Dewiswch eich iaith
Ymunwch â ni am ddigwyddiad briffio polisi, lle byddwn yn taflu goleuni ar rôl hanfodol gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion ledled Cymru. Byddwn yn arddangos y data diweddaraf o Gofrestr CGA, ac yn archwilio'r materion sy'n effeithio gweithwyr cymorth.
Dyma yw'n clwb llyfrau a chyfnodolion i helpu ein cofrestreion i wneud y mwyaf o’u mynediad am ddim i lyfrgell ymchwil addysg fwyaf y byd, EBSCO. Dysgwch fwy neu tanysgrifiwch i’n rhestr bostio.
Rydym wedi cyhoeddi diweddariad pwysig ynghylch ffioedd cofrestru blynyddol. Bydd y diweddariad yn effeithio holl gofrestreion CGA.
Gall ymddiddori mewn ymchwil chwarae rhan bwysig wrth eich helpu i ddatblygu eich syniadau a’ch ymarfer eich hun fel gweithiwr addysg proffesiynol. Dyna pam rydym ni wedi dechrau ‘Meddwl Mawr’, sef clwb llyfrau a chyfnodolion sydd â’r nod o’ch cefnogi chi ar eich taith ddysgu broffesiynol.
Byddwn yn cyhoeddi argymhellion rheolaidd ar y dudalen hon, yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau diddorol, gan eich cyfeirio at rywfaint o’r cynnwys gwych sydd ar gael yn eich llyfrgell ar-lein rhad ac am ddim.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn tanysgrifio i’r rhestr bostio i gael yr argymhellion pan fyddant yn cael eu cyhoeddi.
Rydym yn awyddus i glywed am unrhyw lyfrau neu erthyglau mewn cyfnodolion ar EBSCO a oedd yn ddiddorol, yn cynnig mwynhad neu’n ddefnyddiol yn eich barn chi. Os hoffech rannu argymhelliad
Gan ychwanegu at ei gasgliad o 11 o lyfrau wedi eu hysgrifennu'n benodol fel arweinlyfrau ar gyfer addysgwyr, mae gan Ross Morrison McGill dros 30 mlynedd o brofiad o addysgu ac arweinyddiaeth addysgol, gyda dros 100,000 o athrawon ledled y byd, ar ei blatfform ar y cyfryngau cymdeithasol @TeacherToolkit. Mae'r llyfr yn awgrymu bod addysgu effeithiol yn canolbwyntio ar dair elfen hanfodol: marcio, cynllunio, ac addysgu, a dylai'r tri alinio o fewn y gylched addysgu ac asesu, gan sicrhau bod amser ac anodau’n cael eu defnyddio'r gynhyrchiol. Mae Mark. Plan. Teach. yn rhoi strategaethau addysgegol cynhwysfawr a mewnwelediadau ymarferol i wella eu harferion addysgu, a gwella canlyniadau i fyfyrwyr. Mae McGill yn cynnig awgrymiadau ymarferol i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd pob agwedd, gyda chrynodebau clir o'r ymchwil sy'n cefnogi ei argymhellion.
Gan ddefnyddio'i brofiad fel athro ac arweinydd addysgol, mae McGill yn cynnig ymdriniaethau defnyddiol i leihau a rheoli llwyth gwaith, gan alluogi addysgwyr i wneud y mwyaf o gynhyrchedd a chadw rheolaeth yn yr ystafell ddosbarth. Gan ddefnyddio ei brofiad helaeth a dealltwriaeth graff o ymarfer addysgol, mae'r cyngor a roddir drwy'r llyfr yn ddefnyddiol i ymarferwyr newydd a phrofiadol.
Mae'r llyfr hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cydbwysedd gwaith/bywyd iach, ac yn awgrymu y gall hyn gael ei gyflawni drwy gynllunio hyderus, strwythuredig, ac ystyrlon, waeth pa heriau annisgwyl sy'n codi. Mae'r llyfr yn cyflwyno datrysiadau ymarferol i'r problemau y mae athrawon yn eu hwynebu o ddydd i ddydd, gan gyfoethogi ansawdd y dysgu.
