CGA / EWC

About us banner
Newyddion CGA Rhagfyr 2024
Newyddion CGA Rhagfyr 2024

Cofrestru a Rheoleiddio

Astudiaethau achos priodoldeb i ymarfer

Yn ein hastudiaeth achos Priodoldeb i Ymarfer diweddaraf, rydym yn edrych ar enghraifft o gofrestrai yn cael eu gwahardd o'r Gofrestr, ar ôl profi achos o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, oherwydd cam-gynrychioli eu cymwysterau.

Mae'r astudiaethau achos yn seiliedig ar enghreifftiau go iawn, ac wedi eu creu i roi pwyntiau dysgu gwerthfawr i gofrestreion gynnal a chydymffurfio gyda'r Cod, a diogelu eu cofrestriad.

Achredu AGA

Rydym wedi cwblhau ein cylch diweddaraf o ymweliadau darparwyr addysg gychwynnol athrawon (AGA). Mae'r rhestr lawn o raglenni achrededig AGA ar ein gwefan.

Lleiafrif cymwysterau ar gyfer athrawon AB ac ymarferwyr addysg oedolion

Mae rhai o'n categorïau cofrestru'n golygu bod angen lleiafswm cymwysterau er mwyn cofrestru gyda ni, ac i weithio. Mae gwybodaeth am y cymwysterau angenrheidiol ar ein gwefan.

Cefnogi cofrestreion

Mae gyda ni sawl fideo ar ein sianel YouTube i gefnogi cofrestreion, gan gynnwys y diweddaraf ar y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Mae'n cynnwys trosolwg o'r Cod, y disgwyliadau ar gofrestreion CGA, a'r gwasanaethau sydd ar gael. Cofiwch ei rannu gyda'ch cofrestreion yn eich lleoliad.

Diweddariadau'r Cyngor

Aelodau newydd y Cyngor

Ar 2 Medi, fe wnaethom groesawi dau aelod newydd i'n Cyngor, sy'n dod ag arbenigedd o ddarlithio ac uwch arweinyddiaeth. Maent yn ymuno â'r 12 aelod arall (sydd wedi bod gyda ni ers Ebrill 2023), i greu Cyngor llawn.

Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol

Canllaw arfer da: Ymarfer myfyriol

Rydym wedi cyhoeddi canllaw arfer da newydd sy'n amlinellu elfennau hanfodol ymarfer myfyriol, yn trafod y buddion, ac yn cynnig cyngor ymarferol i'w ddefnyddio'n effeithiol. Darllenwch y canllaw nawr, a'r canllawiau arfer da eraill, ar ein gwefan.

Defnyddio'r PDP i gefnogi cyflogwyr/unigolion

Rydym yn parhau i weithio gyda nifer o sefydliadau, gan ddatblygu templedi arbennig yn y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) i gefnogi datblygiad proffesiynol a myfyrio ymarferwyr. Os oes diddordeb gyda chi'n darganfod sut gall y PDP helpu cefnogi eich sefydliad,  darllenwch ein e-daflen neu cysylltwch â'r This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Sefydlu

Ydych chi'n cyflogi ANG? Os felly, mae angen i chi gyflwyno'r ffurflen hawlio cyllid sefydlu i ni erbyn diwedd y tymor.

Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) yng Nghymru

Llongyfarchiadau i Wasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint ar eu gwobr efydd, ac i Wasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg am eu gwobr aur. Llongyfarchiadau bawb.

Gwahodd ni i sesiwn

Gallwch ofyn i ni ddod i siarad gyda'ch staff am nifer o bynciau gan gynnwys pwy ydym ni, beth ry'n ni'n ei wneud, y Cod, a'r PDP, unrhyw bryd? Llenwch y ffurflen ar ein gwefan i gysylltu gyda ni.

Cynhadledd Gwaith Ieuenctid - Cydweithio a Phartneriaeth 2025

Byddwn yn mynd â stondin i'r gynhadledd gwaith ieuenctid gydag Addysgwyr Cymru ar 20 Chwefror.

Mae tocynnau am ddim, ond mae nifer cyfyngedig felly mynnwch eich un chi nawr.

Hysbysu Polisi

Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg yng Nghymru 2024

Fe wnaethom gynnal digwyddiad briffio ar Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg yng Nghymru, yn ôl ym mis Hydref. Os wnaethoch chi ei golli a bod diddordeb gyda chi yn beth gafodd ei ddweud, mae'r recordiad ar gael i'w wylio nôl nawr ar ein sianel YouTube.

Rhag ofn i chi ei fethu

Llunio dyfodol cynllunio'r cwricwlwm yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i uwch arweinwyr a chofrestreion rannu eu barn ar y Cwricwlwm i Gymru. Darllenwch y blog ar ein gwefan, a rhowch eich barn yn yr arolwg.

Sbotolau ar Addysgwyr Cymru

Cafodd Aminur Rahman, Swyddog Recriwtio a Chefnogaeth Addysgwyr Cymru, sylw yng nghylchlythyr Tîm Cymorth lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST) mis yma. Mae gan Aminur gyfrifoldeb penodol dros hyrwyddo swyddi addysg a chefnogi pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig i ymuno â'r gweithlu addysg. Darllenwch yr erthygl yng nghylchlythyr EYST.