Nodau
Nod y darn hwn ar Ddeall y Jargon yw creu canllaw syml y bwriedir iddo resymoli iaith y Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid i gydweithwyr yn y sector gwirfoddol a’r sector statudol yng Nghymru. Mae llawer o’r bobl sy’n cynorthwyo pobl ifanc yn y sector yn weithwyr rhan-amser neu’n wirfoddolwyr ac nid ydyn nhw’n rhy gyfarwydd â’r iaith a ddefnyddir yn y sector. Mae hyn yn rhwystr ychwanegol i’w cyfranogiad a’u cynhwysiad yn y Marc Ansawdd i ddangos y gwaith da iawn maen nhw’n ei wneud gyda phobl ifanc.
Cyfarfod â’r sector
Wrth baratoi’r canllaw hwn, cyfwelwyd â gwahanol sefydliadau a gofynnwyd cyfres o gwestiynau iddyn nhw. Cynhaliwyd y cyfweliadau hyn naill ai dros y ffôn neu’n rhithwir. Cyfwelwyd ag amrywiaeth fawr o glybiau gwirfoddol a chydweithwyr mewn awdurdodau lleol. Roedd y rhain yn amrywio o glybiau ieuenctid bach sy’n cyfarfod unwaith yr wythnos i brosiectau gwaith ieuenctid mwy gyda thîm bach o staff..
Esbonio’r Marc Ansawdd
Mae rhai gweithwyr ieuenctid a grwpiau ieuenctid gwirfoddol yn dal i fod yn anymwybodol, neu ddim ond yn rhannol ymwybodol, o’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Un elfen o’r cyfweliadau oedd gadael i’r gwirfoddolwyr wybod mwy am y Marc Ansawdd a gwaith Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA).
Rhoddwyd gwybod i’r rhai a gymerodd ran bod y Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid yn cynnwys 3 lefel, sef Efydd, Arian ac Aur. Mae gan bob un 4 safon, gyda 3 dangosydd. Er mwyn cyrraedd y safon mae gan bob dangosydd feini prawf mesuradwy.
Yr enw ar y meini prawf mesuradwy yw’r Disgrifyddion Gradd.
- Ymarfer da,
- Angen rhywfaint o ddatblygu, ac
- Angen datblygu sylweddol
Mae'r Disgrifyddion Gradd wedi cael eu datblygu i helpu sefydliadau i ddeall pa mor dda maen nhw’n gwneud yn erbyn pob un o’r dangosyddion a beth y gallai fod ei angen i’w helpu i symud ymlaen.
Cyfeirir at y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru fel ‘y Marc Ansawdd’ yn y ddogfen hon.
Cyflwyniad i’r Marc Ansawdd
Y Lefel Efydd
Mae'r Marc Ansawdd yn gyfle i sefydliadau ddathlu eu gwaith gyda phobl ifanc trwy gyflwyno dogfen hunanasesu a chyfarfod â gweithwyr ieuenctid eraill (aseswyr) o sefydliadau yng Nghymru er mwyn gweld a yw’r sefydliad yn bodloni’r meini prawf i gael un o’r tair lefel – Efydd, Arian ac Aur.
Lefel gyntaf y Marc Ansawdd yw’r Lefel Efydd. Mae'r dyfarniad hwn yn canolbwyntio ar y camau cyntaf ac yn edrych ar yr hyn mae’ch sefydliad yn ei wneud, sut mae wedi’i strwythuro, sut mae’n cael ei reoli gan yr ymddiriedolwyr a sut mae’n gwneud “gwaith ieuenctid da”.
Anogir pob sefydliad gwaith ieuenctid yng Nghymru i ymgeisio am y Lefel Efydd. Rhaid i sefydliadau ddangos bod ganddyn nhw arweinyddiaeth a llywodraethiant priodol, bod ganddyn nhw brosesau i fonitro a gwerthuso eu rhaglenni, a’u bod yn sicrhau bod pobl ifanc, staff a gwirfoddolwyr yn ddiogel a’u bod yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol.
