Yn 2020-21, cynhaliom adolygiad o’r Safonau Proffesiynol ar gyfer athrawon addysg bellach (AB) ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith (DSW) yng Nghymru.
Ac yntau wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, nod y prosiect oedd datblygu offer ymarferol newydd i helpu ymarferwyr i ymgysylltu â’r safonau.
Beth wnaethom ni
Ein nod oedd sicrhau bod y safonau proffesiynol yn darparu fframwaith hygyrch ac ymarferol i ymarferwyr sy’n eu harwain wrth ddatblygu gyrfaoedd boddhaus a chynnal lefel uchel o broffesiynoliaeth.
Roedd ein dull seiliedig ar dystiolaeth yn cynnwys:
- cynnal adolygiad papur o’r safonau presennol a’r modd y mae ymarferwyr yn ymgysylltu â nhw
- edrych ar sut mae gwledydd a sectorau eraill yn mynd i’r afael â safonau proffesiynol, a’r math o adnoddau ymarferol y maent yn eu defnyddio i helpu gweithwyr proffesiynol i ymgysylltu â nhw
- gwrando ar farnau a phrofiadau ymarferwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill, a gweithio gyda nhw i ddatblygu adnoddau newydd.
Buom yn ymgysylltu’n helaeth â’r sector trwy gydol yr adolygiad.
- Dosbarthom holiaduron i’r holl athrawon AB cofrestredig, ymarferwyr DSW, cyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol. Arweiniodd hyn at dros 440 o ymatebion.
- Buom yn cyfweld â sefydliadau allweddol gan gynnwys undebau llafur, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru ac Estyn.
- Cynhaliom gyfres o grwpiau ffocws gydag ymarferwyr AB a DSW.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth, gweithiom gyda grŵp o ymarferwyr AB a DSW i ddatblygu set o adnoddau drafft a gynlluniwyd i gynorthwyo ymgysylltiad â’r safonau. Cyflwynom y rhain i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021, ynghyd â chrynodeb o ganfyddiadau ein hymchwil a’n hargymhellion ar gyfer y cam nesaf o’r gwaith hwn.
Beth sydd nesaf?
Bydd peilot o’r adnoddau drafft yn cael ei gynnal gyda nifer fach o ddarparwyr yn 2021-22 i’n helpu i ddeall eu heffaith ar waith. Bydd hefyd yn ein galluogi i wneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen i sicrhau eu bod yn cynorthwyo ymarferwyr yn llawn i ymgysylltu â’r safonau.
Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r adnoddau ymhellach. Bydd hyn yn cynnwys
- nodi arfer da i’w ymgorffori yn yr adnoddau
- datblygu astudiaethau achos sy’n dangos y safonau ar waith.
Hefyd, rydym yn ystyried ffyrdd i ddatblygu safonau ar gyfer staff cymorth ac arweinwyr mewn AB a DSW, yn ogystal ag ar gyfer y sector dysgu oedolion.
Cysylltwch â ni
Os oes unrhyw gwestiynau gennych ynglŷn â’r gwaith hwn, mae croeso i chi This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..