Lawrlwytho Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2024/25
Cyflwyniad
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.
Fe’n sefydlwyd gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, ac rydym yn rheoleiddio ymarferwyr addysg mewn 13 o wahanol gategorïau cofrestru sy’n rhychwantu ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, ac addysg oedolion/dysgu seiliedig ar waith. Ein Cofrestr Ymarferwyr Addysg yw’r gofrestr gyhoeddus fwyaf o unrhyw broffesiwn yng Nghymru, a’r gofrestr fwyaf pellgyrhaeddol o weithwyr addysg proffesiynol yn y byd, gyda dros 91,000 o ymarferwyr wedi’u cofrestru.
Mae hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a meithrin cynhwysiant yn egwyddorion sylfaenol sy’n sail i bob agwedd ar ein gwaith. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 yn amlinellu sut byddwn yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein cyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus sy’n benodol i Gymru (y ddyletswydd cydraddoldeb). Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cyd-fynd â’r weledigaeth a’r amcanion a amlinellir yn ein Cynllun Strategol, ac wedi’i ategu gan gynllun gweithredu manwl, ynghyd â monitro cadarn bob chwarter a bob blwyddyn.
Yn ystod cyfnod cynllun 2024-28, byddwn yn cynnal adolygiadau blynyddol, ac yn gwneud unrhyw ddiwygiadau, fel y bo angen, i sicrhau bod y ddogfen yn parhau i fod yn berthnasol ac yn gyfredol.
Mae’r adroddiad blynyddol hwn ar gydraddoldeb yn amlinellu’r cynnydd rydym wedi’i wneud tuag at gyflawni ein pum amcan cydraddoldeb yn ystod 2024/25.
Ein prosesau a’n gweithdrefnau cydraddoldeb
Mae cydraddoldeb yn eitem sefydlog ar agenda cyfarfodydd misol yr uwch dîm rheoli, gan ddarparu fforwm ffurfiol i drafod diweddariadau neu faterion sy’n codi.
Ym mis Hydref 2024, roedd ein prosesau a’n gweithdrefnau rheoli perfformiad gweithredol yn destun archwiliad mewnol annibynnol. Roedd hyn yn cynnwys ein cydymffurfedd â gofynion statudol, rheoleiddiol a pholisi, a monitro dangosyddion perfformiad allweddol cytunedig ar gyfer prosesau sy’n cyd-fynd â gofynion y cynllun busnes. Rhoddodd yr archwiliad sicrwydd sylweddol heb unrhyw argymhellion.
Asesiadau effaith integredig
Er mwyn sicrhau bod cydraddoldeb yn ganolog i’n gwaith ac i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol, mae polisïau a gweithdrefnau perthnasol yn ddarostyngedig i asesiad effaith integredig. Cedwir y rhain mewn llyfrgell ganolog, sydd ar gael i’r holl staff. Mae asesiadau effaith integredig yn llywio’r broses datblygu a chymeradwyo ar gyfer unrhyw bolisi newydd (neu sy’n cael ei adolygu), gan helpu i sicrhau bod ein penderfyniadau wedi’u seilio ar dystiolaeth, ac yn adlewyrchu ymrwymiad clir i gydraddoldeb.
Cynhaliwyd adolygiad cynhwysfawr o’n proses asesu effaith integredig yn 2024, gyda’r nod o greu proses asesu fwy cyfannol, sydd hefyd yn ystyried effeithiau economaidd-gymdeithasol ac yn annog dull mwy cydweithredol ac ymgynghorol. Lansiodd y broses newydd ym mis Hydref 2024 a darparwyd hyfforddiant i aelodau perthnasol o’r staff.
Adolygir pob asesiad effaith integredig gan y tîm Polisi a Chynllunio, ac fe’i cymeradwyir ar lefel Cyfarwyddwr. Mae’r uwch dîm rheoli’n craffu ar grynodeb o asesiadau effaith integredig yn ei gyfarfodydd misol.
Caffael
A ninnau’n gorff cyhoeddus, mae’n gyfrifoldeb arnom i sicrhau bod cydraddoldeb yn ganolog i’n prosesau caffael. Mae ein polisi caffael yn cynnwys adran benodol ar gydraddoldeb, gan sicrhau bod contractwyr ac is-gontractwyr yn deall eu rôl wrth ein helpu i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon a hyrwyddo cyfle cyfartal a chysylltiadau da. Amlinellir y disgwyliadau hyn, sy’n cyd-fynd â’r Ddeddf Cydraddoldeb, yn ein datganiad caffael hefyd.
Ymgysylltu
Drwy gydol y flwyddyn adrodd, rydym wedi ymgysylltu â rhwydweithiau a rhanddeiliaid allweddol i drafod materion cydraddoldeb sy’n briodol i’n cylch gwaith. Rydym hefyd wedi rhannu gwybodaeth sy’n ymwneud â chydraddoldeb gyda chofrestreion a rhanddeiliaid eraill.
Rydym wedi parhau i ymgysylltu ag amrywiaeth o rwydweithiau, grwpiau, a phartneriaethau cydraddoldeb – gan ddarparu gwybodaeth werthfawr i lywio ein gwaith. Mae’r rhain wedi cynnwys:
- Rhwydwaith Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
- Rhwydwaith Cydraddoldeb De-ddwyrain Cymru (SEWEN)
- Rhwydwaith BAMEed Cymru
- Grŵp Llywio Addysg Bellach Cymru Wrth-hiliol
- Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol (DARPL)
- Rhwydwaith Cyfnewidfa Cydraddoldeb Hawliau Dynol Cymru
- Grŵp yr Economi Sylfaenol Dynol
- Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Colegau Cymru
Rydym wedi ymrwymo’n gryf i gyflawni ein rôl unigryw wrth wireddu’r blaenoriaethau cenedlaethol allweddol a amlinellir yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ARWAP) Llywodraeth Cymru. Ar ôl i’r ARWAP diwygiedig gael ei gyhoeddi yn 2024, adolygom y ddogfen ac ystyried ei heffaith ar ein sefydliad a’n gwaith. Felly, roedd yr ARWAP wedi’i ddiweddaru yn ystyriaeth allweddol wrth i ni weithio ar fersiwn ddiwygiedig o’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol, yn ystod y gwanwyn 2025. Roedd y meysydd allweddol y canolbwyntiom arnynt, wrth ymateb i’r ARWAP diwygiedig, yn cynnwys rôl arweinwyr wrth hyrwyddo gwrth-hiliaeth yn CGA a sut gallwn ddefnyddio data a thystiolaeth yn fwy effeithiol i fynd i’r afael â materion cynrychiolaeth yn ein gweithlu.
