Pwy sydd angen cofrestru?
Mae’n rhaid eich bod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) i weithio fel ymarferwr addysg yng Nghymru. Mae 13 categori cofrestru. Gall fod angen i chi gofrestru mewn mwy nag un categori, yn dibynnu ar y gwaith rydych chi’n ei wneud, neu’n bwriadu ei wneud. Dim ond un ffi fyddwch chi’n ei thalu, hyd yn oed os ydych wedi cofrestru mewn mwy nag un categori. Byddwch chi’n talu ffi uchaf y categorïau rydych chi wedi cofrestru ynddynt.
Categorïau cofrestru
Ffi | Categori cofrestru | Gofynion ychwanegol |
---|---|---|
£45 | Athro ysgol | Mae’n rhaid bod gennych Statws Athro Cymwysedig |
Athro ysgol annibynnol | ||
Athro addysg bellach | ||
Pennaeth neu uwch arweinydd yn gweithio mewn sefydliadau addysg bellach | Cymwysterau gorfodol | |
Athro sefydliad annibynnol arbennig ôl-16 | ||
Ymarferydd addysg oedolion | Cymwysterau gorfodol | |
Ymarferwyr dysgu'n seiliedig ar waith | ||
Gweithiwr ieuenctid | Cymwysterau gorfodol * | |
£15 | Gweithiwr cymorth dysgu ysgol | |
Gweithiwr cymorth ysgol annibynnol | ||
Gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach | ||
Gweithiwr cymorth sefydliad annibynnol arbennig ôl-16 | ||
Gweithiwr cymorth ieuenctid | Cymwysterau gorfodol * |
*Os ydych yn gweithio tuag at un o'r cymwysterau gorfodol, byddwch wedi eich cofrestru dros dro, tra eich bod chi'n hyfforddi.