CGA / EWC

Registration banner
Gwybodaeth am gofrestru i gyflogwyr: ymarferwyr addysg oedolion
Gwybodaeth am gofrestru i gyflogwyr: ymarferwyr addysg oedolion

Mae rheoliadau’n amodi y dylai darparwyr addysg oedolion yn y gymuned sicrhau bod ymarferwyr sy’n darparu addysg mewn, neu ar gyfer, darparwr addysg oedolion yn y gymuned, gofrestru gyda CGA cyn iddynt ddechrau gweithio.

Mewn deddfwriaeth, ystyr darparwr addysg oedolion yn y gymuned yw darparwr (heblaw ysgol, sefydliad addysg bellach neu sefydliad addysg uwch) addysg bellach a hyfforddiant i oedolion sydd wedi’i leoli yn y gymuned ac sy’n cael ei ariannu neu, fel arall, ei ddarparu gan awdurdod lleol, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, neu Weinidogion Cymru. Mewn deddfwriaeth, ystyr ymarferydd addysg oedolion yw:

  1. unigolyn sy’n darparu addysg bellach a hyfforddiant i oedolion (pobl 18 oed a hŷn) ar gyfer, neu ar ran, darparwr addysg oedolion yn y gymuned ac sy’n meddu ar o leiaf un o’r cymwysterau a ddangosir yn Atodiad A, neu sydd â chymhwyster a ddyfarnwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig nad yw’n sylweddol wahanol, ym marn Gweinidogion Cymru, i’r  cymwysterau a restrir yn yr Atodlen (Atodiad A)
  2. unigolyn sy’n darparu addysg bellach a hyfforddiant i oedolion (pobl 18 oed a hŷn) ar gyfer, neu ar ran, darparwr addysg oedolion yn y gymuned ac sy’n gweithio tuag at gymhwyster yn yr Atodlen (Atodiad A) . Gall weithio fel ymarferydd oedolion am gyfnod nad yw’n hwy na:
    1. thair blynedd o’r dyddiad pan ddechreuodd weithio tuag at y cymhwyster ac yntau mewn cyflogaeth amser llawn, neu
    2. bum mlynedd o’r dyddiad pan ddechreuodd weithio tuag at y cymhwyster ac yntau mewn cyflogaeth ran-amser

Os nad yw’r ymarferydd yn cyflawni’r cymhwyster gofynnol o fewn yr amserlen hon, ni fydd yn gymwys mwyach i gofrestru gyda CGA fel ymarferydd addysg oedolion.

Mae ymarferwyr addysg oedolion, sydd ag un o’r cymwysterau a restrir ar gyfer athrawon addysg bellach (Atodlen 6 i Reoliadau 2015) , yn gymwys i gofrestru yng nghategori’r ymarferydd addysg oedolion.

Nid yw’n ofynnol i wirfoddolwyr, na phobl sy’n darparu hyfforddiant yn gysylltiedig â phroffesiwn a hynny ar sail dros dro neu’n achlysurol, ac sy’n meddu ar y cymwysterau neu’r profiad angenrheidiol i ymarfer yn y proffesiwn hwnnw, gofrestru gyda CGA.