Wedi ei ysgrifennu agn y niwrolegdydd paediatrig Dr Martin Kutscher, mae'r llyfr yma yn ganllaw ymarferol i addysgwyr (a gweithwyr proffesiynol eraill) ar yr ystod eang o gyflyrau niwroamrywiol mewn plant a phobl ifanc, gyda phenodau manwl yn edrych ar y sbectrwm eanf o niwroamrywiaeth.
Mae cynydd nodedig wedi wneud o ran ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth yn y blynyddoedd diweddar, a'r gefnogaeth sydd ei hangen ar ddysgwyr a phobl ifanc niwroamrywiol. Mae hyn wedi ei adlewyrchu gan gyflwyniad y system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru. Fodd bynnag, er gwaethaf gwell dealltwriaeth o gryfderau, a'r modd amrywiol y mae pobl niwroamrywiol yn prosesu gwybodaeth ac yn ymgysylltu â'r byd, gall unigolion gyda'r cyflyrau hyn gael eu camddeall o hyd, a dioddef o stereoteipio, a ddim eu hannog i gofleidio eu safbwyntiau unigryw.
Mae Kutscher a'i gydawduron yn mynd i'r afael â hyn drwy ddarapru gwybodaeth glir ar achosion, symptomau, a thriniaethau ar gyfer y cyflyrau niwroamrywiol gwahanol, yn ogystal â rhannu awgrymiadau ymarferol. Maent hefyd yn rhoi cyngor ar strategaethau effeithiol ar gyfer addysgwyr, rhieni, a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda ac ymateb i blant a phobl ifanc sy'n dangos nodweddion y cyflyrau hyn.
Mae'r llyfr yn hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o gymhlethdodau cyflyrau niwrolegol, ac yn rhoi pwyslais cryf ar ymdriniaethau cyfannol i reoli ymddygiad a chefnogi heriau iechyd meddwl, sy'n cydnabod bod anghenion pob plentyn a pherson ifanc yn unigrwy, a bod angen sylw unigol.
Mae ymchwil arweiniwyd gan Brifysgol Nottingham, a gyhoeddwyd yn 2024, wedi canfod bod y plant ifancaf mewn blwyddyn ysgol yn fwy tebygol o gael diagnosis o gyflyrau fel Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) neu Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD). Canfu'r ymchwil bod hyn yn digwydd o ganlyniad i athrawon yn priodoli arwyddion o anaeddfedrwydd (yn gysylltiedig â bod plant iau yn llai aeddfed yn ddatblygiadol na'u cyd-ddisgyblion hŷn y mae eu hymddygiad yn cael ei gymharu â nhw) i'r achosion hyn. Nododd y tîm ymchwil bod y canfyddiadau yn amlygu pwysigrwydd sicrhau bod athrawon yn cael eu hyfforddi'n gywir, ac yn cael cefnogaeth i ddeall y sbectrwm eang o niwroamrywiaeth wrth asesu a gwneud diagnosis ar gyfer cyflyrau fel ADHD ac ASD, gan roi'r ystyriaeth ddilys i oed perthynol y plant o fewn eu lleoliad. Darllen yr erthygl o newyddlen European Child and Adolescent Psychiatry.
Mae'r llyfr yn cynnwys disgrifiadau syml a chyngor ymarferol, astudiaethau achos, a chyfeiriadu at adnoddau i ddefnyddio hyfforddiant emosiynol mewn lleoliadau addysg. Mae hefyd yn cefnogi gweithwyr proffesiynol addysg i hyrwyddo ymatebion empathetig i ymddygiad a sefyllfaoedd heriol, gan helpu plant a phobl ifanc i ddeall eu hemosiynau, a dysgu eu rheoli, a'u hymddygiad yn y tymor hirach.
