sefydliad ond maent ar bwynt is ar y raddfa na’u holynwyr.
Yn 2024/25, ni chafodd unrhyw gyflogeion (2023/24, dim) gydnabyddiaeth ariannol a oedd yn fwy na’r cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf (y Prif Weithredwr). Roedd y gydnabyddiaeth ariannol yn amrywio o £28,246 i £111,359 (2023/24, £26,901 i £106,056).
Mae cyfanswm cydnabyddiaeth ariannol yn cynnwys cyflog, tâl sy’n gysylltiedig â pherfformiad anghyfunol, a buddion cyfatebol. Nid yw’n cynnwys cyfraniadau pensiwn cyflogwyr na gwerthoedd trosglwyddo sy'n gyfwerth ag arian parod pensiynau.
Buddion cyfatebol
Mae gwerth ariannol buddion cyfatebol yn cynnwys unrhyw fuddion a ddarparwyd gan CGA ac y mae Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn eu trin fel enillion trethadwy. Ni thalwyd unrhyw fuddion cyfatebol yn ystod y flwyddyn.
Buddion pensiwn*
Pensiwn a gronnwyd ar oedran pensiwn ar 31/3/25 a'r cyfandaliad perthnasol | Cynnydd gwirioneddol yn y pensiwn a’r cyfandaliad perthnasol ar oedran pensiwn | Gwerthoedd Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod (CETV) ar 31/3/25 | CETV ar 31/3/24 | Cynnydd gwirioneddol mewn CETV | |
---|---|---|---|---|---|
£000oedd | £000oedd | £000oedd | £000oedd | £000oedd | |
Hayden Llewellyn (G) Prif Weithredwr |
45 - 50 ynghyd â chyfandaliad 120-125 |
2.5 – 5 ynghyd â chyfandaliad 2.5 – 5 |
1133 |
1020 |
66 |
Lisa Winstone (B) Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol |
25 - 30 |
2.5 – 5 |
413 |
339 |
39 |
Bethan Holliday-Stacey (B) Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi |
35 - 40 ynghyd â chyfandaliad 85 -90 |
2.5 – 5 ynghyd â chyfandaliad 2.5 – 5 |
737 |
663 |
43 |
David Browne (G) Cyfarwyddwr Rheoleiddio |
5 -10 |
0 – 2.5 |
114 |
79 |
22 |
Pensiynau’r Gwasanaeth Sifil
Darperir buddion pensiwn trwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Cyn 1 Ebrill 2015, yr unig gynllun oedd Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS), sydd wedi’i rannu’n ambell adran wahanol – mae classic, premium, a classic plus yn darparu buddion ar sail cyflog terfynol, tra bod nuvos yn darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa. O 1 Ebrill 2015, cyflwynwyd cynllun pensiwn newydd i weision sifil – y Cynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill neu alpha, sy’n darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa. Ymunodd yr holl weision sifil newydd eu penodi, a mwyafrif y rhai a oedd eisoes yn gwasanaethu, â’r cynllun newydd.
Mae’r PCSPS ac alpha yn gynlluniau statudol heb eu hariannu. Mae cyflogeion a chyflogwyr yn gwneud cyfraniadau (mae cyfraniadau cyflogeion yn amrywio rhwng 4.6% ac 8.05%, yn dibynnu ar gyflog). Mae balans costau’r buddion sy’n daladwy yn cael ei dalu gan arian a bleidleisir gan Senedd San Steffan bob blwyddyn. Cynyddir pensiynau sy’n daladwy bob blwyddyn yn unol â’r ddeddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Yn lle’r trefniadau buddion diffiniedig, caiff cyflogeion ddewis pensiwn cyfraniadau diffiniedig gyda chyfraniad gan y cyflogwr, sef y cyfrif pensiwn partneriaeth.
Yn alpha, mae pensiwn yn cronni ar gyfradd o 2.32% o enillion pensiynadwy bob blwyddyn, ac mae’r cyfanswm a gronnir yn cael ei addasu’n flynyddol yn unol â chyfradd a osodir gan Drysorlys EF. Caiff aelodau ddewis ildio (cymudo) pensiwn am gyfandaliad hyd at y terfynau a osodir gan Ddeddf Cyllid 2004. Cafodd buddion PCSPS yr holl aelodau a newidiodd i alpha o’r PCSPS eu ‘bancio’, a bydd y rhai hynny â buddion cynharach yn un o rannau cyflog terfynol PCSPS yn cael y buddion hynny ar sail eu cyflog terfynol pan fyddant yn gadael alpha.
Y pensiynau cronedig a ddangosir yn yr adroddiad hwn yw’r pensiwn y mae gan yr aelod yr hawl i’w dderbyn pan fydd yn cyrraedd oedran pensiwn arferol, neu ar unwaith ar ôl peidio â bod yn aelod gweithredol o’r cynllun, os yw eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol neu’n hŷn na hynny. 60 yw’r oedran pensiwn arferol ar gyfer aelodau classic, premium a classic plus, 65 ar gyfer aelodau nuvos, ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu 65, pa un bynnag yw’r uchaf, ar gyfer aelodau alpha. Mae’r ffigurau pensiwn yn yr adroddiad hwn yn dangos y pensiwn a enillwyd yn y PCSPS neu alpha, fel y bo’n briodol. Pan fydd gan aelod fuddion yn y PCSPS ac alpha, mae’r ffigurau’n dangos cyfuniad o werth ei fuddion yn y ddau gynllun, ond sylwer y gallai rhannau cyfansawdd y pensiwn hwnnw fod yn daladwy o wahanol oedrannau.
Pan gyflwynodd y Llywodraeth gynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus newydd yn 2015, roedd trefniadau pontio a oedd yn trin aelodau presennol cynlluniau’n wahanol yn seiliedig ar eu hoedran. Arhosodd aelodau hŷn y PCSPS yn y cynllun hwnnw, yn hytrach na symud i alpha. Yn 2018, penderfynodd y Llys Apêl fod y trefniadau pontio yn y cynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn aelodau iau.
O ganlyniad, mae camau’n cael eu cymryd i unioni diwygiadau 2015, gan wneud darpariaethau’r cynllun pensiwn yn deg i’r holl aelodau. Mae’r rhwymedi pensiynau gwasanaeth cyhoeddus yn cynnwys dwy ran. Caeodd rhan gyntaf y PCSPS ar 31 Mawrth 2022, a daeth yr holl aelodau gweithredol yn aelodau o alpha ar 1 Ebrill 2022. Mae’r ail ran yn dileu’r gwahaniaethu ar sail oed ar gyfer cyfnod y rhwymedi, rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022, trwy symud aelodaeth aelodau cymwys yn ystod y cyfnod hwn yn ôl i’r PCSPS ar 1 Hydref 2023. Adwaenir hyn fel dirwyn yn ôl.
O ran aelodau sy’n gymwys ar gyfer y rhwymedi pensiwn gwasanaeth cyhoeddus, mae’r cyfrifiad o’u buddion at ddiben cyfrifo eu Gwerth Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod a chyfanswm unigol eu cydnabyddiaeth ariannol, ar 31 Mawrth 2023 a 31 Mawrth 2024, yn adlewyrchu’r ffaith bod aelodaeth rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022 wedi cael ei dirwyn yn ôl i’r PCSPS. Er y bydd aelodau’n cael dewis p’un a ddylai’r cyfnod hwnnw gyfrif tuag at fuddion PCSPS neu alpha maes o law, mae’r ffigurau’n dangos y sefyllfa wedi’i dirwyn yn ôl h.y., buddion PCSPS ar gyfer y cyfnod hwnnw.
Mae’r cyfrif pensiwn partneriaeth yn drefniant pensiwn galwedigaethol cyfraniad diffiniedig sy’n rhan o’r Legal & General Mastertrust. Mae’r cyflogwr yn gwneud cyfraniad sylfaenol rhwng 8% a 14.75% (yn dibynnu ar oedran yr aelod). Nid oes rhaid i’r cyflogai gyfrannu, ond pan fydd yn gwneud cyfraniadau, bydd y cyflogwr yn eu cyfateb hyd at derfyn o 3% o’r cyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Bydd cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.5% arall o gyflog pensiynadwy i dalu cost yswiriant buddion risg a ddarperir yn ganolog (marwolaeth mewn swydd ac ymddeoliad o ganlyniad i salwch).
Ceir rhagor o fanylion am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar eu gwefan.
Gwerthoedd Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod
Gwerth Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod (CETV) yw gwerth cyfalaf a aseswyd yn actiwaraidd y buddion cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol. Y buddion a gaiff eu prisio yw’r buddion y mae’r aelod wedi eu cronni, ac unrhyw bensiwn gŵr neu wraig ddibynnol sy’n daladwy o’r cynllun. CETV yw taliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn i sicrhau buddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo’r buddion a gronnwyd yn ei gynllun blaenorol. Mae’r ffigurau pensiwn a ddangosir yn ymwneud â’r buddion y mae’r unigolyn wedi eu cronni o ganlyniad i gyfanswm ei aelodaeth o’r cynllun pensiwn, nid dim ond ei wasanaeth mewn swyddogaeth uwch y mae’r datgeliad yn berthnasol iddo.
