Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig Ieuenctid (EYST), Gwasanaeth Ieuenctid Conwy a Gwasanaeth Eirioli Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) Cymru yw'r sefydliadau diweddaraf i gael y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
Ar ôl asesiadau cadarn, gwobrwywyd y Marc Ansawdd Efydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid ac fe wnaeth Gwasanaeth Ieuenctid Conwy adnewyddu eu Marc Ansawdd Arian nhw.
Fel rhan o'r asesiad, roedd angen i'r sefydliad ddangos bod eu gwasanaeth:
-
- yn rhoi awyrgylch croesawgar a diogel gyda mynediad at staff a gwirfoddolwyr medrus sy'n ennyn ymddiriedaeth
- yn dangos arweinyddiaeth, llywodraethiant a phrosesau monitro a gwerthuso addas
- yn hyrwyddo arfer cynhwysol
- yn sicrhau bod darpariaeth wedi ei ynllunio i fodloni anghenion pobl ifanc
Dywedodd aseswyr eu bod wedi eu pleisio a'u hysbyrdoli gan ymrwymiad y sefydliadau i bobl ifanc.
Dywedodd Lee Tiratira o EYST "Ry'n ni wrth ein bodd i gael Marc Ansawdd Efydd ar gyfer ein cynnig gwaith ieuenctid. Ledled y sefydliad, mae ein tîm ieuenctid wedi ymrwymo i waith ieuenctid, ac yn gwella ein harfer drwy'r amser. Ry'n ni'n gweld y marc yma fel cam yn y cyfeiriad cywir wrth ddatblygu ein gwaith a gwella'r budd i bobl ifanc a'n cyrhaeddiad yng Nghymru."
Dywedodd Rachel Simmonds o Wasanaeth Ieuenctid Conwy "Rhoddodd y broses asesu gyfle i ni adlewyrchu ar sut ry'n ni'n cynnwys pobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau, a beth allwn ni wneud i wella ein cynnig ar gyfer pobl ifanc ymhellach. Roedd hi hefyd yn gyfle i ni arddangos gwaith ieuenctid gwych, yn gyfle i ddathlu angerdd ac ymrwymiad y tîm ieuenctid i wneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl ifanc yng Nghonwy."
Dywedodd Sharon Lovell o NYAS Cymru "Rwyf wrth fy modd bod NYAS Cymru wedi cael y Marc Ansawdd efydd i gydnabod y gwaith pwysig ry'n ni'n ei gyflawni gyda, a thros bobl ifanc yng Nghymru. Mae gwaith ieuenctid yn newid bywydau ac ry'n ni yn NYAS Cymru yn sicrhau bod gan bobl ifanc sydd wedi profi gofal fynediad at ac yn gallu ffynnu drwy gymryd rhan yn y cyfan sydd gan waith ieuenctid i'w gynnig.
Mae'r Marc Ansawdd yn cefnogi ac yn cydnabod gwella safonau o ran darpariaeth, arfer a pherfformiad sefydliadau sy'n darparu gwaith ieuenctid ledled Cymru. Mae'n helpu'r sefydliadau hynny i arddangos a dathlu rhagoriaeth yn eu gwaith gyda phobl ifanc.
Dywedodd Andrew Borsden, Swyddog Datblygu Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid CGA: "Roedd ansawdd gwaith ieuenctid yn y sefydliadau hyn o'r safon uchaf. Roedd yr adborth gan bobl ifanc yn ysbrydoledig ac yn dangos ymroddiad gweithwyr ieuenctid yng Nghymru."
I gael mwy o wybodaeth ar y Marc Ansawdd, gan gynnwys manylion ar sut i wneud cais, ewch i wefan CGA.




Gweithiodd Hazel Hagger mewn ysgolion uwchradd fel athrawes ac arweinydd am nifer o flynyddoedd cyn ymuno â Phrifysgol Rhydychen, gan gyfrannu at gynllunio a datblygu un o’r partneriaethau cyntaf ym maes AGA.
Cymhwysodd Áine Lawlor fel athrawes gynradd yn 1969, mae ganddi B.A., Diploma Uwch mewn Addysg, Diploma mewn Gweinyddu Addysg, M.A., Ph.D. a Diploma Ôl-radd mewn cyfieithu Gwyddeleg.
Graddiodd Dr Anita Rees mewn Hanes o Brifysgol Cymru, Aberystwyth. Ei diddordeb ymchwil ar gyfer ei Ph.D. oedd gwleidyddiaeth y 18fed ganrif.
Bu Richard Parsons yn addysgu Ieithoedd Tramor Modern mewn amrywiaeth o ysgolion uwchradd Cymraeg a Saesneg ar draws de Cymru am 23 o flynyddoedd. Gadawodd Richard ei swydd fel Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni i fod yn rheolwr prosiect peilot ieithoedd tramor modern llwyddiannus ysgolion cynradd Cymru gyfan CILT-Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru.
Astudiodd Penny Lewis ym Mhrifysgol Lerpwl cyn cwblhau AGA ym Mhrifysgol Nottingham. Dechreuodd ei swydd dysgu gyntaf yn 1975 yn The Harwich School, Essex. Symudodd Penny wedyn i Lundain lle roedd yn dysgu ac yn arwain ym maes ieithoedd mewn amrywiaeth o ysgolion a chyd-destunau ar draws de Llundain. Yn 1985, secondiwyd Penny i Goleg Homerton, Caergrawnt, fel rhan o raglen datblygu cwricwlwm Croydon ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol cyntaf.
Enillodd T Anne Morris ei gradd yn y Gymaeg yng Ngoleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, a chwblhaodd ei gradd Meistr yno hefyd.





