CGA / EWC

Induction banner
Canllawiau cyllid sefydlu
Canllawiau cyllid sefydlu

 

Ar ddechrau’r cyfnod sefydlu

Mae’n rhaid i’r ANG gyflwyno’r ffurflen hysbysu sefydlu fel athro cyflenwi byrdymor i ni o fewn 10 niwrnod gwaith o ymgymryd â’r sesiwn gyntaf o waith cyflenwi. Mae’n rhaid llenwi pob rhan o’r ffurflen, a’i chyflwyno i This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Os bydd y cyfnod sefydlu cyfan yn cael ei gwblhau trwy gyflenwi byrdymor, heb unrhyw seibiannau o’r proffesiwn neu newid i gwblhau’r cyfnod sefydlu yn ystod cyflogaeth reolaidd, dim ond un ffurflen hysbysu athro cyflenwi byrdymor y bydd angen ei chyflwyno.

Os bydd yr ANG yn cael seibiant o’r proffesiwn, neu’n newid rhwng cwblhau’r cyfnod sefydlu yn ystod cyflogaeth reolaidd a chyflenwi byrdymor, bydd rhaid cyflwyno ffurflen hysbysu newydd o fewn 10 niwrnod gwaith o ddechrau pob cyfnod sefydlu.

Pan fyddwn yn derbyn y ffurflen hysbysu, byddwn yn:

  • gwirio bod gan yr ANG statws athro cymwysedig (SAC) a’i fod wedi’i gofrestru gyda ni yn y categori athro ysgol (ni all unrhyw gyfnodau cyflogaeth a gafwyd cyn cofrestru yn y categori cywir gyfrif tuag at sefydlu)
  • gwirio nad yw’r ANG wedi’i eithrio rhag y gofyniad i gwblhau cyfnod sefydlu, neu ei fod eisoes wedi cwblhau’r cyfnod sefydlu
  • gweithio gyda’r ALl/consortiwm rhanbarthol i neilltuo MS. Pan fydd wedi’i neilltuo, gellir gweld ei enw trwy gyfrif FyCGA yr ANG

Bydd ffurflenni hysbysu’n cael eu prosesu o fewn 25 niwrnod gwaith o dderbyn gwybodaeth gyflawn. Pan fyddwn wedi derbyn a phrosesu’r ffurflen, anfonir neges e-bost at yr ANG. Byddwn hefyd yn darparu manylion am y camau y bydd angen i’r ANG eu cymryd i gofnodi ei sesiynau cyflenwi byrdymor.

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth a ddarparwyd ar y ffurflen hysbysu gyda’r cydlynydd sefydlu yn yr ALl/consortia rhanbarthol, sef y CP ar gyfer sefydlu.