Jason King – 5 Tachwedd 2025
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 3, 4 a 5 Tachwedd 2025, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, Mr Jason King.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei gyflogi fel cynorthwy-ydd cymorth dysgu yn Ysgol Cil-y-coed, bod Mr King:
- ar 28 Chwefror 2023, tra oedd yn y gwaith, wedi ymddwyn tuag at Gydweithiwr A mewn modd a oedd yn amhriodol ac yn ddieisiau, yn yr ystyr bod Mr King:
- wedi dweud “fe alla’ i dylino’n dda” neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- wedi byseddu tethi Cydweithiwr A
- wedi byseddu organau rhywiol Cydweithiwr A
- ar 14 Mehefin 2023, wedi anfon neges destun neu neges WhatsApp amhriodol a digymell at Dyst A, a oedd yn gydweithiwr
- ar ddyddiadau anhysbys, rhwng tua mis Medi 2022 a mis Awst 2023, tra oedd yn y gwaith, wedi ymddwyn tuag at Dyst A mewn modd a oedd yn amhriodol ac yn ddieisiau, yn yr ystyr bod Mr King:
- wedi gwneud sylwadau ar beth oedd Tyst A yn ei wisgo
- wedi goglais neu geisio goglais Tyst A
- ar ddyddiadau anhysbys, rhwng tua mis Chwefror 2023 a mis Ebrill 2024, tra oedd yn y gwaith, wedi ymddwyn tuag at Dyst B mewn modd a oedd yn amhriodol ac yn ddieisiau, yn yr ystyr bod Mr King:
- wedi gwneud sylwadau rhywioledig ynglŷn â chorff Tyst B
- wedi cyffwrdd â gwasg Tyst B
- wedi codi Tyst B i fyny a dawnsio gyda hi a’i throi o gwmpas
- wedi dweud “wyt ti wedi cael rhyw eto” neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- ar ddyddiad anhysbys yn ystod neu o gwmpas mis Hydref 2023, tra oedd yn y gwaith, wedi ymddwyn tuag at Dyst A mewn modd a oedd yn amhriodol ac yn ddieisiau yn yr ystyr bod Mr King:
- wedi dweud wrth Dyst A gymaint yr oedd eisiau ei chusanu
- wedi ceisio cusanu Tyst A
- ar ôl ceisio cusanu Tyst A, wedi dweud wrth Dyst A “dwi wedi bod eisiau gwneud hyn ers tro. Mae angen i mi gael gwared â’r teimlad yma sydd gen i tuag atat.”
- ar 26 Hydref 2023, tra oedd yn y gwaith, wedi ymddwyn tuag at Dyst A mewn modd a oedd yn amhriodol ac yn ddieisiau yn yr ystyr bod Mr King:
- wedi gafael yng ngwasg Tyst A
- wedi rhwbio ei ddwylo ar wasg Tyst A
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor hefyd fod ymddygiad Mr King o natur rywiol ac wedi’i ysgogi gan ryw.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Mr King o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Mr King wneud cais i gael ei adfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 5 mlynedd fynd heibio. Os na fydd Mr King yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei adfer i’r Gofrestr ar ôl 5 Tachwedd 2030, bydd yn aros wedi’i wahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Mr King hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.



