Mae Wan Maroof, Ymarferydd Lles a Diwylliant Ysgol o fewn y Gwasanaeth Datblygu Diwylliant yng Nghymru, yn myfyrio ar pam mae diwylliannau iach yn y gweithle o fudd i'r gymuned gyfan.
Ydych chi erioed wedi teimlo'n bryderus cyn cerdded trwy'r gatiau yn eich ysgol neu leoliad addysg? Neu wedi myfyrio ar y rhyngweithiadau a gawsoch â'ch cydweithwyr y diwrnod hwnnw? Pan fyddwn yn meddwl am y pwysau sy'n wynebu staff addysg, mae'r ffocws yn aml ar lwyth gwaith, ystafelloedd dosbarth heriol, a phrinder staff, ond ffactor arall a all gael effaith enfawr ar sut rydych chi'n teimlo yn y gwaith yw'r diwylliant.
Canfu Mynegai Lles Athrawon diweddaraf Education Support fod hanner y staff addysg yn dweud bod diwylliant ysgol yn effeithio'n negyddol ar eu hiechyd meddwl.
Yn fy rôl i, rwy'n gweithio gydag ysgolion yng Nghymru i amlygu ffactorau sy'n effeithio'n gadarnhaol ac yn negyddol ar eu diwylliant ac archwilio unrhyw ragdybiaethau a chredoau sylfaenol a allai fod yn rhwystrau rhag newid ystyrlon a lles staff. Mae hyn yn caniatáu i chi gymryd camau bach tuag at feithrin diwylliant cadarnhaol, lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Beth yw diwylliant?
Mae'r Athro Edgar Schein yn disgrifio diwylliant fel set o normau, credoau a gwerthoedd sylfaenol sy'n cael eu rhannu mewn tîm ac sy'n cael eu datblygu wrth i chi ddysgu sut i lywio heriau. Mae'r ffyrdd hyn o feddwl, teimlo a datrys problemau yn cael eu trosglwyddo i aelodau newydd o'r tîm fel y ffordd dderbyniol o weithio.
Felly, mae diwylliant yn y gweithle nid yn unig yn ymwneud â'r gwerthoedd y mae sefydliad yn eu hyrwyddo, ond sut mae'r gwerthoedd hyn yn ymddangos mewn ymddygiadau bob dydd. Er enghraifft, sut rydych chi'n siarad â'ch gilydd yn yr ystafell staff neu sut rydych chi'n ymateb os bydd rhywun yn gwneud camgymeriad.
Mae gwaith yr ymchwilydd Bréne Brown ar ddiwylliant sefydliadol yn pwysleisio sut y gall methu trosi gwerthoedd yn ymddygiadau arwain at ddiwylliannau yn ffurfio ar eu pennau eu hunain, nad ydynt efallai yn gysylltiedig â gweledigaeth neu genhadaeth wreiddiol y sefydliad.
Mae'r gwerthoedd rydych chi'n siapio eich amgylchedd gwaith o’u cwmpas yn ganolog i greu'r diwylliant rydych chi eisiau ei wreiddio, ac eto, o'n gwaith, rydym wedi darganfod nad yw arweinwyr bob amser yn glir ynghylch yr ystyr y tu ôl i werthoedd eu hysgol. Mae hyn wedi arwain at staff yn teimlo wedi'u datgysylltu oddi wrth werthoedd eu lleoliad neu'n credu eu bod yn canolbwyntio ar y dysgwyr yn unig ac nad ydynt yn berthnasol iddynt.
Angori i'ch gwerthoedd fel ysgol neu leoliad addysg
Mae'r arweinydd Aiko Bethea yn dadlau bod gweithleoedd â diwylliannau cadarnhaol yn rhai lle maent wedi'u hangori i'w gwerthoedd, yn adlewyrchu'r rhain yn eu hymddygiad, ac yn dwyn eu hunain a'i gilydd yn atebol. Mae'r fframwaith hwn yn symud i ffwrdd o enwi eich gwerthoedd i feddwl am sut mae eich ymddygiadau’n cael eu siapio ganddynt. Dylai gwerthoedd fod yn fwy na'r geiriau rydych chi'n eu harddangos yn y coridor.