Mae'r llyfr yma, ysgrifennwyd ar gyfer athrawon cynradd, gan athro ysgol gynradd profiadol, yn edrych ar y dystiolaeth a'r ymchwil ddiweddaraf o ran gwyddor hapusrwydd a seicoleg positif. Yn llawn gweithgareddau a thechnegau profedig, gan gynnwys ymwybyddiaeth ofalgar, myfyrio positif, gweithgarwch corfforol, a bod yn garedig, mae’n ganllaw defnyddiol i gefnogi lles emosiynol a meddyliol yn yr ystafell ddosbarth gynradd.
Fel ymarferydd addysg, byddwch yn gwybod am heriau recriwtio a dargadw o fewn y byd addysg. Mae'r llyfr yma'n trafod y gwahanol safbwyntiau o ran yr heriau a'r gwobrau o addysgu. Mae'n archwilio modelau a strategaethau llwyddiannus lle bo cyfuniad o gefnogaeth a heriau, atebolrwydd, ac ymdeimlad o werthfawrogiad, wedi annog athrawon i fynd i, ac i aros yn y proffesiwn. Mae'r llyfr yn atgyfnerthu gwerthoedd addysgwyr proffesiynol ynghylch pam eu bod wedi dewis gyrfa mewn addysg, gan gynnwys boddhad gweithio gydag addysgwyr gan gefnogi eu cynnydd a datblygiad addysgiadol, a mynd i'r afael â'r heriau amrywiol sy'n wynebu'r gweithlu. Mae'r awdur yn tynnu ar eu profiadau eu hunain a'u cydweithwyr, ac maent wedi gwneud ymchwil sylweddol, gan gynnwys gwerthuso bron i 4,000 o ymatebion i arolygon a chyfweliadau gydag athrawon, cyn-athrawon, ac addysgwyr proffesiynol.
Mae Slow teaching yn archwiliad meddylgar o sut all arafu lawr ym mhob agwedd ar addysg arwain at well canlyniadau i fyfyrwyr. Mae'n archwilio sut mae'r dull yma o arfer myfyriol yn creu gwell adborth, perthnasau gwell, gallu rheoli'r ystafell ddosbarth yn fwy medrus, deialog ystyriol yn yr ystafell ddosbarth, a dargadw gwybodaeth ac arweinyddiaeth ysgol, ac yn y pen draw, dysgu gwell. Mae'r dechneg addysgu araf yn ceisio dyfnhau'r grefft o addysgu, ac felly creu ymarferwyr sy'n arbenigwyr ac wedi ymrwymo i feistroli eu crefft. Mae'r awdur yn trefnu'r llyfr i saith adran, pob un yn hawdd eu darllen, ac yn tynnu ar ymchwil a llenyddiaeth berthnasol a diweddar, a'i blethu â phrofiad personol. Gan fyfyrio ar strategaethau fydd yn galluogi athrawon i beidio cynhyrfu, a bod yn drefnus, mae pob pennod yn gorffen gyda nifer o gwestiynau araf i helpu'r darllenydd i ystyried y cynnwys a sut mae'n berthnasol iddyn nhw a'u sefyllfa.
Mae'r llyfr yn cynnig canllaw ymarferol i ymgorffori chwarae ystyriol i'r ystafell ddosbarth, hyrwyddo lles plant a phobl ifanc drwy wella eu hymwybyddiaeth o'u byd mewnol ac allanol. Mae hanner cyntaf y llyfr yn sail ddamcaniaethol ac ymarferol ar gyfer hwyluso ymwybyddiaeth ofalgar trwy chwarae. Mae'r ail hanner yn canolbwyntio'n fwy ar dorri'r iâ, gemau, a gweithgareddau.
Caiff syniadau a chysyniadau eu cyflwyno mewn modd agored ac addasadwy, gan annog addysgwyr i integreiddio'r gemau'n feddyliol i'w hymarfer. Mae'r fethodoleg syml a'r pwyslais ar chwarae, yn golygu bod y llyfr yn hygyrch ar gyfer ymarferwyr. Mae'r gweithgareddau yn arbennig o addas ar gyfer lleoliadau grŵp, ac mae'r llyfr yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn meithrin ymwybyddiaeth ofalgar ymysg plant a phobl ifanc.
