Cyngor y Gweithlu Addysg yw rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y gweithlu addysg yng Nghymru. Rydym yn cofrestru a rheoleiddio athrawon a staff cymorth dysgu mewn lleoliadau ysgol ac addysg bellach, gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig, ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Mae’n bwysig eich bod chi, fel llywodraethwr, yn gwybod am y gofynion cyfreithiol penodol ar gyfer eich ysgol/coleg a’i gofrestreion.
Cofrestru
Mae’n ofyniad cyfreithiol, i’r cyflogwr a’r unigolyn, bod yr unigolyn wedi cofrestru yn y categori cofrestru cywir cyn iddo ymgymryd ag unrhyw waith (e.e. athro ysgol, cynorthwyydd addysgu). Dylai eich ysgol/coleg wirio bod eu staff wedi cofrestru gan ddefnyddio’u mynediad i’r gofrestr.
Rheoleiddio
Yn ogystal â chofrestru’r gweithlu addysg, rydym yn gyfrifol am ei reoleiddio hefyd. Gwnawn hyn trwy ein gwaith priodoldeb i ymarfer.
Atgyfeiriadau gan gyflogwyr
Os bydd cyflogwr yn diswyddo cofrestrai, neu os bydd cofrestrai yn gadael ei swydd (e.e. yn ymddiswyddo neu’n cytuno i setliad), ond y byddai’r cofrestrai wedi cael ei ddiswyddo pe na bai wedi gwneud yr uchod, mae dyletswydd gyfreithiol ar y cyflogwr i roi gwybod i ni.
Mae mwy o wybodaeth am y broses atgyfeirio, a rhwymedigaethau cyflogwyr.
Y Cod Ymarfer ac Ymddygiad Proffesiynol
Mae’n ofyniad statudol i CGA gyhoeddi Cod Ymarfer ac Ymddygiad ProffesiynolMae hwn yn amlinellu’r egwyddorion ymddygiad ac ymarfer da allweddol y mae disgwyl i gofrestreion gydymffurfio â nhw. Bwriedir iddo eu hysbysu, eu cefnogi a’u cyfeirio. Gall methu cydymffurfio â’r egwyddorion yn y Cod godi amheuaeth am allu cofrestrai i barhau i ymarfer. Mae’n hanfodol bod eich ysgol/coleg yn atgoffa pob cofrestrai o’u dyletswyddau yn y Cod yn rheolaidd.
Canllawiau, adnoddau a gwasanaethau proffesiynol
Rydym yn darparu cyfres o wasanaethau proffesiynol i gefnogi ein cofrestreion a’n rhanddeiliaid ehangach (gan gynnwys llywodraethwyr). Rydym yn eich annog chi, a’r staff yn eich ysgol/coleg, i wneud y mwyaf o’r cynnig hwn sy’n cynnwys hyfforddiant a gweithdai, cyfres o ganllawiau ymarfer da, posteri’n amlygu’r Cod, digwyddiadau, a’r Pasbort Dysgu Proffesiynol.
Arbedwch arian a recriwtiwch y goreuon gyda chymorth Addysgwyr Cymru
Mae Addysgwyr Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a ddatblygir gan CGA, yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i ysgolion/colegau. Mae hyn yn cynnwys rhoi eich swyddi gwag (gan gynnwys rolau llywodraethwyr) ar ein porth swyddi Cymru gyfan, gan arbed £1000oedd y flwyddyn mewn costau recriwtio.
I ddysgu rhagor, ewch i wefan Addysgwyr Cymru neu gwahoddwch y tîm i gyfarfod.