Luke Nicolle – 9 Hydref 2025
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 8-9 Hydref, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, Mr Luke Nicolle.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi eu profi, bod Mr Nicolle:
- ar neu o gwmpas 9 Mawrth 202, wedi gwneud cais i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg fel ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, ac wedi nodi yn yr adran datganiadau, gan roi tic yn y blychau 'na':
- nad oeddent yn destun unrhyw gamau gweithredu gyda chyflogwr arall, pan nad oedd hyn yn gywir
- nad oeddent yn destun gorchymyn disgyblu (gan gynnwys gorchymyn interim) gan unrhyw gorff proffesiynol neu reoleiddiol arall yn y wlad hon neu dramor, ac nad oeddent yn destun ymchwiliad gan gorff o'r fath, nad oedd hyn yn gywir
- ar neu o gwmpas 20 Gorffennaf 2020, wedi gwneud cais ar gyfer swydd Asesydd NVQ dan hyfforddiant gyda ITEC, ac na wnaeth ddatgelu ar eu ffurflen gais manylion camau disgyblu ac ymchwiliad gan eu cyflogwr blaenorol
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, fe wnaeth y Pwyllgor hefyd benderfynu bod ymddygiad Mr Nicolle ym mharagraffau 1 a 2 uchod yn anonest a heb hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mr Nicolle oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith. Penderfynodd hefyd na fyddai Mr Nicolle yn cael gwneud cais i'w adfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o 2 blynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mr Nicolle wneud cais llwyddiannus ar gyfer cymhwyster i'w adfer i'r Gofrestr ar ôl 9 Hydref 2027, bydd wedi ei wahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mr Nicolle yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.



