Peter Biggins – 17 Gorffennaf 2026
Dyddiad cyhoeddi: 27 Gorffennaf
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd ar 14-17 Gorffennaf 2026, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro ysgol, Peter Biggins.
Canfu'r Pwyllgor, tra ei fod wedi ei gyflogi gan Education Supply Pool ac yn gweithio yn y Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion, Cas-gwent, Sir Fynwy, ar neu o gwmpas Chwefror neu Mawrth 2024, bod Mr Biggins o flaen cydweithwyr a dysgwyr, wedi gwneud sylwadau neu ddefnyddio geiriau gyda'r effaith o:
- bod cydweithiwr A yn "banjo snapper"
- bod cydweithiwr A "wedi snapio nifer yn ei dydd"
- bod cydweithiwr A "yn dy ffansïo di" [dysgwr B]
- "hoffai (cydweithiwr A) dy briodi di" [dysgwr B]
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Biggins fel athro ysgol am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 17 Gorffennaf 2026 ac 17 Gorffennaf 2028).. O'r herwydd bydd Mr Biggins yn gallu gweithio fel athro ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mr Biggins yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.