Mae’r ffigurau’n cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae’r aelod wedi ei drosglwyddo i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd gan yr aelod o ganlyniad i brynu buddion pensiwn ychwanegol ar ei gost ei hun. Cyfrifir CETV yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygio) 2008 ac nid ydynt yn ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol neu bosibl i fuddion o ganlyniad i’r Dreth Lwfans Gydol Oes a allai fod yn ddyledus pan gymerir buddion pensiwn.
Cynnydd gwirioneddol mewn CETV
Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd mewn CETV a gyllidir gan y cyflogwr. Nid yw’n cynnwys y cynnydd mewn pensiwn cronedig oherwydd chwyddiant, cyfraniadau a delir gan y cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddir o gynllun neu drefniant pensiwn arall) ac mae’n defnyddio ffactorau prisio’r farchnad gyffredin ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.
Digolledu am golli swydd
Ni wnaed unrhyw daliadau digolledu am golli swydd yn ystod y flwyddyn i’r staff hynny sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ar gydnabyddiaeth ariannol a staff hwn, nac unrhyw gyflogeion eraill.
Nifer y bobl a gyflogir yn ôl math o gyflogaeth*
Yn ystod 2024/25, cyflogodd CGA 56.1 o staff~ ar gyfartaledd (2023/24 – 56.3) (gan gynnwys swyddogion ar gyfnod mamolaeth), fel a ganlyn:
CGA | LIC | Cyfanswm | 2023-24 | |
---|---|---|---|---|
Contract parhaol | 38.1 | 17 | 55.1 | 55.3 |
Contract cyfnod penodol | 1 | 0 | 1 | 1 |
Dros dro | 0 | 0 | 0 | 0 |
Cyfanswm | 39.1 | 17 | 56.1 | 56.3 |
~Cyfwerth ag amser llawn
Roedd cyfansoddiad y staff yn ôl rhywedd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol fel a ganlyn:
Yn ôl rhywedd | 31 Mawrth 2025 | 31 Mawrth 2024 | ||||
---|---|---|---|---|---|---|
Staff | Gwryw | Benyw | Cyfanswm | Gwryw | Benyw | Cyfanswm |
Uwch | 2 | 2 | 4 | 2 | 2 | 4 |
Cyffredinol | 13 | 40 | 53 | 16 | 36 | 52 |
Dros dro | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Cyfanswm | 15 | 42 | 57 | 18 | 38 | 56 |
Oedran cyfartalog staff CGA ar 31 Mawrth 2025 oedd 42 oed (41 oed, ar 31 Mawrth 2024).
Absenoldeb oherwydd salwch
Mae CGA yn monitro absenoldeb oherwydd salwch yn barhaus, gan adolygu absenoldebau cronnol a hirdymor. Yn 2024/25, adroddodd cyflogeion gyfanswm o 515 o ddiwrnodau o absenoldeb oherwydd salwch (265.5 o ddiwrnodau, 2023/24) ac roedd 74% o’r rhain yn salwch hirdymor (32.7%, 2023/24).
Mae absenoldeb oherwydd salwch yn uwch na’r flwyddyn adrodd flaenorol ac yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 9.2 diwrnod fesul cyflogai ar gyfartaledd (4.73 diwrnod, 2023/24). Y cyfartaledd cenedlaethol a adroddwyd yn fwyaf diweddar oedd 5.7 o ddiwrnodau fesul gweithiwr yn 2022 (y Swyddfa Ystadegau Gwladol, disgwylir y cyhoeddiad nesaf ym mis Ebrill 2023). Ym mis Ionawr 2025, adroddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig mai’r cyfartaledd ar gyfer staff y gwasanaeth sifil yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024 oedd 7.8 diwrnod fesul gweithiwr (Llywodraeth y Deyrnas Unedig, 2024). Ni fu unrhyw ymddeoliadau ar sail iechyd gwael.
Costau Staff*
CGA | Gweithgareddau LlC | 2024-25 | 2023-24 | |||
---|---|---|---|---|---|---|
Staff parhaol | Staff eraill | Staff parhaol | Staff eraill | Cyfanswm | Cyfanswm | |
£000oedd | £000oedd | £000oedd | £000oedd | £000oedd | £000oedd | |
Cyflogau | 1,590 | 0 | 741 | 0 | 2,331 | 2,273 |
Costau Nawdd Cymdeithasol | 171 | 0 | 81 | 0 | 252 | 244 |
Costau pensiwn | 460 | 0 | 210 | 0 | 670 | 592 |
Cyfanswm | 2,221 | 0 | 1,032 | 0 | 3,253 | 3,109 |
Costau asiantaeth | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Cyfanswm | 2,221 | 0 | 1,032 | 0 | 3,253 | 3,109 |
Ni ddefnyddiwyd unrhyw staff asiantaeth yn ystod 2024/25 (2023/24, dim).
Cynlluniau buddion diffiniedig aml-gyflogwr nad ydynt yn cael eu cyllido yw Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) a Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ac Eraill (CSOPS) (a elwir yn alpha), ond ni all CGA nodi ei gyfran o’r asedau a’r rhwymedigaethau sylfaenol. Cynhaliwyd prisiad gan actiwari’r cynllun ar 31 Mawrth 2020. Mae manylion ar gael yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa’r Cabinet: Pensiynau Sifil.
Ar gyfer 2024/25, roedd cyfraniadau cyflogwyr o £667,783 yn daladwy i’r PCSPS (2023/24, £592,347) ar 28.97% o enillion pensiynadwy, ar sail bandiau cyflog. Fel arfer, mae actiwari’r cynllun yn adolygu cyfraniadau cyflogwyr bob pedair blynedd yn dilyn prisiad o’r cynllun cyfan. Gosodir cyfraddau cyfraniadau i dalu costau’r buddion sy’n cronni yn ystod 2024/25 i’w talu pan fydd yr aelod yn ymddeol, ac nid y buddion sy’n cael eu talu yn ystod y cyfnod hwn i bensiynwyr presennol.
Gall cyflogeion ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, sef pensiwn cyfranddeiliaid gyda chyfraniad gan y cyflogwr. Ni ddewiswyd yr opsiwn hwn gan yr un o gyflogeion CGA, ac felly ni wnaed unrhyw gyfraniadau cyflogwr.
Trefniadau oddi ar y gyflogres
Ni wnaed unrhyw daliadau o dan drefniadau oddi ar y gyflogres yn ystod y flwyddyn (2023/24, dim).
Pecynnau ymadael
Ni fu unrhyw gostau dileu swydd na chostau ymadael eraill yn ystod y flwyddyn (2023/24, £dim).
*Mae’r wybodaeth uchod yn destun archwiliad.
Hayden Llewellyn
Prif Weithredwr
10 Gorffennaf 2025
Adroddiad archwilio
Tystysgrif ac adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru i’r Senedd
Barn am y datganiadau ariannol
Tystiaf fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Cyngor y Gweithlu Addysg (y Cyngor) ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2025 o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014.
Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys y Datganiad o Incwm Cynhwysfawr, y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol, y Datganiad o Lifoedd Arian Parod, a’r Datganiad o Newidiadau i Ecwiti Trethdalwyr, a’r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys y polisïau cyfrifyddu arwyddocaol. Y fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yw’r gyfraith berthnasol a safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd gan y Deyrnas Unedig fel y’u dehonglwyd a’u haddaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF.
Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r datganiadau ariannol:
- yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2025 a’i wariant net, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny;
- wedi cael eu paratoi’n briodol yn unol â safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd gan y Deyrnas Unedig fel y’u dehonglwyd a’u haddaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF;
- wedi cael eu paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a roddwyd o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014
Barn am reoleidd-dra
Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r gwariant a’r incwm a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol wedi cael eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.
Sail y farn
Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r gyfraith berthnasol a’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y Deyrnas Unedig (ISAs (UK)) a Nodyn Ymarfer 10 ‘Archwilio Datganiadau Ariannol Endidau’r Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig’. Disgrifir fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny ymhellach yn yr adran o’m tystysgrif ar gyfrifoldebau’r archwilydd ar gyfer archwilio’r datganiadau ariannol.
Rwyf innau a’m staff yn annibynnol ar y corff yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’m harchwiliad o’r datganiadau ariannol yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio a gefais yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i’m barn.
Casgliadau ynglŷn â busnes gweithredol
Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i’r casgliad bod y defnydd o’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.
Ar sail y gwaith a gyflawnais, nid wyf wedi amlygu unrhyw ansicrwydd perthnasol yn ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol am allu’r corff i barhau i fabwysiadu sail gyfrifyddu busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeg mis o leiaf o’r dyddiad pan gaiff y datganiadau ariannol eu hawdurdodi i’w cyhoeddi.
