Ar 14 Hydref 2020 bu i ni gynnal ein brîff polisi rhithwir cyntaf erioed ar recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru. Gan adeiladu ar ein brîff polisi yn 2017, cyflwynodd digwyddiad eleni’r darlun mwyaf cyfredol o’r sefyllfa yng Nghymru.
Daeth y brîff, a gynhaliwyd ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, â dros 160 o randdeiliaid addysg ynghyd i archwilio themâu sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil dadansoddiadau data a gweithgarwch ymchwil cynhwysfawr.
Yn dilyn araith agoriadol gan Kirsty Williams MS, dechreuon ni’r sesiwn trwy edrych ar brif ganfyddiadau ein dadansoddiad data ar draws amrywiol feysydd. Fe archwilion ni themâu megis y Gymraeg, arweinyddiaeth, sefydlu a recriwtio i raglenni AGA.
Yna, clywodd y mynychwyr am dueddiadau ymddangosol ym maes recriwtio a chadw athrawon ledled y DU ac ar lefel fyd-eang, yn ogystal ag edrych ar rai o’r strategaethau sydd wedi cael eu defnyddio i fynd i’r afael â’r rhain.
Yn y cylch olaf o gyflwyniadau cafwyd golwg ar y cynlluniau diwedaraf i fynd i’r afael â materion ynghylch recriwtio a chadw. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyniad gan Dr Hazel Hagger, cadeirydd bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Atrhawon (AGA) CGA, a ganolbwyntiodd ar y dull Cymreig o weithredu AGA. Yna, clywodd mynychwyr am wefan sydd i fod i lansio yng ngwanwyn 2021 a gwasanaeth eiriolaeth, sydd eisoes ar waith, sy’n rhan o ymgyrch genedlaethol i hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau addysg cofrestredig.
I gloi’r sesiwn, cafodd mynychwyr gyfle i ofyn y cwestiynau am bynciau llosg i banel o arbenigwyr oedd yn cynnwys Hayden Llewellyn, sef Prif Weithredwr CGA. Yn ymuno ag ef oedd Kevin Palmer (Dirprwy Gyfarwyddwr Addysgeg, Arwenyddiaeth a Dysgu Proffesiynol Llywodraeth Cymru), Dr Hazel Hagger, Elaine Sharpling (Cyfarwyddwr Addysg Athrawon, Huw Powell (Pennaeth, Ysgol Uwchradd y Fair Ddihalog), Matthew Evans (Pennaeth, Ysgol Gyfun Glantaf).
Lawrlwythiadau
Brîff polisi 2020 (PwyntPŵer dwyieithog)
Brîff polisi 2020 (PDF dwyieithog)