Mae ein digwyddiad hynod boblogaidd Siarad yn Broffesiynol yn dychwelyd yr hydref hwn yn ei slot newydd ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn rhithwir ddydd Mercher, 21 Hydref 2026.
Caiff Cymru ei chydnabod yn rhyngwladol am ei hymrwymiad i hawliau plant, gyda gweledigaeth i bob plentyn a pherson ifanc gael ei glywed, ei barchu, a’i fod yn gallu ffynnu. I gyflawni’r weledigaeth honno, mae angen i’r rheiny sy’n gweithio ar draws y sector addysg a gwaith ieuenctid ddeall eu profiadau a sicrhau bod eu hawliau’n cael eu cynnal yn ymarferol.
Gyda hyn mewn golwg, rydym yn falch o gyhoeddi mai ein prif siaradwr yw Rocio Cifuentes MBE, Comisiynydd Plant Cymru. Bydd Rocio yn archwilio’r hyn y mae dysgwyr a phobl ifanc ledled Cymru yn ei ddweud wrthym ni am eu profiadau o addysg, a beth mae hyn yn ei olygu i’r rheiny sy’n gweithio gyda nhw, ac yn eu cefnogi.
Trwy ddefnyddio tystiolaeth a gasglwyd yn uniongyrchol gan bobl ifanc, bydd hi’n trafod rôl swydd Comisiynydd Plant Cymru, a phwysigrwydd dull yn seiliedig ar hawliau ar gyfer addysg a gwaith ieuenctid. Bydd hi hefyd yn myfyrio ar yr heriau sy’n wynebu dysgwyr heddiw, ac yn ystyried y camau ymarferol y gall gweithwyr proffesiynol eu cymryd i gynnal a hyrwyddo hawliau plant yn eu gwaith bob dydd.
Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd Prif Weithredwr CGA, Lisa Winstone, “Mae Siarad yn Broffesiynol ynglŷn â dod â lleisiau dylanwadol a safbwyntiau ffres i’r gweithlu addysg yng Nghymru.
Mae rôl Rocio yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr iddi ar brofiadau plant a phobl ifanc. Rydym ni’n falch o allu darparu’r cyfle hwn ar gyfer cofrestreion a phobl eraill sy’n gweithio ym myd addysg i glywed yn uniongyrchol ganddi a chymryd rhan yn y drafodaeth bwysig hon.”
Mae’r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer yr holl gofrestreion a bydd hefyd o ddiddordeb i’r sector addysg ehangach, yn ogystal â’r rheiny sydd â diddordeb mewn hawliau plant.
