CGA / EWC

Induction banner
Canllawiau cyllid sefydlu
Canllawiau cyllid sefydlu

 

ANGau sy’n ymgymryd â sefydlu ar sail amser llawn, rhan-amser, neu gyflenwi hirdymor

Os yw’r ANG yn ymgymryd â sefydlu tra’i fod mewn cyflogaeth reolaidd, ni waeth a yw’r gyflogaeth ar sail barhaol, dros dro, neu gyflenwi, mae gan yr ysgol rwymedigaeth statudol i ddarparu cymorth sefydlu i’r ANG.

Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth i ysgolion sy’n cefnogi ANG ac yn sicrhau:

  • ein bod yn casglu, coladu, a rhannu data cychwynnol gyda’r holl bartïon sy’n gysylltiedig â chyfnod sefydlu’r ANG
  • bod yr holl bartïon perthnasol yn gallu cael at broffil sefydlu ar-lein yr ANG
  • bod ysgolion yn gallu cael at gyllid sefydlu
  • bod data cywir yn cael ei gofnodi o ran nifer y sesiynau a gwblhawyd gan yr ANG

Os na fydd y ffurflen hysbysu’n cael ei chyflwyno:

  • bydd yr ysgol yn colli cyllid sefydlu
  • ni fydd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn gallu cynnal cofnod cywir o’r sesiynau sefydlu a gwblhawyd, a allai gael effaith niweidiol ar gwblhau’r cyfnod sefydlu
  • ni fydd partïon perthnasol yn gallu cael at broffil sefydlu ar-lein yr ANG