1. Cyflwyniad
Proffesiynoldeb yw’r ymddygiad sy’n nodweddu neu’n nodi proffesiwn neu berson proffesiynol. Mae’n disgrifio’r rhinweddau, y sgiliau, y cymhwysedd a’r ymddygiadau y mae disgwyl i chi eu harddangos, nid dim ond mewn dysgu ac addysgu, ond mewn cymdeithas yn gyffredinol.
Pan ddaethoch chi’n ymarferwr, fe ymrwymoch i fod yn broffesiynol yn eich holl weithredoedd a, thrwy wneud hynny, cyfrannu at gynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn eich proffesiwn.
Nod y canllaw hwn yw helpu i godi’ch ymwybyddiaeth a’ch dealltwriaeth o feysydd allweddol sy’n gysylltiedig â phroffesiynoldeb yn eich bywyd personol a phroffesiynol. Ni all fynd i’r afael â’r holl amgylchiadau posibl ac nid oes bwriad iddo fod yn rhestr derfynol o ymddygiadau, ond fe’i darperir yn hytrach i amlygu pwysigrwydd eich proffesiynoldeb fel gweithiwr proffesiynol sydd wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA).
2. Y Cod
Mae holl gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn destun y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol [link to Code page], sy’n cyflwyno egwyddorion allweddol ymddygiad ac ymarfer da i gofrestreion. Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â’r Cod, sydd ar gael i’w lawrlwytho o’n gwefan, sef www.cga.cymru/ codeCGA.
Mae’r egwyddorion a’r disgwyliadau yn y Cod i gyd yn berthnasol i broffesiynoldeb mewn ymarfer. Yn y canllaw hwn, fodd bynnag, rydym yn amlygu’r canlynol yn arbennig:
Mae cofrestreion:
- yn cydnabod eu cyfrifoldeb personol fel delfryd ymddwyn a pherson cyhoeddus, er mwyn cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiynau addysg, yn y gweithle a thu allan iddo;
- yn cynnal perthynas â dysgwyr yn broffesiynol;
- ymgysylltu â dysgwyr;
- yn meddu ar ddyletswydd gofal am ddiogelwch dysgwyr a’u llesiant corfforol, cymdeithasol, moesol ac addysgol;
- yn ystyriol o’u cyfrifoldeb proffesiynol am iechyd, diogelwch a llesiant cydweithwyr a nhw’u hunain;
- yn dangos ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth.
Mae cofrestreion:
- yn atebol am eu hymddygiad a’u cymhwysedd proffesiynol;
- yn ymddwyn yn onest, a chydag unplygrwydd.
Mae cofrestreion:
- yn parchu, yn cynorthwyo ac yn cydweithio gyda chydweithwyr, dysgwyr ac eraill i gyflawni’r deilliannau dysgu gorau;
- rhannu profiad a gwybodaeth i helpu eu hunain ac ymarferwyr eraill i ddatblygu a chynnal ymarfer gorau;
- yn cyfathrebu mewn modd priodol ac effeithiol gyda phob un sy’n gysylltiedig ag addysg dysgwyr.
Mae cofrestreion:
- yn gwybod, yn defnyddio ac yn cymryd cyfrifoldeb dros safonau proffesiynol perthnasol yn eu proffesiwn arbennig drwy gydol eu gyrfa;
- lle y bo angen, yn ceisio cymorth, cyngor ac arweiniad ac yn agored i adborth, gan ymateb iddo mewn modd cadarnhaol ac adeiladol.
Mae cofrestreion:
- yn dangos ymrwymiad cyffredin i’w dysgu proffesiynol parhaus drwy fyfyrio am eu hymarfer a’i werthuso, gan sicrhau bod eu gwybodaeth a’u sgiliau proffesiynol yn gyfoes a chymryd camau i wella’u hymarfer, lle bo
angen.
3. Beth yw proffesiynoldeb mewn ymarfer?
Proffesiynoldeb yw cael barn gadarn, hyder wrth wneud penderfyniadau goleuedig a chymryd cyfrifoldeb dros eich gweithredoedd fel gweithiwr proffesiynol, weithiau mewn amgylchiadau heriol.
Chi sy’n gyfrifol am gynnal eich ymddygiad a’ch ymarfer proffesiynol eich hun. Mae myfyrio a hunanarfarnu parhaus yn ganolog i gynnal eich proffesiynoldeb mewn ymarfer.
Mae llawer o nodweddion pwysig sy’n cyfrannu at broffesiynoldeb mewn ymarfer. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol, sy’n gallu perthyn i’w gilydd.
Golyga hyn:
- Cadw at eich gair fel gweithiwr proffesiynol; gellir llwyr ymddiried ynddoch.
- Peidio â pheryglu’ch gwerthoedd.
- Gwneud y peth cywir, hyd yn oed os yw’n golygu gwneud rhywbeth anoddach; bod yn atebol.
- Bod yn ddiymhongar – cyfaddef pan all eich bod wedi gwneud camgymeriad, neu fod angen help arnoch, a bod yn barod i ddysgu gan eraill.
- Cynrychioli eich hunain yn onest ac yn gywir pan rydych chi’n gwneud pethau fel ymgeisio am swyddi neu ryngweithio â’ch rheoleiddiwr.
- Deall bod y Cyhoedd yn ymddiriedaeth llawer ynoch chi fel gweithiwr proffesiynol addysg, a gwybod eu bod, yn gyfnewid, yn disgwyl ichi weithredu gyda lefelau uchel o unplygrwydd yn y gwaith a’r tu allan iddo.