Cyflawni ein hamcanion
Amcan 1: Creu tîm CGA amrywiol a chynhwysol
Sut byddwn yn cyflawni’r amcan hwn?
Byddwn yn monitro ein harferion cyflogaeth. Bydd hyn yn cynnwys archwilio cydnabyddiaeth ariannol staff ac edrych ar brosesau recriwtio a dilyniant gyrfaol staff, aelodau’r Cyngor ac aelodau pwyllgorau/paneli1, gyda’r nod o amlygu a mynd i’r afael ag unrhyw rwystrau sy’n bodoli rhag datblygu gweithlu a strwythur llywodraethu amrywiol.
Bydd datblygu tîm amrywiol a chynhwysol, a meithrin eu doniau, yn sicrhau bod ein sefydliad yn gallu elwa o ystod o wahanol sgiliau a safbwyntiau, gan wella prosesau penderfynu, a chyd-fynd â’n hymrwymiad i degwch a chydraddoldeb.
Byddwn yn:
- monitro ein harferion cyflogaeth i sicrhau bod CGA mewn sefyllfa dda i recriwtio a chadw gweithlu amrywiol
- casglu (a monitro’n weithredol) data cynhwysfawr ac ystyrlon am gydraddoldeb ynglŷn â’n cyflogeion
- annog cyfraddau datgelu uwch (ynglŷn â nodweddion gwarchodedig) gan staff, y Cyngor ac aelodau pwyllgor/paneli i wella ein dealltwriaeth o amrywiaeth ein gweithlu
- adolygu a gwella prosesau recriwtio ar gyfer staff, aelodau’r Cyngor ac aelodau pwyllgorau/paneli1 i sicrhau tegwch i’r holl grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol
Cynnydd yn ystod 2024/25
Cesglir data ar gydraddoldeb staff trwy arolwg (gwirfoddol) blynyddol ac fe’i defnyddir i lywio Asesiadau Effaith Integredig, datblygu polisïau, a chynlluniau hyfforddiant. Er mwyn annog cyfranogiad, cynhwyswyd erthygl yn ein cylchlythyr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant chwarterol, ac amlygwyd ei bwysigrwydd yn ystod cyfarfod cynllunio ar gyfer yr holl staff ym mis Mehefin 2024. Ymatebodd 48 o’r 57 o staff i arolwg mis Mawrth 2025 (cyfradd ymateb 84%). Gellir gweld ein proffil staff yn atodiad A.
Mae gennym raddfeydd cyflog tryloyw, ac mae cyflogeion yn derbyn cynyddrannau blynyddol nes byddant yn cyrraedd uchafswm y gyfradd ar gyfer eu band cyflog. Rydym yn dilyn graddfeydd cyflog Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ac mae unrhyw newidiadau i’r graddfeydd a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu mabwysiadu gan CGA. Rydym yn adolygu ein gwybodaeth am gyflogau yn ôl rhywedd yn flynyddol. Mae gwybodaeth ar gyfer 2024/25 ar gael yn atodiad A.
Rydym wedi parhau i fonitro ein prosesau recriwtio ac rydym yn gweithio i ddatblygu a gweithredu strategaeth i ddileu rhwystrau sy’n gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig penodol. Hysbysebir pob swydd yn allanol i gyrraedd ystod eang o ymgeiswyr. Mae ein hysbysebion swyddi yn annog unigolion o gefndiroedd amrywiol i ymgeisio. Mae animeiddiad byr sy’n crynhoi CGA fel sefydliad (ar ein gwefan), yn amlinellu gwerthoedd ein staff, ein diwylliant sefydliadol cadarnhaol, a’n prosesau recriwtio cynhwysol. Mae ffurflen gofyniad recriwtio safonol, a ddefnyddir i lywio pob ymarfer recriwtio, yn sicrhau bod safonau a phrosesau cyffredin yn cael eu cymhwyso, ac mae pob aelod o staff yn dilyn hyfforddiant ar ragfarn ddiarwybod cyn eistedd ar baneli dethol.
Rydym yn casglu gwybodaeth am amrywiaeth gan yr holl ymgeiswyr uniongyrchol, ond mae ein proses ymgeisio yn sicrhau bod yr holl gyfeiriadau at enwau, manylion cyswllt, neu arwyddion eraill posibl o nodweddion gwarchodedig yn ddienw cyn i’r wybodaeth gael ei rhannu gyda’r panel cyfweld ar gyfer llunio rhestr fer. Yn ystod y flwyddyn adrodd hon, gwnaethom hysbysebu 11 o swyddi a chawsom 82 o ffurflenni monitro amrywiaeth. Gellir gweld rhagor o fanylion am broffil yr ymgeiswyr yn atodiad A.
Rydym yn casglu data am gydraddoldeb ynglŷn ag aelodau’r Cyngor yn seiliedig ar y naw nodwedd warchodedig. Er bod yr aelodau’n cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru (trwy’r system penodiadau cyhoeddus), gall ein data helpu i lywio’r broses. Yn 2023, penodwyd chwe aelod newydd ac ailbenodwyd chwe aelod. Dechreuodd y Cyngor newydd ei dymor ar 1 Ebrill 2023. Penodwyd dau aelod ychwanegol eleni, sy’n golygu bod gan y Cyngor ei gyflenwad llawn o 14 aelod. Cefnogom broses recriwtio Llywodraeth Cymru trwy dynnu sylw ein cofrestreion, rhanddeiliaid, a rhwydweithiau at y swyddi gwag, gyda’r nod o ddenu cronfa amrywiol o ymgeiswyr.
Pan fydd gennym yr awdurdod i benodi aelodau paneli2, ceisiwn ddenu ystod eang o ymgeiswyr sy’n cynrychioli’r gweithlu addysg amrywiol yng Nghymru. Rydym yn casglu gwybodaeth am gydraddoldeb gan aelodau ein paneli priodoldeb i ymarfer, aelodau ein Bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) a’n cronfa o aseswyr y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Byddwn yn parhau i wneud hyn yn flynyddol i lywio ymarferion recriwtio yn y dyfodol.
Yn rhan o’n prosesau i fonitro arferion cyflogaeth er mwyn amlygu rhwystrau rhag recriwtio a dilyniant gyrfaol, rydym yn adrodd ar ein canfyddiadau yn rheolaidd i’n Pwyllgor Gweithredol a’r Cyngor trwy adroddiadau chwarterol.
