James Matthew Richards - 27 Tachwedd 2025
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 24, 25, 26 a 27 Tachwedd 2025, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn yr athro ysgol, Mr James Richards.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei gyflogi fel Pennaeth yn Ysgol Gynradd Cadle, bod Mr Richards:
- yn ystod neu o gwmpas mis Mehefin 2012 a/neu fis Awst 2012, ar un achlysur neu fwy, wedi dangos ei bidyn i Gydweithiwr A
- yn ystod neu o gwmpas mis Ionawr 2012 a mis Ebrill 2013, wedi dangos ei bidyn i Gydweithiwr B
- yn ystod neu o gwmpas mis Mehefin a mis Gorffennaf 2013, o ran Cydweithiwr C:
- wedi gofyn am gael cymharu bronnau Cydweithiwr C â bronnau ei wraig
- wedi dangos llun o bidyn ar ei ffôn i Gydweithiwr C
- yn ystod neu o gwmpas mis Gorffennaf 2021, wedi rhannu delweddau o bidyn a chodiad arno ar y sgrin tra bod Cydweithiwr D yn bresennol
- rhwng tua 12 Hydref 2020 a 4 Tachwedd 2020, wedi dangos ffotograffau a fideos o’i bidyn i Gydweithiwr E
- yn ystod neu o gwmpas mis Medi 2021, heb ddychwelyd gliniadur gwaith i’r ysgol er gwaethaf cais i gyflwyno’r holl offer TG gwaith
- yn ystod neu o gwmpas mis Mehefin 2023, wedi achosi neu ganiatáu i wybodaeth anghywir a chamarweiniol gael ei rhoi i’r Awdurdod Lleol am ei iechyd
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor hefyd fod ymddygiad Mr Richards ym mharagraffau 1 i 5 uchod o natur rywiol ac wedi’i ysgogi gan ryw, a bod ei ymddygiad ym mharagraffau 6 a 7 yn anonest ac yn dangos diffyg uniondeb.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Mr Richards o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori athro ysgol am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Mr Richards wneud cais i gael ei adfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 15 mlynedd fynd heibio. Os na fydd Mr Richards yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei adfer i’r Gofrestr ar ôl 27 Tachwedd 2040, bydd yn aros wedi’i wahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Mr Richards hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.



