Robert Walker - 26 Mehefin 2024
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 24, 25, a 26 Mehefin 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro addysg bellach, Mr Robert Walker.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel Darlithydd yng Ngholeg Pen-y-bont, bod Mr Walker wedi caniatáu i ddysgwyr ddefnyddio cyfrifiannell mewn arholiad Cymhwyso Rhif pan roedd yn gwybod nad oedd hawl gwneud hyn, ar yr achlysuron hyn:
- 29 Mawrth 2023, 11:00 hyd 12:00
- 29 Mawrth 2023, 13:00 hyd 14:00
- 31 Mawrth 2023, 12:15 hyd 13:15
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor bod ymddygiad Mr Walker yn anonest, ac yn arddangos diffyg hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Walker fel athro addysg bellach am gyfnod o 2 flynedd (rhwng 26 Mehefin 2024 a 26 Mehefin 2026). O'r herwydd, bydd Mr Walker yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro addysg bellach) sy'n darparu gwasanaethau penodol mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru.
Mae gan Mr Walker yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.