Mollie Maralyn Leigh – 19 Tachwedd 2025
Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 19 Tachwedd 2025, wedi canfod bod honiadau o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ a ‘throseddau perthnasol’ wedi’u profi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, Mollie Maralyn Leigh.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, bod Mrs Leigh:
- Ar 30 Gorffennaf 2015, wedi’i chael yn euog o yrru cerbyd modur ar 12 Gorffennaf 2015, ar ôl yfed cymaint o alcohol fel bod cyfran ohono yn ei hanadl, sef 78 microgram o alcohol mewn 100 mililitr o anadl, yn fwy na’r terfyn rhagnodedig, yn groes i adran 5(1)(a) Deddf Traffig Ffyrdd 1988 ac Atodlen 2 Deddf Tramgwyddwyr Traffig Ffyrdd 1988. O ganlyniad i’r drosedd hon, ar 14 Awst 2015, dedfrydwyd Mrs Leigh i Orchymyn Cymunedol hyd at 13 Mai 2016 a gwnaed yn ofynnol iddi ymgymryd â gweithgarwch adsefydlu, a chafodd ei gwahardd rhag gyrru am 20 mis a dirwy o £100.
- Ar 14 Awst 2015, fe’i cafwyd yn euog o’r troseddau canlynol:
- Gyrru cerbyd modur ar 12 Gorffennaf 2015, heb fod yn unol â thrwydded yn awdurdodi Mrs Leigh i yrru cerbyd modur o’r dosbarth hwnnw, yn groes i adran 87(1) Deddf Traffig Ffyrdd 1988 ac Atodlen 2 Deddf Tramgwyddwyr Traffig Ffyrdd 1988. O ganlyniad i’r drosedd hon, ni chafodd Mrs Leigh unrhyw gosb ar wahân a chafodd arnodiad ar ei thrwydded yrru
- Ar 12 Gorffennaf 2015, heb ganiatâd y perchennog nac awdurdod cyfreithlon arall, cymerodd Mrs Leigh gerbyd a yrrir yn fecanyddol i’w ddefnyddio ganddi hi ei hun neu rywun arall, a chyn iddo gael ei ailddarganfod, achoswyd difrod gwerth llai na £5000 i’r cerbyd, yn groes i adran 12A Deddf Dwyn 1968. Ffactor gwaethygol ychwanegol oedd bod Mrs Leigh wedi meddwi. O ganlyniad i’r drosedd hon, dedfrydwyd Mrs Leigh i Orchymyn Cymunedol hyd at 13 Mai 2016 a gwnaed yn ofynnol iddi ymgymryd â gweithgarwch adsefydlu, a chafodd ei gwahardd rhag gyrru am 20 mis
- Ddefnyddio cerbyd ar 12 Gorffennaf 2015, pan nad oedd mewn grym mewn perthynas â’r defnydd hwnnw unrhyw bolisi yswiriant o’r fath neu warant o’r fath, yn groes i adran 143 Deddf Traffig Ffyrdd 1988 ac Atodlen 2 Deddf Tramgwyddwyr Traffig Ffyrdd 1988. O ganlyniad i’r drosedd hon, ni chafodd Mrs Leigh unrhyw gosb ar wahân a chafodd arnodiad ar ei thrwydded yrru.
- Ar 6 Awst 2024, cafwyd hi’n euog o yrru cerbyd modur ar 13 Gorffennaf 2024, ar ôl yfed cymaint o alcohol fel bod cyfran ohono yn ei hanadl, sef 72 microgram o alcohol mewn 100 mililitr o anadl, yn fwy na’r terfyn rhagnodedig, yn groes i adran 5(1)(1)(a) Deddf Traffig Ffyrdd 1988 ac Atodlen 2 Deddf Tramgwyddwyr Traffig Ffyrdd 1988. O ganlyniad i’r drosedd hon, dedfrydwyd Mrs Leigh i Orchymyn Cymunedol hyd at 5 Awst 2025 a gwnaed yn ofynnol iddi ymgymryd â gweithgarwch adsefydlu a gwaith di-dâl, a chafodd ei gwahardd rhag gyrru am 40 mis.
- Yn ei chais i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) dyddiedig 31 Mawrth 2025, ni ddatganodd Mrs Leigh i CGA yr euogfarnau a amlinellir ym mharagraffau 1 -3 uchod.
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor fod ymddygiad Mrs Leigh ym mharagraff 4 uchod yn anonest ac yn dangos diffyg uniondeb.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Atal (heb amodau) ar gofrestriad Mrs Leigh fel gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol am gyfnod o 18 mis (o 19 Tachwedd 2025 tan 19 Mai 2027). Fel y cyfryw, ni fydd Mrs Leigh yn gallu gweithio fel person cofrestredig (gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol) mewn ysgol a gynhelir neu mewn ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru yn ystod cyfnod y Gorchymyn.
Mae gan Mrs Leigh hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.