Mae symudiad yn hanfodol ar gyfer dysgwyr ifanc, ac mae Dr. Manners yn amlinellu ei bwysigrwydd ar gyfer datblygiad corfforol, mewn modd strwythuredig a hygyrch. Mae'r llyfr yn cynnig cyngor ymarferol a syml ar gyfer ymarferwyr profiadol a myfyrwyr, gan gyfuno safbwyntiau damcaniaethol gyda ffyrdd ymarferol o'u rhoi ar waith. Mae Dr Manners yn defnyddio wyth egwyddor allweddol i esbonio rôl ganolog gweithgaredd ymarferol a chwarae yn llunio datblygiad plant a phobl ifanc. Trwy'r llyfr bydd darllenwyr yn cael fframweithiau ymarferol, gweithgareddau, syniadau, a rhesymwaith sy'n amlygu pwysigrwydd symud. Mae'r llawlyfr yma'n adnodd gwych ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn deall rôl hanfodol gweithgaredd corfforol mewn datblygiad plentyndod cynnar.
Mae'r llyfr yn ymdrin ag ystod o ymdriniaeth i amlieithrwydd mewn addysg athrawon, gan dynnu o raglenni addysg o bob cwr o Ewrop a Gogledd America.
Ymchwiliodd yr awduron i sut caiff athrawon eu hyfforddi i weithio mewn cyd-destunau amlieithog, a sut maent yn dysgu am amrywiaeth diwylliannol. Mae'r llyfr yn archwilio effaith amlieithrwydd a dysgwyr o gefndir ymfudol ymhellach, a phrofiadau myfyrwyr o wahanol gefndiroedd.
Mae'r awduron yn rhoi eu canfyddiadau mewn cyd-destun gyda hanes cefndirol y gwledydd maent yn ymchwilio iddynt, i ddeall sut mae amlieithrwydd wedi ei ddatblygu dros amser. Mae'r llyfr hefyd yn mynd i'r afael â sut mae tirluniau addysgol, hanes, polisïau ieithyddol, a blaenoriaethau sefydliadol yn llywio hyfforddiant ac addysg athrawon, ochr yn ochr ag amlieithrwydd.
Mae presenoldeb myfyrwyr lle nad iaith yr ysgol yw eu hiaith gyntaf yn creu heriau a chyfleoedd unigryw i athrawon. Mae gan yr awdur brofiad helaeth o astudiaethau plentyndod cynnar ac mae'n dadlau bod amlieithrwydd yn elwa pob plentyn yn y dosbarth. Mae'r llyfr yn manylu ar y berthynas rhwng theori ac arferion amlieithog, ac yn archwilio sut i integreiddio egwyddorion sy'n briodol-ieithyddol i'r ystafell ddosbarth.
Mae pob plentyn yn dod mewn i'r ystafell ddosbarth gyda sgiliau, arferion, gwerthoedd, a disgwyliadau gwahanol. Mae Running the Room yn ganllaw i athrawon i fynd i'r afael ag ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth, a'i drin fel maes arall o'r cwricwlwm.
