Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi’r diweddaraf yn ei gyfres o ganllawiau arfer da, gan ganolbwyntio’r tro hwn ar arfer myfyriol.
Mae’r canllaw, sydd wedi’i anelu at holl gofrestreion CGA, yn amlinellu elfennau hanfodol arfer myfyriol, yn trafod y buddion, ac yn cynnig awgrymiadau ymarferol ar gyfer ei ddefnyddio’n effeithiol. Yn yr un modd â phob canllaw arfer da, mae’n amlygu sut gall y wybodaeth ynddo helpu i gynorthwyo cofrestreion i gynnal y safonau uchel sydd wedi’u gosod gan y proffesiwn a chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.
Wrth gyhoeddi’r canllaw, dywedodd Bethan Holliday-Stacey, Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi, “Mae ymarfer myfyriol yn ganolog i dwf proffesiynol. Ei nod yn ein canllaw newydd yw grymuso ein cofrestreion i gymryd cam yn ôl, meddwl am eu hymarfer proffesiynol, a’i ddadansoddi, y cyfan â’r nod o wella’n barhaus.”
Un adnodd penodol sy’n cael ei amlygu yn y canllaw i ategu myfyrdod yw’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). Mae’r PDP, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gyflwynir gan CGA, yn e-bortffolio ar-lein hyblyg sydd ar gael i holl gofrestreion CGA. Mae’n llawn nodweddion a luniwyd i’w cynorthwyo i gipio’u dysgu, myfyrio arno, ei rannu a’i gynllunio.
Mae’r canllaw yn dilyn rhyddhau Arwain Ymarfer Myfyriol – Adolygu'r Dystiolaeth, sef papur ymchwil a gomisiynwyd ar y cyd gan CGA a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Mae’r papur, a ysgrifennwyd gan yr Athro Carol Campbell a Maeva Ceau o Sefydliad Ontario ar gyfer Astudiaethau mewn Addysg ym Mhrifysgol Toronto, yn cynnig adolygiad manwl sy’n archwilio cysyniadau ymarfer myfyriol, ei effeithiau sylweddol ar addysg, a’r arferion arwain sy’n ei ategu a’i annog.
Mae’r canllaw ar gael i’w ddarllen nawr, ochr yn ochr â gweddill y gyfres canllawiau arfer da, ar wefan CGA.