Cofrestru a Rheoleiddio
Astudiaethau achos priodoldeb i ymarfer
Yn ein hastudiaeth achos Priodoldeb i Ymarfer diweddaraf, rydym yn edrych ar enghraifft o gofrestrai yn cael eu gwahardd o'r Gofrestr, ar ôl profi achos o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, oherwydd cam-gynrychioli eu cymwysterau.
Mae'r astudiaethau achos yn seiliedig ar enghreifftiau go iawn, ac wedi eu creu i roi pwyntiau dysgu gwerthfawr i chi, i gynnal a chydymffurfio gyda'r Cod, a diogelu eich cofrestriad.
Achredu AGA
Rydym wedi cwblhau ein cylch diweddaraf o ymweliadau darparwyr addysg gychwynnol athrawon (AGA). Mae'r rhestr lawn o raglenni achrededig AGA ar ein gwefan.
Yw eich manylion yn gyfredol?
Mae'n bwysig bod eich cofrestriad yn gyfredol ac yn gyflawn. Dylech fewngofnodi i FyCGA a gwirio bod pob maes wedi eu cwblhau gyda'r wybodaeth ddiweddaraf. Mae hyn yn cynnwys eich enw, e-bost, cyfeiriad cartref, a'ch cyflogaeth bresennol.
Lleiafrif cymwysterau ar gyfer athrawon AB ac ymarferwyr addysg oedolion
Mae rhai o'n categorïau cofrestru'n golygu bod angen i chi gael lleiafswm cymwysterau er mwyn cofrestru gyda ni, ac i weithio. Mae gwybodaeth am y cymwysterau angenrheidiol ar ein gwefan. Gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn mewngofnodi i'ch cyfrif fyCGA i ddiweddaru eich cymwysterau.
Cefnogi eich cofrestriad
Mae gyda ni sawl fideo ar ein sianel YouTube i'ch cefnogi chi, gan gynnwys y diweddaraf ar y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Mae'n cynnwys trosolwg o'r Cod, y disgwyliadau arnoch chi fel cofrestrai CGA, a'r gwasanaethau sydd ar gael.
Diweddariadau'r Cyngor
Aelodau newydd y Cyngor
Ar 2 Medi, fe wnaethom groesawi dau aelod newydd i'n Cyngor, sy'n dod ag arbenigedd o ddarlithio ac uwch arweinyddiaeth. Maent yn ymuno â'r 12 aelod arall (sydd wedi bod gyda ni ers Ebrill 2023), i greu Cyngor llawn.
Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol
Canllaw arfer da: Ymarfer myfyriol
Rydym wedi cyhoeddi canllaw arfer da newydd sy'n amlinellu elfennau hanfodol ymarfer myfyriol, yn trafod y buddion, ac yn cynnig cyngor ymarferol i'w ddefnyddio'n effeithiol. Darllenwch y canllaw nawr, a'r canllawiau arfer da eraill, ar ein gwefan.
Defnyddio'r PDP i'ch cefnogi
Mae'r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) yna i'ch cefnogi chi trwy gydol eich gyrfa, waeth beth fo'ch rôl. Dyw e ddim yn gysylltiedig ag unrhyw gyflogwr, mae'n perthyn i chi. Cyn belled â'ch bod wedi cofrestru gyda ni, gallwch barhau i'w ddefnyddio. Gallwch gael mynediad ato drwy eich cyfrif FyCGA.
Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) yng Nghymru
Llongyfarchiadau i Wasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint ar eu gwobr efydd, ac i Wasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg am eu gwobr aur. Llongyfarchiadau bawb.
Gwahodd ni i ddigwyddiad
Oes diddordeb gyda chi mewn dysgu mwy am bwy ydym ni, beth ry'n ni'n gwneud, y Cod, neu'r PDP? Gallwn roi hyfforddiant a gweithdai i'n cofrestreion ar unrhyw un o'r rhain, a nifer o bynciau eraill, yn bersonol, neu ar-lein, ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Llenwch y ffurflen ar ein gwefan i gysylltu gyda ni.
Cynhadledd Gwaith Ieuenctid - Cydweithio a Phartneriaeth 2025
Byddwn yn mynd â stondin i'r gynhadledd gwaith ieuenctid gydag Addysgwyr Cymru ar 20 Chwefror.
Mae tocynnau am ddim, ond mae nifer cyfyngedig felly mynnwch eich un chi nawr.
Hysbysu Polisi
Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg yng Nghymru 2024
Fe wnaethom gynnal digwyddiad briffio ar Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg yng Nghymru, yn ôl ym mis Hydref. Os wnaethoch chi ei golli a bod diddordeb gyda chi yn beth gafodd ei ddweud, mae'r recordiad ar gael i'w wylio nôl nawr ar ein sianel YouTube.
Rhag ofn i chi ei fethu
Llunio dyfodol cynllunio'r cwricwlwm yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i uwch arweinwyr a chofrestreion rannu eu barn ar y Cwricwlwm i Gymru. Darllenwch y blog ar ein gwefan, a rhowch eich barn yn yr arolwg.
Sbotolau ar Addysgwyr Cymru
Cafodd Aminur Rahman, Swyddog Recriwtio a Chefnogaeth Addysgwyr Cymru, sylw yng nghylchlythyr Tîm Cymorth lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST) mis yma. Mae gan Aminur gyfrifoldeb penodol dros hyrwyddo swyddi addysg a chefnogi pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig i ymuno â'r gweithlu addysg. Darllenwch yr erthygl yng nghylchlythyr EYST.