Mae Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru (2019) yn nodi gweledigaeth ar gyfer y dyfodol lle mae:
“pob person ifanc yn ffynnu, ac yn cael mynediad at gyfleoedd a phrofiadau, yn y Gymraeg a’r Saesneg, sy’n rhoi mwynhad ac yn cyfoethogi eu datblygiad personol drwy waith ieuenctid”.
Mae'r Lefel Efydd yn cynnwys pedwar maes, sef:
- Rheoli perfformiad
- Ansawdd gwaith ieuenctid,
- Dysgu a datblygiad pobl ifanc, a
- Gofynion cyfreithiol.
Efydd: Mae pobl ifanc yn ddiogel ac yn gallu ffynnu
Y Lefel Efydd yw’r cam cyntaf ar daith y Marc Ansawdd ac i gyrraedd y lefel hon mae angen i sefydliadau fodloni’r meini prawf isod.
Mae'r tabl isod yn dangos y safonau a’r dangosyddion ond hefyd yn esbonio beth mae hyn yn ei olygu.
Safon Ansawdd | Dangosyddion | Beth mae hyn yn ei olygu |
1.1 Rheoli perfformiad | Mae gan y sefydliad ddatganiad neu weledigaeth sydd wedi’i nodi’n glir ac mae ganddo strategaeth a/neu gynllun(iau) ar gyfer ei waith gyda phobl ifanc. | Gall eich sefydliad ddangos beth rydych chi’n ei wneud, sut mae’n cael ei ddarparu, pryd mae’n cael ei ddarparu a ble. Mae gan eich sefydliad gyfansoddiad (neu ddogfen lywodraethu arall) sy’n dweud beth rydych chi’n ei wneud a sut rydych chi’n ei wneud. Gallwch ddangos i’r aseswyr beth rydych eisiau ei gyflawni i bobl ifanc, a sut y byddwch yn cyrraedd yno. |
Mae cynllun sy’n dangos sut mae’r sefydliad yn mesur effaith ac effeithiolrwydd ei waith gyda phobl ifanc. | Mae aelodau’ch sefydliad, gan gynnwys pobl ifanc, yn deall ac wedi cyfrannu at weledigaeth, cynlluniau a blaenoriaethau’ch sefydliad, gan gynnwys sut y byddwch yn gwirio eich bod yn cyflawni’r blaenoriaethau hynny. | |
Mae’r sefydliad yn defnyddio dull systematig yn rheolaidd ar gyfer monitro, adolygu a diwygio’i gynllun(iau) sefydliadol a’i dargedau a/neu ei ddangosyddion perfformiad. | Mae’ch sefydliad yn monitro cynlluniau’n rheolaidd ac yn eu newid pan fo angen. Dylai’ch sefydliad ddangos eich bod yn cadw cofnodion o brosiectau a dangos sut mae pobl ifanc yn datblygu trwy eu hymwneud â’r sefydliad. Mae’ch sefydliad yn gwrando ar adborth y bobl ifanc ac yn newid ei ddarpariaeth yn unol â hynny. | |
Mae’r sefydliad yn gallu cysylltu ei waith â pholisïau lleol a chenedlaethol allweddol, a/neu strategaethau a blaenoriaethau ar gyfer pobl ifanc. | Gall eich sefydliad ddangos eich bod yn ymwybodol o anghenion pobl ifanc a’r gymuned a’ch bod yn ymwybodol o bolisïau lleol a chenedlaethol ar waith ieuenctid a bod eich sefydliad yn cymryd hyn i ystyriaeth. | |
1.2 Ansawdd ymarfer gwaith ieuenctid | Mae gweithlu’r sefydliad yn deall anghenion ardaloedd lleol ac anghenion y bobl ifanc maent yn gweithio gyda nhw. |
Mae'r bobl sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn eich sefydliad yn deall sut mae eu rôl yn cefnogi’r hyn mae pobl ifanc ei eisiau a’i angen yn ogystal â rhai’r gymuned leol. Mae gweithgareddau gwaith ieuenctid yn rhoi sylw i anghenion pobl ifanc ac yn eu diwallu e.e. gallai hyn gynnwys trwy chwaraeon neu gelfyddydau gan gynnwys defnyddio platfformau cyfryngau digidol a chyfleoedd dysgu cyfunol – os yw hyn yn berthnasol i’ch sefydliad. Mae’ch sefydliad yn helpu pobl ifanc (trwy gyfeirio) i ddod o hyd i wasanaethau cymorth a ffynonellau gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd y gall fod arnyn nhw eu hangen. Mae'r sefydliad yn deall y problemau mae pobl ifanc yn eu hwynebu ac yn gwrando ar eu pryderon. |
