Safonau polisi gwasanaeth
Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2021-22
Hysbysiad Preifatrwydd
Datganiad Caffael
Datganiad CGA ar Adran 6 – y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau
Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2021-22
Dewiswch eich iaith
Safonau polisi gwasanaeth
Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2021-22
Hysbysiad Preifatrwydd
Datganiad Caffael
Datganiad CGA ar Adran 6 – y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau
Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2021-22
Ar y dudalen hon, fe welwch y polisïau a’r gweithdrefnau sy’n rheoli sut rydym ni’n gweithredu ac yn bodloni ein gofynion rheoleiddio.
Cod Ymddygiad ac Arfer Gorau ar Gyfer Aelodau
Rheolau Sefydlog
System ar Gyfer Ethol Cadeirydd y Cyngor
Datganiad ar adran 6 – y ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau
Mae’r uwch dîm rheoli yn gweithio gyda’r Cyngor pan fydd yn datblygu strategaeth ar gyfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Nhw sy’n gyfrifol am weithgareddau’r sefydliad o ddydd i ddydd ac am ddarparu arweiniad corfforaethol.
Mae Hayden yn gyfrifol am arwain a rhoi cyfeiriad strategol i’r CGA, gan weithredu yn unol â’i gyfrifoldebau statudol fel y’u nodir yn Neddf Addysg (Cymru) 2014.
Mae’n ymrwymedig i weithio gyda chofrestreion a rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys dysgwyr, rhieni/gwarcheidwaid, undebau llafur/cymdeithasau, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru.
Yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Cyfrifyddu, ef sy’n gyfrifol am sicrhau bod CGA yn cynnig gwerth am arian i gofrestreion ac yn defnyddio’i adnoddau yn effeithlon.
Ymunodd Hayden â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngAC) wrth iddo gael ei sefydlu yn 2000, gan weithio fel Dirprwy Brif Weithredwr yn gyntaf, cyn ymgymryd â rôl Prif Weithredwr CGA yn 2014.
Lisa sy’n gyfrifol am gynllunio, monitro ac adrodd ar faterion ariannol, pob mater sy’n ymwneud â llywodraethu ariannol, gan gynnwys cynnal archwiliadau, adnoddau dynol, a chymorth corfforaethol a systemau gwybodaeth. Mae Lisa'n Ddirprwy Brif Weithredwr CGA hefyd.
Ymunodd Lisa â CGA yn 2018, yn dilyn ei rôl flaenorol fel Pennaeth Cynllunio a Dadansoddi Ariannol yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae David yn gyfrifol am gynnal a datblygu Cofrestr Ymarferwyr Addysg Cymru. Mae hefyd yn gyfrifol am ein swyddogaeth priodoldeb i ymarfer, ymchwilio i a gwrando achosion a atgyfeirir i CGA, yn ogystal â dadansoddi ac adrodd data, a llywodraethu data.
Ymunodd David â CGA ym mis Tachwedd 2020, gan weithio fel Pennaeth Priodoldeb i Ymarfer i ddechrau, cyn symud i'w swydd bresennol ym mis Medi 2023. Swydd flaenorol David oedd fel uwch swyddog undeb llafur gydag undeb addysgu.
Bethan sy’n gyfrifol am achredu rhaglenni proffesiynol a hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiwn addysg, datblygiad proffesiynol, cynllunio a chyfathrebu strategol, a datblygu polisi.
Ymunodd Bethan â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngAC) yn 2000, a bu'n Rheolwr Tîm Datblygiad Proffesiynol a Chyllido o 2006, cyn symud i’w swydd bresennol yn 2018.
Rydym yn cyflwyno hyfforddiant a gweithdai i’n holl grwpiau cofrestredig yn ogystal â rhanddeiliaid megis llywodraethwyr, sefydliadau hyfforddi, consortia addysg rhanbarthol, a sesiynau hyfforddiant i staff. Gallwn wneud hyn yn bersonol neu’n rhithiol.
Mae ein harbenigedd yn cwmpasu amrywiaeth o themâu sy’n gysylltiedig â’n gwaith, megis:
Gallwn hefyd gymryd rhan mewn areithiau mewn cynadleddau a sesiynau panel, a mynychu marchnadle eich digwyddiad.
Os hoffech i ni fod yn rhan o'ch digwyddiad neu i gyflwyno sesiwn i'ch sefydliad, cwblewch y ffurflen hon.
Rydym wedi ein hymrwymo i ddarparu'r safonau uchaf o wasanaeth ar gyfer ein cofrestreion, rhanddeiliaid, a'r cyhoedd. Ymdrechwn i ddarparu proses hygyrch a thryloyw ar gyfer ymchwilio i gwynion am ein gwasanaeth, ac rydym yn anelu at ymateb i achwynwyr cyn gynted ag sy'n bosibl.
Rydym yn croesawu eich adborth, gan ei fod yn ein helpu i wella ein gwasanaeth ac i sicrhau na fydd problemau'n codi eto yn y dyfodol.
Os hoffech roi adborth ar unrhyw un o'n gwasanaethau, anfonwch
Rydym yn delio â phob cwyn yn ddifrifol ac yn anelu at ymateb cyn gynted â phosibl.
Gallwch ddarllen mwy am y math o gwynion y byddwn yn eu hystyried, sut i gwyno a'n prosesau yn ein dogfen safonau gwasanaeth.
Os hoffech wneud cwyn ynghylch priodoldeb i ymarfer, dylech ddarllen canllaw cwynion priodoldeb i ymarfer yn gyntaf. Mae’n gosod pryd, a sut gallwch wneud cwyn o ran ein prosesau priodoldeb i ymarfer.