CGA / EWC

Induction banner
Canllawiau cyllid sefydlu
Canllawiau cyllid sefydlu

 

Sefydlu ar gyfer athrawon cyflenwi byrdymor

Mae’r wybodaeth yn yr adran hon yn berthnasol i ANGau sy’n ymgymryd â sefydlu trwy waith cyflenwi byrdymor ad hoc, ac mae’n sicrhau:

  • ein bod yn casglu, coladu, a rhannu data cychwynnol gyda’r holl bartïon sy’n ymwneud â chyfnod sefydlu’r ANG
  • bod cofnod cywir canolog o sesiynau a gwblhawyd gan ANGau sy’n ymgymryd â sefydlu tra’u bod yn gweithio fel athro cyflenwi byrdymor yn cael ei gynnal
  • bod MS yn cael ei neilltuo i gefnogi’r ANG
  • bod yr holl bartïon perthnasol yn gallu cael at broffil sefydlu ar-lein yr ANG

Os na fyddwn yn derbyn y ffurflen hysbysu athro cyflenwi byrdymor:

  • ni fydd partïon perthnasol yn gallu cael at broffil sefydlu ar-lein yr ANG
  • ni fydd CGA yn gallu cynnal cofnod cywir o’r sesiynau sefydlu a gwblhawyd, a allai gael effaith niweidiol ar gwblhau’r cyfnod sefydlu

Os bydd cyfnod o waith cyflenwi byrdymor yn dod yn drefniant mwy rheolaidd neu dymor hwy, ni waeth p’un a yw’r gyflogaeth ar sail gyflenwi o hyd, mae gan yr ysgol rwymedigaeth i ddarparu cymorth sefydlu i’r ANG. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflenwi hirdymor fel lleoliad o 11 diwrnod yn olynol neu fwy mewn un lleoliad.