Amcan 2: Monitro’r bwlch cyflog rhywedd ac amlygu cyfleoedd i’w leihau
Sut byddwn yn cyflawni’r amcan hwn?
Byddwn yn gweithio tuag at ddileu’r bwlch cyflog rhywedd trwy sicrhau bod polisïau ac arferion sy’n ymwneud â chyflog a dilyniant gyrfaol yn cael eu cymhwyso a darparu cyfle cyfartal i bawb. A ninnau’n sefydliad bach, mae’r graddau y gallwn ddylanwadu ar ein bwlch cyflog rhywedd cyffredinol yn gyfyngedig, ac mae canlyniadau recriwtio unigol (er enghraifft, penodi benyw i swydd uwch yn y sefydliad) yn cael effaith sylweddol ar y bwlch cyflog, weithiau. Fodd bynnag, rydym eisiau sicrhau bod ein cyflogeion yn cael eu trin yn gyfartal ac yn deg o ran cyflog ac amodau, ni waeth am eu rhywedd. Felly, mae’n bwysig ein bod yn monitro’r bwlch cyflog rhywedd yn CGA yn ofalus a’i ddeall, ac yn cymryd camau i’w leihau i’r eithaf.
Byddwn yn:
- monitro a chyhoeddi gwybodaeth yn ymwneud â’n bwlch cyflog rhywedd
- gwella ein dealltwriaeth o unrhyw gysylltiadau rhwng rhywedd a chyflog o fewn CGA
- sicrhau bod gan staff gwrywaidd a benywaidd gyfle cyfartal i gamu ymlaen o fewn CGA pan fydd cyfleoedd yn codi
Cynnydd yn ystod 2024/25
Ym mis Awst 2024, cyhoeddwyd ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2023/24, a oedd yn cynnwys gwybodaeth am ein bwlch cyflog rhywedd.
Hysbysebir holl swyddi gwag CGA yn fewnol ac yn allanol, a rhoddir manylion cyswllt i bob darpar ymgeisydd sy’n caniatáu iddynt drafod unrhyw agwedd ar y rôl, gofyn unrhyw gwestiynau neu godi unrhyw bryderon (gan gynnwys mewn perthynas â rhwystrau rhag camu ymlaen), cyn ymgeisio.
Eleni, rydym wedi cynnal ymarfer meincnodi sy’n cymharu cyfansoddiad gweithlu CGA (mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig) â phoblogaeth oedran gweithio ehangach Cymru (gan ddefnyddio data o Gyfrifiad 2021). Bydd hyn yn ein helpu i ddeall cyfansoddiad ein gweithlu yn well ac yn gwella ein dealltwriaeth o unrhyw gysylltiadau rhwng nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys rhywedd, a chyflog o fewn CGA.
Amcan 3: Gweithle cynhwysol sy’n dathlu amrywiaeth
Sut byddwn yn cyflawni’r amcan hwn?
Rydym eisiau i CGA fod yn sefydliad cynhwysol lle mae cyflogeion yn teimlo’n ddiogel, a’u bod yn cael eu parchu a’u cynorthwyo i gyflawni hyd eithaf eu gallu, ni waeth am unrhyw nodweddion gwarchodedig a allai fod ganddynt. Trwy sicrhau bod pob cyflogai’n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i drin yn deg, rydym eisiau meithrin diwylliant lle gall staff ffynnu a chyflawni eu potensial.
Byddwn yn:
- sicrhau bod ein swyddfeydd yn groesawgar ac yn hygyrch
- trefnu digwyddiadau sy’n dathlu ac yn cynyddu ymwybyddiaeth o wahanol grwpiau a materion sy’n berthnasol i’r nodweddion gwarchodedig, i atgyfnerthu pwysigrwydd croesawu amrywiaeth
- cyflwyno rhaglen ddiddorol a hygyrch o hyfforddiant ar faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth i’r holl gyflogeion
- cynhyrchu cylchlythyrau rheolaidd ar gydraddoldebau i rannu gwybodaeth, annog ymgysylltiad, a dathlu amrywiaeth
- gweithredu rhaglen les amrywiol a cheisio cynyddu ymgysylltiad â’r gweithgareddau hyn trwy amlygu unrhyw rwystrau rhag ymgysylltu
- darparu cyfleoedd i gyflogeion roi adborth, a’u grymuso i fynegi unrhyw faterion neu bryderon yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth
Cynnydd yn ystod 2024/25
Mae gennym bolisi gweithio hybrid ffurfiol sy’n caniatáu i staff gyfuno gweithio yn y swyddfa â gweithio o bell (o gartref). Gall cyflogeion ddefnyddio ein system oriau hyblyg hefyd, sy’n arbennig o fuddiol i’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Mae ein rhaglen les flynyddol yn cynnig ystod o weithgareddau a chyfleoedd i gynorthwyo staff. Rydym yn ceisio adborth staff ar y rhaglen, ac yn croesawu awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol, y gellir eu cyflwyno trwy ein fforwm cyflogeion.
Rydym yn cyhoeddi cylchlythyrau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant chwarterol ar ein mewnrwyd, sy’n rhoi gwybodaeth, cymorth, ac adnoddau i’r staff. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r cylchlythyrau wedi amlygu diwrnodau ymwybyddiaeth, hyrwyddo ymgysylltiad ag ymgyrchoedd, a thynnu sylw at newyddion a datblygiadau mewnol. Maen nhw hefyd yn annog staff i ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn eu rhyngweithiadau a’u penderfyniadau o ddydd i ddydd, gan helpu i ymsefydlu diwylliant cadarnhaol a chroesawgar.
Mae’r holl staff yn gallu cael at y llinell gymorth i gyflogeion, sef Care First, bob awr o’r dydd a’r nos. Mae Care First yn darparu cymorth cyfrinachol sy’n cynnwys cwnsela ar y ffôn, yn ogystal â gweminarau lles ar-lein am ddim sy’n ymdrin ag ystod o bynciau. Ym mis Medi 2024, cawsom fynediad at hyb lles penodol ar gyfer staff, sy’n darparu adnoddau sy’n hyrwyddo a gwella iechyd, ffitrwydd a lles, gan gynnwys ap a gymeradwywyd gan y GIG i atal cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, eu canfod yn gynnar, a’u hunanreoli.
