Susan Davis a Chantelle Haughton - Recriwtio o Leiafrifoedd Ethnig i addysg gychwynnol athrawon AGA a'r proffesiwn addysgu yng Nghymru: cyfle i chi ddweud eich dweud
Ym mis Ionawr 2021, lansiodd ein tîm aml-ethnig ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd brosiect ymchwil pwysig i werthuso gweithgarwch recriwtio pobl o leiafrifoedd ethnig (LlE) i addysg gychwynnol athrawon (AGA) a'r proffesiwn addysgu.
Yn y DU, amlygwyd tangynrychiolaeth grwpiau LlE ym maes addysgu i gychwyn ym 1985 yn adroddiad Swann. Mae pryder ers amser hir am dangynrychiolaeth athrawon o leiafrifoedd ethnig (Carrington et al, 2000; Llyfrfa Ei Mawrhydi, 1985). Yng Nghymru, cyhoeddodd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, fel yr oedd ar y pryd, strategaeth ar gyfer recriwtio a chadw athrawon yn 2003, a oedd yn cynnwys yr angen i wella gweithgarwch recriwtio LlE i addysgu. Awgrymodd y byddai hyn yn gofyn am ragor o ymchwil, arweiniad a chydweithredu pellach yn y sector addysg (CyngACC, 2003). Yn fwy diweddar, mae Haque (2017) a Joseph-Salisbury (2020) wedi amlygu prinder parhaus mewn athrawon LlE yn Lloegr.
Yn fyr, er gwaethaf y ffaith i'r mater am dangynrychiolaeth LlE ym maes addysgu gael ei amlygu gyntaf dros 25 mlynedd yn ôl, ychydig iawn o newid pendant sydd wedi bod.
Yn ôl Ystadegau Cymru (2020), mae 12 y cant o ddisgyblion yng Nghymru 5 oed neu'n hŷn o gefndiroedd heblaw cefndiroedd gwyn Prydeinig. Fodd bynnag, mae niferoedd anghymesur o isel o athrawon LlE yng Nghymru o'u cymharu â disgyblion LlE. Ar draws Cymru, mae athrawon yn llai amrywiol o ran eu hethnigrwydd na'r disgyblion maent yn eu haddysgu, a dim ond 1.3 y cant o athrawon yng Nghymru sy'n categoreiddio'u hunain fel pobl sy'n dod o gefndir nad yw'n gefndir gwyn. Mae'n amlwg felly bod angen i'r proffesiwn addysgu a phrifysgolion yng Nghymru fanteisio ar newid a dechrau darparu cydraddoldeb cyfle i fyfyrwyr AGA, athrawon ac arweinwyr LlE. Mae angen i'r mater hwn fynd nôl i'r egwyddorion sylfaenol, ac mae angen rhoi ystyriaeth fanwl i fynd ati'n rhagweithiol i recriwtio cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr LlE.
Sut gallwch chi helpu
Rydym wedi bod yn casglu barn athrawon LlE wrth eu gwaith am eu dilyniant gyrfaol parhaus ac yn gwrando ar ddysgwyr 14+ oed, er mwyn magu dealltwriaeth o'u safbwyntiau am addysgu fel gyrfa bosibl. Bydd y dystiolaeth hon sy'n cael ei chasglu gennym yn helpu Llywodraeth Cymru i bennu'r math o newidiadau y bydd eu hangen i gynyddu gweithgarwch recriwtio myfyrwyr Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig i'r proffesiwn addysgu.
Drwy ein hymchwil, ein bwriad yw nodi canfyddiadau a safbwyntiau gan ystod o grwpiau. Rydym ni am gael gwybod:
- A oes disgyblion a myfyrwyr LlE mewn addysg bellach ac uwch sy'n dyheu i ddod yn athrawon? Ac os nad oes, pam hynny?
- Ym marn ymgeiswyr LlE a oedd yn aflwyddiannus yn eu ceisiadau i raglenni AGA, beth yw'r ffactorau a arweiniodd iddynt gael eu gwrthod?
- Sut mae athrawon LlE newydd gymhwyso ac athrawon LlE sydd mewn camau gwahanol o'u gyrfaoedd yn teimlo am eu datblygiad gyrfaol?
- Beth yw barn arweinwyr ysgol am y materion hyn a pha faterion arbennig maent yn dod ar eu traws ar deithiau gyrfaol?
Bydd ein hymchwil yn myfyrio ac yn dadansoddi elfennau o haenau o realiti byw sydd wedi'u creu'n gymdeithasol ar gyfer cyfranogwyr (Garcia et al., 2015), a bydd yn ceisio deall y ddeinameg gymhleth hon, gan ystyried diwylliant, cefndir a phrofiadau byw cyfranogwyr.
