Mae'r wybodaeth hon ar gyfer personau cofrestredig sy'n paratoi ar gyfer gwrandawiad gan un o Bwyllgorau Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA).
Sylwch: mae’r rhan fwyaf o’n gwrandawiadau bellach yn cael eu cynnal o bell.
A oes rhaid i mi fynychu gwrandawiad?
Mae CGA yn argymell yn gryf eich bod yn siarad â'ch cynrychiolydd undeb neu gynrychiolydd arall am gyngor a chymorth.
Gallwch benderfynu peidio â mynychu’r gwrandawiad. Ni all CGA eich gorfodi i fynychu ond mae'n argymell yn gryf eich bod yn mynychu. Byddai'n well bob amser gan Bwyllgor Priodoldeb i Ymarfer glywed ymateb y person cofrestredig yn uniongyrchol i fater o ymddygiad neu gymhwysedd. Bydd eich presenoldeb hefyd yn caniatáu i'r Pwyllgor ofyn cwestiynau lle nad yw’r aelodau’n glir eu meddwl am yr hyn rydych wedi’i ddweud yn eich tystiolaeth.
Os nad ydych yn mynychu, gall y Pwyllgor barhau â'r gwrandawiad a dod i benderfyniad yn eich absenoldeb.
Os nad oes gennych gynrychiolydd, mae'n bosibl bydd yr wybodaeth ganlynol yn eich helpu i ddod i benderfyniad ynghylch mynychu.
Mae yna resymau eraill pam nad wyf am fynychu.
Efallai bod yna resymau penodol pam nad ydych am fynychu, neu’n teimlo na allwch fynychu.
Er enghraifft, efallai bod gennych anabledd, salwch neu gyflwr, megis iselder neu orbryder, anhawster dysgu, anabledd corfforol, neu’ch bod yn cael anhawster mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Neu efallai’ch bod chi’n teimlo dan fygythiad oherwydd eich oed, rhywedd, hil, cefndir diwylliannol neu rywioldeb.
Mae’n bosibl y gall CGA awgrymu addasiadau i’r ffordd y rhowch dystiolaeth, er enghraifft trwy drefnu cymorth os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch golwg, neu anawsterau symud.
Gallwch ofyn am i’ch tystiolaeth gael ei chlywed yn breifat.
Mae’n bwysig bod CGA yn gwybod am eich anghenion fel y gall sicrhau bod cymorth yn cael ei drefnu.
Nid wyf yn sicr a wyf am roi tystiolaeth mewn gwrandawiad. Beth ddylwn ei wneud?
Unwaith eto, mae CGA yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu â'ch cynrychiolydd undeb neu gynrychiolydd arall a fydd yn helpu i wneud penderfyniadau rydych yn fodlon arnynt.
Ni all CGA eich gorfodi i roi tystiolaeth.
Ai gwrandawiad cyhoeddus yw hwn? Pwy fydd yno?
Gwrandawiad cyhoeddus ydyw yn unol â’r Ddeddf Hawliau Dynol – mae hyn yn sicrhau bod pob person yn cael gwrandawiad teg yn yr ystyr y caiff unrhyw un ei fynychu a’i arsylwi. Fodd bynnag, gallwch ofyn i'r Pwyllgor wrando ar rai rhannau o’r gwrandawiad, neu’r gwrandawiad cyfan, yn breifat os oes gennych resymau da iawn. Nid oes rhaid i’r Pwyllgor gytuno i hyn.
Gallai fod aelodau’r cyhoedd neu’r wasg yn arsylwi, ond ni chânt gymryd rhan yn y gwrandawiad. Gallai hyn gynnwys staff o'r awdurdod lleol neu staff sefydliad addysg bellach. Mae’n eithaf anarferol i aelodau’r cyhoedd gan nad oes ganddynt ddiddordeb penodol fynychu.