Mae’r holl staff yn cael hyfforddiant rheolaidd ynglŷn â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus ac mae ein cynllun hyfforddiant blynyddol yn cynnwys o leiaf un sesiwn orfodol i bob aelod o staff ar faterion cydraddoldeb. Eleni, cwblhaodd staff ddau fodiwl hyfforddiant ar-lein ar ymwybyddiaeth o gam-drin domestig ac LHDTC+. Pan benodir aelodau newydd o staff, mae ein proses sefydlu yn eu cyflwyno i werthoedd ein staff (sy’n atgyfnerthu ein hymrwymiad i gydraddoldeb), ac yn rhoi trosolwg o’n dyletswyddau statudol sy’n ymwneud â chydraddoldeb.
Rydym yn defnyddio ein proses flynyddol o adolygu perfformiad a datblygiad i amlygu anghenion hyfforddiant a datblygiad unigol, adolygu cynnydd, a thrafod unrhyw rwystrau rhag mynediad. Mae gan bob cyflogai fynediad cyfartal at gyfleoedd datblygiad proffesiynol sy’n berthnasol i’w rôl. Rydym hefyd yn dadansoddi’r hyfforddiant a gwblhawyd bob blwyddyn at ddibenion monitro cydraddoldeb. Gan fod yr holl ddata cydraddoldeb am gyflogeion yn ddienw, nid oes data penodol ar gael ynglŷn â nodweddion gwarchodedig cyflogeion a ddilynodd hyfforddiant unigol.
Mae gennym bedwar aelod o staff sydd wedi’u hyfforddi’n swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl ar hyn o bryd a bydd dau arall yn dilyn yr hyfforddiant yn 2025/26.
Ym mis Mawrth 2025, gan ymateb i adborth staff, crëwyd ystafell staff newydd sy’n cynnig lle cyfforddus i aelodau staff gael cinio neu egwyl yn ystod y dydd. Agorwyd ystafell dawel amlbwrpas hefyd, sy’n cynnig lle digyffro a phreifat ar gyfer gweddïo, myfyrio a gweithgareddau eraill.
Rydym yn defnyddio ein mewnrwyd staff i rannu gwybodaeth, cynyddu ymwybyddiaeth, a hyrwyddo digwyddiadau a gwyliau diwylliannol a seiliedig ar hunaniaeth yn ystod y flwyddyn galendr. Eleni, mae hyn wedi cynnwys gwybodaeth am ymgyrch ‘Defnyddia dy Gymraeg’ Comisiynydd yr Iaith, wythnos ymwybyddiaeth o’r menopos, mis hanes pobl ddu, a diwrnod iechyd meddwl y byd.
Rydym yn gwneud yn siŵr bod ein holl bolisïau staff a’u Hasesiadau Effaith Integredig cysylltiedig yn cael eu hadolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol. Mae’r polisïau a adolygwyd eleni yn cynnwys ein polisi Urddas yn y Gwaith, a’n polisi Iechyd Meddwl a Lles. Ym mis Ionawr 2025, cyflwynwyd asesiad risg Aflonyddu Rhywiol newydd ar gyfer staff a dilynodd yr holl staff hyfforddiant gorfodol ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle ym mis Mawrth 2025.
Rydym yn cynnwys hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar gydraddoldeb yn ein rhaglen flynyddol ar gyfer aelodau’r Cyngor ac aelodau pwyllgorau/paneli3, sy’n annog trafodaethau agored am wahaniaethu a phrofiadau bywyd unigolion. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod yr unigolion hyn yn ymwybodol o faterion a fframweithiau cyfreithiol perthnasol, yn ogystal â hybu cyfle cyfartal a meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig benodol a phobl nad ydynt yn ei rhannu.
Amcan 4: Darparu gwasanaethau hygyrch i gofrestreion a rhanddeiliaid
Sut byddwn yn cyflawni’r amcan hwn?
Rydym eisiau sicrhau bod ein holl wasanaethau’n hygyrch i gofrestreion a rhanddeiliaid, ni waeth am eu hanghenion a’u galluoedd amrywiol. Byddwn yn ymdrechu i wella hygyrchedd ein gwasanaethau’n barhaus, gan gyd-fynd ag arfer gorau a gofynion cyfreithiol.
Mae’n ofynnol i ni sicrhau ein bod yn amlygu, lliniaru, a (lle bynnag y bo’n bosibl) dileu unrhyw rwystrau a allai wynebu ein cofrestreion a rhanddeiliaid eraill (gan gynnwys dysgwyr a rhieni/gwarcheidwaid) wrth ryngweithio â ni, neu ddefnyddio ein gwasanaethau.
Byddwn yn:
- gwrando ar gofrestreion i sicrhau bod ein gwasanaethau’n bodloni eu hanghenion amrywiol
- amlygu unrhyw rwystrau sy’n wynebu cofrestreion a rhanddeiliaid wrth ryngweithio â CGA, ac yn cymryd camau i ddileu’r rhain, fel y bo’n briodol ac yn gymesur
- ymchwilio i gyfleoedd i ehangu hygyrchedd ein gwasanaethau
- amlygu cyfleoedd i ddwyn ein gwaith i sylw ystod eang o gynulleidfaoedd ag anghenion a nodweddion amrywiol
Cynnydd yn ystod 2024/25
Rydym wedi ymrwymo i wneud ein cyfathrebu a’n gwybodaeth mor hygyrch â phosibl.
Mae ein gwefan yn cydymffurfio â safon lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.2 ar hyn o bryd ac rydym yn ymchwilio i arfer gorau a chasglu adborth yn barhaus i helpu i wella hygyrchedd ymhellach. Rydym yn sicrhau bod ein gwybodaeth ar-lein wedi’i threfnu a’i lleoli’n rhesymegol, ac yn rhwydd dod o hyd iddi gan ddefnyddio chwilotwyr. Ym mis Mawrth 2025, mynychom ddigwyddiad hyfforddiant hygyrchedd a gynhaliwyd gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol – diweddarwyd ein gwefan wedi hynny i wella hygyrchedd ymhellach.
Rydym yn cynnig cyfle i ddefnyddwyr ein gwefan gael mynediad at y Bar Offer ReachDeck, sef meddalwedd hygyrchedd y we sy’n cynorthwyo pobl ag amhariadau gweledol ac anableddau cudd, yn ogystal ag unigolion nad oes ganddynt sgiliau digidol sylfaenol, a phobl sy’n dymuno darllen y wefan mewn iaith heblaw am Gymraeg neu Saesneg.
