Diogelu'r proffesiwn a'r cyhoedd
Lansio ymgynghoriad ar weithdrefnau a rheolau
Rydym yn gwahodd barn am ddiwygiadau arfaethedig i’n Gweithdrefnau a Rheolau Disgyblu a’i Reolau Cofrestru. Rydym yn croesawu ymatebion gan gofrestreion, cyflogwyr, a rhanddeiliaid eraill. Cewch adolygu'r cynigion a dweud eich dweud erbyn 12:00 ddydd Iau 31 Rhagfyr 2026.
Diweddaru eich manylion
Fe wnaethom gysylltu gyda rhai ohonoch yn ddiweddar yn gofyn i chi wirio'r manylion sydd gyda ni ar y Gofrestr i chi. Mae'n bwysig bod y manylion yma'n gywir a chyfredol er mwyn i ni allu cysylltu gyda chi gyda gwybodaeth hanfodol am eich cofrestriad, gan gynnwys cadarnhau eich cofrestriad. Mewngofnodwch i'ch cyfrif FyCGA i wirio eich manylion a diweddaru unrhyw wybodaeth sy'n hen neu'n anghywir.
Diweddariadau'r Cyngor
Cyfarfod rhif 45 y Cyngor
Yn y cyfarfod diweddaraf, cafodd aelodau ddiweddariadau gan staff CGA am sut mae'r sefydliad yn parhau i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc drwy gefnogi cofrestreion i gynnal safonau proffesiynol yn eu harfer o ddydd i ddydd.
Mae cyfarfodydd y Cyngor ar agor i'r cyhoedd. Cadwch lygad ar ein gwefan a'r cyfryngau cymdeithasol i gael dyddiad a manylion y cyfarfod nesaf, a sut i fynychu.
Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol
Defnyddia dy Gymraeg
Ry'n ni'n cefnogi ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg Comisiynydd y Gymraeg, sy'n annog pawb i ddefnyddio Cymraeg yn eu bywyd o ddydd i ddydd, p'un a bod hynny adref, yn y gwaith, neu yn eu cymunedau.
Byddwn yn annog ein staff i ddefnyddio eu Cymraeg, yn ogystal â rhoi nodiadau i helpu dysgwyr a'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg i ddefnyddio brawddegau syml Cymraeg mewn sgyrsiau bob dydd.
Fel sefydliad sy'n falch o fod yn un dwyieithog, ry'n ni'n falch o glywed gennych yn Gymraeg. Felly os ydych yn cysylltu gyda ni, gwnewch hynny yn Gymraeg os mai dyna eich dewis. A hyd yn oed os ddim, mae defnyddio bore da neu ddiolch mewn sgwrs yn gallu gwneud byd o wahaniaeth.
Allwch chi helpu darparu Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI)?
Rydym yn chwilio am aseswyr i gefnogi MAGI ledled Cymru. Mae aseswyr yn chwarae rôl hanfodol yn helpu llywio sefydliadau trwy'r broses ymgeisio ac adnabod darpariaeth gwaith ieuenctid o ansawdd uchel.
Os ydych chi'n, neu rywun yr ydych yn eu hadnabod yn gweithio ym maes gwaith ieuenctid, ac yn gwneud asesydd da, yna ewch i'r wefan lle mae mwy o wybodaeth, a ffurflen gais
Blog niwrowahaniaeth mewn addysg
Mae PMAC, sefydliad o hyfforddwyr iechyd meddwl a lles y DU, wedi ysgrifennu blog i ni'n archwilio pam fod niwrowahaniaeth yn bwysig i ddysgwyr a phobl ifanc, yn ogystal ag ymarferwyr, a rhannu ffyrdd ymarferol i wneud amgylcheddau dysgu a gweithio yn fwy hygyrch. Darllenwch y blog a'i rannu gyda'ch cydweithwyr, allai wneud byd o wahaniaeth.
Hysbysu polisi
Cymraeg a'r gweithlu addysg
Ar 10 Tachwedd, fe wnaethom gynnal digwyddiad rhithiol yn archwilio prif bynciau o ran y Gymraeg yn y gweithlu addysgu. Roedd y digwyddiad yn cynnwys diweddariadau gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â thrafodaeth banel gyda nifer o gydweithwyr gwahanol. Fe wnaeth y digwyddiad amlygu'r awydd a'r angen i gydweithio ar y pwnc pwysig yma. Byddwn yn rhyddhau recordiad o'r digwyddiad cyn bo hir, felly cadwch lygad ar ein sianeli.
Rhag ofn i chi ei fethu
Recordiad Siarad yn Broffesiynol 2026 nawr ar gael
Os na lwyddoch chi ddod i'n digwyddiad Siarad yn Broffesiynol 2026 gyda Chomisiynydd Plant Cymru, yna gallwch ei wylio yn ôl ar ein sianelu YouTube.
Oes gyda chi adborth ar y dudalen yma?