Pobl eraill yn y gwrandawiad fydd staff CGA, y Pwyllgor, sy’n cynnwys personau cofrestredig a phobl leyg yn bennaf, a chyfreithwyr annibynnol. Y cyntaf o’r cyfreithwyr hyn yw’r Swyddog Cyflwyno. Mae Swyddogion Cyflwyno’n gweithredu ar ran CGA, ac yn cael eu cyflogi gan gwmni cyfreithiol annibynnol. Eu rôl yw cyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor bod y ffeithiau, fel y nodir yn y Rhybudd Gweithrediadau, wedi'u profi. Gall wneud hyn gyda thystion byw a gwaith papur. Mae’r ail yn gyfreithiwr o gwmni cyfreithiol annibynnol arall sy’n gallu rhoi cyngor cyfreithiol i’r Pwyllgor.
A gaf i ddod â rhywun gyda fi i’r gwrandawiad?
Cewch. Yn ogystal â chynrychiolydd undeb neu gynrychiolydd arall, gallwch ddod â rhywun arall i'ch cefnogi, er enghraifft, ffrind neu berthynas. Ni chaiff neb sy'n dod gyda chi i'ch cefnogi gymryd rhan yn y gwrandawiad.
Ni chaiff arsylwyr aros yn y gwrandawiad os bydd unrhyw ran ohono’n cael ei gynnal yn breifat.
Gallwch hefyd ddod â thystion sy'n gallu rhoi tystiolaeth ar eich rhan. Gall y rhain fod yn dystion sydd wedi bod yn gysylltiedig o bosibl â'r materion y bydd y Pwyllgor yn eu hystyried (y ffeithiau) neu rywun sy'n gallu siarad am eich amgylchiadau personol, eich cymeriad, a/neu eich proffesiynoldeb (lliniariad).
Nid wyf am gael unrhyw gysylltiad â'r tystion mae CGA wedi'u galw.
Bydd CGA yn trefnu ystafell aros breifat i chi ei defnyddio cyn ac ar ôl y gwrandawiad, ac yn ystod egwyliau ac amser cinio. Gall eich cynrychiolydd undeb a'ch cefnogwyr eraill ddefnyddio hon hefyd.
Os yw CGA wedi galw tystion, byddant yn defnyddio ystafell aros ar wahân. Bydd clercod CGA yn gwneud eu gorau i sicrhau nad ydych yn dod i unrhyw gysylltiad â'r tystion, er bod ardaloedd cyffredin ym mhob lleoliad.
Yn ystod y gwrandawiad mewn person, bydd Clercod yn sicrhau eich bod yn cael eistedd i ffwrdd o stondin y tyst.
A fyddaf yn derbyn y bwndel papurau cyn y gwrandawiad?
Byddwch. Anfonir hwn atoch 10 diwrnod cyn y gwrandawiad. Anfonir copi hefyd at eich cynrychiolydd undeb neu gynrychiolydd arall.
Bydd yr un bwndel o bapurau ar gael yn stondin y tyst, os penderfynwch roi tystiolaeth.
Mae'n bosibl y gofynnir i chi edrych ar rai dogfennau yn y bwndel os cewch eich holi. Dylech gymryd eich amser i ddarllen pob dogfen yn ofalus cyn ateb unrhyw gwestiynau.
Beth sy’n digwydd yn y gwrandawiad?
Ar ddiwrnod y gwrandawiad, dylech geisio cyrraedd erbyn 9:30. Mae gwrandawiadau’n dechrau fel arfer am 10:00. Bydd y Clerc yn sicrhau eich bod yn gyfforddus drwy ddangos ystafell y gwrandawiad i chi (os yw mewn person), a’ch tywys i ystafell aros.
Mae cyrraedd mewn da bryd yn golygu y bydd gan eich cynrychiolydd undeb neu gynrychiolydd arall amser i siarad gyda chi am yr hyn fydd yn dilyn. Os nad oes rhywun gyda chi i'ch cefnogi, bydd swyddog o CGA ac ymgynghorydd cyfreithiol CGA yn dod i siarad gyda chi cyn i'r gwrandawiad ddechrau i esbonio’r hyn fydd yn digwydd.