Mae capsiynau’n cael eu darparu ar gyfer yr holl gynnwys fideo (gyda sain) sy’n cael ei ychwanegu at ein gwefan yn Gymraeg a Saesneg. Mae unrhyw gynnwys sain yn unig (fel podlediadau) yn cael ei lanlwytho gyda thrawsgrifiad cysylltiedig yn Gymraeg a Saesneg. Er bod ein cyhoeddiadau ar gael mewn fformat electronig fel arfer, rydym yn cynnig fformatau eraill ar gais. Mae nifer gynyddol o’n cyhoeddiadau’n cael eu cyhoeddi mewn fformat HTML erbyn hyn hefyd, yn ogystal â fformatau eraill hygyrch. Ym mis Ionawr 2025, cyhoeddwyd dau o’n fideos animeiddiedig corfforaethol allweddol gydag Iaith Arwyddion Prydain. Rydym yn parhau i adolygu ein cyhoeddiadau i sicrhau eu bod yn hygyrch ac yn gynhwysol i’n cofrestreion a’r cyhoedd.
Yn rhan o’r broses Asesu Effaith Integredig wedi’i gwella a gyflwynwyd eleni, aseswyd ein hymagwedd at ymgysylltu a digwyddiadau. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys rheolwyr y mae eu timau’n ymwneud â darparu hyfforddiant, cyflwyniadau a/neu ddigwyddiadau ac ystyriwyd ceisiadau adborth blaenorol am addasiadau rhesymol. Roedd y broses yn cynnwys cryn dipyn o gydweithio ac ymgysylltu ar draws timau, a bydd yn llywio ymarfer ar draws y sefydliad.
Rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau ar-lein drwy gydol y flwyddyn. Hwyluswyd cofrestru ar gyfer y digwyddiadau hyn trwy TicketSource, sy’n caniatáu i fynychwyr nodi unrhyw addasiadau rhesymol a allai fod ganddynt. Rydym wedi gwneud addasiadau ar gyfer 13 o fynychwyr yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys rhoi cyngor i fynychwr ar sut i gael at y cyfleuster isdeitlo byw, sicrhau bod y cyflwynydd yn wynebu’r camera bob amser fel y gallai unigolion ddarllen gwefusau, a darparu sleidiau cyflwyniad i unigolyn cyn digwyddiad arall.
Mae gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer gweithwyr proffesiynol neu gofrestreion byddar a thrwm eu clyw sydd wedi bod yn ymwneud â gwrandawiadau priodoldeb i ymarfer.
Os yw defnyddwyr gwasanaeth eisiau cael copïau papur o unrhyw rai o’n dogfennau, rydym yn eu darparu ar gais trwy’r post.
Drwy gydol y flwyddyn adrodd, rydym wedi defnyddio cyfarfodydd â rhanddeiliaid allweddol a grwpiau buddiant i drafod materion cydraddoldeb sy’n briodol i’n cylch gwaith. Gwnaethom hefyd ffurfio partneriaeth â DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol) i helpu i drefnu a hyrwyddo eu hail gynhadledd genedlaethol ar amrywiaeth a gwrth-hiliaeth i arweinwyr ym mis Mehefin 2024. Yn ogystal, cydweithiom yn ffurfiol â Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST) ym mis Gorffennaf 2024 i’n helpu i amlygu cyfleoedd i ddwyn ein gwaith i sylw ystod eang o gynulleidfaoedd ag anghenion a nodweddion amrywiol.
Rydym yn rhan o Rwydwaith BAMEed Cymru a hefyd wedi mynychu cyfarfodydd SEWEN, Rhwydwaith PSED, a Grŵp Llywio Addysg Bellach Cymru Wrth-hiliol, yn ogystal â nifer o ddigwyddiadau a gweminarau sy’n canolbwyntio ar faterion cydraddoldeb.
Rydym yn parhau i gasglu data am gydraddoldeb gan gofrestreion sy’n destun achosion priodoldeb i ymarfer trwy ein system rheoli achosion. Ym mis Awst 2024, gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad blynyddol priodoldeb i ymarfer, a oedd yn cynnwys data am gydraddoldeb ar gyfer yr holl grwpiau cofrestreion.
I gynorthwyo ein cofrestreion, a chynyddu ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl, rydym wedi gwneud sawl argymhelliad trwy Feddwl Mawr (ein clwb llyfrau a chyfnodolion) ar bynciau sy’n berthnasol i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys ymwybyddiaeth ofalgar, niwroamrywiaeth mewn plant, ac amlieithrwydd mewn lleoliadau addysgol.
Amcan 5: Helpu i ddatblygu gweithlu addysg sy’n gynrychioliadol o boblogaeth amrywiol Cymru
Sut byddwn yn cyflawni’r amcan hwn?
Rydym eisiau gweld gweithlu addysg yng Nghymru sy’n adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth ehangach Cymru. Credwn y dylai’r gweithlu addysg adlewyrchu cyfoeth cymdeithas, gan ymgorffori cefndiroedd, safbwyntiau, a phrofiadau amrywiol. Felly, mae’n hanfodol sicrhau cyfleoedd gyrfaol teg, a chwalu unrhyw rwystrau a allai fod yn atal pobl o gefndiroedd amrywiol rhag gweithio yn y proffesiynau addysg cofrestredig.
Mae ein cyfrifoldebau rheoleiddiol yn cynnwys hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau addysg a chynghori Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n gysylltiedig â’r gweithlu addysg, ac addysgu a dysgu. Yn ogystal, mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn cyfeirio atom fel partner/arweinydd allweddol wrth gynyddu amrywiaeth ethnig y gweithlu addysg. Rydym hefyd yn ymwybodol o nodau cynlluniau a strategaethau allweddol eraill sy’n ceisio hyrwyddo amrywiaeth, gan gynnwys Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru.
Credwn y bydd datblygu gweithlu addysg mwy amrywiol yn allweddol i feithrin cydlyniant cymdeithasol trwy alluogi dysgwyr a phobl ifanc i dyfu a datblygu mewn amgylchedd lle ceir modelau rôl amrywiol, amlwg. Bydd gweithlu mwy amrywiol hefyd yn caniatáu i ddysgwyr a phobl ifanc brofi ystod ehangach o safbwyntiau, gan gyfoethogi eu profiad addysgol, a’u paratoi i fod yn ddinasyddion byd-eang gwybodus.
