CGA / EWC

About us banner
Lansio cyfres newydd o fideos astudiaethau achos yn arddangos y PDP
Lansio cyfres newydd o fideos astudiaethau achos yn arddangos y PDP

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi creu cyfres o fideos astudiaethau achos yn dangos sut mae’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) yn helpu sefydliadau yng Nghymru i gefnogi datblygiad proffesiynol eu staff.

Mae’r casgliad o bedwar fideo (sydd ar gael gydag is-deitlau Cymraeg a Saesneg) yn cynnwys cyfraniadau gan amrywiaeth o sefydliadau addysgol, yn arddangos hyblygrwydd y PDP i addasu i ofynion unigryw unrhyw sefydliad.

Mae’r PDP yn e-bortffolio ar-lein, sy’n gwbl ddwyieithog, ac wedi ei ddylunio i wella datblygiad proffesiynol staff trwy eu cynorthwyo i gipio, myfyrio ar, rhannu a chynllunio’u profiadau proffesiynol a’u dysgu.

Mae am ddim i sefydliadau perthnasol yng Nghymru, heb gontractay, ac mae’n cynnig opsiwn hyblyg ar adeg pan mae cyllidebau dan bwysau.

Wrth gyhoeddi’r gyfres o fideos, dywedodd Bethan Holliday-Stacey, Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi, “Mae’r PDP yn adnodd blaenllaw o’r radd flaenaf sy’n cynnig cyfoeth o gyfleoedd i sefydliadau helpu grymuso’u staff i gymryd perchnogaeth ar eu dysgu a’u datblygiad proffesiynol.

“Ac yntau’n gyfan gwbl ar-lein, mae’n ei gwneud hi’n haws nag erioed i hwyluso cydweithredu ac adborth effeithiol gyda staff. At hynny, mae’n broses syml ar gyfer storio a chael at ddogfennau, a fydd yn dileu’r angen am ffeilio papurau a dogfennau wedi’u e-bostio.

“Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn gweithio gyda ni, neu os hoffent arddangosiad, cysylltwch.”

Gall y PDP gael ei deilwra i fodloni anghenion penodol unrhyw sefydliad, gyda’r opsiwn i ddylunio templedi ac adroddiadau pwrpasol. Hefyd, mae’n cynorthwyo staff i ymgysylltu â’u safonau proffesiynol, gan ei wneud yn adnodd amhrisiadwy i bobl sy’n gweithio yng Nghymru.

I ddarganfod mwy am sut gall y PDP fod o fudd i’ch sefydliad chi, ewch i wefan CGA, neu e-bostiwch This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..