Sgyrsiau a grwpiau ffocws sy'n ffurfio sail ein hymchwiliadau. Rydym yn disgwyl i'r data arwain at fap gweledigaeth rhithwir (dogfen gydweithredol) a gyflwynir i Lywodraeth Cymru ynghyd â'r adroddiad terfynol. Bydd hyn yn galluogi dull gweithredu wedi'i ddadgoloneiddio tuag at ddatblygu polisi yng Nghymru at y dyfodol.
Bydd ein hymchwil yn parhau tan ddiwedd mis Mawrth 2021. Rydym yn awyddus i glywed gennych os ydych o gefndir LlE, naill ai fel myfyriwr (14+ oed) sydd wedi neu heb feddwl am yrfa addysgu, neu os ydych yn athro/athrawes neu'n arweinydd wrth eich gwaith. Mae angen i ni glywed eich llais mewn perthynas â'r prosiect ymchwil hwn. Cysylltwch â'n cynorthwyydd ymchwil, Sammy Chapman am fwy o wybodaeth.
Cyfeirnodau
- Egan, D. (2020) Ethnic Minority Recruitment to the teaching profession in Wales: Outcomes of a rapid review of background research evidence. Llywodraeth Cymru.Carrington, B., Bonnett, A., Nayak, A., Skelton, C., Smith, F. Tomlin, R., Short, G., a
- Demaine, J. (2000) The recruitment of New Teachers from Minority Ethnic Groups, International Studies in Sociology of Education, 10 (1), 3-22
- Garcia, J. A., Sanchez, G. R., Sanchez-Youngman, S., Vargas, E. D., & Ybarra, V. D. (2015). Race As Lived Experience: The Impact of Multi-Dimensional Measures of Race/Ethnicity on the Self-Reported Health Status of Latinos. Adolygiad Du Bois: social science research on race, 12(2), 349–373.
- Cyngor Addysgu Cyngor Cymru (2003), Cynllun Gweithredu ar gyfer Recriwtio a Chadw Athrawon yng Nghymru. Cymru: Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.
- Haque Z (2017) Visible minorities, invisible teachers: BME teachers in the education system in England. Runnymede Trust and NASUWT. Ar gael yn y Saesneg yn unig yn: www.runnymedetrust.org/uploads/Runnymede%20ReportNEW.pdf (Cyrchwyd11eg Chwefror 2021).
- Llyfrfa Ei Mawrhydi (1985) The Swann Report. Education for All. Report of the Committee of Enquiry of Children from Ethnic Minority Groups. Llundain: Llyfrfa Ei Mawrhydi.
- Joseph-Salisbury (2020) Joseph-Salisbury R (2020) Race and racism in English secondary schools. Runnymead Trust. Ar gael yn y Saesneg yn unig yn: www.runnymedetrust.org/uploads/publications/pdfs/Runnymede%20Secondary%20Schools%20report%20FINAL.pdf
- Statscymru.llyw.cymru (2020) Cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion, Medi 2020. Ar gael ar-lein yn: https://statscymru.llyw.cymru




Wrth i argyfwng Covid-19 barhau i 2021, mae’r gweithlu addysg wedi bod yr un mor benderfynol o sicrhau bod myfyrwyr yn gallu parhau i ddysgu, gan ymgodymu hefyd â mwy a mwy o alwadau proffesiynol a phersonol. Mae athrawon a staff wedi addasu yn wyneb cyfundrefnau newydd ac wedi ymdrin â newidiadau cyson i ganllawiau, gan barhau i gyflwyno gwersi dyddiol i fyfyrwyr ar yr un pryd. O ganlyniad, mae llawer o’n gweithwyr proffesiynol wedi ymlâdd, yn naturiol.
Mae’n ymddangos bod feirws Covid-19 wedi gweithredu fel rhagflaenydd i’r defnydd cynyddol o’r term ‘dysgu cyfunol’. Mae’r sector addysg, y dadleuais yn flaenorol bod ei randdeiliaid ar gyfnodau gwahanol iawn o ran coleddu a defnyddio technolegau digidol, wedi ymateb yn gyflym i heriau datblygol realiti newydd.
Gall llawer ddigwydd mewn blwyddyn! Pan ddathlon ni’r Wythnos Iechyd Meddwl Plant y llynedd, roedd ysgolion ar agor ac yn llawn sŵn ac egni plant, athrawon a staff.
Fe ddes i’n weithiwr ieuenctid ar ddamwain yn fy arddegau, pan adeiladwyd canolfan gymunedol yng nghornel ein parc ‘ni’. Roedden ni’n cynnal ein clwb ieuenctid ein hunain bob nos Iau, gyda’r rhybudd y bydden ni’n cael ein gwahardd pe byddai unrhyw gwynion. Gan mai fi oedd yr aelod o’r ‘bois yn y parc’ â’r ddawn siarad, fe gymerais gyfrifoldeb, yn 15 oed, yn y 1960au.