Byddwn yn:
- defnyddio’r data unigryw o’n Cofrestr i fonitro amrywiaeth gweithwyr addysg proffesiynol cofrestredig yng Nghymru
- sicrhau bod y Gofrestr yn darparu’r data llawnaf posibl ynglŷn ag ethnigrwydd y gweithlu (yn ogystal ag o ran oedran, anabledd, a rhyw)
- defnyddio ein platfform i amlygu materion sy’n ymwneud ag amrywiaeth o fewn y gweithlu
- gweithio gyda chofrestreion a rhanddeiliaid i hyrwyddo gyrfaoedd ym myd addysg i gynulleidfa amrywiol (gyda phwyslais penodol ar gynyddu amrywiaeth ethnig), gan hyrwyddo gwefan a gwasanaeth cynghori Addysgwyr Cymru fel modd o gefnogi’r gwaith hwn
- trwy Addysgwyr Cymru, cyfrannu at recriwtio gweithlu mwy amrywiol
Cynnydd yn ystod 2024/25
Mae ein Cofrestr Ymarferwyr Addysg yn cynnig sylfaen dystiolaeth o ansawdd uchel ynglŷn ag amrywiaeth y gweithlu addysg yng Nghymru. Rydym wedi cymryd nifer o gamau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i wella cyflawnder y data ar ein Cofrestr. Ym mis Tachwedd, 2024, cysylltwyd â 17,587 o gofrestreion, yr oedd gan 8,286 ohonynt fwlch yn eu cofnod o ran ethnigrwydd, yn rhan o strategaeth i wella cyflawnder y data a ddaliwn am nodweddion gwarchodedig. Dangosodd dadansoddiad data i fesur effaith yr ohebiaeth gyfradd ymateb o 31.1%, a arweiniodd at leihau nifer y meysydd gwag neu anhysbys ar y Gofrestr.
Ym mis Gorffennaf 2024, gwnaethom gyhoeddi Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru. Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth gydraddoldeb am ymarferwyr ar draws ein grwpiau cofrestreion[4]. Ym mis Hydref 2024, cynhaliwyd digwyddiad briffio i randdeiliaid i gyflwyno canfyddiadau Ystadegau Blynyddol y Gweithlu 2024, lle cyflwynwyd data a dadansoddiadau cysylltiedig am amrywiaeth yn y gweithlu. Rydym hefyd wedi cyhoeddi datganiadau ystadegol eraill drwy gydol y flwyddyn sydd wedi cynnwys data cydraddoldeb, fel canlyniadau myfyrwyr AGA a data am athrawon newydd gymhwyso.
Yn ein digwyddiad Briff Polisi ym mis Tachwedd 2024, defnyddiwyd ein gwybodaeth a’n data unigryw i amlygu tueddiadau allweddol, heriau, a materion polisi yn ymwneud â gweithwyr cymorth dysgu yng Nghymru, gan gynnwys mewn perthynas â rhywedd, ethnigrwydd, ac anabledd.
Ym mis Tachwedd 2024, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, fe wnaethom ddyrannu niferoedd derbyn AGA i bartneriaethau AGA ar gyfer rhaglenni sy’n dechrau ym mis Medi 2025. Yn rhan o hyn, fe wnaethom roi targedau penodol i bartneriaethau ar gyfer recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg (30% o’r cyfanswm sy’n cael eu recriwtio), ac athrawon o gymunedau du, Asiaidd, ac ethnig leiafrifol (5% o’r cyfanswm sy’n cael eu recriwtio). Rydym yn monitro recriwtio i raglenni (gan gynnwys mewn perthynas â’r dangosyddion hyn), ac yn adrodd ar hyn i Lywodraeth Cymru.
Mae ein tîm eiriolaeth a chymorth Addysgwyr Cymru wedi datblygu cynlluniau recriwtio ac ymgysylltu sy’n cynnwys gweithgarwch recriwtio targedig ar gyfer pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Mae gennym swyddog recriwtio a chymorth penodol i arwain y broses o weithredu’r cynlluniau targedig hyn (gwnaethom annog ceisiadau gan ymgeiswyr du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ar gyfer y rôl hon). Mae gwaith yn y maes hwn wedi cynnwys ymgysylltu’n barhaus â grwpiau amrywiol ledled Cymru, gan gynnwys Cymdeithas Affricanaidd Gogledd Cymru, EYST, Kidcare4u, Cynefin Pamoja, Urban Circle, Ymgysylltu â Theuluoedd Ysgol Uwchradd Cathays, Canolfan Datblygu Cymunedol Glanyrafon, Gwasanaeth Iechyd Meddwl BAME, Canolfan Datblygu Cymunedol De Glanyrafon, Gŵyl Maindee, Mela Caerdydd, Fforwm Ieuenctid Pafiliwn y Faenor, DARPL, Rhwydwaith BAMEed, Partneriaid AGA ac ysgolion uwchradd ledled Cymru â chyfran uchel o fyfyrwyr sy’n ystyried eu bod yn ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.
Yn ystod 2024/25, rydym wedi cyflwyno/ymwneud â 43 o ddigwyddiadau targedig sy’n ceisio hyrwyddo gyrfaoedd ym myd addysg i bobl o gefndiroedd du, Asiaidd, ac ethnig leiafrifol. Ym mis Gorffennaf 2024, sefydlom bartneriaeth ffurfiol ag EYST, gan fynychu pedwar o’u digwyddiadau cyflogadwyedd a chyflwyno tair noson agored mewn cymunedau targed ledled Cymru. Amlygwyd gwaith tîm Addysgwyr Cymru yng nghylchlythyr rhanddeiliaid EYST hefyd, ym mis Tachwedd 2024.
Eleni, rydym wedi cyhoeddi dau flog yn ymwneud â chydraddoldeb. Amlygodd un y bar offer ReachDeck sydd ar gael ar ein gwefan (mis Mai 2024), ac amlygodd y llall gamau pwrpasol tuag at Gymru wrth-hiliol (mis Hydref 2024).
O dan un o bum egwyddor allweddol y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol (y Cod), mae gan gofrestreion CGA ddyletswydd broffesiynol i ddangos ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym wedi ymrwymo i gynorthwyo ein cofrestreion i gynnal y Cod ac, i’r perwyl hwn, rydym wedi recordio gweminar, cyhoeddi cyfres o astudiaethau achos Priodoldeb i Ymarfer a chyflwyno 46 o sesiynau hyfforddi ar y Cod yn benodol, ers 1 Ebrill 2024
Atodiad A – gwybodaeth am gyflogaeth
Nifer y bobl a gyflogir yn ôl nodwedd warchodedig
Rydym yn casglu data am gydraddoldeb staff trwy ein harolwg staff blynyddol. Wrth ofyn am y wybodaeth, rydym yn rhoi gwybod i staff fod llenwi’r ffurflen yn wirfoddol, ond bydd gwneud hynny’n ein rhoi mewn sefyllfa well i ddeall cyfansoddiad ein gweithlu ac archwilio ein harferion yn llawn. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni dargedu ein gweithgareddau a’n blaenoriaethau lle y canfyddir unrhyw dangynrychiolaeth neu anghydraddoldeb. Defnyddir y data i lywio asesiadau o’r effaith, datblygu polisïau, a chynlluniau hyfforddi. Cynhaliwyd ein harolwg diweddaraf ym mis Mawrth 2025. O’r 57 o aelodau staff a oedd yn eu swydd ar y pryd, cafwyd 48 o ymatebion (cyfradd ymateb 84%). Oherwydd maint ein sefydliad, mae ffigurau sy’n cynrychioli 10% neu lai o’r ymatebion wedi cael eu cuddio (a gynrychiolir gan *) i atal unigolion rhag cael eu hadnabod.