Gall rheoli'r ystafell ddosbarth fod yn gymhleth, ond mae'r llyfr yma'n cynnig strategaethau ymarferol yn seiliedig ar dystiolateh i unrhyw athro, ble bynnag mae nhw yn eu gyrfa. Mae Bennett yn cynnig mwy na chosb a gwobrwyo, ac yn amlinellu sut mae gwelliannau'n gwella pan fyddwch chi'n mynd i'r afael â nodi ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth. Mae Bennett yn esbonio gwyddor ymddygiad trwy drosiadau cyffredin i annog y darllenydd, ac yn dadlau bod angen i ddiwylliant yr ystafell ddosbarth fod yn fwriadol a chyson. I Bennet, mae'r pwyslais ar ddysgu ymddygiad ac nid traethu. Mae Runnig the Room yn mynd i'r afael â mythau ymddygiad cyffredin, ac yn cynnig offerynnau a datrysiadu ymarferol i athrawon i fynd i'r afael ag ymddygiad
Mae Phil Beadle a John Murphy yn llywio athrawon drwy hanfodion rheoli ymddygiad yn seileidig ar eu profiadau nhw o addysgu yn rhai o'r ysgolion mwyaf heriol. Maent yn trafod pwysigrwydd rheoli eich ymddygiad eich hun, a sut bod hyn yn hanfodol wrth ddeall ymddygiad myfyrwyr. Mae'r awduron yn defnyddio hiwmor i amlygu sut mae rheoli ymddygiad yn berthnasol i bawb. Mae eu hymdriniaeth gonest yn caniatau i ddarllenwyr ddeall rheoli ymddygiad yn llawn, a gwerthfawrogi ei fod yn fwy nag ymarfer ar bapur.
Mae'r llyfr yn un hanfodol i'w ddarllen i unrhyw addysgwr sy'n gweithio mewn ysgol heriol, neu sy'n edrych ar wella sut maen nhw'n rheoli ymddygiad.
Mae'r adnodd ymarferol yma ar gyfer athrawon blynyddoedd cynnar ac ysgol gynradd yn cynnwys 25 o heriau dylunio peirianneg sy'n addas ar gyfer plant 3-8. Mae argymhellion i greu amgylchedd gofod gwneud lle gall plant dincian gyda deunyddiau, defnyddio tŵls i wneud pethau, a gwella eu syniadau. Mae'r llyfr yma'n annog archwilio a dysgu STEM-gyfoethog, ac yn cynnig cwestiynau a syniadau i ehangu dealltwriaeth plant o gysyniadau STEM. Mae hefyd yn rhoi templed cynllunio i athrawon i greu eu heriau dylunio eu hunain i ymestyn sgiliau datrys problemau plant, a'u meddwl creadigol.
Mae'r llyfr yma'n rhoi ffocws cyfoes ar faterion pwysig ym meysydd addysgu, dysgu, ac ymchwil STEM sy'n werthfawr wrth baratoi myfyrwyr i'r unfed ganrif ar hugain ddigidol. Mae penodau’r llyfr yn cynnwys ystod eang o faterion a phynciau gan ddefnyddio cyfoeth o fethodolegau ymchwil gan gynnwys:
Mae'r erthygl fer ac amserol hon yn archwilio heriau a phroblemau offer deallusrwydd artiffisial fel ChatGPT mewn ysgolion, i'r myfyrwyr sy'n cyflwyno gwaith, a'r athrawon sy'n ei farcio. Mae'n trafod sut mae mewnbwn personol yn hanfodol i effeithiolrwydd technolegau deallusrwydd artiffisial, a sut mae'n rhaid amddiffyn dilysrwydd gwaith ysgol.
Mae Shaun Dellenty yn gyn-arweinydd ysgol gynradd, ac mae wedi ei enwi fel un o '101 o ffigyrau mwyaf dylanwadol LHDT y DU' ddwywaith, ac yn un o 100 Arweinwyr Byd-eang mewn Cydraddoldeb a Chynhwysiant.
Mae Celebrating Difference yn ganllaw ysbrydoledig ar gyfer cynhwysiant LHDTQ+ mewn ysgolion. Mae agoriad y llyfr yn manylu ar yr anawsterau oedd yn wynebu Shaun wrth dyfu lan, gyda diffyg modelau rôl, na sgwrs agored am hunaniaethau amrywiol a bwlio homoffobig yn yr ysgol yn yr 1980au. Mae gweddill y llyfr yn llawlyfr ar sut gall unigolion hwyluso newid diwylliannol a sefydliadol, gyda chwestiynau, astudiaethau achos, a thystebau gan bobl sydd wedi defnyddio dulliau Shaun yn eu dosbarthiadau.