Mae fy nghyfrifoldebau i a chyfrifoldebau’r Prif Weithredwr mewn perthynas â busnes gweithredol wedi’u disgrifio yn yr adrannau perthnasol o’r dystysgrif hon.
Defnyddir y sail gyfrifyddu busnes gweithredol ar gyfer Cyngor y Gweithlu Addysg gan ystyried y gofynion a amlinellir yn Llawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF, sy’n mynnu bod endidau’n defnyddio’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol pan ddisgwylir y bydd y gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn parhau yn y dyfodol.
Gwybodaeth arall
Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys y wybodaeth a geir yn yr adroddiad blynyddol heblaw am y datganiadau ariannol a’m hadroddiad archwilydd arnynt. Y Prif Weithredwr sy’n gyfrifol am y wybodaeth arall yn yr adroddiad blynyddol. Nid yw fy marn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall a, heblaw i’r graddau a nodir yn benodol yn fy adroddiad, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar hynny. Fy nghyfrifoldeb i yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried p’un a yw’r wybodaeth arall yn sylweddol anghyson â’r datganiadau ariannol neu’r wybodaeth a gafwyd wrth gynnal yr archwiliad, neu ei bod yn ymddangos fel arall ei bod wedi’i chamddatgan yn berthnasol. Os nodaf unrhyw anghysondebau perthnasol neu gamddatganiadau perthnasol ymddangosiadol, mae’n ofynnol i mi benderfynu p’un a yw hyn yn peri camddatgan perthnasol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Os deuaf i’r casgliad, ar sail y gwaith a gyflawnais, fod camddatgan perthnasol o ran y wybodaeth arall hon, mae’n ofynnol i mi adrodd y ffaith honno.
Nid oes gennyf unrhyw beth i’w adrodd yn hyn o beth.
Barn am faterion eraill
Yn fy marn i, mae’r rhan o’r Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol a Staff sydd i’w harchwilio wedi cael ei pharatoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014.
Yn fy marn i, ar sail y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad:
- mae’r rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd sydd i’w harchwilio wedi cael eu paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014; ac
- mae’r wybodaeth a roddwyd yn y Rhagair, yr Adroddiad ar Berfformiad a’r Adroddiad Atebolrwydd ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â’r datganiadau ariannol ac yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol.
Materion yr adroddaf arnynt drwy eithriad
Yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r corff a’i amgylchedd a gafwyd wrth gynnal yr archwiliad, nid wyf wedi canfod camddatganiadau o bwys yn y Rhagair, yr Adroddiad ar Berfformiad a’r Adroddiad Atebolrwydd.
Nid oes gennyf unrhyw beth i adrodd yn ei gylch mewn perthynas â’r materion canlynol yr adroddaf i chi, os, yn fy marn i:
- nad wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae arnaf eu hangen ar gyfer fy archwiliad;
- nad oes cofnodion cyfrifyddu priodol wedi cael eu cadw neu nad oes ffurflenni sy’n ddigonol i’m harchwiliad wedi cael eu derbyn gan ganghennau nad yw fy nhîm wedi ymweld â nhw;
- nad yw’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Atebolrwydd a archwiliwyd yn cytuno â’r cofnodion a’r datganiadau cyfrifyddu;
- nad yw gwybodaeth a bennwyd gan Weinidogion Cymru ynghylch cydnabyddiaeth ariannol a thrafodion eraill wedi’i datgelu;
- na ddatgelir cydnabyddiaeth ariannol benodol a nodir yn Llawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF neu nad yw’r rhannau o’r Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol a Staff sydd i’w harchwilio yn cytuno â’r cofnodion a’r datganiadau cyfrifyddu; neu
- nad yw’r Datganiad Llywodraethu yn adlewyrchu cydymffurfedd â chanllawiau Trysorlys EF.
Cyfrifoldebau’r Prif Weithredwr am y datganiadau ariannol
Fel yr esboniwyd yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Cyngor a’r Prif Weithredwr, mae’r Prif Weithredwr yn gyfrifol am:
- gynnal cofnodion cyfrifyddu priodol;
- paratoi’r datganiadau ariannol a’r Adroddiad Blynyddol yn unol â’r fframwaith adrodd perthnasol a bod yn fodlon eu bod yn rhoi darlun cywir a theg;
- sicrhau bod yr Adroddiad Blynyddol a’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy;
- sicrhau rheoleidd-dra trafodion ariannol;
- y cyfryw reolaethau mewnol ag y mae’r Prif Weithredwr yn penderfynu eu bod yn angenrheidiol i allu paratoi datganiadau ariannol sy’n rhydd rhag camddatganiadau o bwys, boed hynny o ganlyniad i dwyll neu wall;
- asesu gallu’r corff i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu, fel y bo’n berthnasol, materion sy’n gysylltiedig â busnes gweithredol a defnyddio’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol oni bai bod y Prif Weithredwr yn disgwyl na fydd y gwasanaethau a ddarperir gan y corff yn parhau i gael eu darparu yn y dyfodol.
Cyfrifoldebau’r Archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol
Fy nghyfrifoldeb i yw archwilio, ardystio ac adrodd ar y datganiadau ariannol yn unol â Deddf Addysg (Cymru) 2014.
Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynglŷn â ph’un a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd rhag camddatgan perthnasol, p’un a achoswyd hynny trwy dwyll neu wall, a chyhoeddi adroddiad archwilydd sy’n cynnwys fy marn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw’n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (UK) bob amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau godi o dwyll neu wall ac ystyrir eu bod yn berthnasol pe gellid disgwyl yn rhesymol iddynt, yn unigol neu gyda’i gilydd, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wnaed ar sail y datganiadau ariannol hyn.
Mae afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, yn achosion o ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau. Rwyf yn dylunio gweithdrefnau yn unol â’m cyfrifoldebau, a amlinellwyd uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol mewn perthynas ag afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll.
Roedd fy ngweithdrefnau’n cynnwys y canlynol:
- holi rheolwyr, darparwr Archwilio Mewnol yr endid sy’n cael ei archwilio a’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennau ategol yn ymwneud â pholisïau a gweithdrefnau Cyngor y Gweithlu Addysg sy’n ymwneud â’r canlynol:
- nodi, gwerthuso a chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau a ph’un a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio;
- canfod ac ymateb i risgiau twyll a ph’un a oes ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, amheuaeth o dwyll neu dwyll honedig; a’r
- rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy’n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau.
- ystyried, fel tîm archwilio, sut a ble y gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion posibl o dwyll. Yn rhan o’r drafodaeth hon, amlygais bosibilrwydd ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: cydnabod gwariant, a phostio cyfnodolion anarferol;
- cael dealltwriaeth o fframwaith awdurdod Cyngor y Gweithlu Addysg yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill y mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn gweithredu ynddynt, gan ganolbwyntio ar y cyfreithiau a’r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith hanfodol ar weithrediadau Cyngor y Gweithlu Addysg;
- cael dealltwriaeth o’r berthynas â phartïon cysylltiedig.
Yn ogystal â’r uchod, roedd fy ngweithdrefnau i ymateb i risgiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol:
- adolygu’r hyn a ddatgelwyd yn y datganiad ariannol a phrofi dogfennau ategol i asesu cydymffurfedd â’r cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol a drafodir uchod;
- holi rheolwyr, y Pwyllgor Archwilio a chynghorwyr cyfreithiol ynghylch ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a phosibl;
- darllen cofnodion cyfarfodydd y rheiny sy’n gyfrifol am lywodraethu a’r Cyngor;
- wrth fynd i’r afael â risg twyll drwy ddiystyru rheolaethau gan reolwyr, profi pa mor briodol yw cofnodion dyddlyfrau ac addasiadau eraill; asesu a yw’r farn a luniwyd wrth wneud amcangyfrifon cyfrifyddu yn arwydd o ragfarn bosibl; a gwerthuso rhesymeg busnes unrhyw drafodion arwyddocaol sy’n anarferol neu sydd y tu allan i’r busnes arferol.
Roeddwn hefyd wedi cyfleu’r cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol a nodwyd a’r risgiau posibl o ran twyll i holl aelodau’r tîm archwilio, ac roeddwn yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau drwy gydol yr archwiliad.
Effeithir ar y graddau y mae fy ngweithdrefnau’n gallu canfod afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, gan yr anhawster cynhenid i ganfod afreoleidd-dra, effeithiolrwydd rheolaethau Cyngor y Gweithlu Addysg, a natur, amseriad a graddau’r gweithdrefnau archwilio a gyflawnir.
Mae disgrifiad pellach o gyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol ar gael ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae’r disgrifiad hwn yn rhan o’m hadroddiad archwilydd.
Cyfrifoldebau eraill yr archwilydd
Rwyf yn cael digon o dystiolaeth i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a’r incwm a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol wedi cael eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.
Rwyf yn cyfathrebu â’r rhai hynny sy’n gyfrifol am lywodraethu ynghylch, ymhlith materion eraill, cwmpas ac amseriad arfaethedig yr archwiliad a chanfyddiadau archwilio arwyddocaol, gan gynnwys unrhyw ddiffygion arwyddocaol mewn rheolaeth fewnol a nodaf yn ystod fy archwiliad.