Oedran
16-24 | * |
---|---|
25-34 | 13 |
35-44 | 14 |
45-54 | 12 |
55-64 | 8 |
65 a hŷn | * |
Gwell gennyf beidio â dweud | * |
Rhywedd/rhyw
Gwrywaidd | 13 |
---|---|
Benywaidd | 35 |
Anneuaidd | * |
Rhyngryw | * |
Gwell gennyf beidio â dweud | * |
A ydych chi’n draws?
Ydw | * |
---|---|
Nac ydw | 47 |
Gwell gennyf beidio â dweud | * |
Cyfeiriadedd rhywiol
Arywiol neu aramantaidd | * |
---|---|
Deurywiol | * |
Hoyw/lesbiaidd | * |
Heterorywiol/syth | 43 |
Gwell gennyf beidio â dweud | * |
Arall | * |
Statws perthynas
Priod neu mewn partneriaeth sifil | 23 |
---|---|
Wedi ysgaru | * |
Sengl | 8 |
Byw gyda phartner mewn perthynas hirdymor | 16 |
Wedi gwahanu | * |
Gweddw | * |
Gwell gennyf beidio â dweud | * |
Arall | * |
Crefydd neu gred
Dim crefydd | 24 |
---|---|
Anffyddiwr | * |
Cristion | 14 |
Bwdhydd | * |
Hindŵ | * |
Dyneiddiwr | * |
Iddew | * |
Mwslim | * |
Pagan | * |
Sikh | * |
Gwell gennyf beidio â dweud | * |
Arall | * |
Ethnigrwydd
Gwyn – Cymro/Cymraes/Sais/Saesnes/Albanwr/Albanes/Gwyddel/Gwyddeles o Ogledd Iwerddon/Prydeinig | 43 |
---|---|
Gwyddel/Gwyddeles | * |
Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig | * |
Cymysg – gwyn a du Caribïaidd | * |
Cymysg – gwyn a du Affricanaidd | * |
Cymysg – gwyn ac Asiaidd | * |
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig – Indiaidd | * |
Asian/Asian British – Pakistani | * |
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig – Bangladeshaidd | * |
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig – Tsieineaidd | * |
Du/Caribïaidd | * |
Du/Affricanaidd | * |
Arabaidd | * |
Arall | * |
Hunaniaeth genedlaethol
Cymro/Cymraes | 33 |
---|---|
Sais/Saesnes | * |
Albanwr/Albanes | * |
Gwyddel/Gwyddeles | * |
Prydeinig | 12 |
Arall | * |
Cyfrifoldebau gofalu
Dim | 25 |
---|---|
Prif ofalwr plentyn/plant (o dan 18 oed) | 17 |
Prif ofalwr plentyn/plant anabl | * |
Prif ofalwr oedolyn anabl (18 oed a hŷn) | * |
Prif ofalwr person/pobl hŷn (65 oed a hŷn) | * |
Gofalwr eilaidd | * |
Gwell gennyf beidio â dweud | * |
Anabledd – A ydych chi’n ystyried bod gennych anabledd?
Ydw, cyfyngir llawer ar fy ngweithgareddau dydd i ddydd | * |
---|---|
Ydw, cyfyngir ychydig ar fy ngweithgareddau dydd i ddydd | * |
Nac ydw | 43 |
Ddim yn siŵr | * |
Gwell gennyf beidio â dweud | * |
Anabledd – Ticiwch yr amhariadau neu’r cyflyrau iechyd hynny sy’n berthnasol i chi
Amhariad gwybyddol (er enghraifft cyflyrau niwrolegol, neu ddementia) | * |
---|---|
Amhariad neu anabledd dysgu (er enghraifft dyslecsia, syndrom Down, awtistiaeth, ac ati) | * |
Cyflwr iechyd hirdymor (er enghraifft epilepsi, diabetes, neu ganser) | * |
Iechyd meddwl gwael (er enghraifft iselder, gorbryder, neu sgitsoffrenia) | * |
Amhariad ar y synhwyrau (er enghraifft amhariad ar y golwg neu’r clyw) | * |
Dall neu weld yn rhannol | * |
Byddar (defnyddiwr iaith arwyddion) | * |
Trwm eich clyw neu fyddar | * |
Amhariad symudedd | * |
Arall (ffurf ysgafn ar Barlys yr Ymennydd) | * |
Gwell gennyf beidio â dweud | * |
Anabledd – A oes gennych anabledd, fel y’i diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010? [5]
Oes | * |
---|---|
Nac oes | 40 |
Gwell gennyf beidio â dweud | * |
Data recriwtio
Lle y bo’n bosibl, rydym yn casglu a dadansoddi gwybodaeth am gydraddoldeb yn ymwneud â recriwtio staff. Mewn rhai achosion, pan dderbynnir nifer gyfyngedig o geisiadau ac mae angen defnyddio asiantaeth recriwtio, nid yw gwybodaeth am gydraddoldeb yn cael ei darparu bob amser. Yn ogystal, pan fydd aelodau staff mewnol yn ymgeisio am swyddi, nid oes rhaid iddynt lenwi ffurflen monitro amrywiaeth.
Yn ystod y cyfnod adrodd, hysbysebwyd 11 o swyddi ar gyfer recriwtio’n allanol. Rhoddwyd cyfle i’r holl ymgeiswyr uniongyrchol lenwi ffurflen monitro amrywiaeth ar yr adeg ymgeisio. Cawsom 113 o geisiadau uniongyrchol, ac roedd 82 o’r rhain wedi llenwi ffurflenni monitro amrywiaeth. Nid yw categorïau na ymatebwyd iddynt wedi cael eu cynnwys yn y data a adroddir isod.
