Gaio Ze Kouyate – 14 Mawrth 2025
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mawrth 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol rhwng 11 ac 14 Mawrth 2025, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, Mr Gaio Ze Kouyate.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel Arbenigwr Dysgu Byd Rhithiol yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro (y Coleg), bod Mr Kouyate:
- ar neu o gwmpas 18 Hydref 2022, wedi defnyddio eu gliniadur y Coleg i:
- gael mynediad at gynnwys oedd yn amhriodol a/neu o natur rywiol
- anfon negeseuon o natur rywiol
- rhwng 2021 a 2022:
- wedi creu avatar rhywiol (sexualised) o fewn campws rhithiol y Coleg
- wedi rhoi dolen i gydweithiwr A i daenlen gydag enwau defnyddwyr a chyfrineiriau ar gyfer campws rhithiol y Coleg, gan roi mynediad heb reolaeth i'r wybodaeth.
- wedi awgrymu'n amhriodol i un neu fwy o gydweithwyr, y gallai dysgwyr newid eu dyddiad geni i'w galluogi i gael mynediad at ddeunydd ar system Second Life fyddai fel arall wedi ei gyfyngu ar gyfer pobl o dan 18 oed.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mr Kouyate oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach. Penderfynodd hefyd na fyddai Mr Kouyate yn cael gwneud cais i'w adfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o 2 blynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mr Kouyate wneud cais llwyddiannus ar gyfer cymhwyster i'w adfer i'r Gofrestr ar ôl 14 Mawrth 2027, bydd wedi ei wahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mr Kouyate yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.