Mae'r llyfr yn ceisio mynd i'r afael â rhagfarnau mewnol mewn ffordd sy'n croestorri, ac mae'n berthnasol i drafodaethau cyfoes ynghylch hil, a chysyniadau amrywiaeth ehangach.
Mae'r llyfr yma'n cynnwys ymdriniaeth wreiddiol i wella cynllunio gwersi, mewn modd hygyrch i helpu pob athro uwchradd i wneud y broses o gynllunio'n fwy ystyrlon, gan arwain at gynnydd dros amser.
P'un a eich bod yn cynllunio eich gwersi o ddydd-i-ddydd neu arsylwi, mae cynllunio yn sgil y gellir ei fireinio i sicrhau bod yn gallu ymdopi â'ch llwyth gwaith, a'ch gwersi'n gofiadwy. Wedi ei fwriadu ar gyfer athrawon ymrwymedig a myfyriol sydd am ddatblygu'r arfer yma, mae'r llyfr yma'n cyflwyno newidiadau bychain sy'n gallu gwneud gwahaniaeth mawr! Yn wahanol i lawer o lyfrau addysgu sy'n cymryd yn ganiataol eich bod angen neu eisiau newid eich ymdriniaeth i gyd, mae'r llyfr yma'n rhoi syniadau syml i chi ddefnyddio yn eich gwers nesaf.
Wedi ei drefnu o gwmpas rhannau o wersi go-iawn, a chynlluniau gwersi cyfan ar gyfer pob pwnc uwchradd, mae'r llyfr yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol sydd angen i chi eu cynllunio ar gyfer pob gwers: asesu ar gyfer dysgu, cwestiynu, ymestyn a herio, ac ymrwymiad i ddysgu, yn ogystal â chynnwys pwysigrwydd datblygu arfer marcio da.
Mae bod yn barod i addysgu pob pwnc yn y cwricwlwm yn sgil hanfodol ar gyfer athrawon cynradd, ac mae cynllunio gwersi da yn declyn hanfodol ar gyfer ymdopi â'r llwyth gwaith.
Mae'r llyfr yn cynnwys strategaethau cynllunio gwersi, yn ogystal â nifer o syniadau ymarferol a gwreiddiol i ddefnyddio gyda'ch dosbarth.
Gan ddefnyddio hanesion ystafell ddosbarth go-iawn, yn ogystal â diagramau defnyddio ac awgrymiadau defnyddiol ar sut i roi'r technegau cynllunio ar waith o ddydd-i-ddydd, mae Lesson Planning for Primary School Teachers yn cynnwys popeth sydd angen ar athrawon ysgol gynradd sydd am ddatblygu eu sgiliau a'u strategaethau allweddol ar gyfer cynllunio gwersi.
Mae'r llyfr hwn yn esbonio sut mae athrawon eisoes yn defnyddio gwahaniaethu mewn nifer o ffyrdd. Mae Sue Cowley yn annog darllenwyr i ddeall a gwerthfawrogi sut mae athrawon yn gweithredu gwahaniaethu, yn ogystal ag archwilio dulliau newydd a chreadigol.
Yn y llyfr hwn, mae hi'n amlinellu'r dulliau gwahanol o ran gwahaniaethu, gan rhoi mewnwelediad i'r darllenwr i'r modelau. Gwneir hyn gan dorri'r gwahaniaethu lawr i'r pum prif ardal:
Bydd darllenwyr yn dysgu dros 90 o strategaethau ymarferol i arbed amser yn yr ystafell ddosbarth. Mae Sue yn cyflawni hyn drwy annog athrawon, ymarferwyr, a staff cymorth i fod yn hyderus eu bod yn diwallu anghenion yr holl ddysgwyr.
Mae the Ultimate guide to differentiation yn ganllaw cynhwysfawr ar wahaniaethu, ac yn cynnig cyngor cytbwys yn arddull ddidwyll Sue.
