Fe gyhoeddon ni ein hadroddiad monitro Safonau'r Gymraeg ar gyfer 2019-20 yn ddiweddar.
Mae'r adroddiad yn amlinellu ein cydymffurfiad â'r safonau, sy'n cwmpasu darparu gwasanaethau, gweithredu, llunio polisi a chadw cofnodion.
Yn yr adroddiad, rydym yn adrodd ar y ffordd rydym ni wedi hyrwyddo'r Gymraeg ymhlith ein cyflogeion ac wrth ymgysylltu â chofrestreion a rhanddeiliaid allanol eraill fel ei gilydd.
Fel sefydliad rydym ni wedi ymrwymo i weithredu a chynnal gwasanaeth dwyieithog llawn i bawb sy'n cysylltu â ni. Rydym ni'n annog defnyddwyr i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn trwy:
- ysgrifennu atom yn y Gymraeg, boed hynny trwy'r cyfryngau cymdeithasol neu e-bost
- cyrchu ein gwefan, e-wasanaethau a'r PLP trwy gyfrwng y Gymraeg
- cyflwyno unrhyw ffurflenni i ni yn y Gymraeg
- cyrchu ein hyfforddiannau a chyflwyniadau trwy gyfrwng y Gymraeg.
O dan amgylchiadau arferol, rydym hefyd yn darparu gwasanaeth ffôn dwyieithog. Rydym ni'n gobethio ail-ddechrau'r gwasanaeth hwn dros yr wythnosau nesaf.
Os oes genych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ynghylch ein darpariaeth ddwyieithog a'n dull gweithredu o ran y Gymraeg, mae croeso i chi This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..
Darllen ein hadroddiad monitro Safonau'r Gymraeg