|
Mae gweithlu’r sefydliad yn ymgysylltu â phobl ifanc wrth gynllunio a gwerthuso gweithgareddau. |
Mae’ch sefydliad yn cynnwys pobl ifanc wrth benderfynu beth mae’ch sefydliad yn ei wneud. Mae hefyd yn cynnwys pobl ifanc wrth werthuso’ch gwaith i weld a oedd yn llwyddiannus. Gall pobl ifanc roi adborth i weithwyr ieuenctid a gwirfoddolwyr ar weithgareddau. Caiff pobl ifanc eu hannog i gymryd rhan weithredol yn y gwaith o drefnu a chynnal gweithgareddau. Gall eich sefydliad ddangos bod pobl ifanc yn cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu anffurfiol a heb fod yn ffurfiol. |
Mae gweithlu’r sefydliad yn ymgysylltu â phobl ifanc mewn cyfleoedd dysgu ffurfiol a rhai heb fod yn ffurfiol sy’n addysgiadol, yn rymusol, yn gyfranogol, yn gynhwysol ac yn fynegiannol, sy’n ymestyn eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth. |
Mae gan eich sefydliad ddealltwriaeth dda o ddogfen Egwyddorion a Dibenion Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ac rydych yn defnyddio hon fel y sail i’ch gwaith o ddarparu cyfleoedd dysgu. Mae’ch sefydliad yn helpu pobl ifanc i fyfyrio ar y ffordd maen nhw wedi newid trwy eu hymwneud â’ch gweithgareddau a’ch prosiectau. |
|
Mae gweithlu’r sefydliad yn datblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda phobl ifanc i gynorthwyo a hyrwyddo dysgu a chyflawniad pobl ifanc yn effeithiol. | Mae gan eich sefydliad berthnasoedd cadarnhaol ac o ymddiriedaeth gyda phobl ifanc. Mae'r bobl sy’n cyflawni gwaith gyda phobl ifanc yn defnyddio llawer o ffyrdd o feithrin ymddiriedaeth ac yn cynnig gweithgareddau a rhaglenni dysgu sy’n bleserus ac yn heriol. Mae’ch sefydliad yn gwrando ar bobl ifanc er mwyn llunio rheolau sylfaenol a chodau ymddygiad |
|
1.3 Dysgu a datblygiad pobl ifanc | Ar ôl ymwneud â darpariaeth gwaith ieuenctid y sefydliad, mae pobl ifanc yn datblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth ohonyn nhw eu hunain ac o’u dysgu. |
Ar ôl iddyn nhw gymryd rhan yng ngweithgareddau’ch sefydliad gallwch ddangos bod pobl ifanc wedi dysgu sgiliau newydd ac wedi gwneud cynnydd personol a/neu gymdeithasol. Efallai y byddwch hefyd yn gallu dangos bod rhai pobl ifanc wedi gallu symud ymlaen i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Gall pobl ifanc fyfyrio ar beth maen nhw wedi’i gyflawni a disgrifio beth maen nhw wedi’i ddysgu, a pha fudd maen nhw wedi’i gael. Gall eich sefydliad gofnodi’r deilliannau hynny a restrir uchod a gallwch ddathlu cyflawniadau dysgu pobl ifanc. |
Ar ôl ymwneud â darpariaeth gwaith ieuenctid y sefydliad, mae pobl ifanc yn datblygu sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol. |
Mae sefydliadau gwaith ieuenctid yn wych am helpu pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol. Mae'r adran hon yn gofyn ichi roi enghreifftiau o hyn, e.e.