Adroddiad
Nid oes gennyf sylwadau i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.
Adrian Compton
Archwilydd Cyffredinol Cymru
1 Cwr y Ddinas
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ
14 Gorffennaf 2025
Y Prif Weithredwr sy’n gyfrifol am gynnal gwefan CGA a sicrhau ei chyfanrwydd. Nid yw’r gwaith a gynhelir gan yr archwilwyr yn cynnwys ystyried y materion hyn ac, yn unol â hynny, nid yw’r archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newidiadau a allai fod wedi digwydd i’r datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno ar y wefan yn y lle cyntaf.
Datganiadau ariannol
Datganiad o incwm cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025
Wedi’i ailddatgan (cyfeiriwch at nodyn 2) | |||
---|---|---|---|
Nodyn | 2024-25 | 2023-24 | |
£000oedd | £000oedd | ||
Incwm | |||
Grant gan Lywodraeth Cymru | 6,531 | 8,004 | |
Ffioedd cofrestru | 2,741 | 2,756 | |
Incwm arall | 4 | 139 | 101 |
Arian a ryddhawyd o Gronfeydd wrth Gefn | 17 | 31 | 67 |
Cyfanswm incwm | 9,442 | 10,928 | |
Gwariant | |||
Costau staff | * | 3,253 | 3,109 |
Costau rhaglen uniongyrchol | 5 | 1,763 | 1,677 |
Costau rhaglenni sefydlu | 6 | 5,097 | 6,406 |
Costau gweithredu eraill | 7 | 486 | 424 |
Dibrisiad | 9 | 26 | 68 |
Amorteiddiad | 10 | 383 | 449 |
Dibrisiad les Hawl Defnyddio | 11 | 122 | 121 |
Taliadau cyllid – les | 12 | 4 | 6 |
Cyfanswm gwariant | 11,134 | 12,260 | |
Gwarged/(Diffyg) ar weithgareddau arferol | (1,692) | (1,332) | |
Llog derbyniadwy | 8 | 211 | 219 |
Gwariant net ar gyfer y flwyddyn a drosglwyddwyd i gronfeydd wrth gefn | (1,481) | (1,113) |
Mae’r holl weithgareddau a ariennir gan CGA yn parhau.
*Mae dadansoddiad o gostau staff wedi’i gynnwys yn yr adroddiad staff
Mae’r nodiadau ar dudalennau 65-80 yn ffurfio rhan o’r cyfrifon hyn .
Datganiad o’r sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2025
Nodyn | 31 Mawrth 2025 | 31 Mawrth 2024 | |
---|---|---|---|
Asedau anghyfredol | £000oedd | £000oedd | |
Eiddo, offer a chyfarpar | 9 | 42 | 34 |
Asedau anniriaethol | 10 | 410 | 648 |
Ased hawl defnyddio – les | 11 | 395 | 517 |
Cyfanswm asedau anghyfredol | 847 | 1,199 | |
Asedau cyfredol | |||
Buddsoddiadau tymor byr | 2,503 | 2,503 | |
Masnach a symiau derbyniadwy eraill | 12 | 304 | 469 |
Arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod | 13 | 4,397 | 5,237 |
Cyfanswm asedau cyfredol | 7,204 | 8,209 | |
Cyfanswm asedau | 8,051 | 9,408 | |
Rhwymedigaethau cyfredol | |||
Masnach a symiau taliadwy eraill | 14 | (3,304) | (3,143) |
Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau a thaliadau | 15 | - | - |
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol | (3,304) | (3,143) | |
Asedau anghyfredol +/- asedau cyfredol net/rhwymedigaethau | 4,747 | 6,265 | |
Rhwymedigaethau anghyfredol | |||
Incwm grant gohiriedig | 14 | (125) | (242) |
Rhwymedigaeth les hawl defnyddio | 19 | (293) | (420) |
Cyfanswm rhwymedigaethau anghyfredol | (418) | (662) | |
Asedau llai rhwymedigaethau | 4,329 | 5,603 | |
Ariannwyd gan: | |||
Ecwiti trethdalwyr | |||
Cronfa wrth gefn gyffredinol | 2,993 | 4,536 | |
Cronfa wrth gefn y gronfa ddata | 17 | 736 | 767 |
Cronfa wrth gefn Priodoldeb i Ymarfer | 17 | 300 | 300 |
Cronfa wrth gefn llety | 17 | 300 | - |
Cyfanswm cyfalaf a chronfeydd wrth gefn | 4,329 | 5,603 |
Hayden Llewellyn
Prif Weithredwr
10 Gorffennaf 2025
Mae’r nodiadau ar dudalennau 65-80 yn ffurfio rhan o’r cyfrifon hyn .
Datganiad o lifoedd arian parod ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025
2024/25 | Wedi’i ailddatgan (cyfeiriwch at nodyn 2) 2023/24 | ||
---|---|---|---|
Nodyn | £000oedd | £000oedd | |
Llifoedd arian parod o weithgareddau gweithredu | 16 | (980) | (1,297) |
Llifoedd arian parod o weithgareddau buddsoddi | |||
Llog a dderbyniwyd | 8 | 211 | 219 |
Prynu eiddo, offer a chyfarpar | 9 | (34) | (13) |
Prynu asedau anniriaethol | 10 | (145) | (192) |
Cymorth Grant gan Lywodraeth Cymru | 3 | 238 | 1,248 |
Ased hawl defnyddio: taliadau les | 19 | (130) | (131) |
Cynnydd/(Gostyngiad) net mewn arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod | (840) | (166) | |
Arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod ar 1 Ebrill | 5,237 | 5,403 | |
Arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod ar 31 Mawrth | 4,397 | 5,237 |
Datganiad o newidiadau i ecwiti trethdalwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025
Cronfa wrth gefn gyffredinol wedi’i hailddatgan | Cronfeydd wrth gefn dynodedig | Cyfanswm | |
---|---|---|---|
Balans ar 1 Ebrill 2023 | 4,401 | 1,134 | 5,535 |
Newidiadau i ecwiti trethdalwyr 2023/24 (wedi’i ailddatgan (cyfeiriwch at nodyn 2)) | |||
Balans ar 1 Ebrill | 4,401 | 1,134 | 5,535 |
Cyllid Llywodraeth Cymru | 1,248 | ||
Diffyg ar gyfer y flwyddyn | (1,113) | - | 135 |
Trosglwyddiadau i/(o) gronfeydd wrth gefn dynodedig (Nodyn 17) | - | (67) | (67) |
Balans ar 31 Mawrth 2024 | 4,536 | 1,067 | 5,603 |
Newidiadau i ecwiti trethdalwyr 2024/25 | |||
Balans ar 1 Ebrill | 4,536 | 1067 | 5,603 |
Cyllid Cymorth Grant Llywodraeth Cymru | 238 | - | 238 |
Diffyg ar gyfer y flwyddyn | (1,481) | - | (1,481) |
Trosglwyddiadau i/(o) gronfeydd wrth gefn dynodedig (Nodyn 17) | (300) | 269 | (31) |
Balans ar 31 Mawrth 2025 | 2,993 | 1,336 | 4,329 |
Mae’r nodiadau ar dudalennu 65-80 yn ffurfio rhan o’r cyfrifon hyn .
1. Polisïau cyfrifyddu
1.1 Confensiwn cyfrifyddu
Paratowyd y datganiadau ariannol hyn yn unol â Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FReM) 2024/25, a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF. Mae’r polisïau cyfrifyddu a gynhwysir yn y FReM yn cymhwyso Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y cânt eu haddasu neu eu dehongli ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus. Lle bydd y FReM yn caniatáu dewis o bolisi cyfrifyddu, dewiswyd y polisi cyfrifyddu y bernir mai ef yw’r mwyaf priodol i amgylchiadau penodol Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) er mwyn rhoi darlun cywir a theg. Caiff y polisïau penodol a fabwysiadwyd gan CGA eu disgrifio isod. Maent wedi’u cymhwyso’n gyson wrth ddelio ag eitemau yr ystyrir eu bod yn berthnasol i’r cyfrifon.
Safonau cyfrifyddu a gyhoeddwyd, nad ydynt mewn grym eto:
Nid yw IFRS 17 Contractau Yswiriant wedi cael ei mabwysiadu eto gan y sector cyhoeddus a’r dyddiad mabwysiadu yw 1 Ebrill 2025. Nod sylfaenol IFRS 17 yw gwneud contractau trosglwyddo risg yn debycach rhwng gwahanol endidau. Gan nad yw CGA yn dal unrhyw gontractau yswiriant, mae hyn yn annhebygol o effeithio ar ddatganiadau ariannol CGA pan gaiff ei fabwysiadu.