Beth oedd eich barn chi am argymhellion y mis hwn? Sut gwnaethant helpu i ddatblygu’ch ymarfer? Trydarwch eich ymateb gan ddefnyddio #MeddwlMawr
Beth am ddefnyddio’r offerynnau sydd o fewn y PDP i fyfyrio ar y syniadau a amlygwyd gan argymhellion y mis hwn, a sut gallwch eu cymhwyso i’ch ymarfer eich hun?
A yw ein hargymhellion wedi’ch ysbrydoli ac rydych felly am rannu’r hyn a ddysgoch gyda’ch cydweithwyr? Beth am ddarllen ein canllaw ar sefydlu clwb cyfnodolion.
Os yw ymarfer seiliedig ar dystiolaeth o ddiddordeb i chi, gallwch gael at EBSCO drwy eich Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). Dyma gronfa ddata fwyaf y byd o ymchwil testun llawn ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol ac mae’n cwmpasu pob lefel addysg ac arbenigedd.
Gall cofrestreion gael at becyn Education Source a chasgliad eLyfrau addysg EBSCO. Mae’r ddau adnodd yn tyfu’n gyson ac yn cynnwys:
Gwnewch yn siŵr eich bod yn tanysgrifio i’r rhestr bostio (Meddwl Mawr) i gael yr argymhellion pan fyddant yn cael eu cyhoeddi.
Dau gam syml sy’n rhaid i chi eu dilyn i gael mynediad at EBSCO:
Ry'n ni wedi creu fideo cam wrth gam ar sut i fewngofnodi i EBSCO, a sut i'w ddefnyddio, ar ein sianel YouTube.
Mae cyfres o ganllawiau ar-lein ar gael i’ch cynorthwyo i ddefnyddio EBSCO, gan gynnwys sut i chwilio am lyfrau ac erthyglau, ac arbed erthyglau blaenorol.
Mae’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) yn e-bortffolio ar-lein hyblyg sydd ar gael i holl gofrestreion CGA.
Mae’n llawn nodweddion sydd â’r nod o’ch cynorthwyo i gofnodi eich dysgu, myfyrio arno, ei rannu a’i gynllunio. Y nod yn y pen draw – i helpu llywio eich datblygiad a’ch ymarfer proffesiynol parhaus, ni waeth ble’r ydych chi ar eich taith ddysgu broffesiynol.
Mae eich PDP yn eiddo i chi, felly mae’r hyn rydych chi’n ei greu ynddo, neu’n ei lwytho iddo, yn gwbl gyfrinachol. Nid yw eich PDP yn gysylltiedig â’ch cyflogaeth a, chyhyd â’ch bod wedi cofrestru gyda ni, byddwch yn gallu cael at y cynnwys a greoch chi.
Mae eich PDP ar gael trwy eich cyfrif FyCGA ar-lein. Rydym wedi creu canllaw bach defnyddiol i’ch helpu i ddechrau arni. Os bydd angen help arnoch i greu cyfrif neu ddefnyddio eich PDP,
Hefyd, rydym wedi creu cyfres o fideos byr i ddangos i chi sut mae defnyddwyr eraill y PDP, a sefydliadau, yn defnyddio’r PDP i gynorthwyo â recordio datblygiad proffesiynol.
Mae sawl ffurf ar ddysgu proffesiynol, o brofiadau dysgu dydd i ddydd fel trafodaethau â chydweithwyr, i gymwysterau ffurfiol. Mae eich PDP yn rhoi lle i chi gofnodi’r profiadau hyn yn gyflym ac yn hawdd.
Efallai eich bod eisoes wedi cadw llawer o wybodaeth mewn mannau gwahanol ac mewn fformatau gwahanol. Gallwch ychwanegu hyn oll yn gyflym ac yn hawdd at eich PDP naill ai gan ddefnyddio’r offeryn lanlwytho, neu ddefnyddio ap Pebblepocket. Mae ein canllaw byr yn dangos sut rydych chi’n cael at yr ap ac yn ei ddefnyddio.