Fel sefydliad efallai y byddwch yn gallu defnyddio astudiaethau achos i ddangos bod pobl ifanc wedi datblygu menter ac yn derbyn cyfrifoldeb am eu dewisiadau a’u gweithredoedd. |
|
Mae’r sefydliad yn galluogi pobl ifanc i helpu i lywio gweledigaeth a nodau’r sefydliad, ac yn ymwneud â’r gwaith o ddylunio, cynllunio a gwerthuso’r ddarpariaeth er mwyn ateb eu hanghenion. | Mae’ch sefydliad yn cynnwys pobl ifanc wrth bennu targedau a phethau maen nhw eisiau eu cyflawni fel unigolion ac mewn grwpiau trwy ymwneud â’ch darpariaeth. Mae'r bobl ifanc yn eich canolfan neu’ch prosiect yn cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio, trefnu ac arwain rhaglenni a gweithgareddau, gyda chymorth gan weithwyr ieuenctid. Mae’ch sefydliad yn cynnwys pobl ifanc wrth ystyried eu datblygiad a’u dysgu trwy’r prosiectau a gweithgareddau. |
|
1.4 Gofynion cyfreithiol | Mae gan y sefydliad bolisïau, gweithdrefnau a chanllawiau perthnasol, a gall ateb ei ofynion cyfreithiol ac ymarfer diogel. |
Mae gan eich sefydliad bolisïau i sicrhau bod pobl ifanc a gwirfoddolwyr yn cael eu cadw’n ddiogel e.e. polisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch, polisïau a phrosesau diogelu ac amddiffyn plant. |
Mae gan y sefydliad bolisïau a gweithdrefnau effeithiol ar gyfer diogelu ac iechyd a diogelwch pobl ifanc, staff a gwirfoddolwyr | Mae’ch sefydliad wedi bodloni’r gofynion cyfreithiol ar gyfer cadw pobl ifanc, staff a gwirfoddolwyr yn ddiogel e.e. polisi a gweithdrefnau gwirfoddolwyr, polisi ar weithio ar eich pen eich hun, asesiadau risg, proses cynefino. | |
Mae gweithlu’r sefydliad yn deall ac mae wedi’i hyfforddi a’i baratoi i weithredu polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer diogelu, iechyd a diogelwch, a gofynion cyfreithiol eraill. |
Mae'r bobl sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn gallu cael gafael ar y polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau, eu deall a’u rhoi ar waith. Mae pobl ifanc yn gwybod sut i wneud datgeliad diogelu a rhoi gwybod am fwlio neu unrhyw broblemau eraill. |
|
Mae’r sefydliad yn monitro ac yn adolygu ei bolisïau, ei weithdrefnau a’i ganllawiau yn rheolaidd, ac yn defnyddio canlyniadau’r prosesau hyn ar gyfer gwella a newid. |
Mae’ch sefydliad yn adolygu ac yn diweddaru’r polisïau a gweithdrefnau yn rheolaidd. Mae'r bobl sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn cael eu cynnwys yn y broses hon. |
TI helpu sefydliadau i gyflwyno eu hunanasesiad mae tri disgrifydd gradd i’w gwneud yn haws deall beth yw ymarfer da, ble mae angen rhagor o waith a ble mae angen llawer o waith. Yn y brif ddogfen disgrifir y rhain fel a ganlyn:
- Ymarfer da,
- Angen rhywfaint o ddatblygu, ac
- Angen datblygu sylweddol.