1.2 Incwm ffioedd cofrestru
Mae’r flwyddyn gofrestru’n mynd o 1 Ebrill tan 31 Mawrth bob blwyddyn, ac mae’r ffi’n ddyledus ar 1 Ebrill bob blwyddyn. Mae’n ofynnol i’r ffi gael ei thalu’n llawn, ni waeth ar ba ddyddiad y mae ymarferydd yn cofrestru gyda CGA mewn gwirionedd. Ni roddir gostyngiad am gofrestru am ran o’r flwyddyn.
Cafodd incwm ffioedd ei gredydu i’r Datganiad o Incwm Cynhwysfawr ar sail gronnol, gydag unrhyw ffioedd a dderbyniwyd o flaen llaw ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol yn cael eu trin fel incwm wedi’i dalu o flaen llaw a’u cofnodi yn y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol fel rhwymedigaeth.
1.3 Gwariant ar sefydlu
Caiff gwariant ar y rhaglen sefydlu ei gydnabod ar sail y tymor academaidd pan gwblhawyd y gweithgaredd hyfforddi. Caiff gwariant ac incwm grant sy’n ddyledus ar gyfer tymor y gwanwyn ei gynnwys o dan Groniadau (gwariant grant sy’n ddyledus i ysgolion) a Symiau sy’n dderbyniadwy (grant sy’n ddyledus gan Lywodraeth Cymru), gan ddibynnu ar amser y taliad a derbyn grantiau perthnasol. Weithiau, gallai tymor y gwanwyn rychwantu dwy flynedd academaidd, er nad yw hyn bob amser yn wir gan fod dyddiad diwedd tymor y gwanwyn yn cael ei bennu gan y Pasg. Am y rheswm hwn, ac fel y cymeradwywyd gan archwiliadau blaenorol, cyfrifir am dymor y gwanwyn, ni waeth pryd y mae’n gorffen, yn y flwyddyn y mae’r holl sesiynau neu fwyafrif y sesiynau yn digwydd ynddi.
1.4 Asedau anghyfredol
Diffinnir asedau anghyfredol fel unrhyw ddarn unigol o offer sy’n costio mwy na £1,000 (gan gynnwys TAW) sydd ag oes economaidd/ weithredol amcangyfrifedig o fwy na blwyddyn. Lle y bo’n fwy cyffredin ystyried cydrannau unigol fel grŵp, caiff y rhain eu trin fel asedau cyhyd â bod eu gwerth at ei gilydd yn fwy na’r trothwy cyfalafu.
Mae asedau anghyfredol wedi’u prisio ar sail cost hanesyddol ar ddiwedd y flwyddyn gan nad yw unrhyw addasiadau ailbrisio’n berthnasol ym marn CGA.
1.5 Dibrisiad
Darperir dibrisiad ar bob ased anghyfredol ar gyfraddau sydd wedi’u cyfrifo i ddileu’r gost, llai gwerth gweddilliol amcangyfrifedig pob ased, yn gyfartal dros ei oes ddefnyddiol ddisgwyliedig fel a ganlyn:
- caiff yr holl offer trydanol, gan gynnwys cyfrifiaduron ac offer swyddfa, ei ddibrisio ar sail linol dros dair blynedd
- caiff dodrefn a gosodiadau a ffitiadau eu dibrisio ar sail linol dros bum mlynedd
Ym mhob achos, bydd dibrisiad yn dechrau o'r mis ar ôl prynu.
1.6 Asedau anniriaethol
Cyfalafir gwaith datblygu meddalwedd, cynnwys y wefan a thrwyddedau sy’n costio mwy na £1,000 (gan gynnwys TAW) ac sydd ag oes economaidd/weithredol amcangyfrifedig o fwy na blwyddyn.
Darperir amorteiddiad ar asedau anniriaethol ar gyfraddau a gyfrifir i ddileu cost pob ased dros ei oes ddefnyddiol ddisgwyliedig:
- caiff y gwaith o ddatblygu'r gronfa ddata a’r wefan ei amorteiddio ar sail linol dros dair blynedd
- caiff trwyddedau meddalwedd eu hamorteiddio ar sail linol dros eu hoes
Yn y ddau achos, bydd yr amorteiddio'n dechrau o’r mis ar ôl prynu.
1.7 Grantiau’r Llywodraeth
Mae CGA yn cael incwm grant ar gyfer prosiectau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y meysydd canlynol:
- gweinyddu dyfarnu SAC
- gweinyddu trefniadau cyllido, olrhain a chofnodi ar gyfer sefydlu
- datblygu a chynnal y PDP
- cyhoeddi tystysgrifau sefydlu
- datblygu gwefan Addysgwyr Cymru
- gweithredu fel Ysgrifenyddiaeth i CACAC
- dadansoddi data
- arwain ystod o fentrau cenedlaethol a phrosiectau ymchwil ar faterion addysgu a dysgu penodol
Yn ogystal â chyllid grant ar gyfer prosiectau, mae CGA hefyd yn cael Cymorth Grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y meysydd canlynol:
- hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau addysg
Caiff yr holl grantiau a dderbynnir eu credydu i'r datganiad o incwm cynhwysfawr yn y flwyddyn y maent yn dod i law (ar sail croniadau), a chaiff unrhyw falansau sy'n weddill eu credydu i incwm cronedig neu ohiriedig ar ddiwedd y flwyddyn yn unol â hynny.
Lle y ceir cyllid mewn perthynas â phrynu asedau anghyfredol ac anniriaethol, ymdrinnir ag incwm grant fel incwm gohiriedig (Rhwymedigaeth Hirdymor), ac fe'i rhyddheir yn gymesur â gwerth yr ased a ddefnyddir bob blwyddyn.
Ystyrir cyllid Cymorth Grant fel cyllido ac fe’i credydir i’r Gronfa Wrth Gefn Gyffredinol wrth ei dderbyn.
1.8 Costau pensiwn
Mae cyflogeion blaenorol a phresennol yn cael eu cynnwys yn narpariaethau Cynlluniau Pensiwn y Gwasanaeth Sifil a ddisgrifir yn yr adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staff. Nid yw elfennau buddion diffiniedig y cynlluniau’n cael eu hariannu. Mae CGA yn cydnabod costau disgwyliedig yr elfennau hyn ar sail systematig a rhesymegol dros y cyfnod y mae’n elwa ar wasanaethau cyflogeion drwy dalu symiau i Brif Gynlluniau Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) a gyfrifir ar sail croniadau. Rhwymedigaeth y PCSPS a Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ac Eraill (CSOPS) yw talu unrhyw fuddion yn y dyfodol. O ran elfennau cyfraniadau diffiniedig y cynlluniau, mae CGA yn cydnabod y cyfraniadau sy’n daladwy am y flwyddyn.
1.9 Treth ar Werth (TAW)
Mae’r rhan fwyaf o weithgareddau CGA y tu hwnt i gwmpas TAW ac, yn gyffredinol, nid yw treth wrth werthu yn berthnasol ac ni ellir adennill treth wrth brynu ar bryniannau. Codir TAW na ellir ei hadennill i’r categori gwariant perthnasol neu caiff ei chyfalafu os yw’n ymwneud ag ased sefydlog. Pan godir treth wrth werthu neu pan ellir adennill TAW wrth brynu, caiff y symiau eu datgan heb gynnwys TAW.
1.10 Asedau hawl defnyddio
Yn unol ag IFRS 16, ar ddechrau contract, rydym yn asesu p’un a yw’r contract yn les ai peidio, neu b’un a yw’n cynnwys les ai peidio. Mae contract neu rannau o gontract sy’n trosglwyddo’r hawl i ddefnyddio ased yn gyfnewid am ystyriaeth yn cael eu dosbarthu’n lesoedd a chyfrifir amdanynt yn unol ag IFRS 16.
Mae contract yn les, neu’n cynnwys les:
- os yw’r contract yn cynnwys defnyddio ased a nodwyd
- os oes gennym yr hawl i gael yr holl fudd economaidd, i raddau helaeth, o ddefnyddio’r ased drwy gydol y cyfnod defnyddio
- os oes gennym yr hawl i ddefnyddio’r ased yn uniongyrchol
Pan gydnabyddir les mewn contract, cydnabyddwn ased hawl defnyddio a rhwymedigaeth les ar y dyddiad dechrau. Mesurir yr ased hawl defnyddio ar gost i ddechrau, sy’n cynnwys swm cychwynnol y rhwymedigaeth les wedi’i addasu ar gyfer costau uniongyrchol cychwynnol, rhagdaliadau, a chymhellion.
Mae’r ased hawl defnyddion yn cael ei ddibrisio gan ddefnyddio’r dull llinol o’r dyddiad dechrau i ddiwedd oes ddefnyddiol yr ased hawl defnyddio neu ddiwedd cyfnod y les, pa un bynnag sydd cynharaf. Pennir oes ddefnyddiol amcangyfrifedig asedau hawl defnyddio ar yr un sail ag oes ddefnyddiol asedau eiddo, offer a chyfarpar.
