Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes addysgu yng Nghymru, bydd angen i chi gael statws athro cymwysedig (SAC) trwy astudio rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) sydd wedi’i hachredu gennym ni, trwy ein Bwrdd Achredu AGA.
Mae rhaglenni AGA yn darparu addysg a datblygiad proffesiynol athrawon dan hyfforddiant. Maent yn eu paratoi nhw i weithio mewn ysgolion yng Nghymru ac yn darparu’r sylfaen ar gyfer dysgu proffesiynol gydol gyrfa. Mae’r rhaglenni hyn yn seiliedig ar ddysgu sy’n drylwyr o ymarferol ac yn heriol yn ddeallusol, a cheisiant wneud yn siŵr bod athrawon yn ymrwymo i ragoriaeth, proffesiynoldeb ac addysgu o ansawdd uchel.
Rhaglenni sydd ar gael gan y darparwr
CaBan Bangor
Partneriaeth AGA Prifysgol De Cymru
Partneriaeth Caerdydd ar gyfer AGA
Partneriaeth Dysgu Proffesiynol Yr Athrofa (PDPA)
Partneriaeth y Brifysgol Agored
Teitl y rhaglen |
Math o raglen |
Achredu |
Monitro |
Terfyn |
TAR (rhan-amser) |
Ôl-raddedig - cynradd ac uwchradd |
2024 |
2025/26 |
2029 |
TAR (llwybr cyflogedig) |
Ôl-raddedig - cynradd ac uwchradd |
2024 |
2025/26 |
2029 |
Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe
Monitro rhaglenni AGA
Mae holl raglenni AGA a gynigir gan bartneriaethau yng Nghymru yn cael eu hasesu, gwerthuso a monitro yn erbyn
Meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru
.
Mae’r
canllawiau monitro
yn amlinellu’r dull cyn, yn ystod ac ar ôl unrhyw weithgarwch monitro.
Bydd Estyn a CGA yn rhannu gwybodaeth a ddarperir gan y partneriaethau i’w harchwilio neu eu hachredu/monitro, i leihau baich diangen ar gyfer y partneriaethau, ac i hysbysu a galluogi gwelliannau o fewn y sector. Bydd cynrychiolwyr CGA ac Estyn yn ffurfio rhan o’r sesiynau adborth ar gyfer ymweliadau achredu, monitro ac archwilio. Bydd y ddau sefydliad yn cael gwybod canlyniadau’r sesiynau hyn yn unol â’n gweithdrefnau rhannu gwybodaeth. Rhennir gwybodaeth yn y modd yma i helpu gwella ansawdd darpariaeth Addysg Gychwynnol Athrawon, a lleihau baich diangen i bartneriaethau.