I gyflawni’r Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid mae 5 cam.
Sut i ddechrau: camau 1-3.
I gael Lefel Efydd y Marc Ansawdd rhaid i sefydliad wneud y canlynol:
- Cysylltu â Chyngor y Gweithlu Addysg i gofnodi’ch diddordeb
- Cofrestru ar gyfer Ymwybyddiaeth o’r Marc Ansawdd ar-lein neu sut i gynnal hyfforddiant hunanasesu a/neu gael cymorth mentora os ydych chi’n teimlo y bydd hyn yn eich helpu. Mae mwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael isod
- Cwblhau hunanasesiad sy’n cynnwys tystiolaeth o’r holl bethau da rydych chi’n eu gwneud (adroddiad ysgrifenedig yw hwn i ddangos sut yr ydych chi’n teimlo eich bod chi’n cyrraedd y Safon Ansawdd)C
Beth sy'n digwydd nesaf: camau 4-5?
- Bydd CGA yn gwirio’r adroddiad ac unwaith y byddwch yn barod bydd yn trefnu i dîm asesu gynnal ymweliad Marc Ansawdd
- Bydd yn trefnu i’ch grŵp neu sefydliad gymryd rhan mewn cyfarfod (neu gyfres o gyfarfodydd) gyda gweithwyr ieuenctid eraill o sefydliadau yng Nghymru fel rhan o gyfarfod strwythuredig er mwyn gweld a yw’r sefydliad wedi dangos y cyrhaeddwyd gradd ‘ymarfer da’ ar gyfer pob dangosydd yn y lefel hon
Ar ôl ichi gwblhau’r 5 cam caiff adroddiad ei ysgrifennu i argymell i Lywodraeth Cymru y dylai ddyfarnu’r Marc Ansawdd. Mae’ch statws Marc Ansawdd yn ddilys am dair blynedd ac ar ôl hynny mae’n rhaid ei adnewyddu.
Mae cymorth, gwybodaeth a chyngor ar gael yn rhwydd ar bob un o’r camau hyn, hyd yn oed os mai dim ond eisiau gwybod ychydig mwy am y Marc Ansawdd cyn cymryd y cam cyntaf ydych chi.
Cymorth sydd ar gael gan Gyngor y Gweithlu Addysg
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn annog sefydliadau gwaith ieuenctid yng Nghymru i ymgeisio ac mae’n gefnogol i sefydliadau newydd sy’n ymgeisio. Er mwyn helpu sefydliadau i ymgeisio a dysgu mwy am y Marc Ansawdd mae amrywiaeth o hyfforddiant ar gael, gan gynnwys:
- Hyfforddiant ar sut i gwblhau’r adroddiad hunanasesu a/neu fentor i gynorthwyo sefydliadau
- Cyfleoedd i gyflawni modiwl e-ddysgu y gellir ei ddefnyddio i wneud staff a gwirfoddolwyr yn gyfarwydd â’r Marc Ansawdd
- Cymorth gan gymheiriaid oddi wrth ymgeiswyr blaenorol, a all roi awgrymiadau defnyddiol a chymorth a chyngor
- Cyfarfodydd gydag aseswyr er mwyn meithrin perthynas weithio gefnogol
- Rhoi adborth ar y ddogfen hunanasesu a chyngor ar gynnwys a strwythurau
Datblygiad pellach
Er mai nod y ddogfen hon yw helpu pobl i ymdrin â’r Lefel Efydd, ar ôl i hon gael ei chwblhau mae cyfle i sefydliadau gwblhau’r Lefelau Arian ac Aur os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny ac yn teimlo mai dyna’r peth iawn i’w sefydliad ei wneud. Mae cyrraedd y Lefel Efydd yn gyflawniad gwych ynddo ei hun a dylai sefydliadau fod yn falch o gyrraedd y safon ansawdd hon.
