Heddiw (15 Gorffennaf 2025), mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei gyfres o adroddiadau blynyddol, gan gynnwys ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025.
Mae’r adroddiad, a osodwyd gerbron y Senedd ar 14 Gorffennaf 2025, yn dangos blwyddyn arall o gyflawni effeithiol iawn ar gyfer y rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol. Mae hefyd yn cynnwys cyfrifon manwl ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 a archwiliwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gafodd farn archwilio ddiamod.
Mae cyflawniadau allweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys:
- prosesu mwy na 19,000 o geisiadau newydd ar gyfer cofrestru – y nifer uchaf ers iddo gychwyn
- cynnal 284 o achosion priodoldeb i ymarfer i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc a chynnal ffydd y cyhoedd
- cyflwyno mwy na 2,600 o ddyfarniadau yn ymwneud â statws athro cymwysedig a sefydlu statudol
- darparu 300 o sesiynau cymorth a chyflwyniadau i gofrestreion a rhanddeiliaid
- hysbysebu mwy na 6,400 o swyddi addysg trwy Addysgwyr Cymru
- cyfrannu at fwy na 40 o grwpiau llywio cenedlaethol ac ymateb i 17 o ymgynghoriadau a galwadau am dystiolaeth
Yn 2024/25, estynnwyd cylch gwaith CGA ymhellach hefyd trwy gyflwyno ymarferwyr addysg oedolion, a phenaethiaid neu uwch arweinwyr (sy’n rheoli addysgu a dysgu yn uniongyrchol) mewn sefydliadau Addysg Bellach i’r Gofrestr, yn dilyn deddfwriaeth newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Er gwaethaf pwysau ar gyllid, parhaodd CGA i ymrwymo i sefydlogrwydd ariannol a gwerth am arian, gan ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i wrthbwyso gostyngiad yng nghymhorthdal ffioedd Llywodraeth Cymru i gofrestreion, ac felly eu gwarchod rhag costau cofrestru uwch.
Dywedodd Lisa Winstone, Prif Weithredwr dros dro newydd CGA, “Mae adroddiad eleni’n adlewyrchu ehangder cynyddol ein rôl reoleiddiol, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad parhaus i ddiogelu’r cyhoedd a chynnal safonau uchel ar draws y gweithlu addysg yng Nghymru.
“Hoffwn ddiolch o galon i’n holl staff, cofrestreion, a rhanddeiliaid am eu cefnogaeth a’u hymroddiad parhaus.”
Cyhoeddwyd Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2024/25 ochr yn ochr ag Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2024/25, Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2024/25, ac Adroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer 2024/25 CGA.
Mae pob un yn nodi blwyddyn lawn olaf y Prif Weithredwr, Hayden Llewellyn, yn ei swydd a fydd yn ymddeol ym mis Awst 2025 ar ôl 25 mlynedd o wasanaeth.