Mesurir y rhwymedigaeth les i ddechrau yn ôl gwerth presennol y taliadau les nad ydynt yn cael eu talu ar y dyddiad dechrau, wedi’i ddisgowntio gan ddefnyddio’r gyfradd llog sydd ymhlyg yn y les neu, os na ellir pennu’r gyfradd honno’n rhwydd, gan ddefnyddio’r gyfradd fenthyca gynyddrannol a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF.
Rydym wedi eithrio contractau ar gyfer eitemau gwerth isel sy’n costio llai na £5,000 a chontractau â chyfnod byrrach na deuddeg mis.
1.11 Rhagdaliadau
Mae CGA wedi mabwysiadu trothwy de minimis o £1,200 (cost sy’n gyfwerth â £100 bob mis) ar gyfer cydnabod rhagdaliadau. Ac eithrio ar gyfer rhagdaliadau mis llawn, bydd y tâl a amlinellwyd yn dechrau o’r mis ar ôl y taliad.
1.12 Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau a thaliadau
Mae CGA yn darparu ar gyfer yr holl rwymedigaethau cyfreithiol neu ffurfiannol na ellir eu rhagnodi o ran amser na swm ar ddyddiad y datganiad o’r sefyllfa ariannol ar sail yr amcangyfrif gorau o’r gwariant y mae ei angen i setlo’r rhwymedigaeth. Yn unol ag IAS 37, cydnabyddir darpariaethau dim ond lle bydd mantais economaidd yn debygol o gael ei throsglwyddo, a lle gellir amcangyfrif y swm yn rhesymol.
1.13 Buddsoddiadau tymor byr
Yn unol â’i bolisi ar reoli arian parod, mae CGA yn dal buddsoddiadau tymor byr, am hyd at 12 mis, ar adnau gydag un o brif fanciau’r stryd fawr.
1.14 Buddion cyflogeion
Yn ôl y gofyn, mae CGA yn cydnabod cost buddion cyflogeion, gan gynnwys:
- buddion cyflogeion tymor byr, sef ‘cost’ gwyliau blynyddol heb eu cymryd ar ddiwedd y flwyddyn
- buddion ôl-gyflogaeth, o ran buddion terfynu
1.15 Arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod
Mae swyddogaethau craidd CGA yn cael eu cyllido gan incwm o ffioedd cofrestru blynyddol statudol ymarferwyr, ac mae gweithgareddau eraill a gwblheir ar ran Llywodraeth Cymru yn cael eu cyllido gan grant. Derbynnir incwm ffioedd o flaen llaw bob blwyddyn a chaiff cymorth grant ei dynnu i lawr bob tri mis ac yna bob mis, yn ôl yr angen. Oherwydd natur anfasnachol y gweithgareddau hyn a'r ffynonellau cyllid hyn, nid yw CGA yn agored i unrhyw risg ariannol.
Cedwir ei falansau arian mewn cyfrifon banc masnachol: felly mae CGA yn agored i gyn lleied o risg â phosibl o ran cyfraddau llog. Er bod CGA yn gallu cael benthyg arian, ni fu angen iddo wneud hynny yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
1.16 Cyfnewid tramor
Mae trafodion mewn arian tramor yn cael eu newid i sterling ar y gyfradd gyfnewid ar ddyddiad y trafodyn.
2. Addasiad cyfnod blaenorol
Mae’r addasiad ar gyfer blwyddyn flaenorol yn ymwneud â gwall yn y ffordd y triniwyd incwm Cymorth Grant gan Lywodraeth Cymru yn y cyfrifon. Yn unol â’r FReM, mae Cymorth Grant yn cael ei drin fel trafodyn cyllido yn hytrach na refeniw. Yn 2023/24, cafodd cymorth grant o £1,248,000 ei gynnwys yn anghywir fel incwm grant yn y Datganiad o wariant Net Cynhwysfawr. Felly, gwnaed addasiad blwyddyn flaenorol i ddileu hyn o’r Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr ac fe’i cynhwyswyd o dan Ecwiti Trethdalwyr yn lle hynny.
Mae’r cywiriad i’r cymariaethau yn 2023/24 fel a ganlyn:
Datganiad o wariant net cynhwysfawr
Gorddatgan grant gan Lywodraeth Cymru | £000oedd |
---|---|
Yn 2023/24, fel y’i datganwyd yn flaenorol | 9,252 |
Addasiad | (1,248) |
Fel y’i datganwyd | 8,004 |
Gostyngiad o (£1,248,000) yng nghyfanswm yr incwm sy’n arwain at ddiffyg cyffredinol wedi’i ailddatgan o (£1,113,000) yn y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024. Mae’r addasiad hwn hefyd yn effeithio ar y Datganiad o Lifoedd Arian Parod, y Datganiad o Newidiadau i Ecwiti Trethdalwyr a nodyn 16 – Nodiadau i’r Datganiad Llifoedd Arian Parod.
3. Cyllid Llywodraeth Cymru
2024/25 | 2023/24 | |
---|---|---|
£000oedd | £000oedd | |
Cymorth grant a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru | 238 | 1,248 |
Swm a gredydwyd i’r gronfa wrth gefn gyffredinol | 238 | 1,248 |
Fel yr amlinellwyd yn nodyn 2, mae cymorth grant o £238,000 (£1,248,000 2023/24) yn cael ei gredydu bellach i’r Gronfa Wrth Gefn Gyffredinol wrth ei dderbyn.
4. Incwm arall
2024/25 | 2023/24 | |
---|---|---|
£000oedd | £000oedd | |
Incwm amrywiol | 65 | 27 |
Contract y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid gyda Llywodraeth Cymru | 74 | 74 |
Cyfanswm | 139 | 101 |
Mae CGA dan gontract i Lywodraeth Cymru i weinyddu a datblygu ymhellach y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Mae’r contract wedi cael ei ymestyn i fis Mawrth 2026.
5. Costau rhaglenni uniongyrchol
2024/25 | 2023/24 | |||
---|---|---|---|---|
£000oedd | £000oedd | £000oedd | £000oedd | |
CGA | LlC | Cyfanswm | Cyfanswm | |
Costau aelodau | 62 | 5 | 67 | 42 |
Costau aelodau paneli | 127 | - | 127 | 116 |
Costau’r bwrdd achredu AGA | 44 | - | 44 | 56 |
Pasbort Dysgu Proffesiynol | - | 158 | 158 | 150 |
Ysgrifenyddiaeth CACAC | - | 106 | 106 | 140 |
Hyrwyddo gyrfaoedd/ Addysgwyr Cymru | - | 121 | 121 | 194 |
Cynnal a datblygu’r gronfa ddata | 15 | 2 | 17 | 14 |
Ffioedd cyfreithiol a phroffesiynol – Priodoldeb i Ymarfer | 1,075 | - | 1,075 | 901 |
Costau cyfieithu | 18 | - | 18 | 31 |
Costau argraffu, postio, hyrwyddo a ffioedd proffesiynol | 30 | - | 30 | 33 |
Cyfanswm | 1,371 | 392 | 1,763 | 1,677 |
Mae costau aelodau paneli Priodoldeb i Ymarfer a ffioedd cyfreithiol yn uwch eleni oherwydd bod mwy o waith achos wedi cael ei gwblhau yn 2024/25. Mae costau Hyrwyddo gyrfaoedd/Addysgwyr Cymru yn is eleni oherwydd bod gwaith rheoli cyfryngau cymdeithasol yn cael ei wneud yn fewnol yn 2024/25. Roedd y gwaith hwn yn cael ei wneud trwy gontract allanol yn flaenorol yn 2023/24. Mae costau cyfieithu’n is hefyd oherwydd bod mwy o ddeunydd yn cael ei gyfieithu’n fewnol. Mae costau aelodau’n uwch eleni oherwydd y cynnydd yng nghostau a theithio a chynhaliaeth y Cadeirydd.
6. Costau rhaglenni sefydlu
Holl wariant Llywodraeth Cymru | 2024-25 | 2023-24 |
---|---|---|
£000oedd | £000oedd | |
Gweinyddu | 82 | 80 |
Gwariant grant sefydlu | 5,015 | 6,326 |
Cyfanswm | 5,097 | 6,406 |
Ar ran Llywodraeth Cymru, mae CGA yn gweinyddu cyllid sy’n gysylltiedig â sefydlu i ysgolion, consortia rhanbarthol, ac awdurdodau lleol. Mae hyn yn cynnwys cyllid i ysgolion sy’n cefnogi athrawon newydd gymhwyso (ANG) yn ystod sefydlu, yn ogystal â chyllid i gyflawni’r rolau Dilyswr Allanol a Mentor Allanol.