Lefel Arian: Mae gwaith ieuenctid yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn cael ei gynnig gan staff sydd wedi’u hyfforddi.
Mae’r Lefel Arian yn cynnwys pedwar maes:
- Cynnwys pobl ifanc,
- Cwricwlwm,
- Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, a
- Datblygu’r gweithlu.
Lefel Aur: Rheoli adnoddau i ateb anghenion pobl ifanc.
Mae'r Lefel Aur yn cynnwys pedwar maes:
- Cydnabod a dathlu cyflawniad,
- Gwybodaeth reoli,
- Partneriaethau, ac
- Adnoddau.
Geirfa termau
Term | Ystyr |
Safonau Ansawdd |
Bodloni’r meini prawf penodedig am yr hyn a ddisgwylir gan sefydliad gwaith ieuenctid. Mae pedair Safon Ansawdd i bob lefel. |
Marc Ansawdd | Dyfarniad i gydnabod cyrraedd safon benodedig. |
Dangosyddion | Dyma’r mesuriad mae angen ei gyflawni neu ei gynnal. |
Disgrifyddion Gradd | Mae'r rhain yn disgrifio pa mor dda mae sefydliad yn gwneud ar sail y meini prawf sydd wedi cael eu bodloni. Caiff y rhain eu rhannu fel a ganlyn: ymarfer da, angen rhywfaint o ddatblygiad, angen llawer o ddatblygiad. |
Hunanasesiad | Dyma lle y gall sefydliadau adolygu lle maen nhw a beth sydd ganddyn nhw ar waith ar hyn o bryd cyn yr asesiad. Gallan nhw nodi cryfderau a gwendidau a dathlu’r hyn sy’n mynd yn dda a pha mor dda yw’r ddarpariaeth gwaith ieuenctid. Gallan nhw hefyd ddangos beth yw barn pobl ifanc am y sefydliad. |
Effaith | Dyma’r gwahaniaeth mae hyn yn ei wneud i fywydau pobl ifanc o ganlyniad i’r rhaglenni gwaith ieuenctid. |
Tystiolaeth | Y dogfennau i gefnogi’r hyn y dywedwch eich bod yn ei wneud. Gallai hyn gynnwys polisïau, adroddiadau, posteri ac ati |
Dysgu anffurfiol | Dysgu sy’n deillio o weithgareddau pob dydd sy’n gysylltiedig â’r gwaith, teulu neu hamdden. Nid yw wedi’i drefnu. Yn y rhan fwyaf o achosion mae dysgu anffurfiol yn anfwriadol o safbwynt y dysgwr e.e. dysgu o brofiad, ennill sgil ar ôl hyfforddiant chwaraeon |
Dysgu heb fod yn ffurfiol | Mae dysgu heb fod yn ffurfiol yn cyfeirio at addysg sy’n digwydd y tu allan i’r system ysgol ffurfiol e.e. mynd i grŵp Sgowtiaid neu yn ystod gweithgaredd mewn clwb ieuenctid |
Rheoli perfformiad | Dull cynlluniedig a rheolaidd o helpu sefydliad i gyflawni ei nodau a’i amcanion trwy fonitro a gwella perfformiad unigolion, a’r sefydliad yn gyfan |
Llywodraethiant | Llywodraethiant yw’r term am y ffordd mae grŵp o bobl fel grŵp o ymddiriedolwyr neu fwrdd llywodraethwyr neu gyngor yn gwneud pethau. Mae llawer o grwpiau yn creu pwyllgor i benderfynu sut mae pethau i fod i gael eu gwneud. Hefyd llywodraethiant yw’r ffordd mae’r gwaith o wneud penderfyniadau yn effeithio ar bobl yn y sefydliad hwnnw. |