CGA / EWC

Induction banner
Canllawiau cyllid sefydlu
Canllawiau cyllid sefydlu

 

Ar ddechrau’r cyfnod sefydlu

Mae’n rhaid i’r ffurflen hysbysu sefydlu gael ei chyflwyno i ni o fewn 10 niwrnod gwaith o’r dyddiad pan fo’r ANG yn dechrau gweithio yn yr ysgol. Wrth lenwi’r ffurflen, gwnewch yn siŵr:

  • fod yr holl adrannau’n cael eu cwblhau’n llawn
  • bod manylion yr MS a fydd yn rhoi’r cymorth sefydlu dydd i ddydd priodol i’r ANG, ac a fydd hefyd yn gyfrifol am gwblhau’r adran benodol o’r proffil sefydlu ar-lein, yn cael eu darparu
  • bod y pennaeth, yr MS, a’r ANG wedi llofnodi’r datganiad (os cyflwynir y ffurflen trwy e-bost, dylid copïo’r holl bartïon yn y neges e-bost)
  • bod ffurflenni wedi’u llenwi’n cael eu hanfon trwy e-bost at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Os bydd yr ANG yn cael ei gyflogi yn yr un ysgol ar hyd ei gyfnod sefydlu, heb unrhyw seibiannau cyflogaeth, dim ond un ffurflen hysbysu sefydlu y bydd angen ei chyflwyno ar ddechrau’r cyfnod sefydlu.

Os bydd yr ANG yn newid ysgolion, neu’n cael seibiant cyflogaeth, bydd rhaid cyflwyno ffurflen hysbysu sefydlu newydd i ni o fewn 10 niwrnod gwaith o ddechrau pob cyfnod sefydlu. Fel yr amlinellir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru, mae’n rhaid i bob cyfnod cyflogaeth o un sesiwn ysgol neu fwy gyfrif tuag at sefydlu. Felly, yn dibynnu ar ba bryd y mae’r ANG yn dechrau gweithio yn yr ysgol, fe allai’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen hysbysu fod unrhyw bryd yn ystod tymor academaidd.

Pan fyddwn yn derbyn y ffurflen hysbysu, byddwn yn:

  • gwirio bod gan yr ANG statws athro cymwysedig (SAC) a’i fod wedi’i gofrestru gyda ni yn y categori athro ysgol (ni all unrhyw gyfnodau cyflogaeth a gafwyd cyn cofrestru yn y categori cywir gyfrif tuag at sefydlu)
  • gwirio nad yw’r ANG wedi’i eithrio rhag y gofyniad i gwblhau cyfnod sefydlu, neu ei fod eisoes wedi cwblhau’r cyfnod sefydlu
  • gwirio a oes gan yr MS a gofnodwyd ar y ffurflen gyfrif ar-lein gyda ni er mwyn gallu cael at broffil sefydlu ar-lein yr ANG (os bydd arno angen cyfrif, byddwn yn creu un iddo)

Byddwn yn prosesu ffurflenni hysbysu o fewn 25 niwrnod gwaith o dderbyn gwybodaeth gyflawn. Pan fydd y ffurflen wedi’i phrosesu, bydd neges e-bost yn cael ei hanfon at yr ANG a’r MS, gyda chopi at y pennaeth. Os bydd unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd ar y ffurflen hysbysu yn ystod cyfnod sefydlu’r ANG, rhowch wybod i ni ar unwaith.

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth a ddarparwyd ar y ffurflen hysbysu gyda’r cydlynydd sefydlu yn yr ALl/consortia rhanbarthol, sef y CP ar gyfer sefydlu.