Image not found: https://ewc.wales/site/images/FrontPage/Headline_articles/Box1_New_PLP.png#joomlaImage://local-images/FrontPage/Headline_articles/Box1_New_PLP.png?width=462&height=470
Image not found: https://ewc.wales/site/images/FrontPage/Headline_articles/Box23_renewal.png#joomlaImage://local-images/FrontPage/Headline_articles/Box23_renewal.png?width=400&height=150
Image not found: https://ewc.wales/site/images/FrontPage/Headline_articles/Box23_FTP_hearings.png#joomlaImage://local-images/FrontPage/Headline_articles/Box23_FTP_hearings.png?width=800&height=250

Astudiaeth achos: buddion defnyddio'r PDP ar gyfer y gweithlu ehangach

Yn y fideo yma, mae Darren Long o Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn datgelu buddion y mae ysgolion yn ei ardal yn ei gweld wrth ddefnyddio'r PDP ledled y gweithlu addysg ehangach.

Eich cofrestriad

Roedd angen eich bod wedi adnewyddu eich cofrestriad erbyn 31 Mawrth 2025. Os nad ydych wedi gwneud, gallwch dalu eich ffi nawr. Os ydych yn cael eich cyflogi ar gontract yng Nghymru, dylai eich cyflogwr fod wedi tynnu eich ffi gofrestru o’ch tâl mis Mawrth yn awtomatig.

Gwrandawiadau a chanlyniadau

Mae gennym gyfrifoldeb statudol i ymchwilio i unrhyw ymholiadau o ran safonau cofrestrai CGA, trwy ein proses priodoldeb i ymarfer. Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys gwrandawiadau i ddod, a chanlyniadau i ddod, ewch i'r wefan.

Newyddion

CGA ar daith i brif ddigwyddiadau Cymru

Yr haf hwn, bydd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn mynychu cyfres o ddigwyddiadau cenedlaethol blaenllaw ar hyd a lled Cymru i siarad â’i...

Hayden Llewellyn yn cyhoeddi ei ymddeoliad fel Prif Weithredwr CGA

Mae Prif Weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), Hayden Llewellyn, wedi cyhoeddi ei ymddeoliad ar ôl chwarter canrif o wasanaeth. Ymunodd Hayden...

CGA yn amlinellu ei weledigaeth at y dyfodol

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Gynllun Strategol 2025-28 a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 wedi ei adnewyddu, gan osod...

Quality Mark Logo All 3 LevelsSefydliad: Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin

Teitl: Arweinyddiaeth Iau

Person cyswllt: Heulwen O’Callaghan

Nod y prosiect. Nod ein prosiect oedd rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ennill cymhwyster cydnabyddedig ‘cyflwyniad i waith ieuenctid’ yn yr iaith o’u dewis.
Ymgynghorwyd â phobl ifanc ac fe wnaethant nodi yr angen am achrediad a oedd yn cydnabod eu gwirfoddoli a’u hymgysylltiad cymunedol â grwpiau Cymraeg. Llywiodd adborth Pobl Ifanc arddull a dull cyflwyno’r sesiynau, ac arweiniodd hefyd at wneud newidiadau i rywfaint o gynnwys y cwrs.

Darparodd pobl ifanc adborth a chreont fideo i annog eraill i ymgymryd â’r cwrs, ac amlinellu’r buddion iddynt.

Mae ymgynghori â phobl ifanc sy’n dilyn y prosiect yn sicrhau bod y prosiect yn gallu ei deilwra fel ei fod yn cyd-fynd orau â’r arddulliau dysgu y mae’r bobl ifanc yn eu ffafrio. Roedd rhoi cyfle i bobl ifanc ymgysylltu â’u cyfoedion ac oedolyn y gallant ymddiried ynddo mewn man diogel, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein, wedi galluogi’r bobl ifanc i fynegi eu hunain a chysylltu ac ymgynghori â phobl eraill na fyddent yn gwneud fel arfer.

Yn ystod y cyfnod clo, cynhaliwyd sesiynau’n rhithwir. Er y bu hyn yn llwyddiannus, byddai rhai o’r sesiynau mwy ymarferol wedi elwa o waith wyneb yn wyneb. Ar hyn o bryd, dull cyflwyno cyfunol sydd gan y prosiect, er mai ymgynghori â phobl ifanc ar bob cwrs sy’n pennu’r arddull a’r dull cyflwyno.

Mae prosiect ‘Arweinyddiaeth Iau’ wedi creu cyfleoedd i bobl ifanc allu ymgysylltu â’u cyfoedion mewn man diogel, yn eu dewis iaith, gydag oedolion y gallant ymddiried ynddynt. Mae partneriaethau wedi cael eu datblygu o fewn y gymuned leol ac o fewn y sector gwirfoddol a’r trydydd sector i hyrwyddo’r Gymraeg yn weithgar trwy ymyriadau gwaith ieuenctid â chymorth. Mae pobl ifanc wedi dod yn fwy gweithgar a gweladwy yn eu cymuned leol ac maent yn fwy ymwybodol o’u hawliau a’u cyfrifoldebau. Maent yn ymgysylltu’n weithgar â phobl ifanc eraill yn eu dewis iaith, gan hyrwyddo ac addysgu eraill am y cyfleoedd y mae gwaith ieuenctid yn eu cynnig er mwyn cael effaith gadarnhaol ar bobl ifanc yn lleol.

Bu cynnydd sylweddol mewn gweithio mewn partneriaeth a pherthnasoedd gwell gyda grwpiau Cymraeg gweithgar yn Sir Gaerfyrddin. Mae hyn wedi rhoi mwy o ffocws ar waith ieuenctid a lleisiau pobl ifanc o fewn rhwydweithiau lleol ar draws Sir Gaerfyrddin, yn enwedig yn y sector gwirfoddol a’r trydydd sector.

Cyflwynir y rhaglen i bartneriaid sector gwirfoddol gan ganolbwyntio ar gael mynediad at waith ieuenctid trwy’r Gymraeg. Mae pobl ifanc yn ymgysylltu ac yn gwirfoddoli’n weithgar yn eu cymuned leol gan hyrwyddo’r Gymraeg a mynediad at waith ieuenctid, gan rymuso pobl ifanc eraill hefyd i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o ymyriadau gwaith ieuenctid.

Mae’r prosiect yn parhau ac mae cyfleoedd partneriaeth wedi cynyddu yn gysylltiedig â’r cynnig gwaith ieuenctid Cymraeg i bobl ifanc.

Mae’r dolenni canlynol i’r cyfryngau cymdeithasol yn rhoi blas ar y prosiect. Ym mis Rhagfyr 2022, dyfarnwyd Gwobr Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yng Nghymru i ni.

 https://www.facebook.com/CarmsYSS/videos/487071895693827

https://www.facebook.com/carms.caerfyrddin/posts/pfbid0rbgmjncxw15LMUyp1YqFt1LGPNgApLb62LGoo1teM5biAW31v3kk2SFkBHxoDshUl