Ym mis Medi 2024, cyflwynodd Llywodraeth Cymru newidiadau i’r rolau Mentor Allanol a Dilyswr Allanol. Mae pob ANG sy’n ymgymryd â sefydlu bellach yn cael cymorth Mentor Sefydlu. O ran ANG sy’n cwblhau’r cyfnod sefydlu trwy waith cyflenwi o ddydd i ddydd, mae’r Mentor Sefydlu’n disodli rôl y Mentor Allanol. Mae’r Mentor Sefydlu’n cael ei dalu £400 y tymor, sy’n uwch na’r £350 y tymor yn flaenorol. Yn ogystal, cyflwynwyd rôl newydd Dilyswr Sefydlu, sy’n disodli’r rôl Dilyswr Allanol flaenorol. Mae’r Dilyswr Sefydlu’n gyfrifol am sicrhau ansawdd y broses sefydlu a chynorthwyo Mentoriaid Sefydlu. Mae’n ofynnol i Ddilyswyr Sefydlu ddilysu sampl o 50% o ANG, a thelir £400 y tymor ar gyfer y rôl hon hefyd (£350 y tymor yn flaenorol). Oherwydd bod maint y sampl yn llai, bu gostyngiad nodedig yng nghyfanswm y cyllid a ddarparwyd i gonsortia, awdurdodau lleol, ac ysgolion ar gyfer y rôl Mentor Sefydlu/Dilyswr Sefydlu.
Mae ysgolion sy’n cynorthwyo ANG yn ystod y cyfnod sefydlu yn parhau i gael £900 y tymor i ryddhau amser ANG. Yn ogystal, cynyddodd y cyllid ar gyfer rôl y Mentor Sefydlu o £350 i £400 y tymor ym mis Medi 2024. Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd hwn mewn cyllid, bu gostyngiad parhaus yn nifer yr ANG sy’n derbyn cymorth sefydlu, sydd wedi effeithio ar lefel gyffredinol y cyllid grant a dalwyd..
7. Costau gweithredu eraill
2024/25 | 2023/24 | |||
---|---|---|---|---|
£000oedd | £000oedd | £000oedd | £000oedd | |
CGA | LlC | Cyfanswm | ||
Treuliau swyddogion | 12 | - | 12 | 8 |
Hyfforddi a recriwtio | 32 | - | 32 | 32 |
Rhent ac ardrethi | 64 | - | 64 | 68 |
Taliadau gwasanaeth a chyfleustodau | 111 | - | 111 | 92 |
Ffioedd proffesiynol | 23 | - | 23 | 8 |
Yswiriant | 14 | - | 14 | 21 |
Argraffu a deunydd ysgrifennu | 4 | - | 4 | 5 |
Postio | 12 | - | 12 | 9 |
Costau cyfrifiadurol | 103 | - | 103 | 85 |
Hurio lleoliadau | 4 | - | 4 | 8 |
Ffioedd archwilio | 24 | - | 24 | 24 |
Cynnal a chadw | 5 | - | 5 | 4 |
Costau eraill | 78 | - | 78 | 60 |
Cyfanswm | 486 | - | 486 | 424 |
Mae taliadau gwasanaeth a chyfleustodau yn uwch eleni o ganlyniad i gynnydd cyffredinol mewn costau a thalu taliadau mantoli ychwanegol yn ymwneud â thaliadau gwasanaeth blynyddoedd blaenorol. Mae costau cyfrifiadurol yn uwch eleni hefyd o ganlyniad i gynnydd cyffredinol mewn taliadau trwydded, cymorth, a chynnal a chadw.
Mae ffioedd proffesiynol yn uwch eleni o ganlyniad i gynnydd mewn ffioedd cyfreithiol sy’n ofynnol at ddibenion adnoddau dynol. Mae costau eraill yn uwch o ganlyniad i fwy o waith cynnal a chadw ac atgyweirio swyddfa yn 2024/25 o gymharu â 2023/24.
8. Llog derbyniadwy
Derbyniwyd £211,393 (2023/24, £219,072) yn ystod y cyfnod mewn perthynas â chyfrifon banc CGA, gan gynnwys croniad o £6,854 (2023/24, £6,754).
9. Asedau anghyfredol
Offer swyddfa | Offer cyfrifiadurol | Dodrefn a ffitiadau | Cyfanswm | |
---|---|---|---|---|
£000oedd | £000oedd | £000oedd | £000oedd | |
Cost neu brisiad | ||||
Ar 1 Ebrill 2024 | 44 | 225 | 324 | 593 |
Ychwanegiadau | - | 29 | 5 | 34 |
Gwarediadau | - | (1) | - | (1) |
Ar 31 Mawrth 2025 | 44 | 253 | 329 | 626 |
Dibrisiad | ||||
Ar 1 Ebrill 2024 | 40 | 198 | 321 | 559 |
Tâl am y flwyddyn | 3 | 21 | 2 | 26 |
Gwarediadau | - | - | (1) | (1) |
Ar 31 Mawrth 2025 | 43 | 219 | 322 | 584 |
Gwerth Net ar Bapur ar 31 Mawrth 2025 | 1 | 34 | 7 | 42 |
Gwerth Net ar Bapur ar 1 Ebrill 2024 | 4 | 27 | 3 | 34 |
O’r Gwerth Net ar Bapur ar 31 Mawrth 2025, roedd £dim i gefnogi gweithgareddau a ariennir gan Lywodraeth Cymru (£1,400, ar 31 Mawrth 2024).
10. Asedau anniriaethol
Datblygiadau’r gronfa ddata | Gwariant datblygu | Cyfanswm | ||
---|---|---|---|---|
£000oedd | £000oedd | £000oedd | ||
Cost neu brisiad | ||||
Ar 1 Ebrill 2024 | 3,010 | - | 3,010 | |
Ychwanegiadau | 140 | 5 | 145 | |
Trosglwyddo o ddatblygu | - | - | - | |
Gwarediadau | - | - | - | |
Ar 31 Mawrth 2025 | 3,150 | 5 | 3,155 | |
Amorteiddiad | ||||
Ar 1 Ebrill 2024 | 2,362 | - | 2,362 | |
Tâl ar gyfer y flwyddyn | 383 | - | 383 | |
Gwarediadau | - | - | - | |
Ar 31 Mawrth 2025 | 2,745 | 2,745 | ||
Gwerth Net ar Bapur ar 31 Mawrth 2025 | 405 | 5 | 410 | |
Gwerth Net ar Bapur ar 1 Ebrill 2024 | 648 | - | 648 |
O’r Gwerth Net ar Bapur ar 31 Mawrth 2025, roedd £346,000 i gefnogi gweithgareddau a ariennir gan Lywodraeth Cymru (£553,000, ar 31 Mawrth 2024), yn ymwneud yn bennaf â pharhau i ddatblygu platfform Addysgwyr Cymru a’r PDP.
Ni amharwyd ar asedau anghyfredol nac anniriaethol, sydd wedi’u dangos yn unol â’u cost wedi’i dibrisio/amorteiddio ac sy’n cael eu hystyried yn ‘werth teg’.
11. Ased hawl defnyddio – les
Les swyddfa | Cyfanswm | ||
---|---|---|---|
£000oedd | £000oedd | ||
Cost neu brisiad | |||
Ar 1 Ebrill 2024 | 760 | 760 | |
Ychwanegiadau | - | - | |
Ar 31 Mawrth 2025 | 760 | 760 | |
Dibrisiad | |||
Ar 1 Ebrill 2024 | 243 | 243 | |
Tâl am y flwyddyn | 122 | 122 | |
Ar 31 Mawrth 2025 | 365 | 365 | |
Gwerth Net ar Bapur ar 31 Mawrth 2025 | 395 | 395 | |
Gwerth Net ar Bapur ar 1 Ebrill 2024 | 517 | 517 |
Daeth IFRS16: Lesoedd i rym ar 1 Ebrill 2022. Mae CGA wedi cydymffurfio â’r safon hon a chyflwynodd asedau hawl defnyddio yn unol â gofynion FReM. Yr unig ased hawl defnyddio yw’r les swyddfa ar gyfer lloriau 9 a 10 Tŷ Eastgate. Daw’r les i ben ar 30 Mehefin 2028.
12. Symiau masnach a symiau eraill derbyniadwy
31 Mawrth 2025 | 31 Mawrth 2024 | |
---|---|---|
£000oedd | £000oedd | |
Symiau sy’n ddyledus o fewn blwyddyn | ||
Symiau derbyniadwy eraill | 129 | 289 |
Rhagdaliadau | 175 | 180 |
Cyfanswm | 304 | 469 |
Mae’r gostyngiad mewn symiau derbyniadwy eraill i’w briodoli’n bennaf i amseriad a gwerth dyledwr diwedd y flwyddyn Llywodraeth Cymru.
13. Arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod
2024/25 | 2023/24 | |
---|---|---|
£000oedd | £000oedd | |
Balans ar 1 Ebrill | 5,237 | 5,403 |
Newid net mewn balansau arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod | (840) | (166) |
Balans ar 31 Mawrth |
4,397 | 5,237 |
Cadwyd balansau arian parod CGA mewn banc masnachol ar ddiwedd y flwyddyn. Ni chadwyd unrhyw falansau gyda Swyddfa Tâl-feistr Cyffredinol EF.