Bydd y Swyddog Cyflwyno’n gosod achos CGA gerbron yn gyntaf. Yn dilyn hyn bydd eich tystiolaeth chi.
Bydd y Clerc yn gofyn i chi naill ai gymryd y llw neu gadarnhau (p’un bynnag sydd orau gennych chi - trafodir hyn gyda chi ymlaen llaw). Os yw’n wrandawiad mewn person, byddant yn rhoi sedd i chi wrth fwrdd y tyst pan fydd hi'n bryd i chi roi tystiolaeth.
Os ydych wedi anfon datganiad at CGA cyn y gwrandawiad, gallech benderfynu, yn dilyn cyngor eich cynrychiolydd, ei ddarllen i'r Pwyllgor. Gallai hwn fod yn brofiad dirdynnol. Mae’n bwysig, felly, pan ofynnir i chi wneud hyn, eich bod yn cymryd eich amser ac yn darllen yn araf a dylai hyn helpu. Ni fydd neb yn eich rhuthro. Gallai eich cynrychiolydd, os oes un gyda chi, ofyn cwestiynau i chi wrth i chi ddarllen, neu ar ôl i chi orffen darllen.
Yna, bydd Swyddog Cyflwyno CGA yn gofyn cwestiynau.
Yn olaf, bydd y Pwyllgor yn gofyn cwestiynau i chi os oes rhai ganddo.
Pa gwestiynau a ofynnir i mi?
Dim ond cwestiynau am eich tystiolaeth ddylai gael eu gofyn.
Bydd pob parti yn y gwrandawiad yn ymwybodol na ddylai cwestiynau fod yn gyfwynebiadol neu’n amhriodol. Bydd Cadeirydd y Pwyllgor neu’r ymgynghorydd cyfreithiol yn camu i mewn os yw tôn yr holi’n newid.
Mae’n bosibl bod y gwrandawiad yn cael ei gynnal peth amser wedi’r digwyddiadau roeddech yn gysylltiedig â nhw. Os ydych wedi anghofio unrhyw fanylion neu ffeithiau, peidiwch ag ofni dweud hynny.
Beth sy’n digwydd os bydd angen hoe arna i?
Bydd y Pwyllgor yn awyddus i sicrhau eich bod yn gyfforddus wrth roi tystiolaeth. Os hoffech gael hoe ar unrhyw adeg, am ba reswm bynnag, cofiwch ddweud hynny. Gallai’r Pwyllgor hefyd benderfynu ei bod yn amser cael hoe os ydych wedi bod wrthi’n rhoi tystiolaeth ers peth amser.
A gaf i roi tystiolaeth yn Gymraeg?
Cewch. Bydd angen i chi roi 21 diwrnod o rybudd i CGA.
Bydd CGA wedi anfon yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch bedair wythnos cyn y gwrandawiad. Yn yr wybodaeth hon mae ffurflen o’r enw ‘Presenoldeb Person Cofrestredig’. Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i roi gwybod i CGA yr hoffech roi eich tystiolaeth yn Gymraeg.
A oes unrhyw beth arall y dylwn ei wybod neu ei ystyried?
Gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn diwrnod y gwrandawiad, yn enwedig os yw’r gwrandawiad mewn peron. Yn arbennig, gwiriwch y gwyddoch ble mae lleoliad y gwrandawiad a sut i gyrraedd yno.
Hefyd, nodwch y canlynol:
- dillad gwaith trwsiadus yw’r cod gwisg disgwyliedig ar gyfer gwrandawiadau
- caiff gwrandawiadau eu recordio
- gwaherddir defnyddio ffonau symudol yn ystod y gwrandawiad
Bu’n rhaid i mi deithio i’r gwrandawiad, a chymryd diwrnod i ffwrdd o’r ysgol. A gaf i hawliau treuliau?
Na chewch. Ni all CGA ad-dalu unrhyw gostau i chi.