Nifer y ceisiadau a gafwyd yn ôl nodwedd warchodedig (lle y llenwyd ffurflen monitro amrywiaeth)
Rhywedd/rhyw
Gwrywaidd | 20 |
---|---|
Benywaidd | 60 |
A ydych chi’n draws?
Nac ydw | 82 |
---|
Oedran
16-24 | 5 |
---|---|
25-34 | 32 |
35-44 | 21 |
45-54 | 21 |
55-64 | 3 |
Cyfeiriadedd rhywiol
Deurywiol | 1 |
---|---|
Hoyw/lesbiaidd | 5 |
Heterorywiol | 75 |
Gwell gennyf beidio â dweud | 1 |
Statws perthynas
Priod | 31 |
---|---|
Sengl | 29 |
Byw gyda phartner mewn perthynas hirdymor | 20 |
Partner | 1 |
Gwell gennyf beidio â dweud | 1 |
Crefydd neu gred
Dim crefydd neu gred | 49 |
---|---|
Anffyddiwr | 1 |
Cristion (pob enwad) | 21 |
Bwdhydd | 1 |
Mwslim | 4 |
Gwell gennyf beidio â dweud | 6 |
Eithnigrwydd[6]
Gwyn – Cymro/Cymraes | 56 |
---|---|
Gwyn – Sais/Saesnes | 8 |
Gwyn – Prydeinig | 13 |
Grŵp ethnig cymysg/lluosog arall | 1 |
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig – Indiaidd | 1 |
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig – Pacistanaidd | 1 |
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig – Bangladeshaidd | 2 |
Cefndir du/Affricanaidd/Caribïaidd/du Prydeinig arall | 1 |
Hunaniaeth genedlaethol [7]
Cymro/Cymraes | 56 |
---|---|
Sais/Saesnes | 3 |
Prydeinig | 18 |
Arall | 6 |
A oes gennych unrhyw gyfrifoldebau gofalu? [8]
Dim | 16 |
---|---|
Prif ofalwr plentyn/plant (o dan 18 oed) | 17 |
Prif ofalwr plentyn/plant anabl | 1 |
Gofalwr eilaidd | 2 |
Gwell gennyf beidio â dweud | 5 |
Anabledd – A ydych chi’n ystyried bod gennych anabledd?
Ydw, cyfyngir ychydig ar fy ngweithgareddau dydd i ddydd | 8 |
---|---|
Nac ydw | 71 |
Gwell gennyf beidio â dweud | 2 |
Anabledd – A oes gennych anabledd, fel y’i diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010?
Oes | 9 |
---|---|
Nac oes | 70 |
Gwell gennyf beidio â dweud | 1 |
Gweithdrefnau cwynion cyflogaeth
Ni chynhaliwyd unrhyw gwynion cyflogaeth yn ystod 2024/25 ac nid oes unrhyw weithdrefnau cwynion cyflogaeth sy’n parhau.
Gweithdrefnau disgyblu
Nid oedd unrhyw gyflogeion yn destun gweithdrefnau disgyblu yn ystod 2024/25 ac nid oes unrhyw weithdrefnau disgyblu sy’n parhau.
Ymadawyr
Gan fod yr holl ddata cydraddoldeb am gyflogeion yn ddienw, nid oes unrhyw ddata penodol ar gael ynglŷn â nodweddion gwarchodedig cyflogeion a adawodd y sefydliad.
Gwybodaeth ychwanegol am gyflog yn ôl rhywedd ar 31 Mawrth 2025
Cyflog | Gradd | Gwrywaidd | Benywaidd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|
£24,420 - £28,246 | Cymorth tîm | 0 | 2 | 2 |
£29,657 - £33,748 | Swyddog Gweithredol | 5 | 21 | 26 |
£35,787 - £43,758 | Swyddog Gweithredol Uwch (HEO) | 5 | 8 | 13 |
£45,974 - £54,430 | Uwch-swyddog Gweithredol (SEO) | 3 | 8 | 11 |
£58,918 - £70,450 | Gradd 7 | 0 | 1 | 1 |
£73,978 - £84,881 | Gradd 6 | 1 | 2 | 3 |
£95,231 - £111,359 | Prif Weithredwr | 1 | 0 | 1 |
Cyfanswm | 15 | 42 | 57 |
Math o gontract | Gwrywaidd | Benywaidd | Cyfanswm |
---|---|---|---|
Parhaol | 15 | 41 | 56 |
Cyfnod penodol | 0 | 1 | 1 |
Dros dro | 0 | 0 | 0 |
Cyfanswm | 15 | 42 | 57 |
Patrwm gweithio | Gwrywaidd | Benywaidd | Cyfanswm |
---|---|---|---|
Amser llawn | 14 | 39 | 53 |
Rhan-amser | 1 | 3 | 4 |
Cyfanswm | 15 | 42 | 57 |
Mae’r dadansoddiad yn cynnwys swyddogion ar gyfnod absenoldeb mamolaeth
[1] Yn cynnwys aelodau o’r pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer (PiY), y bwrdd achredu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), ac aseswyr y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI).
[2] Yn cynnwys aelodau o’r pwyllgor PiY, y Bwrdd Achredu AGA, ac aseswyr y MAGI.
[3] Yn cynnwys aelodau o’r pwyllgor PiY, y Bwrdd Achredu AGA, ac aseswyr y MAGI.
[4]Roedd Ystadegau Blynyddol y Gweithlu 2024 yn cynnwys data am 11 o 13 categori cofrestru. Roedd y ddau grŵp a oedd yn weddill (y rhai hynny a gyflogir fel penaethiaid, neu uwch arweinwyr (sy’n rheoli addysgu a dysgu yn uniongyrchol), mewn sefydliadau addysg bellach ac ymaferwyr addysg oedolion yn y gymuned), wedi ymuno â’r Gofrestr ar ôl i ddeddfwriaeth ddod i rym a gyflwynodd ddau gategori ymarferwyr cofrestredig newydd ym mis Mai 2024. Bydd pob un o’r 13 o grwpiau cofrestreion yn cael eu cynnwys yn Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg 2025.
[5] Rydych chi’n anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 os oes gennych amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol ‘sylweddol’ a ‘hirdymor’ ar eich gallu i wneud gweithgareddau pob dydd arferol.
[6] Nododd rhai ymgeiswyr eu bod yn perthyn i fwy nag un grŵp ethnig.
[7] Nododd rhai ymgeiswyr fod ganddynt fwy nag un hunaniaeth genedlaethol.
[8] Dewisodd rhai ymgeiswyr fwy nag un opsiwn ar gyfer eu cyfrifoldebau gofalu.