14. Symiau masnach a symiau taladwy eraill
31 Mawrth 2025 | 31 Mawrth 2024 | |
---|---|---|
£000oedd | £000oedd | |
Symiau sy’n ddyledus o fewn blwyddyn | ||
Ffioedd cofrestru a ragdalwyd | 723 | 762 |
Symiau taladwy eraill | 456 | 804 |
Rhwymedigaethau les hawl defnyddio | 127 | 126 |
Treth arall a nawdd cymdeithasol | 72 | 66 |
Pensiwn | 67 | 60 |
Incwm gohiriedig: grant Llywodraeth Cymru | 251 | 350 |
Croniadau | 1,608 | 975 |
Cyfanswm | 3,304 | 3,143 |
Symiau sy’n ddyledus ar ôl mwy na blwyddyn | ||
Incwm gohiriedig: grant Llywodraeth Cymru | 125 | 242 |
Rhwymedigaethau les hawl defnyddio | 293 | 420 |
Cyfanswm | 418 | 662 |
Mae croniadau’n sylweddol uwch eleni yn bennaf o ganlyniad i werth y croniad sefydlu ar ddiwedd y flwyddyn, sef £1,559,024 (cyfeiriwch at nodyn 6).
Derbyniodd CGA incwm grant gan Lywodraeth Cymru tuag at gost asedau anghyfredol. Oherwydd y bydd yr asedau hyn yn cael eu dibrisio dros eu hoes economaidd ddefnyddiol, cydnabyddir rhwymedigaeth ohiriedig ar yr adeg prynu, a ryddheir ar hyd oes yr asedau.
15. Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau a thaliadau
Cydnabyddir darpariaethau yn y datganiadau ariannol pan fydd CGA yn ystyried bod ganddo rwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol o ganlyniad i ddigwyddiad yn y gorffennol a fydd, yn ôl pob tebyg, yn arwain at drosglwyddo budd economaidd ac y gellir ei amcangyfrif yn ddibynadwy.
Adnewyddu adeiladau | Cyfanswm | |
---|---|---|
£000oedd | £000oedd | |
Balans ar 1 Ebrill | - | - |
Darparwyd yn y flwyddyn | - | - |
Rhyddhawyd yn y flwyddyn | - | - |
Balans ar 31 Mawrth | - | - |
16. Nodiadau i’r datganiad llif arian parod
Cysoni gwarged ar weithgareddau cyffredin â mewnlif arian net o weithgareddau cyffredin
2024/25 | Wedi’i ailddatgan (cyfeiriwch at nodyn 2) 2023/24 | |
---|---|---|
£000oedd | £000oedd | |
(Diffyg) ar weithgareddau cyffredin | (1,692) | (1,332) |
Dibrisiad | 26 | 68 |
Amorteiddiad | 383 | 449 |
Dibrisiad ased hawl defnyddio | 122 | 121 |
Llog ased hawl defnyddio | 4 | 6 |
Cynnydd/(Gostyngiad) mewn symiau masnach a symiau taladwy eraill | 160 | (686) |
(Cynnydd)/Gostyngiad mewn symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill | 165 | 253 |
Cynnydd/(Gostyngiad) mewn rhwymedigaeth ohiriedig | (117) | (108) |
Cynnydd/(Gostyngiad) mewn darpariaethau | - | - |
Rhyddhau i/o gronfeydd wrth gefn | (31) | (67) |
Mewnlif/(all-lif) arian net o weithgareddau cyffredin | (980) | (1,297) |
Dadansoddiad o newidiadau mewn cronfeydd net yn ystod y cyfnod
2024/25 | 2023/24 | |
---|---|---|
£000oedd | £000oedd | |
Cronfeydd net ar 1 Ebrill | 5,237 | 5,403 |
Mewnlif/(all-lif) arian net | (840) | (166) |
Cronfeydd net ar 31 Mawrth | 4,397 | 5,237 |
Cafodd yr holl falansau ar 31 Mawrth 2025 eu dal gyda banc masnachol (gan gynnwys swm o £2,503,279 a gadwyd mewn cyfrif â 95 diwrnod o rybudd), ac mewn arian parod.
17. Cronfeydd wrth gefn dynodedig
Yn unol â strategaeth ariannol CGA, mae’r cronfeydd wrth gefn dynodedig canlynol wedi cael eu sefydlu:
Cronfa wrth gefn Priodoldeb i Ymarfer
I leihau effaith amrywiad yn nifer yr achosion a atgyfeirir ar sefyllfa ariannol CGA i’r eithaf, ac i ddarparu ar gyfer costau unrhyw her gyfreithiol uwchben a thu hwnt i’r costau hynny a delir gan Yswiriant Indemniad Proffesiynol.
Cronfa wrth gefn y gronfa ddata
I ariannu amnewid y gronfa ddata Cofrestr Ymarferwyr Addysg.
Cronfa wrth gefn llety
I gefnogi costau CGA yn y dyfodol o ran ei anghenion llety.
Cronfa wrth gefn y gronfa ddata £000oedd | Cronfa wrth gefn Priodoldeb i Ymarfer £000oedd | Cronfa wrth gefn llety £000oedd | Cyfanswm £000oedd | |
---|---|---|---|---|
Balans ar 1 Ebrill | 767 | 300 | - | 1,067 |
Rhyddhau o’r cronfeydd wrth gefn | (31) | - | - | (31) |
Ychwanegu at y cronfeydd wrth gefn | - | - | 300 | 300 |
Balans ar 31 Mawrth | 736 | 300 | 300 | 1,336 |
18. Ymrwymiadau cyfalaf
Ar 31 Mawrth 2025, roedd gan CGA ymrwymiadau cyfalaf gwerth £528,315 (2023/24, £643,530). Mae hyn yn ymwneud â gwaith parhaus i uwchraddio’r gronfa ddata cofrestru a datblygu animeiddiadau i’w defnyddio fel cynnwys digidol o fewn y PDP.
19. Rhwymedigaethau Les Hawl Defnyddio
31 Mawrth 2025 | 31 Mawrth 2024 | |
---|---|---|
£000oedd | £000oedd | |
Balans ar 1 Ebrill | 546 | 671 |
Ad-daliadau | (130) | (131) |
Taliadau cyllid | 4 | 6 |
Cyfanswm | 420 | 546 |
Ymrwymiad blynyddol ar lesoedd adeiladau yn ôl blwyddyn: | ||
O fewn blwyddyn | 127 | 126 |
Rhwng blwyddyn a phum mlynedd | 293 | 420 |
Mwy na phum mlynedd | - | 31 |
293 | 420 | |
Cyfanswm | 420 | 546 |
20. Deilliannau ac offerynnau ariannol eraill
Nid oes gan CGA unrhyw fenthyciadau, ac mae’n lliniaru’r posibilrwydd o fod yn agored i risg hylifedd drwy reoli ei adnoddau.
Caiff pob ased a rhwymedigaeth ei nodi mewn arian sterling, felly nid yw’n agored i risgiau arian cyfred.
21. Trafodion â phartïon cysylltiedig
Ystyrir Llywodraeth Cymru yn barti cysylltiedig ac, yn ystod y flwyddyn, derbyniodd CGA grant a ddaeth i gyfanswm o £6,769,000 wedi’i rannu rhwng cyllid grant prosiect o £6,531,000 a chyllid Cymorth Grant o £238,000 (£9,252,000 2023/24 wedi’i rannu rhwng £8,004,000 o gyllid grant prosiect a £1,248,000 o gyllid Cymorth Grant). Mae hyn yn cynnwys balans dyledwyr ar ddiwedd y flwyddyn o £77,383, (£253,514 2023/24) ar gyfer swm terfynol y grant a dynnir i lawr ar gyfer 2024/25, a gyflwynir i Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin. Yn ogystal, yn unol â nodyn 4, mae gan CGA gontract gyda Llywodraeth Cymru i weinyddu’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru a’i ddatblygu ymhellach. Yn ystod y flwyddyn, derbyniodd CGA £74,380 (£73,791 2023/24) gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith hwn dan gontract. Ni fu unrhyw drafodion gwariant gyda Llywodraeth Cymru yn ystod 2024/25 (£dim 2023/24).
Caiff aelodau o'r Cyngor hefyd fod â swyddogaethau mewn sefydliadau y mae CGA yn ymdrin â nhw. Fodd bynnag, nid oes gan aelodau o'r Cyngor unrhyw ddylanwad ar y trafodion hyn gan eu bod yn digwydd yn rhan o weithgareddau arferol CGA.
Yn ystod 2024/25, nid oedd aelodau’r Cyngor, uwch swyddogion CGA, nac unrhyw aelodau o’u teuluoedd yn gysylltiedig ag unrhyw drafodion gyda CGA, yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol, ar wahân i dalu treuliau a chyflogau fel arfer.
22. Rhwymedigaethau digwyddiadol
Nid oes unrhyw rwymedigaethau digwyddiadol (2023/24, £dim).
23. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd
Nid oes unrhyw ddigwyddiadau i’w hadrodd ar ddyddiad llofnodi’r Cyfrifon hyn.
Awdurdododd y Prif Weithredwr y Cyfrifon hyn i’w cyhoeddi ar 10 Gorffennaf 2025.