CGA / EWC

About us banner
Datganiad ar adran 6 – y ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau
Datganiad ar adran 6 – y ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn cydnabod bod bioamrywiaeth dan bwysau mewn sawl ffordd. Rydym wedi ymrwymo i gyflawni ein dyletswydd o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, i geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth, cyn belled ag y bo’n bosibl o fewn cylch gorchwyl ein swyddogaethau a, thrwy wneud hynny, hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau. Mae ystyried bioamrywiaeth ac ecosystemau wedi’i ymsefydlu ym mhrosesau cynllunio busnes a gweithgareddau dydd i ddydd CGA.

Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu Adfer Natur (NRAP) sy’n amlygu chwe amcan i fynd i’r afael â’r materion sy’n cyfrannu at ddirywiad bioamrywiaeth yng Nghymru, a’i helpu i adfer.

Fel sefydliad sy’n meddiannu adeilad swyddfa fel tenant yn unig (h.y. nid ydym yn berchen ar eiddo na thir, nac yn eu rheoli) ac nad yw ein swyddogaethau’n uniongyrchol gysylltiedig â bioamrywiaeth a/neu reoli tir, mae Llywodraeth Cymru wedi categoreiddio CGA fel sefydliad Grŵp 1 at ddibenion y ddyletswydd. Ein nod yw cefnogi tri amcan canlynol NRAP trwy’r camau gweithredu a’r mesurau a amlinellir yn y tabl isod:

Amcan 1 NRAP

Ennyn a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn i fioamrywiaeth fwrw gwreiddiau yn y broses benderfynu ar bob lefel

Ymsefydlu camau gweithredu bioamrywiaeth ar draws swyddogaethau CGA:

  • gwneir ymrwymiadau i leihau effaith y sefydliad ar yr amgylchedd, ac fe’u cyhoeddir yn ein Hadroddiad Blynyddol CGA
  • mae’r cyfleoedd i gymryd camau bioamrywiaeth yn CGA yn gyfyngedig, ond lle y cymerir camau (fel y manylir isod), gwneir hynny trwy fusnes dydd i ddydd y swyddogaeth Gwasanaethau Corfforaethol

Cynyddu ymwybyddiaeth ar draws CGA:

  • cynigir cyfleoedd hyfforddi gwirfoddol ar fioamrywiaeth yn rhan o raglen hyfforddi staff cyfan CGA
  • rydym yn darparu gwybodaeth sy’n amlygu pwysigrwydd a gwerth bioamrywiaeth i’r staff yn rhan o’r rhaglen lles staff

Amcan 4 NRAP

Mynd i’r afael â’r prif bwysau ar rywogaethau a chynefinoedd

Mynd i’r afael â’r prif bwysau:

  • rydym yn cydymffurfio gyda Gofynion Rheoliadau Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023
  • rydym yn lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu adnoddau, lle y bo’n bosibl e.e. trwy ailgylchu gwastraff yn briodol, defnyddio cwpanau gwydr yn lle rhai plastig tafladwy, rhoi offer swyddfa diangen i achosion elusennol, defnyddio cynhyrchion wedi’u hailgylchu ac annog defnyddio cyn lleied o ddeunydd ysgrifennu â phosibl.
  • rydym yn ceisio lliniaru’r newid yn yr hinsawdd, defnyddio llai o ynni a chynyddu datgarboneiddio e.e. dechrau gweithio hyblyg, defnyddio goleuadau sy’n synhwyro symudiad, anfon cyfathrebiadau allanol trwy e-bost, annog telegynadledda a, phan fydd angen teithio, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, lle bynnag y bo’n bosibl.
  • mae’n ofynnol i gyflenwyr ddefnyddio arferion rheoli cynaliadwy a chynhyrchion ecogyfeillgar yn rhan o broses gaffael CGA

Defnyddio datrysiadau sy’n fioamrywiol ac wedi’u seilio ar natur frodorol

  • nid yw hyn yn berthnasol i amgylchedd swyddfa CGA.

Amcan 6 NRAP

Rhoi fframwaith llywodraethu a chymorth ar waith i gyflawni’r amcanion

Sicrhau prosesau llywodraethu ar gyfer bioamrywiaeth o fewn CGA:

  • mae Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol CGA yn gyfrifol am sicrhau bod camau gweithredu a mesurau bioamrywiaeth yn cael eu cyflawni fel y manylwyd, a datblygu mesurau ychwanegol, lle bynnag y bo’n bosibl
  • mae’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yn monitro ac yn adolygu i ba raddau yr ydym yn cydymffurfio â’n dyletswydd fioamrywiaeth bob blwyddyn

Darparu capasiti ar gyfer bioamrywiaeth:

  • anogir a chefnogir staff i gymryd rhan mewn camau gweithredu bioamrywiaeth trwy Bolisi Gwirfoddoli CGA

Cefnogi camau gweithredu bioamrywiaeth trwy bartneriaethau:

  • ni allwn ddarparu cyllid, ond rydym yn cefnogi camau gweithredu bioamrywiaeth gan ei fod yn annog staff i gymryd rhan trwy ei Bolisi Gwirfoddoli

Adolygu

Byddwn yn adolygu ac yn adrodd ar y camau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi amcanion NRAP a chyflawni ein dyletswydd bob blwyddyn, yn rhan o’n rhaglen cynllunio strategol a gweithredol. Trwy wneud hynny, byddwn yn ceisio datblygu camau ychwanegol y gallwn eu cymryd i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau.