Dewiswch eich iaith
Mae Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol Cyngor y Gweithlu Addysg (‘y Cod’) yn cyflwyno’r safonau disgwyliedig ar gyfer pobl sydd wedi cofrestru gyda ni a bwriedir iddo gefnogi a llywio’u hymddygiad a’u crebwyll fel gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn swyddi addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Daeth fersiwn ddiweddaraf y Cod i rym ar 1 Medi 2025.
Mae cofrestreion yn ymrwymo i gynnal chwe egwyddor allweddol y Cod:
Darllen y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.
Yn y weminar fer hon, mae ein Cyfarwyddwr Rheoleiddio David Browne yn mynd â ni drwy rôl reoleiddiol, a chofrestru CGA, ac yn cynnig cyngor i gofrestreion am ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel.
Rydym wedi cynhyrchu posteri i’w harddangos yn eich lleoliad:
Poster i’w arddangos yn ystafell y staff
Poster i’w arddangos yn gyhoeddus
Gallwch wneud
Heyfd, mae cyfres o ganllawiau arfer da, sy’n cynorthwyo cofrestreion i gydymffurfio â’r Cod. Maent yn rhoi mwy o gyngor i gofrestreion ar eu hymarfer o ddydd i ddydd.
Mae ein canllaw i rieni yn darparu gwybodaeth a chyngor i rieni am ein gwasanaethau ac maent yn eu helpu i chwarae rhan fwy gweithgar yn addysg eu plant.
Mae ein canllaw i lywodraethwyr yn rhoi gwybodaeth a chyngor i lywodraethwyr am ein gwasanaethau, a beth sydd angen iddynt wybod am y Cod.
Mae staff priodoldeb i ymarfer yn asesu addasrwydd i gofrestru gyda CGA pan fydd darpar gofrestrai’n ateb unrhyw gwestiwn am ei hanes yn gadarnhaol wrth lenwi adran ddatganiad y ffurflen cais i gofrestru.
Mae staff priodoldeb i ymarfer o’r farn bod y datganiad yn gymharol ddibwys ac nad yw’n effeithio ar addasrwydd yr ymgeisydd i gofrestru. Caniateir cofrestru.
Gofynnir i’r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth fanylach am amgylchiadau ei ddatganiad a rhai tystebau neu sylwadau i ategu ei addasrwydd i gofrestru. Os bydd staff priodoldeb i ymarfer yn fodlon ag ymateb yr ymgeisydd, caniateir cofrestru.
Mae staff priodoldeb i ymarfer yn penderfynu atgyfeirio’r cais i bwyllgor addasrwydd graffu’n annibynnol arno mewn cyfarfod.
Mae cyfarfod y Pwyllgor Addasrwydd yn breifat ac yn gyfle i’r ymgeisydd esbonio i’r Pwyllgor pam mae’n ystyried ei fod yn addas i gael ei gofrestru.
Mae’r Pwyllgor Addasrwydd yn cynnwys o leiaf dri aelod panel, gan gynnwys o leiaf un aelod sydd wedi cofrestru gyda CGA, ac un person lleyg. Bydd cynghorydd cyfreithiol annibynnol yn cefnogi’r Pwyllgor.
Ar ôl iddo glywed gan yr ymgeisydd, bydd y Pwyllgor yn ystyried, yn breifat, p’un ai i ganiatáu cofrestru ai peidio. Os na chaniateir cofrestru, ni fydd yr ymgeisydd yn gallu gwneud cais pellach yn yr un categori neu gategorïau cofrestru am 12 mis. Ar ôl hyn, gallant wneud cais newydd i gofrestru yn y categori hwnnw.
Fel rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y gweithlu addysg yng Nghymru, mae gennym gylch gwaith statudol i gyflawni gwaith rheoleiddio. Mae hyn yn cynnwys asesu addasrwydd ymarferydd addysg i gofrestru ac ymateb pan fod pryderon fod person cofrestredig wedi methu â chyrraedd y safonau y disgwylir ohonynt.
Mae safonau disgwyliedig ymarferwyr wedi’u hamlinellu yn y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Os bydd ymarferydd yn bodloni’r safonau hyn, mae’n briodol i ymarfer. Fodd bynnag, os bydd pryderon nad ydynt, byddwn yn ymchwilio trwy ein procese priodoldeb i ymarfer. Lle bo gofyn byddwn yn cymryd camau priodol.
Daw’r rhan fwyaf o’r atgyfeiriadau a gawn oddi wrth gyflogwyr ac maent yn cynnwys honiadau am ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, a/neu euogfarn o drosedd berthnasol.
Fel rheoleiddiwr, nid cosbi ymarferwyr yw ein rôl, ond diogelu dysgwyr, pobl ifanc a rhieni/gwarcheidwaid, a chynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg.
Mae’n ofynnol yn ôl deddfwriaeth i gyflogwyr ac asiantau atgyfeirio i CGA.
Dylai cyflogwyr ac asiantau ddefnyddio’r ffurflen hon i atgyfeirio achosion i CGA.
Darllenwch ein canllawiau i gyflogwyr ac asiantau: y cyfrifoldeb i atgyfeirio.
Gall unrhyw unigolyn neu sefydliad wneud cwyn am ymddygiad neu anghymhwysedd honedig cofrestrai.
Darllenwch y canllawiau ar sut i gwyno am ymarferydd addysg cofrestredig.
I gwyno, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen hon, gan amlinellu eich honiadau yn glir a darparu’r dystiolaeth sy’n ategu’r honiadau hynny.
Mae’r rhan fwyaf o’r achosion sy’n dod i law yn cael eu rhoi gerbron pwyllgor ymchwilio. Mae’r cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal yn breifat.
Mae’n rhaid i’r Pwyllgor Ymchwilio gynnwys o leiaf dri aelod panel, gan gynnwys o leiaf un aelod sydd wedi cofrestru gyda CGA, ac un person lleyg.
Bydd cynghorydd cyfreithiol annibynnol yn cefnogi’r Pwyllgor Ymchwilio. Nid yw’r cynghorydd hwn yn cymryd rhan yn y penderfyniadau, ond mae yno i sicrhau bod yr ymchwiliad yn deg.
Rôl y Pwyllgor yw penderfynu a fydd ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, a/neu euogfarn o drosedd berthnasol yn debygol o gael ei ganfod ai peidio os bydd yr achos yn mynd ymlaen i wrandawiad cyhoeddus.
Byddwn yn ystyried pob achos o dorri ein Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol y cawn wybod amdano, ond byddwn yn ymchwilio dim ond pan ystyriwn y gellid cyrraedd y trothwy ar gyfer ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, a/neu euogfarn o drosedd berthnasol.
Er enghraifft, mae diswyddo rhywun am un o’r canlynol yn fwy tebygol o gyrraedd y trothwy ar gyfer ymddygiad proffesiynol annerbyniol:
Mae gennym rymoedd i roi Gorchmynion Atal Dros Dro.
Darllen y Rheolau a Gweithdrefnau Disgyblu 2024 diwygiedig