Ymunwch â ni am ddigwyddiad briffio polisi, lle byddwn yn taflu goleuni ar rôl hanfodol gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion ledled Cymru. Byddwn yn arddangos y data diweddaraf o Gofrestr CGA, ac yn archwilio'r materion sy'n effeithio gweithwyr cymorth.
Dyma yw'n clwb llyfrau a chyfnodolion i helpu ein cofrestreion i wneud y mwyaf o’u mynediad am ddim i lyfrgell ymchwil addysg fwyaf y byd, EBSCO. Dysgwch fwyneu tanysgrifiwch i’n rhestr bostio.
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg wrth (CGA) eu bodd i gyhoeddi'r Athro Rose Luckin fel prif siaradwr Siarad yn Broffesiynol 2025 'Cofleidio deallusrwydd...
Cyhoeddwyd mai Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yw’r diweddaraf i dderbyn y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, gan dderbyn y dyfarniad...
Mae Urban Circle Casnewydd a MAD Abertawe wedi eu cyhoeddi fel derbynwyr diweddaraf Marc Ansawdd efydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) yng Nghymru....
Er mwyn rhoi’r canlyniadau gorau i bobl ifanc, mae'n bwysig bod pob sefydliad yn darparu'r gwasanaeth gorau y gall ac i fod mewn sefyllfa i ddangos canlyniadau cadarnhaol o’u gwaith. Mae'r astudiaethau achos canlynol yn enghreifftiau o sut mae ein deiliaid y Marc Ansawdd wedi darparu darpariaeth gwaith ieuenctid o safon i bobl ifanc.
Hanfod y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yw helpu grwpiau a sefydliadau i adnabod, disgrifio a dathlu eu gwaith gyda phobl ifanc. Mae aseswyr y Marc Ansawdd yn chwarae rôl hanfodol yn hyn o beth.
Beth mae asesydd y Marc Ansawdd yn ei wneud?
Fel asesydd y Marc Ansawdd, byddwch yn rhan o dîm sy'n gwirio ansawdd arfer gwaith ieuenctid yn allanol.
Gan weithredu fel mentor, byddwch yn cefnogi eraill wrth iddynt weithio tuag at gyflawni'r Marc Ansawdd. Byddwch hefyd yn chwarae rôl allweddol o ran adnabod, hyrwyddo a dathlu arferion da.
Mae aseswyr y Marc Ansawdd yn ymgymryd â'r rôl yn wirfoddol. Os cewch eich dewis i weithredu fel asesydd arweiniol, cewch eich talu am eich amser.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano mewn asesydd
Nid oes angen cymhwyster penodol arnoch i ddod yn asesydd. Ond mae'n helpu os ydych yn angerddol am ddathlu gwaith ieuenctid yng Nghymru a bod gennych ddiddordeb mewn sicrhau ansawdd.
Bydd gennych bersonoliaeth fywiog a chyfeillgar ac:
o leiaf 5 mlynedd o brofiad o weithio gyda phobl ifanc
sgiliau arsylwi a dadansoddi rhagorol
anian gefnogol a chydweithredol
Manteision bod yn aseswr
Bydd bod yn aseswr yn caniatáu i chi:
rannu arferion da a dysgu wrth eraill
cyfrannu at ddatblygu gwaith ieuenctid
gwella'ch sgiliau arwain a chyfathrebu
adeiladu ar eich rhwydwaith presennol o berthnasau proffesiynol
cynyddu eich gwybodaeth a'ch ymwybyddiaeth o'r sector gwaith ieuenctid
Os ydych yn ymrwymedig i wella gwaith ieuenctid yng Nghymru, ac yn teimlo’ch bod yn gallu cynnig yr hyn sy’n ofynnol i fod yn aseswr, rydym yn eich annog i gwblhau ein ffurflen gais fer.
Rydym yn gweinyddu'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru (MAGI), mewn partneriaeth â Safonau Addysg Hyfforddiant (ETS) Cymru, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol, Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru a Chylch Asiantaethau Hyfforddiant Cymru.
Mae’r Marc Ansawdd yn adnodd unigryw ar gyfer hunanasesu, cynllunio gwelliant ac ennill marc ansawdd am waith ieuenctid. Mae’n cefnogi ac yn cydnabod safonau sy’n gwella mewn darpariaeth, ymarfer a pherfformiad sefydliadau sy’n cyflwyno gwaith ieuenctid, gan ddangos a dathlu rhagoriaeth eu gwaith gyda phobl ifanc.
Mae’r Marc Ansawdd yn cynnwys dwy elfen wahanol:
cyfres o Safonau Ansawdd y gall sefydliadau gwaith ieuenctid eu defnyddio fel adnodd ar gyfer hunanasesu a gwella
marc ansawdd wedi’i asesu’n allanol sy’n ddyfarniad cenedlaethol i ddangos rhagoriaeth sefydliad
Mae 38 o sefydliadau gwaith ieuenctid yng Nghymru wedi cyflawni’r Marc Ansawdd. Os hoffech gofrestru eich diddordeb ar gyfer asesiad allanol y Marc Ansawdd, cwblhewch ffurflen mynegi diddordeb.
Efydd
Cadlanciau Heddlu Gwent Canolfan i Bobl Ifanc Cwmbrân Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru Community House, Community Youth Project Clybiau Bechgyn a Merched Cymru Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Powys Gwasanaeth Ieuenctid Evolve Cyngor Abertawe Gwasanaeth Ieuenctid Merthyr Gwasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy KPC Ieuenctid a Chymuned National Youth Advocacy Service (NYAS Cymru) Promo Cymru Prosiect Ieuenctid Caerfyrddin Dr Mz St John's Ambulance Cymru Tim Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig & Ieuenctid Cymru Valleys Kids Vibe Youth Welsh ICE Urban circle Swansea MAD
Arian
Gwasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd Gwasanaeth Ieuenctid Casnewydd Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogi RhCT Youth Cymru YMCA Abertawe Princes Trust Cymru
Aur
Dug Caeredin Cymru Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili Youth4U Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot Gwasanaeth Ieuenctid Conwy Gwasanaeth Ieuenctid Sir Benfro Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam Urdd Gobaith Cymru YMCA Caerdydd
Mae ein modiwl e-ddysgu wedi ei greu i helpu adeiladu ar eich gwybodaeth am y Marc Ansawdd, pam ei fod yn bwysig a’i gynnwys. Dechrau’r modiwl.
O bersbectif yr ifanc: proses asesu MAGI
Mae'r fideo byr yma, a gynhyrchwyd gan MAD Abertawe, yn tywys pobl ifanc sy'n ymgymryd â'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) yng Nghymru , trwy'r broses asesu.
Ry’n ni wedi ail-ddylunio ein gwefan i wella’r gwasanaeth a’r profiad ry’ch chi’n ei gael. I roi adborth ar y wefan newydd, cysylltwch â This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.