Diogelu’r proffesiwn a'r cyhoedd
Rydym yn adolygu'r Cod
Ers cael ei gyflwyno, mae'r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol wedi rhoi canllawiau clir i ymarferwyr a'r cyhoedd ar y safonau a ddisgwylir gan gofrestreion CGA. Fel rhan o'n gofyniad cyfreithiol i adolygu'r Cod, rydym wedi gwneud rhai diwygiadau bychain. Ewch i'r dudalen ymgynghoriadau i weld y drafft diwygiedig a rhannu eich barn.
Astudiaethau achos PiY
Yn ein hastudiaeth achos Priodoldeb i Ymarfer (PiY) diweddaraf, rydym yn edrych ar esiampl o lle cafodd cofrestrai eu gwahardd am ffugio gwaith dysgwyr. Mae'r astudiaethau achos yn seiliedig ar enghreifftiau go iawn, ac wedi eu creu i roi pwyntiau dysgu gwerthfawr i gofrestreion gynnal a chydymffurfio gyda'r Cod, a diogelu eu cofrestriad.
Atgoffwch eich staff
Mae'n bwysig iawn bod manylion eich staff ar ein cofrestr yn gyfredol. Dylech eu hannog i fewngofnodi i'w cyfrif FyCGA i wneud yn siŵr bod y meysydd i gyd yn gyfredol.
Dod i wrandawiad priodoldeb i ymarfer
Caiff y mwyafrif o'n gwrandawiadau eu clywed yn gyhoeddus, sy'n golygu y gallwch ymuno fel arsyllwr. Mae gwybodaeth ar wrandawiadau i ddod a sut i fynychu ar dudalennau priodoldeb i ymarfer.
Diweddariadau'r Cyngor
Cyfarfod nesaf y Cyngor
Bydd cyfarfod nesaf y Cyngor yn cael ei gynnal yn swyddfeydd CGA, ddydd Iau 20 Mawrth. Gall unrhyw aelod o'r cyhoedd, gan gynnwys cofrestreion, arsylwi cyfarfod y Cyngor. I gael mwy o wybodaeth, a nodi eich diddordeb mewn mynychu,
Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol
Datgloi 25 mlynedd a mwy o arbenigedd gwaith achos priodoldeb i ymarfer CGA
11 Mawrth 2025, 10:30-11:45
Am y tro cyntaf, rydym yn rhannu gwybodaeth a chipolygon o fwy na 25 mlynedd o waith rheoleiddio, gan ddefnyddio ein profiad o fwy na 5,000 o achosion. Mae hwn yn ddigwyddiad ar gyfer cyflogwyr, asiantaethau cyflenwi a llywodraethwyr i ennill cipolwg gwell i'w waith a sicrhau gwybodaeth a fydd yn helpu gyda rhyngweithiadau yn y dyfodol â CGA, ac atgyfeiriadau atom. Mwy o wybodaeth a thocynnau am ddim ar gael ar ein tudalen digwyddiadau.
Defnyddio'r PDP i'ch cefnogi chi a'ch staff
Rydym yn parhau i weithio gyda nifer o sefydliadau, gan ddatblygu ffyrdd newydd i'r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) i gefnogi datblygiad proffesiynol a myfyrio ymarferwyr. Os oes diddordeb gyda chi'n darganfod sut gall y PDP helpu cefnogi eich sefydliad, darllenwch ein e-daflen neu cysylltwch â'r
Mae Sgwrsio yn ôl yn 2025
Ry'n ni wedi dechrau'r flwyddyn newydd gyda dwy bennod newydd o'n podlediad, Sgwrsio gyda CGA. Yn y cyntaf, ry'n ni'n edrych ar bwysigrwydd addysg amgylcheddol, a sut gall siapio cenedlaethau'r dyfodol. Yn yr ail, rydym yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, gyda ffocws arbennig ar bontio'r bwlch mewn pynciau STEM. Gallwch wrando ar y penodau nawr ar ein gwefan, neu drwy eich darparwr podlediadau.
Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) yng Nghymru
Llongyfarchiadau i Wasanaeth Ieuenctid Merthyr Tudful ar eu Marc Ansawdd arian, ac i Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd am adnewyddu eu gwobr efydd. Os hoffech fwy o wybodaeth am MAGI, ewch i dudalennau MAGI ar ein gwefan.
Hysbysu polisi
Rhannu eich barn ar ein cynllun strategol
Mae'r Cynllun Strategol drafft 2025 yn gosod blaenoriaethau CGA am y tair blynedd nesaf. Gallwch ddarllen y cynllun drafft a rhoi adborth nawr. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 12:00 ar 13 Mawrth 2025.
Rhag ofn i chi ei fethu
Cefnogi ein cynulleidfaoedd byddar a thrwm eu clyw
Rydym wedi cyhoeddi dau o'n fideos corfforaethol mewn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) am y tro cyntaf. Mae cyhoeddi'r fideos yma mewn BSL yn nodi carreg filltir arall i ni fel sefydliad, ac yn amlygu'r pwysigrwydd ry'n ni'n ei roi ar feithrin diwylliant o gynhwysiant.
Ein hymateb i'r ymgynghoriad gwaith ieuenctid
Fe wnaethom ymateb yn ddiweddar i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru oedd yn ceisio barn ar fframwaith statudol arfaethedig ar gyfer gwaith ieuenctid ledled Cymru.