Mae Cyngor Gweithlu Addysg (CGA) yn caffael nwyddau a gwasanaethau amrywiol i'w defnyddio wrth gyflawni ei swyddogaethau, ac yn anelu at gyflawni gwerth am arian mewn pob caffaeliad. Mae'r gweithdrefnau ar gyfer caffael i'w gweld yn y Llawlyfr Cyllid.
Rydym yn cynnal ein proses gaffael yn unol â Rheoleiddiadau Cytundebau Cyhoeddus y DU a Chyfarwyddebau Caffael Cyhoeddus yr UE.
Trothwyon
Mae'r Llawlyfr Cyllid yn nodi'r trothwyon sy'n penderfynu'r llwybr caffael priodol. Ac eithrio pan fydd gweithredu caffael unigol yn anochel, mae caffael nwyddau/gwasanaethau gwerth rhwng £5,000 a £25,000 yn seiliedig ar sicrhau tri dyfynbris ysgrifenedig gan gyflenwyr, gyda chaffael gwerth dros £25,000 yn dilyn gweithdrefn ffurfiol (pob gwerth, gan gynnwys TAW). Gall hyn gynnwys:
- y defnydd o fframwaith a drafodwyd yn ganolog neu Wasanaethau Masnachol y Goron
- tendro cytundebau felly ar GwerthwchiGymru, sef porth caffael Llywodraeth Cymru. Mae CGA wedi ei gofrestru fel prynwr ar GwerthwchiGymru, a bydd yn hysbysebu gwahoddiadau i dendr yma. Os nad yw cyflogwr wedi ei gofrestru â GwerthwchiGymru, gallant gofrestru yma
Mae cyfrifo'r trothwy yn seiliedig ar gaffael y nwydd/gwasanaeth, ac eithrio e.e. costau sefydlog, megis tâl post.
Cydraddoldeb
Fel corff cyhoeddus yng Nghymru, mae CGA yn ymrwymedig i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal, a meithrin cysylltiadau da gan ystyried y naw nodwedd warchodedig:
- oedran
- anabledd
- newid rhyw
- priodas a phartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- crefydd neu gred (neu ddiffyg cred)
- hil - yn cynnwys tarddiad ethnig neu genedlaethol, lliw, neu genedligrwydd
- rhyw
- cyfeiriadedd rhywiol
Dylai cyflenwyr ystyried yr ymrwymiad hwn yn yr holl drafodion gyda CGA.
Iaith Gymraeg
Yn yr un modd, mae CGA hefyd yn ymrwymedig i'r iaith Gymraeg, gan drin y ddwy iaith yn gyfartal. Gellir cynnal pob gweithgaredd caffael yn Gymraeg neu Saesneg, yn amodol ar ddewis datganedig y tendrwr.
Diogelu data
Rhaid i bob contractwr neu gontractwyr posibl gydymffurfio â rheolau'r EWC, o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.