Os ydych chi eisoes wedi cadw ffeiliau yn Google Drive neu Dropbox, gallwch gysylltu eich PDP â’r cyfrifon hynny.
Mae myfyrio ar eich profiadau yn helpu i lywio eich dysgu, eich datblygiad a’ch ymarfer yn y dyfodol. Beth am ddefnyddio un o’n templedi strwythuredig i’ch harwain a’ch cynorthwyo wrth i chi gofnodi eich dysgu a myfyrio arno. Lanlwythwch eich meddyliau ar ffurf sain neu fideo, neu byddwch yn greadigol a defnyddio adeiladwr templed y PDP i greu dogfen sy’n addas i’ch anghenion.
Mae eich PDP yn caniatáu i chi rannu eich profiadau gydag eraill, gweithio ar y cyd a gall ategu’r broses adolygu perfformiad. Wrth rannu eich PDP gydag eraill, mae gennych reolaeth lawn dros y rhannau hynny o’r PDP y gallant eu gweld, ac am ba hyd.
Gall eich PDP eich cynorthwyo ag ymgysylltu â’ch safonau proffesiynol. Gallwch fynd ag unrhyw eitem rydych chi wedi’i chreu neu ei hychwanegu at eich PDP a’i mapio i’r safonau proffesiynol perthnasol.
Bydd unrhyw beth rydych chi’n ei fapio i’r safonau yn ymddangos ar ffurf crynodeb yn eich gweithlyfr safonau, sydd ar gael ar ddangosfwrdd eich PDP. Wrth fapio tystiolaeth yn erbyn y safonau, gallwch gwblhau hunanasesiad o’ch cynnydd, yn erbyn y safon honno, gan ddefnyddio opsiwn y bar llithro. Yna, bydd tudalen y trosolwg o safonau’n rhoi cynrychiolaeth weledol i chi o’ch cynnydd a gall eich cynorthwyo i amlygu eich cryfderau a’ch meysydd i’w datblygu.
Mae hyblygrwydd y PDP yn caniatáu i unigolion gofnodi eu taith ddysgu broffesiynol eu hunain, gan gefnogi’r broses ar lefel sefydliadol, hefyd.
Gallwn weithio gyda’ch sefydliad i ddatblygu templedi dwyieithog pwrpasol i’ch staff gofnodi eu dysgu a’u datblygiad proffesiynol. Gellir defnyddio’r rhain i gefnogi prosesau adolygu proffesiynol, prosiectau ysgol gyfan, neu weithgareddau traws clwstwr. Nid chodir tâl na ffioedd contract ac mae’r tîm ar gael i gynnig cymorth dwyieithog parhaus, yn rhad ac am ddim. Os byddai gweithio gyda ni o ddiddordeb i’ch sefydliad,
Mae ein fideos byr yn dangos sut mae sefydliadau eisoes yn defnyddio’r PDP i gynorthwyo â chofnodi datblygiad proffesiynol.
Os yw ymarfer wedi’i lywio gan dystiolaeth o ddiddordeb i chi, mae eich PDP yn cynnig mynediad i chi i EBSCO, sef cronfa ddata ymchwil testun llawn fwyaf y byd i weithwyr addysg proffesiynol, yn cwmpasu pob lefel addysg ac arbenigedd. Gallwch hyd yn oed gofrestru i gael argymhellion misol ar gyfer EBSCO, trwy danysgrifio i Meddwl Mawr, ein clwb llyfrau a chyfnodolion misol.
Byddem yn falch o ymweld â’ch sefydliad i arddangos y PDP i’ch staff a dangos sut mae ei ymarferoldeb a’i hyblygrwydd yn gallu bod o fudd i chi, eich cydweithwyr a’ch sefydliad. Os hoffech drefnu arddangosiad am ddim, llenwch ein ffurflen archebu neu anfonwch