Mae Aiko yn awgrymu bod rhaid i chi gysylltu'r dotiau rhwng geiriau a gweithredoedd a meddwl am ba effaith rydych chi eisiau ei chael ar y rheiny o'ch cwmpas.
Bydd cael eglurder ynghylch y disgwyliadau a'r ymddygiadau sy'n gysylltiedig â'ch gwerthoedd yn eich helpu pan fydd angen i chi wneud penderfyniad anodd neu lywio sefyllfa dan bwysau. Er enghraifft, os tosturi yw un o werthoedd eich lleoliad, sut olwg fydd ar hyn pan fydd cydweithiwr yn darparu gwybodaeth bwysig i chi yn hwyr?
Gallai ymateb tosturiol gynnwys cymryd munud i oedi ac ystyried beth arall allai fod yn digwydd i'r cydweithiwr hwnnw, fel y gallwch ddechrau'r sgwrs gyda chwilfrydedd yn hytrach na barn. Fel hyn, rydych chi'n parhau i’w dwyn yn atebol, ond mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r gwerth hwn.
Cwestiynau myfyriol – pa werthoedd sydd bwysicaf i chi?
Efallai yr hoffech ateb y cwestiynau cyflym hyn eich hun, neu fel tîm, i'ch helpu i fyfyrio ar eich gwerthoedd:
1) Meddyliwch am un o'ch gwerthoedd
Beth sy'n teimlo'n bwysig i chi?
↓
2) Cysylltu ag ymddygiadau
Sut mae'r gwerth hwn yn amlygu ei hun yn eich ymddygiadau?
↓
3) Rhoi pwysau
Beth sy'n digwydd i'r ymddygiadau hyn pan fyddwch chi dan bwysau? Ydyn nhw'n gwrth-ddweud eich gwerthoedd?
↓
4) Arsylwi effaith
Sut gallai eich cydweithwyr brofi eich ymddygiad?
↓
5) Trwsio a dysgu
Beth sydd angen i chi ei gydnabod neu ei wneud yn wahanol?
Ffynhonnell: Addaswyd o Brené Brown, Living Into Our Values
Myfyrdod olaf ar ddiwylliant
Nid yw diwylliant yn cael ei greu gan y gwerthoedd rydych chi'n eu rhoi ar eich gwefan neu'n eu harddangos ar eich waliau, mae'n cael ei ffurfio trwy'r dewisiadau rydych chi'n eu gwneud bob dydd, yn enwedig pan fyddwch chi dan straen ac mae byw yn unol â’ch gwerthoedd yn teimlo'n anodd.
Os gallwch drosi eich gwerthoedd yn ymddygiadau arsylwadwy dro ar ôl tro, maent yn dod yn fwy na geiriau yn unig. Maent yn dod yn rhan o bwy ydych chi fel ysgol neu leoliad addysg a'r diwylliant rydych chi'n ei greu i'ch disgyblion, eich cydweithwyr a'ch cymuned ehangach.
Gwasanaeth Lles Staff ar gyfer ysgolion yng Nghymru – cofrestrwch heddiw!
Mae'r Gwasanaeth Lles Staff yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, gyda'r nod o wella iechyd meddwl staff ysgolion ledled y wlad. Mae'r gwasanaeth yn cynnig cyngor a chefnogaeth am ddim, gan gynnwys sesiynau ar-lein am ddim gyda goruchwylwyr cwbl gymwys ar gyfer penaethiaid, arweinwyr a rheolwyr ysgolion, ac arweiniad ymarferol, arbenigol gan Gynghorwyr Lles Staff.
Mae'r gwasanaeth wedi cael ei gynllunio i helpu arweinwyr a rheolwyr ysgolion i drawsnewid eu hagwedd at iechyd meddwl a lles staff, gan ddarparu gofod cyfrinachol ar gyfer myfyrio a sgwrsio. Mae wedi cefnogi dros 1,300 o benaethiaid, arweinwyr a rheolwyr ysgolion, gan eu helpu i greu diwylliant cadarnhaol a gwella lles staff.
Cewch glywed yn uniongyrchol gan staff yng Nghymru sydd wedi elwa hyd yn hyn, a chofrestrwch ar gyfer diweddariadau cylchlythyr misol sy'n cynnwys adnoddau lles staff dwyieithog am ddim.



