Rydym newydd gyhoeddi canllaw arfer da sy'n canolbwyntio ar fod yn agored ac yn onest fel gweithiwr proffesiynol.
Mae'r canllaw yn ychwanegu at ein cyfres o ganllawiau arfer da sy'n ategu Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA.
Dewiswch eich iaith
Rydym newydd gyhoeddi canllaw arfer da sy'n canolbwyntio ar fod yn agored ac yn onest fel gweithiwr proffesiynol.
Mae'r canllaw yn ychwanegu at ein cyfres o ganllawiau arfer da sy'n ategu Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA.
Fe gyhoeddon ni ein hadroddiad monitro Safonau'r Gymraeg ar gyfer 2019-20 yn ddiweddar.
Mae'r adroddiad yn amlinellu ein cydymffurfiad â'r safonau, sy'n cwmpasu darparu gwasanaethau, gweithredu, llunio polisi a chadw cofnodion.
Yn yr adroddiad, rydym yn adrodd ar y ffordd rydym ni wedi hyrwyddo'r Gymraeg ymhlith ein cyflogeion ac wrth ymgysylltu â chofrestreion a rhanddeiliaid allanol eraill fel ei gilydd.
Fel sefydliad rydym ni wedi ymrwymo i weithredu a chynnal gwasanaeth dwyieithog llawn i bawb sy'n cysylltu â ni. Rydym ni'n annog defnyddwyr i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn trwy:
O dan amgylchiadau arferol, rydym hefyd yn darparu gwasanaeth ffôn dwyieithog. Rydym ni'n gobethio ail-ddechrau'r gwasanaeth hwn dros yr wythnosau nesaf.
Os oes genych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ynghylch ein darpariaeth ddwyieithog a'n dull gweithredu o ran y Gymraeg, mae croeso i chi
Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi diweddariadau cyffrous i’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP), a gynlluniwyd i gefnogi ymarferwyr addysg yng Nghymru yn well i ddefnyddio eu safonau proffesiynol.
Rydym wedi datblygu offer rhyngweithiol newydd i’r PDP sy’n galluogi ymarferwyr i hunanasesu eu cynnydd yn unol â’u safonau proffesiynol. Byddant hefyd yn cael cipolwg bras ar eu cynnydd yn unol â’r safonau a fydd yn eu helpu i nodi eu meysydd cryfder a’u datblygiad â’u safonau proffesiynol.
Mae’r PDP yn rhoi lle i ymarferwyr gofnodi a myfyrio ar eu harfer a’u dysgu yng nghyd-destun y safonau proffesiynol canlynol:
I gael mwy o wybodaeth am yr offer newydd, darllenwch ein blog.
Heb ddechrau defnyddio'ch PDP eto? Bydd ein canllaw byr yn eich helpu i osod eich cyfrif.
Fel rheoleiddiwr, un o'n swyddogaethau craidd yw ymchwilio a gwrando ar honiadau a allai fwrw amheuaeth dros briodoldeb cofrestrai i ymarfer.
Mae ein hail Adroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer yn nodi sut rydym wedi ymgymryd â'r gwaith hwn i ddiogelu buddiannau dysgwyr, rhieni a'r cyhoedd.
Yn 2015, aildrefnwyd CyngACC yn sgil deddfwriaeth i greu Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ac ymestynnwyd y Gofrestr Ymarferwyr Addysg i gynnwys nid yn unig athrawon ysgol, ond hefyd athrawon addysg bellach (2015), staff cymorth mewn ysgolion a cholegau (2016), ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid (2017). Yn ôl y disgwyl, ers cwblhau cofrestru pob un o'r saith grŵp yn 2017, rydym wedi gweld cynnydd pob blwyddyn yn nifer yr achosion a derfynir.
Terfynwyd 85% o achosion o fewn 8 mis ac fe'u terfynwyd, ar gyfartaledd, o fewn 4.7 mis.
Er mai menywod yn bennaf sydd yn y gweithlu addysg yng Nghymru (79%), mae ein hadroddiad yn dangos bod dosbarthiad y rhywiau yn ein gwaith achosion eleni bron yn gyfartal (50.5% dynion a 49.5% menywod), a phobl 40 i 49 oed oedd yn rhoi cyfrif am y categori oedran mwyaf cyffredin.
Mae amrywiad yn nifer y cyfeiriadau oddi wrth bob grŵp / sector o gofrestreion, gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn cael cyfran fwy o gyfeiriadau yn 2019/20 gan sectorau Addysg Bellach ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith o gymharu â sector yr ysgolion.
Caiff y rhan fwyaf o atgyfeiriadau eu gwneud gan gyflogwyr blwyddyn ar ôl blwyddyn. Fodd bynnag, mae'r rhaniad canrannol wedi newid eleni yn dilyn cynnydd o 10% yn yr atgyfeiriadau gan yr Heddlu.
Darllenwch ein Hadroddiad Priodoldeb i Ymarfer ar gyfer 2019-20
Rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol a'n Cyfrifon, sy'n nodi ein prif gyflawniadau a'n perfformiad yn erbyn ein hamcanion strategol ar gyfer 2019-20.
Dywedodd Angela Jardine, Cadeirydd CGA:
“Mae ein gwaith wedi ymestyn unwaith eto dros y flwyddyn diwethaf wrth i ni ymdrechu i gyflawni ein cyfrifoldeb statudol i wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru.
“Wrth i'r flwyddyn hon dynnu at ei therfyn, mae ein cofrestreion wedi wynebu heriau sylweddol, na allai neb ohonom fod wedi'u rhagweld. Rhaid i mi gymeradwyo fy holl gydweithwyr a phartneriaid yn y sector addysg am y ffordd maen nhw wedi ymateb ac addasu i'r argyfwng COVID-19.”
“Hoffwn gymryd y cyfle hwn hefyd i ddiolch i staff ac aelodau'r Cyngor fel ei gilydd, ynghyd â'i bwyllgorau, am eu hymrwymiad a'u proffesiynoldeb, y gwn y byddant yn parhau dros y blynyddoedd sydd i ddod. Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw i weithredu Cynllun Strategol y Cyngor ar gyfer 2020-23.”
Ymhlith y prif gyflawniadau y rhoddir manylion amdanynt yn yr adroddiad mae'r canlynol:
Darllenwch yr adroddiad llawn neu gwelwch drosolwg o'n cyflawniadau a gweithgareddau yn 2019-20.