Golyga hyn:
- Bodloni disgwyliadau trwy ddangos yn glir sut olwg sydd ar broffesiynoldeb mewn ymarfer; arwain trwy esiampl
- Cael cod moesol a moesegol clir.
- Deall bod yr hyn rydych chi’n ei ddweud ac yn ei wneud yn eich bywyd preifat yn llywio’r ffordd y mae pobl yn meddwl amdanoch chi a’ch proffesiwn.
- Dangos ymddygiadau ac agweddau cadarnhaol at gydraddoldeb ac amrywiaeth.
- Cefnogi cydweithwyr a dysgwyr.
- Dathlu llwyddiant personol a llwyddiant pobl eraill; trin pobl eraill â pharch.
- Cynnig adborth ystyrlon ac adeiladol i eraill.
- Bod yn wylaidd ac yn barod i gyfaddef camgymeriadau.
- Datblygu pobl eraill a chefnogi pobl mewn rolau uwch.
- Adrodd pryderon mewn modd proffesiynol os credwch nad yw pethau’n iawn.
- Bod yn ddeallus ac yn amyneddgar gyda’r rhai sy’n newydd i’ch proffesiwn neu’r rhai sy’n dysgu sgiliau newydd.
Golyga hyn:
- Cael ymrwymiad personol i ddatblygu a gwella’ch sgiliau fel ymarferwr a’r wybodaeth arbenigol y mae ei hangen i lwyddo yn eich rôl.
- Cadw’ch gwybodaeth yn gyfredol, fel y gallwch barhau i gyflwyno’r profiadau dysgu gorau posibl.
- Rhannu a lledaenu ymarfer sydd wedi’i lywio gan dystiolaeth.
- Eich cyfrifoldeb personol chi yw eich proffesiynoldeb ac ni ddylech:
- fyth roi’r gorau i ddysgu;
- byth roi’r gorau i fyfyrio;
- byth roi’r gorau i geisio gwella.
Golyga hyn:
- Mae cyfnodau anodd ym mhob proffesiwn ac adegau pan allai eich hyder ballu. Ar yr adegau hyn, cofiwch eich bod yn rhan o broffesiwn y gellir ymddiried ynddo, sy’n eich cefnogi chi.
- Bod yn ddibynadwy a chyflawni’r hyn y disgwylir ohonoch chi.
- Rheoli disgwyliadau, peidio â gwneud esgusodion a chanolbwyntio ar ddod o hyd i atebion os aiff pethau o le.
4. Canlyniadau
Mae’r enghreifftiau isod yn adlewyrchu achosion pan fethodd cofrestreion yn sylweddol â dangos proffesiynoldeb mewn ymarfer pan oedd angen, ac roeddent yn destun camau disgyblu CGA o ganlyniad.
Ym mhob achos, torrwyd y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol yn glir a rhoddwyd amrywiaeth o gosbau disgyblu i’r cofrestreion gan gynnwys, mewn ambell achos, eu hatal rhag ymarfer yn y gweithlu addysg yn y dyfodol.
Fe wnaeth cofrestrai:
- fwlio ac aflonyddu ar gydweithiwr trwy wneud sylwadau rhywiol o flaen cydweithwyr eraill a dysgwyr, a chyfiawnhau mai “dim ond tynnu coes” oedd hynny;
- ymddwyn yn amhroffesiynol tuag at gydweithwyr, gan gynnwys colli ei dymer, gweiddi a rhegi ar staff, a gwneud sylwadau bychanol a rhywiaethol;
- bwlio a chodi ofn ar staff yn gysylltiedig â pherfformiad yr ysgol mewn profion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol;
- cyflawni twyll yn gysylltiedig â gwaith dysgwyr a cheisio bwrw’r bai ar gydweithwyr eraill a’u cynnwys yn y twyll;
- methu dilyn cyfarwyddiadau rheolwyr, ceisio camarwain cydweithwyr a darparu gwybodaeth anghywir am ddysgwyr. Hefyd, methodd gymryd rhan mewn cynllunio, cadw cofnodion, cynnydd dysgwyr a bu’n ymddwyn yn anonest o ran gwaith dysgwyr;
- anfon llu o negeseuon testun, galwadau a negeseuon llun personol at ddysgwr, yn cynnwys sylwadau rhywiol ac amhriodol;
- gweithredu’n ‘gyfaill mynwesol’ i ddysgwr o dan 16 oed, ac wedi i ddibyniaeth emosiynol gael ei sefydlu, dechreuont berthynas rywiol;
- rhannu gwybodaeth bersonol gyda dysgwr a thrafod dysgwyr eraill ynghyd â chydweithwyr tra’n cael perthynas rywiol, yn aml yng nghartref y cofrestrai;
- prynu alcohol i ddysgwyr a chyfnewid nifer fawr o negeseuon amhriodol gyda nhw trwy amrywiaeth o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gan ddweud wrthynt ddileu’r negeseuon bob amser;
- ymweld â dysgwr a’i rieni yn eu cartref ar sawl achlysur heb unrhyw reswm nac awdurdod dilys. Gwnaed hyn er mwyn ennill eu hymddiriedaeth ac am ei fod yn fodd o ddatblygu perthynas â’r dysgwr;
- cymdeithasu â dysgwyr (yn ystafell wely dysgwr) ac yfed alcohol gyda nhw yn ystod taith addysgol.
5. Sut gallwn ni eich cefnogi chi ymhellach
Mae’r CGA yn cynnig cyflwyniadau sy’n canolbwyntio ar briodoldeb i ymarfer. Os hoffech chi neu eich cyflogwr drefnu cyflwyniad yn y gweithle, cwblhewch ein ffurflen ar-lein
Lawrlwytho’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA.