CGA / EWC

Induction banner
Canllawiau cyllid sefydlu
Canllawiau cyllid sefydlu

 

Hawlio cyllid sefydlu

Ar ddiwedd pob tymor academaidd (neu’n gynt os bydd cyflogaeth yr ANG yn dod i ben), mae’n rhaid cyflwyno’r ffurflen hawlio cyllid sefydlu i ni. Wrth lenwi’r ffurflen, gwnewch yn siŵr:

  • fod pob rhan o’r ffurflen yn cael ei llenwi’n gywir ac yn llawn, gan roi gwybodaeth am yr union sesiynau yn adran tri y ffurflen gan y bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo’r cyllid sy’n ofynnol
  • bod y datganiad wedi cael ei lofnodi gan y pennaeth (yn absenoldeb y pennaeth, mae’n rhaid i’r ffurflen gael ei llofnodi gan aelod o’r uwch dîm arweinyddiaeth), yr MS, a’r ANG. Os cyflwynir y ffurflen trwy e-bost, dylid copïo’r holl bartïon yn y neges e-bost
  • bod ffurflenni wedi’u llenwi’n cael eu hanfon trwy e-bost at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Prosesir ffurflenni hawlio cyllid o fewn 25 niwrnod gwaith o dderbyn gwybodaeth gyflawn. Os na dderbynnir ffurflenni erbyn ein dyddiadau cau penodedig, ni allwn ryddhau cyllid i ysgolion ar gyfer cymorth sefydlu a ddarparwyd.

Pan fydd y ffurflen wedi’i phrosesu, byddwn yn rhyddhau cyllid i’r ysgol, ac yn diweddaru cofnod yr ANG â nifer y sesiynau a gwblhawyd yn ystod y tymor. Bydd gwybodaeth am nifer y sesiynau a gwblhawyd gan yr ANG yn cael ei rhannu gyda’r cydlynydd sefydlu yn yr ALl/consortia rhanbarthol, sef y CP ar gyfer sefydlu.

Cyfrifo cyllid a dulliau talu

Lefel y cyllid yw £3,900 fesul ANG, fesul cyfnod sefydlu. Mae ysgolion yn cael cyllid, gan Lywodraeth Cymru, i:

  • gynorthwyo i ddarparu hawl statudol yr ANG i ostyngiad 10% yn ei amserlen (yn ychwanegol at ei amser Cynllunio, Paratoi ac Asesu (CPA))
  • rhyddhau MSau i roi cymorth sefydlu dydd i ddydd priodol i ANGau ac i gwblhau adrannau penodol o broffil sefydlu ar-lein yr ANGau

Caiff cyllid ei ryddhau yn ôl-weithredol ar ddiwedd pob tymor academaidd yr ymgymerodd yr ANG gyfnod sefydlu ynddo, a chaiff ei ryddhau ni waeth faint o sesiynau a gwblhaodd yr ANG yn ystod y tymor. Cyfrifir cyllid fel a ganlyn:

  • os bydd yr ANG yn cwblhau tymor llawn, ar sail amser llawn, bydd yr ysgol yn cael taliad o £1,300
  • os bydd yr ANG yn dechrau cyfnod sefydlu ar adeg hanner tymor ar sail amser llawn, bydd yr ysgol yn cael taliad o £650
  • os bydd yr ANG yn dechrau cyfnod sefydlu ar unrhyw adeg arall yn ystod y tymor academaidd, bydd y cyllid sydd i’w ryddhau yn cael ei gyfrifo fel ‘£3,900/380 sesiynau’ x ‘nifer y sesiynau a gwblhawyd yn ystod y tymor’

Os cyflwynir y ffurflen hawlio cyllid ac unrhyw wybodaeth ategol ychwanegol o fewn y graddfeydd amser sy’n ofynnol, bydd cyllid yn cael ei ryddhau ni waeth am gynnydd yr athro yn ystod y cyfnod sefydlu.

Bydd y dull a ddefnyddiwn i ryddhau cyllid sefydlu yn dibynnu ar statws cyfrif cyllideb yr ysgol:

  • os yw’r ysgol yn ‘ysgol heb lyfr siec’, byddwn yn rhyddhau cyllid i Adran Gyllid yr ALl a fydd yn ei ddyrannu i gyllideb yr ysgol
  • os yw’r ysgol yn ‘ysgol â llyfr siec’, byddwn yn rhyddhau cyllid i’r ysgol trwy BACS (os gwneir taliad yn uniongyrchol i’r ysgol, ni ddylid ei wneud i gyfrif cronfa breifat yr ysgol)
  • ni fydd cyllid yn cael ei dalu’n uniongyrchol i unigolion

Byddwn yn anfon neges e-bost at yr ysgol pan fydd cyllid wedi cael ei ryddhau.

Amgylchiadau pan na fydd cyllid yn cael ei ryddhau

Os na dderbynnir y ffurflen hawlio erbyn ein dyddiadau cau penodedig, ni allwn ryddhau cyllid i’r ysgol ar gyfer cymorth sefydlu a ddarparwyd.

Ni allwn ryddhau cyllid ychwaith os nad yw’r ANG yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd i ymgymryd â sefydlu, sy’n cynnwys cofrestru gyda ni. Ni all unrhyw gyfnodau sefydlu yr ymgymerir â nhw tra nad yw’r ANG wedi’i gofrestru yn y categori athro ysgol gyfrif tuag at sefydlu, ac ni fyddant yn cael eu hariannu.