Carly Rogers – 6 Mawrth 2025
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mawrth 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 3-6 Mawrth 2025 wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr ieuenctid, Carly Rogers.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi tra eu bod wedi eu cyflogi fel Gweithiwr Cyffuriau ac Alcohol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, bod perfformiad Ms Rogers rhwng Hydref a Rhagfyr 2022, wedi galw am welliant yn y meysydd canlynol:
- apwyntiadau gyda phobl ifanc
- nodiadau achosion
- ffeiliau achos
- cau achosion
- rheoli dyddiadur
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Ms Rogers fel gweithiwr ieuenctid am gyfnod o 2 flynedd (rhwng 6 Mawrth 2025 a 6 Mawrth 2027). O'r herwydd bydd Ms Rogers yn gallu gweithio fel person cofrestredig (gweithiwr ieuenctid) sy'n darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar ran cyflogwr (heblaw fel gwirfoddolwr, ac yn destun eithriadau o dan Reoliad 4(2))
Mae gan Mr Rogers yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.