Timothy John – 24 Medi 2024
Dyddiad cyhoeddi:2 Hydref 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 23 a 24 Medi 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, Timothy John.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi ei brofi, tra ei bod wedi ei chyflogi fel swyddog hyfforddi gyda Cambrian Training, bod Mr John:
- rhwng 2020 a 2022, ar fwy nag un achlysur, wedi cyflwyno Cofnod Cynnydd a Chyflawniad ar gyfer dysgwr, pan na wnaeth ddigwydd
- rhwng 2020 a 2022, ar fwy nag un achlysur, wedi creu dogfennau ffug i gefnogi bod Cofnod Cynnydd a Chyflawniad ar gyfer dysgwr wedi digwydd
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, fe wnaeth y Pwyllgor hefyd benderfynu bod ymddygiad Mr John ym mharagraffau 1 a 2 uchod yn anonest a heb hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mr John oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith. Penderfynodd hefyd na fyddai Mr John yn cael gwneud cais i'w adfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o ddwy flynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mr John wneud cais llwyddiannus ar gyfer cymhwyster i'w adfer i'r Gofrestr ar ôl 24 Medi 2026, bydd wedi ei wahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mr John yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.