Creating Learning without Limits - Mandy Swann, Alison Peacock, Susan Hart a Mary Jane Drummond
Mae'r llyfr diddorol ac ysbrydoledig hwn yn adrodd hanes sut y creodd ysgol gynradd, a oedd ar un adeg ag angen mesurau arbennig, amgylchedd dysgu sy'n 'gynhwysol, yn drugarog ac yn galluogi pawb'.
Mae Creating Learning without Limits yn adeiladu ar ymchwil flaenorol ar arfer yn yr ystafell ddosbarth gan yr awduron, ac yn archwilio sut y gellir gwella gallu dysgu pob plentyn drwy greu amgylchedd ystafell ddosbarth sy'n gynhwysol ac yn rhydd o labeli 'gallu'.
Mae hwn yn llyfr y dylai unrhyw addysgwr sy'n credu ym photensial di-derfyn pob dysgwr a pherson ifanc ei ddarllen.
Nid yw’r cyhoeddiad yma ar gael ar EBSCO bellach. Efallai y gallwch ddod o hyd iddo mewn ffynhonellau eraill.
Motivation to Learn: Transforming classroom culture to support student achievement - Michael Middleton a Kevin Perks
P'un a ydych yn athro newydd gymhwyso, neu'n ymarferydd profiadol, un o'r heriau mwyaf ar gyfer unrhyw addysgwr yw sut i ysgogi dysgwyr.
Mae ‘Motivation to Learn: Transforming Classroom Culture to Support Student Achievement’ yn darparu strategaethau pendant i helpu addysgwyr greu amgylchedd dysgu sy’n cynyddu ymgysylltiad myfyrwyr i'r eithaf.
Yn ogystal ag adolygu'r seicoleg y tu ôl i gymhelliant, mae'r llyfr hwn yn darparu cyfleoedd ar gyfer hunanfyfyrio, astudiaethau achos bywyd go iawn a syniadau ymarferol y gellir eu gweithredu ar unwaith yn yr ystafell ddosbarth.




Y mis hwn, rydym wrth ein bodd i rannu dau argymhelliad gwadd gan yr Athro John Furlong OBE.
Mae’r llyfr hawdd ei ddarllen hwn sy’n llawn gwybodaeth graff ac enghreifftiau diddorol, yn trafod rhai o’r materion mwyaf sylfaenol sy’n codi ym maes profi addysgol.
Mae’r llyfr hwn, sy’n cynnig gwybodaeth werthfawr am asesu ar gyfer dysgu, yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol ar weithredu dulliau newydd ac arloesol i wella addysgu a dysgu.
Yn dathlu 30 mlynedd o Kidscape, mae'r llyfr unigryw yma'n dod â 12 o elusennau adnabyddus (a'u cefnogwyr enwog) ynghyd i rannu casgliad o brosiectau arloesol sy'n hyrwyddo cynhwysiant, goddefgarwch a charedigrwydd.
Mae'r llyfr hwn yn gafael yn y dychymyg, sy'n cynnwys cyngor defnyddio a chanllawiau ar gyfer addysgwyr sydd a, ddatblygu a rhoi rhaglen lles ar waith yn eu lleoliad.
Wedi ei ysgrifennu gan gyn-athro, mae'r llyfr yma'n dadlau bod angen i athrawon fod mewn cytgord ag anghenion dysgwyr unigol i gael arfer effeithiol yn yr ystafell ddosbarth, gan ddefnyddio'u gwybodaeth a'u dealltwriaeth i greu amgylcheddau cynhwysol yn yr ystafell ddosbarth. Mae Eaude yn ystyried sut gall athrawon cynradd ehangu eu harbenigedd yn llwyddiannus a datblygu ymdriniaeth hyblyg, sythweledol i gynllunio, asesu ac addysgu.
Sut gall ysgolion elwa o gymryd rhan mewn rhwydweithiau dysgu proffesiynol, a pha mor werthfawr yw'r perthnasau y maent yn eu meithrin rhwng athrawon ac arbenigwyr, fel ymchwilwyr prifysgol? Mae Brown a Flood yn defnyddio un astudiaeth achos (Rhwydwaith Dysgu Ymchwil y Fforest Newydd) i ddangos y gall rhwydweithiau o'r fath fod yn effeithiol iawn i hyrwyddo gwybodaeth, rhannu, arloesi a helpu rhannu syniadau newydd ac arfer da.